Y fframwaith moesegol

Y fframwaith moesegol

Y fframwaith moesegol

Mae angen safonau ymddygiad uchel mewn llywodraeth leol i sicrhau bod gan y cyhoedd hyder ym mhopeth rydym yn ei wneud. Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i weithredu’n foesegol. Mae hyn wedi’i nodi yn Neddf Llywodraeth Leol 2000. Yn ogystal, mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 yn mynnu bod gan bob awdurdod God Ymddygiad, yn seiliedig ar enghraifft genedlaethol.

Mae’r Cod yn defnyddio 7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, a nodwyd yn Adroddiad Nolan, “Safonau Ymddygiad mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban”. Ychwanegwyd tri arall at y rhain: dyletswydd i gynnal y gyfraith, gwarchod adnoddau’r Cyngor yn briodol a chydraddoldeb a pharch tuag at eraill.

Mae’r safonau bellach yn cael eu disgrifio fel a ganlyn:

1. Anhunanoldeb
Rhaid i aelodau weithredu er budd y cyhoedd yn unig. Ni ddylent fyth ddefnyddio eu swydd fel aelodau i roi mantais neu osgoi anfantais iddynt hwy eu hunain yn amhriodol na rhoi anfantais nac achosi anfantais yn amhriodol i eraill.

2. Gonestrwydd
Rhaid i aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n berthnasol i’w dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro mewn modd sy’n gwarchod budd y cyhoedd.

3. Uniondeb a phriodoldeb
Rhaid i aelodau beidio â rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae amheuaeth ynglŷn â’u huniondeb drwy rwymedigaeth ariannol neu fel arall i unigolion neu sefydliadau a allai geisio dylanwadu arnynt wrth gyflawni eu dyletswyddau. Rhaid i aelodau osgoi dangos ymddygiad felly bob amser.

4. Dyletswydd i gynnal y gyfraith
Rhaid i’r aelodau weithredu i gynnal y gyfraith a gweithredu bob amser yn unol â’r hyder mae’r cyhoedd wedi’i ddangos ynddynt.

5. Stiwardiaeth
Wrth gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau, mae’n rhaid i aelodau sicrhau bod adnoddau eu hawdurdod yn cael eu defnyddio’n gyfreithlon a darbodus.

6. Gwrthrychedd wrth wneud penderfyniadau
Wrth gyflawni eu cyfrifoldebau, gan gynnwys penodi pobl, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion i dderbyn gwobrau a buddion, rhaid i aelodau wneud penderfyniadau ar sail teilyngdod. Er ei bod yn rhaid i aelodau ystyried cyngor proffesiynol swyddogion ac er y gallent ystyried barn eraill, gan gynnwys eu grwpiau gwleidyddol, eu cyfrifoldeb nhw yw penderfynu ar eu safbwynt ac, os yw’n briodol, sut maent am bleidleisio ar unrhyw fater.

7. Cydraddoldeb a pharch
Rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi ystyriaeth i’r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, beth bynnag fo’u rhyw, hil neu anabledd, tueddfryd rhywiol, oed neu grefydd, a bod yn barchus at ac yn ystyriol o eraill.

8. Bod yn agored
Rhaid i aelodau fod mor agored â phosib’ am eu holl weithredoedd a rhai dan eu hawdurdod. Mae’n rhaid iddynt geisio sicrhau mai dim ond yn unol â’r gyfraith maent yn cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth.

9. Atebolrwydd
Mae’r aelodau’n atebol i’w hetholaeth a’r cyhoedd yn gyffredinol am eu gweithredoedd ac am y ffordd maent yn cyflawni eu cyfrifoldebau fel aelod. Rhaid iddynt fod yn barod i’w cyflwyno eu hunain i unrhyw brosesau craffu sy’n briodol ar gyfer eu cyfrifoldebau.

10. Arweinyddiaeth
Rhaid i’r aelodau hyrwyddo a chefnogi’r egwyddorion hyn drwy arwain a bod yn enghraifft i annog hyder y cyhoedd yn eu rôl ac yn yr awdurdod. Rhaid iddynt barchu didueddrwydd ac uniondeb swyddogion statudol yr awdurdod a’i weithwyr eraill.

