⌂ →
Cyllid a rheoli arian
Cyllid a rheoli arian
Mae cynghorau’n parhau i wynebu pwysau ar eu cyllidebau. Yn dilyn cyfnod hir o ansicrwydd a gafodd effaith sylweddol ar wasanaethau lleol, cyflwynodd y Pandemig don lethol o alwadau newydd i ychwanegu at y problemau parhaus mewn perthynas ag anghenion cymhleth a phoblogaeth sy’n heneiddio. Mae cynghorau’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd am flaenoriaethau sy’n gwrthdaro a thoriadau i wasanaethau. Maent hefyd yn edrych ar ffyrdd mwy arloesol ac effeithlon o ddarparu gwasanaethau, yn enwedig drwy ddulliau digidol ac ail-lunio gwasanaethau.
Er bod gan gynghorau hyblygrwydd ynglŷn â sut maent yn blaenoriaethu a gwario eu hadnoddau, mae’n rhaid ariannu rhai o’r gwasanaethau mwyaf costus a statudol fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol a thai i lefel sy’n sicrhau safonau penodol. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau dewisol eraill, y rhai sydd bwysicaf i’r cyhoedd yn aml iawn, fel yr amgylchedd lleol, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a’r celfyddydau, yn cael eu gwasgu’n dynnach pan mae arian yn brin. Mae gan gynghorwyr gyfrifoldeb sylweddol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n gyfrifol. Yn 21/22, roedd awdurdodau lleol yng Nghymru’n gyfrifol am wariant refeniw gros o bron i £8 biliwn ar wasanaethau lleol. Codir £1.8 biliwn yn lleol drwy dreth y cyngor a bron i £1 biliwn drwy ardrethi busnes a gaiff eu hail-ddosbarthu ar sail fformiwla.

Cyllideb Refeniw
Enw’r arian mae’r cyngor yn ei wario ar gynnal gwasanaethau o ddydd i ddydd yw’r Gyllideb Refeniw. Mae hyn yn cynnwys gwariant ar gyflogau staff, taliadau i gyflenwyr, costau cynnal adeiladau ac ad-daliadau benthyciadau. Er bod y gwariant hwn yn cael ei ariannu’n rhannol drwy godi ffioedd a threth y cyngor, prif ffynhonnell y cyllid yw Llywodraeth Cymru. Mae tua 45% yn dod gan Lywodraeth Cymru ar ffurf y Grant Cynnal Refeniw, 26% o grantiau penodol ac 13% o ardrethi busnes wedi’u hailddosbarthu.
Nid yw’r Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru wedi’i neilltuo at unrhyw ddiben penodol. Mae hyn yn golygu bod hyblygrwydd i gynghorau benderfynu sut i ddefnyddio’r grant i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau lleol a buddsoddi mewn gwasanaethau.

Y Dreth Gyngor
Ar gyfartaledd, dim ond 15% o wariant cynghorau lleol yng Nghymru mae treth y cyngor yn ei ariannu. Felly, er y sylw a’r cyhoeddusrwydd dadleuol mae’n ei gael, dim ond cyfran fechan o incwm cynghorau lleol ydyw. Os bydd cyngor angen cynyddu gwariant, dim ond trwy godi mwy o arian drwy dreth y cyngor y gall wneud hynny, sy’n arwain at gynnydd anghymesur, gan y byddai cynnydd o 1% i’r gyllideb yn golygu bod angen cynyddu treth y cyngor 6%.
Mae bil treth y cyngor yn cynnwys praesept ar gyfer yr heddlu a chynghorau cymuned a thref. (Mae awdurdodau tân ac achub yn codi ardoll ar gynghorau sy’n eu hardaloedd ar gyfer eu cyfran nhw o’r gyllideb). Yn aml iawn, nid yw pobl yn deall bod talu treth y cyngor yn helpu i dalu am swyddogion yr heddlu a diffoddwyr tân, yn ogystal ag amrywiaeth eang o wasanaethau’r cyngor.
Cyllideb Gyfalaf
Mae Cyllideb Gyfalaf cyngor yn talu am ei wariant ar fuddsoddi mewn adeiladau, isadeiledd a chyfarpar drud. I gyfrif fel gwariant cyfalaf, mae’n rhaid i asedau newydd neu ychwanegiadau at asedau fod ag oes o fwy na blwyddyn.
Mae cynghorau’n datblygu cynllun ariannol tymor canolig, sy’n adlewyrchu eu cynlluniau strategol corfforaethol eraill ac sy’n cysylltu â’u Cynlluniau Rheoli Risg a Rheoli Asedau. Bob blwyddyn, bydd y gyllideb flynyddol yn cael ei datblygu yn y cynllun ariannol tymor canolig. Yn ogystal â nodi cynlluniau gwariant y cyngor ar gyfer y flwyddyn ganlynol, mae proses y gyllideb yn arwain at osod treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Mae’r gyllideb flynyddol a lefel treth y cyngor yn cael eu gosod gan y cyngor llawn ar sail cyngor ac argymhelliad y cabinet neu’r bwrdd gweithredol.
