⌂ → Materion a heriau i gynghorau

Materion a heriau i gynghorau

Materion a heriau i gynghorau

Mae angen i gynghorwyr fod yn gyffredinol ymwybodol am y materion sy’n peri pryder i’r cyhoedd. Gall pobl gysylltu â chi ynglŷn â’r materion hynny ac efallai y byddwch yn gwneud penderfyniadau ynghlwm â nhw. Bydd angen i chi ddeall y materion, pa gamau gweithredu sydd ar y gweill yn genedlaethol a lleol, pa bŵer sydd gan y cyngor i weithredu a sut y gall cymunedau gydweithio i gefnogi ei gilydd.

Datblygu economaidd

Mae datblygu economaidd yn broses i wella lles dinasyddion mewn sawl maes, gan gynnwys ffyniant economaidd, disgwyliad oes a chyrhaeddiad addysgol. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd agwedd ranbarthol tuag at ddatblygu economaidd.

Iechyd a gofal cymdeithasol

Newid hinsawdd, datgarboneiddio, a bioamrywiaeth

Mae Cytundeb Paris yn gytundeb rhyngwladol cyfreithiol ar newid hinsawdd. Cafodd ei fabwysiadu gan 196 o bleidiau yn COP 21 ym Mharis, ym mis Rhagfyr 2015 a chafodd ei wneud yn weithredol ym mis Tachwedd 2016. Ei nod yw atal cynhesu byd eang rhag cyrraedd 2 radd, ac 1.5 gradd Celsius yn ddelfrydol, yn uwch na lefelau cyn yr oes ddiwydiannol. Hyd yn oed os bydd y byd yn llwyddo i wneud hynny, bydd y DU yn wynebu newidiadau eraill sylweddol i’w hinsawdd hyd at 2050 a thu hwnt.

Gwastraff

Wrth i adnoddau cyfyngedig edwino, mae Cymru, fel cenedl, angen gwella sut rydym yn rheoli ein hadnoddau. Mae hyn yn cynnwys beth fyddem yn draddodiadol wedi’i gyfrif yn ‘wastraff’. Fel hyn, gallwn warchod ein hadnoddau, cefnogi’r economi a darparu swyddi cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cludiant

Mae gan gludiant ran bwysig i’w chwarae i fynd i’r afael â newid hinsawdd a helpu’r agenda datgarboneiddio, gan ei fod yn cyfrif am 17% o gyfanswm allyriadau carbon Cymru.
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Drafnidiaeth uchelgeisiol – Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021.

Diogelwch Cymunedol

Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

Cymunedau Mwy Diogel CymruEr na fydd pob cynghorydd yn aelodau o’u Partneriaethau Diogelwch Cymunedol , mae’n bwysig i bob un ddeall beth yw diogelwch cymunedol a beth yw’r Partneriaethau hyn.

Diogelwch Cymunedol yw’r dull y mae dinasyddion yn teimlo’n ddiogel ar draws pob cymuned ac amgylchedd yng Nghymru, gan ddarparu cymunedau cryf, diogel a hyderus mewn modd sy’n cynnig cyfle cyfartal, cyfiawnder cymdeithasol, cadernid ac sy’n gynaliadwy i bawb ac sy’n galluogi cydlyniant cymunedol. Mae Diogelwch Cymunedol yn cynnwys diogelwch y cyhoedd, caethwasiaeth fodern a chamfanteisio, trais difrifol a throseddau cyfundrefnol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal â therfysgaeth ac eithafiaeth.

 

Gwasanaethau Digidol

Mae yna nifer o gyfleoedd i Gynghorau yng Nghymru ddefnyddio technoleg ddigidol i ddarparu gwasanaethau. Gallai hyn olygu cynnig gwasanaethau ar lein neu awtomeiddio swyddogaethau cefn swyddfa. Ers Covid, mae’r cyhoedd yn disgwyl gallu defnyddio mwy o wasanaethau ar lein.

Mae Cymru Ddigidol yn sefydliad a gynhelir gan CLlLC i helpu Cynghorau i ddarparu’r gwasanaethau digidol gorau i holl drigolion ac ymwelwyr Cymru. Maen nhw’n helpu Cynghorau i oresgyn yr heriau sy’n ei gwneud yn anodd dylunio a gweithredu gwasanaethau digidol drwy annog awdurdodau lleol i gydweithio, drwy helpu gydag adnoddau, a drwy gynnal hyfforddiant a digwyddiadau i wella sgiliau digidol yng Nghymru.

Cynhaliodd Archwilio Cymru adolygiad o wasanaethau digidol Cynghorau yng Nghymru yn 2024. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma.

Deallusrwydd Artiffisial

Gall deallusrwydd artiffisial (AI) fod o fudd i Gynghorau drwy wella effeithlonrwydd a gwasanaethau. Dengys ymchwil diweddar gan yr LGA bod Cynghorau’n defnyddio AI fel a ganlyn:

  • Sgwrsfot i’r cyhoedd, er enghraifft mewn canolfannau cyswllt  
  • Cynorthwywyr AI ar gyfer gweithwyr achos, er enghraifft ym meysydd gofal cymdeithasol neu tai
  • Meddalwedd adnabod delweddau i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel
  • Synwyryddion AI ym maes gofal cymdeithasol i oedolion
  • Adnoddau AI i gynhyrchu cyfieithiadau a dogfennau hawdd eu darllen
  • Dadansoddeg ragfynegol i atal codymau a digartrefedd
  • Glanhau setiau data a chael gwared â chopïau dyblyg
  • Monitro bygythiadau a seiberddiogelwch

Mae yna risgiau’n gysylltiedig â defnyddio AI, felly mae’r Cynghorau’n mabwysiadu polisïau a chanllawiau cadarn ar gyfer ei ddefnyddio.