Y Cod Ymddygiad

Mae gan bob cyngor God Ymddygiad sy’n seiliedig ar fodel cenedlaethol. Mae’r Cod Ymddygiad yn dangos i chi sut i ddefnyddio’r fframwaith moesegol.

Oni bai eich bod yn llofnodi eich Datganiad Derbyn ac yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig i gadw at y Cod Ymddygiad, ni allwch fod yn aelod. Os byddwch yn methu ag ymrwymo i neu gadw at y Cod, gallwch gael eich gwahardd dros dro neu hyd yn oed yn barhaol o’ch swydd. Mae’r Cod yn berthnasol i bob cynghorydd yng Nghymru.

Mae’r Cod yn berthnasol i chi pryd bynnag y byddwch chi…

  • Mewn unrhyw gyfarfod “swyddogol” yn y cyngor;
  • Mewn unrhyw gyfarfod lle mae cynghorwyr neu swyddogion o’r awdurdod yn bresennol;
  • Yn gweithredu, yn honni eich bod yn gweithredu neu’n rhoi’r argraff eich bod yn gweithredu fel cynrychiolydd i’r cyngor;
  • Yn ymgymryd â busnes yr awdurdod fel aelod ac yn gweithredu fel cynrychiolydd i’r cyngor;
  • Yn gweithredu yn rhinwedd eich swydd fel cynghorydd; ac
  • Yn gweithredu fel cynrychiolydd ar gorff arall oni bai fod gan y corff hwnnw reolau cyfreithiol sy’n gwrthdaro neu ei god ei hun.

Hefyd ar unrhyw adeg os byddwch chi:

  • Yn ymddwyn mewn modd sy’n debygol o ddwyn enw drwg ar eich swydd neu’r cyngor; neu
  • Yn defnyddio neu’n ceisio defnyddio eich swydd i roi mantais neu osgoi anfantais i chi eich hun neu eraill; neu
  • Yn camddefnyddio adnoddau eich awdurdod.

Rheolau cyffredinol mae angen i chi eu dilyn dan y Cod

  • Hyrwyddo cydraddoldeb;
  • Dangos parch at eraill a bod yn ystyriol ohonynt;
  • Peidio â bwlio nac aflonyddu ar bobl;
  • Peidio â pheryglu didueddrwydd swyddogion;
  • Peidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol;
  • Peidio ag atal mynediad at wybodaeth;
  • Peidio â dwyn enw drwg ar eich swydd na’r awdurdod;
  • Rhaid rhoi gwybod am achosion o dorri’r cod;
  • Peidio â gwneud cwynion blinderus;
  • Rhaid cydweithredu ag ymchwiliadau;
  • Rhaid peidio â defnyddio eich swydd yn amhriodol;
  • Peidio â chamddefnyddio adnoddau eich awdurdod;
  • Gwneud penderfyniadau’n wrthrychol;
  • Ystyried cyngor mae swyddogion yn ei roi i chi a rhoi rhesymau os nad ydych yn gwrando arno;
  • Cydymffurfio â’r gyfraith a rheolau eich awdurdod ynghlwm â threuliau; a
  • Pheidio â derbyn unrhyw anrhegion neu letygarwch a fyddai’n eich rhwymo neu’n ymddangos fel eu bod yn gwneud hynny.

Cysylltiadau/buddiannau

Mae’n rhaid i’r cyhoedd fod yn hyderus eich bod chi’n gwneud penderfyniadau er eu budd pennaf nhw, nid er eich budd eich hun. Felly, os oes gennych gysylltiad â’r mater, mae’n rhaid datgan hynny. Mae dau fath o gysylltiad: Personol ac un sy’n peri rhagfarn.

Beth yw cysylltiadau personol?