Mewn cyngor, mae cynllunio cyllideb fel arfer yn cymryd rhwng 3 a 5 mlynedd. Fodd bynnag, mae angen cymeradwyo cyllidebau unigol bob blwyddyn, sy’n arwain yn y pen draw at osod treth y cyngor yn lleol, fel arfer ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Ar gyfer y gyllideb flynyddol, dyma’r amserlen arferol:
Gorffennaf | Ystyried Adroddiad Strategaeth y Gyllideb |
Gorffennaf–Medi | Cyfarwyddiaethau’n parhau i ddatblygu cynigion cyllidebol |
Hydref | Derbyn setliad dros dro’r gyllideb |
Tachwedd/Rhagfyr | Ymgynghoriad ar gynigion drafft am arbedion cyllidebol |
Rhagfyr | Derbyn setliad terfynol y gyllideb |
Ionawr | Mân addasiadau i gynigion y gyllideb ac ystyried cynlluniau ariannol tymor canolig |
Chwefror | Cymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol a’r gyllideb a gosod treth y cyngor |
Mae’r cyngor yn cael ei gynghori a’i gefnogi i reoli ei gyllid gan uwch swyddog sy’n cael ei alw’n Swyddog Adran 151, sydd â’r cyfrifoldeb statudol am sicrhau uniondeb ariannol. Y swyddog hwn yn aml yw’r Trysorydd neu’r Cyfarwyddwr Cyllid. Mae trafodion ariannol yn cael eu rheoli gan reoliadau ariannol y cyngor.
Fel cynghorydd, bydd angen i chi wybod am y gweithgareddau ariannol canlynol ac, efallai, bod ynghlwm â nhw:
- Cynnal safonau rheolaeth ariannol
- Cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon Blynyddol
- Cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol
- Cymeradwyo cyllideb yr awdurdod – efallai y byddwch yn gallu gofyn i hon gael ei diwygio neu ofyn i’r cabinet ailystyried cyn cymeradwyo
- Cymeradwyo ffioedd a thaliadau i’w codi
- Cronfeydd wrth gefn a darpariaethau, yn rhan o broses y Datganiad Cyfrifon
- Gosod treth y cyngor
- Cymeradwyo cynllun gostyngiadau treth y cyngor yn flynyddol (sy’n ofynnol i’r Cyngor Llawn ar hyn o bryd)
- Cymeradwyo datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys
- Staffio, hynny yw, pennu trefniadau ar gyfer cymorth gan swyddogion ar gyfer rolau gweithredol ac anweithredol o fewn yr awdurdod.
Eglurhad o rai termau ariannol:
Fformiwla Barnett yw’r ffordd mae adnoddau sy’n cael eu dyrannu i Lywodraeth Cymru’n cael eu cyfrifo gan Lywodraeth y DU. Rhagor o wybodaeth yma.
Gwariant cyfalaf yw’r arian sy’n cael ei wario ar asedau (e.e. ailddatblygu tai, adeiladu canolfan hamdden).
CIPFA – Sefydliad Siartredig Cyfrifeg a Chyllid Cyhoeddus. Dyma’r corff proffesiynol arweiniol ar gyfer pobl ym maes cyllid cyhoeddus. Fel unig gorff cyfrifeg gwasanaethau cyhoeddus arbenigol y byd, maent yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ac yn pennu safonau cyfrifeg a safonau adrodd i lywodraeth leol eu dilyn. Rhagor o wybodaeth yma.
Treth y cyngor yw’r dreth leol sy’n cael ei chasglu gan rai sy’n meddiannu adeiladau preswyl. Mae swm treth y cyngor yn cael ei gyfrifo yn ôl bandiau gwerth y tŷ. Mae treth y cyngor yn ariannu gwariant mae’r cyngor yn ei gymeradwyo ar ôl grantiau’r llywodraeth, ardrethi busnes a ffioedd. Rhagor o wybodaeth yma.
Llyfr Gwyrdd. Mae’r Llyfr Gwyrdd yn rhoi dadansoddiad o’r Asesiadau o Wariant Safonol gan wasanaethau unigol sy’n cael eu defnyddio i gyfrifo’r setliad refeniw ar gyfer yr awdurdodau unedol a’r heddlu yng Nghymru.
