Gweithio gyda chymunedau

Gweithio gyda chymunedau

Gweithio gyda chymunedau

Mae llawer o gynghorwyr yn ymgeisio am y swydd gan eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned, unioni problem leol neu roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned sydd wedi’u cefnogi nhw. Er y byddwch chi’n treulio amser yng nghyfarfodydd y cyngor, byddwch yn treulio llawer o amser yn eich cymunedau, yn siarad a gweithio gyda’r cyhoedd a grwpiau cymunedol.

Mae angen i gynghorau weithio gyda phobl leol i gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau lleol a monitro a ydynt yn gweithio. Dylent hefyd helpu cymunedau lleol i’w cynnal eu hunain. Mae gan gynghorwyr rôl hollbwysig i arwain y gwaith hwn oherwydd eu safle unigryw o fewn y gymuned.

Cynghorwyr fel arweinwyr cymunedol

I gynghorydd unigol, gall bod yn arweinydd cymunedol olygu sawl peth:

  • Sicrhau bod barn pobl leol yn cael ei hystyried wrth lunio polisïau a gwneud penderfyniadau. Bydd hyn yn cynnwys gofalu bod pawb yn cael dweud eu dweud, nid yn unig y rhai sydd fwyaf swnllyd. Bydd hefyd angen i chi siarad â’r rhai sy’n anodd eu cyrraedd neu wedi datgysylltu.
  • Gofalu bod y cyngor yn ymwybodol o anghenion pobl yn eich cymuned. Bydd angen i chi wybod beth mae pawb yn eich cymuned ei angen, nid y rhai sy’n dweud wrthoch chi yn unig.
  • Galluogi eich cymuned i’w chefnogi ei hun. Trefnu pobl i weithredu, rhannu gwybodaeth neu ddatblygu sgiliau fel y gallant fod yn llai dibynnol ar y cyngor.
  • Galluogi’r cyngor a phobl leol i gydweithio i gyflawni pethau. Mae hyn weithiau yn cael ei alw’n gyd-gynhyrchu ac mae’n seiliedig ar ddarparu gwasanaethau mewn modd teg a chytbwys.
  • Annog cydweithio rhwng ac o fewn cymunedau ac ar draws cynghorau, os mai dyna’r ffordd orau o weithio.
  • Mynegi pryderon lleol a gweithio gydag eraill i fynd i’r afael â materion lleol fel digartrefedd, parcio, sbwriel a throsedd.

Dod i adnabod eich cymuned

Efallai eich bod wedi byw neu weithio yn eich cymuned neu ward am flynyddoedd, ond efallai nad ydych chi’n adnabod yr holl grwpiau gwahanol o bobl sy’n byw yno a’r heriau sy’n eu wynebu.

Darganfyddwch ragor am sut i ddod i adnabod eich cymuned leol.

Gwaith achos

Mae’r problemau a’r materion mae pobl leol yn eu codi â chynghorwyr fel arfer yn cael eu galw’n ‘waith achos’.

Bydd eich gwaith achos yn dod o: sgyrsiau wyneb yn wyneb neu ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, llythyrau, galwadau ffôn a negeseuon e-bost, cymorthfeydd, sesiynau cyngor a galw heibio pobl a gweithgarwch gwleidyddol arall.

Eich rolau yn y Cyngor

Cymorthfeydd Diogel

Tra na allwn ragweld na rheoli popeth a allai ddigwydd i ni, mae yna rai camau y gallwn ddewis eu cymryd i liniaru ac osgoi risg.

Cyfathrebu sy’n Ystyried Diogelwch

Fel Swyddogion Etholedig fe fyddwch eisiau ac angen cyfathrebu eich cymorthfeydd a digwyddiadau sydd ar y gweill. Fodd bynnag, yn ogystal â darparu gwybodaeth bwysig a defnyddiol i’r cyhoedd, mae’r manylion hyn hefyd yn darparu gwybodaeth i unigolion a all fod yn cynllunio gweithred faleisus.

Gan y gall peidio â rhannu’r wybodaeth hon effeithio’n andwyol ar allu’r cyhoedd i’ch cyfarfod, fe ellir lliniaru’r risg hwn. Er enghraifft, gall darparu’r wybodaeth hon ochr yn ochr â gwybodaeth ynglŷn â pha fesurau sydd mewn grym neu yr ymgymrwyd â hwy i helpu i gadw’r cyhoedd, swyddogion etholedig a staff yn ddiogel, weithredu fel arf ataliol.

Hefyd bydd cynnig gwybodaeth fwy cyffredinol fel ‘Bydd Cyng X yn ymweld â busnesau lleol i gefnogi Y’ yn hytrach na ‘Bydd Cyng X yn ymweld â Salon Gwallt Sam, E. Z. Bakes a Siop Flodau’r Pentref i drafod Y’ yn cyfyngu ar union fanylion eich amserlen.

Caiff yr ymagwedd ddiogelwch amddiffynnol hon ei hadnabod fel ‘cyfathrebu sy’n ystyried diogelwch’ sy’n ddull a ddefnyddir i roi gwybod, rhoi sicrwydd a recriwtio’r cyhoedd i fod yn rhan o’r ymdrech ddiogelwch drwy egluro beth rydych yn ei wneud i helpu i gadw etholwyr yn ddiogel a’u hannog i fod yn rhan o hynny drwy fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw beth anarferol.