Mae gennych chi gysylltiad personol pan mae penderfyniad yn ymwneud â, neu’n debygol o effeithio arnoch chi neu rywun sydd â chysylltiad personol agos â chi mewn perthynas ag:

  • Eich swydd neu fusnes
  • Eich cyflogwr neu gwmni lle’r ydych chi’n bartner neu’n gyfarwyddwr
  • Rhywun sydd wedi cyfrannu at gostau eich etholiad neu’ch treuliau fel aelod
  • Unrhyw gwmni y mae gennych chi gyfranddaliadau o fwy na £25,000 ynddo neu fwy nag 1% o gyfanswm gwerth ei gyfranddaliadau, sydd â safle neu dir yn eich ardal
  • Unrhyw gontract mae eich awdurdod yn ei wneud â chwmni lle’r ydych chi’n bartner, yn gyfarwyddwr sy’n derbyn tâl neu â chyfranddaliadau ynddo
  • Unrhyw dir y mae gennych gysylltiad ag o yn ardal eich awdurdod
  • Unrhyw dir sy’n cael ei osod gan eich awdurdod i gwmni lle’r ydych chi’n bartner, yn gyfarwyddwr sy’n derbyn tâl neu â chyfranddaliadau ynddo
  • Unrhyw dir yn ardal eich awdurdod y mae gennych drwydded i’w feddiannu am o leiaf 28 diwrnod
  • Unrhyw gorff yr ydych wedi cael eich ethol, eich penodi neu eich enwebu gan eich awdurdod i fod arno
  • Unrhyw awdurdod cyhoeddus neu gorff sy’n cyflawni swyddogaethau o natur gyhoeddus, elusennol, barn gyhoeddus neu bolisi, undeb llafur neu gymdeithas broffesiynol, clwb neu gymdeithas breifat yn ardal eich awdurdod lle’r ydych chi’n aelod neu mewn swydd reoli
  • Unrhyw wrthdaro rhwng eich ward chi a phenderfyniadau a fydd yn effeithio ar yr awdurdod yn ei gyfanrwydd.

Pwy sy’n gysylltiad personol agos?

Rhywun sy’n ffrind, yn gydweithiwr mae gennych gysylltiad cryf â nhw neu gysylltiad busnes neu berthynas agos. Mae hefyd yn cynnwys rhywun rydych wedi bod mewn anghydfod â nhw. Nid yw’n cynnwys cydnabod arferol, perthynas bell na rhywun rydych yn eu cyfarfod drwy eich gwaith.

Beth ddylech ei wneud os oes gennych gysylltiad personol?

  • Rhaid i chi ei ddatgan ar lafar mewn cyfarfodydd
  • Rhaid i chi ei ddatgan wrth wneud sylwadau ysgrifenedig neu ar lafar y tu allan i gyfarfod
  • Rhaid i chi lenwi ffurflen datgan cysylltiad
  • OND mae gennych hawl i gymryd rhan mewn trafodaethau a phleidleisio oni bai ei fod yn gysylltiad sy’n peri rhagfarn.

Beth yw cysylltiadau sy’n peri rhagfarn?

Mae cysylltiadau sy’n peri rhagfarn yn gysylltiadau personol y byddai aelod o’r cyhoedd yn ystyried eu bod yn debygol o ddylanwadu ar eich barn neu’ch gallu i fod yn wrthrychol, er enghraifft:

  • Os yw eich merch yn byw y drws nesaf i safle sy’n cael ei ystyried ar gyfer datblygiad tai newydd.
  • Os yw eich mab yn mynychu ysgol leol sydd i gael ei chau.

Beth ddylech ei wneud os oes gennych gysylltiad sy’n peri rhagfarn?

  • Rhaid i chi adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
  • Rhaid i chi beidio ag arfer pwerau dirprwyedig
  • Rhaid i chi beidio â cheisio dylanwadu ar y penderfyniad
  • Rhaid i chi beidio â gwneud sylwadau ysgrifenedig nac ar lafar

ONI BAI

  • Fod y Pwyllgor Safonau wedi caniatáu i chi wneud hynny
  • Bod gan y cyhoedd hawl i siarad neu ddarparu tystiolaeth (ond rhaid i chi adael ar ôl siarad)
  • Eich bod wedi cael eich galw ger bron pwyllgor craffu.

Rhagderfynu a thuedd

Os ydych chi ynghlwm â gwneud penderfyniadau, mae angen i chi ystyried tystiolaeth a’r holl ffactorau perthnasol ac anwybyddu’r hyn sy’n amherthnasol. Dylech hefyd osgoi dod i benderfyniad ymlaen llaw cyn clywed yr holl ffeithiau.

