Gweithio gyda chymunedau
Gwaith achos
Mae’r problemau a’r materion mae pobl leol yn eu codi â chynghorwyr fel arfer yn cael eu galw’n ‘waith achos’.
Bydd eich gwaith achos yn dod o: sgyrsiau wyneb yn wyneb neu ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, llythyrau, galwadau ffôn a negeseuon e-bost, cymorthfeydd, sesiynau cyngor a galw heibio pobl a gweithgarwch gwleidyddol arall. Wrth gymryd achos ymlaen, y camau cyffredinol y bydd angen i chi eu hystyried yw:

1. Beth yw’r broblem?
Pennwch y ffeithiau (nid barn yn unig!) a darganfod sut mae’ch etholwr eisiau i chi helpu. Ceisiwch ddarganfod a oes hanes hir i’r broblem a phwy sydd wedi bod ynghlwm â hi yn y gorffennol. Osgowch addo y byddwch yn sortio pob problem, ond byddwch yn barod i wrando bob tro.
2. Gyda phwy mae angen i mi siarad?
Efallai fod y mater yn ymwneud â gwasanaeth y cyngor, am wasanaethau gan sefydliad partner neu bryder am fater lleol ehangach.
Os yw’n fater i’r cyngor, efallai y gallai trafodaeth wyneb yn wyneb, galwad ffôn neu e-bost sydyn ei sortio. Os nad felly, gallwch ddefnyddio dulliau mwy ffurfiol. Magwch yr arfer o gadw cofnodion o’ch holl gyfathrebiadau â’r cyngor a thrigolion. Gofynnwch a yw eich cyngor yn darparu pecyn neu ap i aelodau sy’n eich galluogi i ddilyn datblygiadau ar eich gwaith achos. Mae rhai pleidiau gwleidyddol yn darparu’r rhain hefyd.
Os yw’n fater sy’n ymwneud â darparwr gwasanaeth arall, gallech gysylltu â’r sefydliad yn uniongyrchol, neu geisio cyngor gan gynghorydd mwy profiadol neu swyddog sydd efallai â chysylltiadau eisoes.
3. Darparu adborth
Ar ôl i chi wneud ymholiadau cychwynnol, rhowch wybod i’r preswylydd beth rydych yn ei wneud a rhoi gwybod iddynt am gynnydd a’r canlyniad yn y pen draw. Efallai na fyddant yn gwybod beth sy’n digwydd oni bai eich bod yn dweud wrthynt.
4. Ystyried y materion ehangach
Meddyliwch am y materion a godwyd yn y gwaith achos a rhowch wybod i gynghorwyr eraill. Os oes sawl pryder tebyg yn cael eu codi â chynghorwyr, gallai awgrymu problem ehangach â gwasanaeth, neu fod angen delio â phroblem drwy bolisi newydd neu ddiwygiedig neu adolygiad craffu. Os ydych wedi cael llwyddiant, rhowch wybod i aelodau wardiau eraill rhag ofn iddynt fod mewn sefyllfa debyg.
5. Dathlu eich llwyddiant
Ceisiwch roi gwybod am eich llwyddiant i drigolion trwy daflenni a newyddlenni – ond peidiwch â datgelu unrhyw fanylion personol.