Cefnogaeth i gynghorwyr

Cefnogaeth i gynghorwyr

Cefnogaeth i gynghorwyr

Fel cynghorydd fe gewch amrywiaeth o gefnogaeth a gwybodaeth. Mae swyddogion penodol i gefnogi aelodau, ar gyfer gwasanaethau ymgynghorol, gweinyddol, pwyllgorau, gwaith achos ac ymchwil.

Rhaglen Gwelliant – CLlLC

Mae CLlLC wedi gweithio’n agos gyda chyn cynghorwyr a swyddogion i ddarparu adnoddau a rhaglen o gefnogaeth a hyfforddiant i gynghorwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd. Mae rhaglen CLlLC, sydd am ddim ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei darparu ochr yn ochr â rhaglenni sefydlu a chymorth y cynghorau eu hunain (gweler isod).

Mae’r rhaglen yn cynnig ystod gynhwysfawr o gymorth i helpu cynghorwyr i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer llywodraethu lleol effeithiol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i gymunedau. Mae lles cynghorwyr yn flaenoriaeth, ac mae’r rhaglen yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu i roi’r hyder a’r gwytnwch i gynghorwyr ymateb i’r heriau o fod yn gynghorydd.

Nod y rhaglen yw i wella a datblygu:

    Sgiliau a gwybodaeth

    Cefnogaeth ar gael:

    Adnoddau defnyddiol:

    Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn sicrhau bod yr awdurdod ac aelodau anweithredol unigol yn derbyn y gefnogaeth ganlynol:

    • Cefnogaeth â phwyllgorau a chyfarfodydd;
    • Cefnogaeth a gwasanaethau i aelodau; a
    • Chefnogaeth graffu.

    Y Swyddog Monitro (sydd hefyd yn gallu bod yn Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd) sy’n gyfrifol am gynnal safonau moesegol a chynghori a hyfforddi cynghorwyr am y Cod Ymddygiad. Mae’r Swyddog Monitro hefyd yn cefnogi gwaith pwyllgor safonau’r cyngor ac mae’n gyfrifol am gynghori a hyfforddi aelodau cynghorau tref a chymuned am y Cod Ymddygiad. I bob pwrpas, y Swyddog Monitro, ar y cyd â’r pwyllgor safonau yw’r prif ffynhonnell o gyngor ac arweiniad i gynghorwyr a swyddogion am faterion yn ymwneud â moeseg a safonau a’r Cod Ymddygiad.

    Datblygu a hyfforddiant i gynghorwyr

    Bydd pob cynghorydd, beth bynnag fo’u rôl a’u profiad, angen rhywfaint o hyfforddiant a chyfleoedd datblygu. Os nad ydych chi’n deall eich rôl a’r fframwaith polisi a deddfwriaethol sy’n sail iddi yn llwyr, byddwch yn peri risg i’ch cyngor. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cyngor (drwy’r pwyllgor gwasanaethau democrataidd) yn darparu hyn ar eich cyfer. Mae dyletswydd gyfreithiol ar eich cyngor i ddarparu cyfle i chi drafod eich anghenion hyfforddiant a chefnogaeth a darparu’r cyfleoedd datblygu priodol. Mae nifer o gynghorau’n darparu hyn drwy gynlluniau adolygu datblygiad personol. Yn gyffredinol, dylech gael:

    • Hyfforddiant cynefino
    • Disgrifiad o’r rôl
    • Cyfle i gael eich mentora
    • Cyfle i drafod hyfforddiant a fyddai’n ddefnyddiol i chi
    • Hyfforddiant parhaus ar gyfer rolau penodol yn y cyngor, a
    • Briffiau a diweddariadau am bolisi a deddfwriaeth.

    Beth mae angen i gynghorwyr ei wybod?

    Yma, mae rhestr o’r sgiliau a’r wybodaeth mae pob cyngor yng Nghymru’n cytuno bod eu hangen ar bob aelod. Gallwch ei defnyddio i wirio beth rydych eisoes yn ei wybod ac yn gallu ei wneud a ble rydych efallai angen mwy o gefnogaeth. Os bydd arnoch angen help ag unrhyw rai o’r rhain ar ôl eich rhaglen sefydlu, gall y swyddogion ei drefnu ar eich cyfer.

    Cyflogau

    Fel cynghorydd, bydd gennych hawl i dderbyn cyflog yn gyfnewid am eich cyfraniad. Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn cael eu talu fel bod y rôl yn agored i bawb, nid yn unig y rhai sy’n gallu ei fforddio neu sydd â llai o gyfrifoldebau eraill. Mae cost i ddemocratiaeth effeithiol a chynhwysol. Bydd cyflog sylfaenol i’r holl aelodau a chyflog uwch ychwanegol i gynghorwyr sydd â chyfrifoldebau penodol, fel aelodau gweithredol/cabinet neu gadeiryddion pwyllgorau. Mae’r uchafswm sy’n gallu cael ei dalu fel cyflog sylfaenol yn cael ei gyfrifo’n flynyddol ac yn genedlaethol gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Bydd swm y cyflog i rolau uwch yn dibynnu ar faint eich awdurdod. Yn ychwanegol at eich cyflog, gallwch hefyd hawlio treuliau am deithio a chynhaliaeth ac ad-daliad ar gyfer costau gofal os ydych chi’n gofalu, er enghraifft, am blant neu rywun hŷn. Mae gan gynghorwyr hefyd hawl i absenoldeb teuluol â thâl ac, i rai mewn swyddi cyflog uwch, absenoldeb salwch â thâl. Mae’r cyngor yn gorfod cyhoeddi manylion y cyflog rydych yn ei dderbyn. Mae’r swm sy’n gallu cael ei dalu i gynghorwyr fel cyflogau a lwfansau’n cael ei gyhoeddi yn adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yma.

    Adroddiad blynyddol

    Mae gan gynghorau ddyletswydd i ‘wneud trefniadau’ i gynghorwyr lunio adroddiad blynyddol am eu gweithgareddau fel cynghorydd yn ystod y flwyddyn. Nid yw hon yn ddyletswydd ar gynghorwyr i lunio adroddiad blynyddol, er bod llawer yn gwneud, ac mae rhai cynghorau’n disgwyl i’w cynghorwyr lunio adroddiad blynyddol.