Y Cyfrif Refeniw Tai. Os oes gan y cyngor stoc o dai cymdeithasol, mae’r Cyfrif Refeniw Tai’n gyfrif penodol o wariant ac incwm y mae’n rhaid i adran dai pob awdurdod lleol ei gadw yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Mae’r cyfrif yn cael ei gadw neu ei neilltuo ar wahân i weithgareddau eraill y cyngor. Mae incwm yn cael ei greu’n bennaf o’r rhenti a’r taliadau gwasanaeth mae tenantiaid yn eu talu, ac mae gwariant ar reoli a chynnal y stoc dai a thaliadau ariannu cyfalaf ar ddyled benthyciadau sydd gan y Cyfrif Refeniw Tai.
Clustnodi. Mae hyn yn berthnasol i gyllid gan y llywodraeth sydd wedi cael ei neilltuo ganddynt at ddiben penodol fel grantiau penodol. Nid yw’r Grant Cynnal Refeniw wedi’i glustnodi ac mae’n cael ei roi i gyngor i hwnnw benderfynu sut i’w wario, sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd i’r cyngor gyflawni ei amcanion ei hun.
Chwyddiant . Cynnydd yng nghostau’r un nwyddau o un flwyddyn i’r llall. Mae’r mesuryddion mwyaf cyffredin ar gyfer chwyddiant yn ystyried y cynnydd i gostau amrywiaeth o nwyddau ar yr un pryd, fel bwyd a thanwydd a phethau mae trigolion yn eu prynu. Mae’r canlynol yn ffyrdd o fesur chwyddiant:
- Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)
- Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI)
Wrth osod cyllidebau, mae cynghorau’n ystyried chwyddiant cyflogau a chynnydd i feysydd gwariant mawr arbenigol fel gofal preswyl yn benodol.
Fformiwla gyllido llywodraeth leol. Dyma’r dull mae Llywodraeth Cymru’n ei ddefnyddio i rannu’r Grant Cynnal Refeniw rhwng pob cyngor. Mae’n seiliedig ar boblogaeth a nodweddion demograffig, daearyddol, economaidd a chymdeithasol pob ardal sydd wedi’u nodi yn yr asesiad o wariant safonol. Mae’r asesiad o wariant safonol yn gyfrifiad damcaniaethol o’r hyn mae pob cyngor angen ei wario i ddarparu lefel safonol o wasanaeth.
Setliad Llywodraeth Leol. Dyma’r term swyddogol am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ac mae’n cynnwys y Grant Cynnal Refeniw, grantiau penodol eu pwrpas a threthi annomestig ac mae’n cael ei rannu ar sail y fformiwla gyllid.
Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig fel arfer yn ymdrin â chyfnod o dair blynedd ac mae’n rhan o brosesau cynllunio ariannol y cyngor. Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn ceisio dod o hyd i bwysau ariannol a chyllidol sy’n wynebu’r cyngor dros y tair blynedd nesaf, a fydd yn arwain y broses o osod y gyllideb yn y dyfodol, yn amlinellu sefyllfa gyllidebol y cyngor dros y tair blynedd nesaf ac yn nodi lefelau o gyllid gan y llywodraeth yn y dyfodol.
Trethi Annomestig Cenedlaethol . Ardoll ar fusnesau sy’n cael ei chasglu gan gynghorau ar ran Llywodraeth Cymru, a’u talu i gronfa Cymru gyfan. Mae’r gronfa wedyn yn hael ei hailddosbarthu ymysg holl awdurdodau lleol Cymru.
Mae gwariant refeniw yn cyfeirio at gostau cynnal o ddydd i ddydd (e.e. cyflogau, cyflenwadau, cynnal a chadw).
Grant Cynnal Refeniw. Grant sy’n cael ei dalu gan y llywodraeth ganolog i gynorthwyo gwasanaethau awdurdodau lleol yn gyffredinol (yn hytrach na grantiau penodol at ddibenion penodol). Mae’r grant yn talu’r gwahaniaeth rhwng gwariant yn yr Asesiad o Wariant Safonol, ac a) y swm y byddai’r awdurdod yn ei gasglu pe bai treth y cyngor yn cael ei gosod ar lefel safonol y llywodraeth a b) trethi annomestig cenedlaethol ar ôl eu hailddosbarthu.
Mae’r Asesiad o Wariant Safonol yn gyfrifiad damcaniaethol o’r hyn mae pob cyngor angen ei wario i ddarparu lefel safonol o wasanaeth. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio asesiad o’r fath yn rhan o’r fformiwla i ddyrannu Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol. Mae’n cael ei gyfrifo i adlewyrchu’r gwahanol gostau o ddarparu gwasanaethau yn ardal pob awdurdod oherwydd eu gwahanol nodweddion demograffig, daearyddol ac economaidd-gymdeithasol.
Grantiau penodol. Mae Llywodraeth Cymru’n darparu rhywfaint o gyllid i lywodraeth leol ar ffurf grantiau wedi’u clustnodi. Dim ond at y dibenion penodol maent yn cael eu darparu mae modd eu defnyddio.