Mae’n bosib’ y bydd eich penderfyniadau’n agored i gael eu herio os ydych chi’n rhoi’r argraff eich bod wedi dod i benderfyniad cyn clywed yr holl wybodaeth berthnasol gan yr holl bobl berthnasol. ‘Rhagderfynu’ yw’r enw ar hynny ac mae’n golygu bod wedi penderfynu ar safiad neu rywbeth lle na fyddai unrhyw ddadl yn newid eich meddwl.

Mae rhagderfynu wedi’i gynnwys mewn deddfwriaeth (Adran 25 o Ddeddf Lleoliaeth 2011) a oedd yn ceisio egluro “ei bod yn briodol i gynghorwyr chwarae rôl weithredol mewn trafodaethau lleol ac na ddylent fod yn agored i her gyfreithiol o ganlyniad”. Roedd hyn oherwydd bod modd herio penderfyniadau cynghorau gan fod cynghorwyr yn cael eu cyhuddo o fod yn gul eu barn, fel arfer oherwydd datganiadau blaenorol mewn cyfarfodydd neu i’r wasg. Yn dilyn y Ddeddf, mae achosion yn llai tebygol o gael eu dwyn yn erbyn cynghorwyr ar sail yr hyn maent wedi’i ddweud yn flaenorol. Fodd bynnag, gallech gael eich herio os oes modd dangos nad ydych wedi dilyn y gofynion cyfreithiol i ystyried yr holl ffactorau perthnasol cyn gwneud penderfyniad.

Beth sy’n digwydd os ydych yn torri’r Cod Ymddygiad?

Os oes rhywun yn credu eich bod wedi torri’r Cod, gallant gyflwyno cwyn i’ch Swyddog Monitro. Fel cynghorydd, mae dyletswydd arnoch i wneud cwyn os ydych chi’n credu bod cynghorydd arall yn torri’r Cod. Mae gan awdurdodau eu ‘protocolau penderfynu lleol’ eu hunain i ymdrin â chwynion ‘lefel isel’ yn lleol a allai gynnwys, er enghraifft, Swyddogion Monitro’n mynd i’r afael â’r broblem gydag Arweinwyr Grŵp neu bwyllgor ad hoc o gynghorwyr. Bydd achosion honedig mwy difrifol o dorri’r Cod yn cael eu cyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Os bydd prawf bod sail i’r gŵyn, bydd yr Ombwdsmon yn cyfeirio’r achos at bwyllgor safonau lleol neu Banel Dyfarnu Annibynnol Cymru, a gall sancsiynau amrywio o ddim camau gweithredu hyd at waharddiad am 5 mlynedd. Hyd yn oed os ydych yn cael eich gwahardd dros dro, rydych yn dal i orfod cadw at y Cod!

Bydd gan eich awdurdod fwy o ganllawiau am y Cod, ond os ydych mewn unrhyw amheuaeth ynglŷn â sut i weithredu, gofynnwch i’r Swyddog Monitro a darllen y canllawiau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar y wefan hon.

Cwrteisi a pharch

Chi sy’n gyfrifol am eich ymddygiad fel aelod. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i gadw at ofynion y gyfraith, y cod ymddygiad a rheolau a phrotocolau. Fel aelod, mae gennych hefyd gyfrifoldeb i ymddwyn yn well na’r disgwyl i’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu ymddwyn yn gwrtais tuag at aelodau eraill, swyddogion a’r cyhoedd. Peidio â cholli eich tymer na thrin neb yn amharchus a defnyddio iaith addas bob tro. Mae’n golygu trin pawb yn ystyriol ac yn gwrtais, sut bynnag y maen nhw’n eich trin chi. Mae hyn yn berthnasol i chi drwy’r amser. Ni ddylai trafodaethau fyth fod yn amharchus. Gall cynghorwyr anghytuno â’i gilydd heb fod yn bersonol na digywilydd. Os ydych chi’n aelod o blaid wleidyddol, eich arweinydd grŵp sy’n gyfrifol am fonitro a, lle bo angen, eich cynghori i newid eich ymddygiad.