⌂ →
Croeso i’ch rôl newydd
Croeso i’ch rôl newydd
Llongyfarchiadau ar gael eich ethol yn gynghorydd a chroeso i’ch rôl newydd mewn llywodraeth leol.
Mae bod yn gynghorydd yn fath unigryw o wasanaeth cyhoeddus gan y gallwch wir wneud gwahaniaeth i fywyd a dyfodol pobl eraill. Mae cynghorau’n gyfrifol am lu o wasanaethau: gwastraff, ailgylchu a gwasanaethau amgylcheddol, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio, budd-daliadau tai, llyfrgelloedd, cludiant, cyfleusterau hamdden a llawer mwy.

Eich Rôl fel Cynghorydd
Fel cynghorydd, byddwch yn helpu i bennu sut mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu, eu hariannu a’u blaenoriaethu. Bydd angen i chi gael cydbwysedd rhwng y budd pennaf i drigolion eich cymuned, y fwrdeistref neu sir yn ehangach, eich rhanbarth, Cymru gyfan, eich plaid wleidyddol (os ydych yn aelod o un), a’r Cyngor. Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod eich awdurdod yn cael ei lywodraethu’n effeithiol ac yn foesol. Yn amlwg, mae hon yn swydd heriol yn llawn cyfrifoldeb. Bydd y wybodaeth ar y wefan hon yn helpu!
Eich dyddiau cyntaf yn y swydd
Gall eich dyddiau cyntaf yn y swydd fel cynghorydd newydd deimlo fel dechrau unrhyw swydd newydd. Efallai na fyddwch chi’n siŵr pwy i siarad â nhw, beth mae’r gwaith i gyd yn ymwneud ag o neu hyd yn oed eich union rôl chi. Byddwch yn gwybod beth rydych eisiau ei wneud, ond nid sut i’w wneud!
Dysgwch fwy am yr hyn i’w ddisgwyl o’ch diwrnod cyntaf yn y swydd.


Diogelwch Personol: Canllawiau
Fel swyddog etholedig fe fyddwch yn mynychu digwyddiadau cyhoeddus, cyfarfodydd preifat, yn cynnal cymorthfeydd a byddwch yn llygad y cyhoedd. Tra bod y siawns y byddwch chi neu aelod o’ch teulu yn dod yn ddioddefwr troseddu treisgar yn parhau yn isel, mae diogelwch personol yn hollbwysig, ac yma rydym yn amlygu dysgu allweddol gyda’r nod o’ch cadw’n ddiogel.
Geiriau gan gynghorwyr profiadol
“Disgwyliwch fod yn ansicr ar adegau a pheidiwch â disgwyl newid y byd. Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau. Mae pawb yn gwneud rhai ac fe ddysgwch chi ohonyn nhw.”
“Gofynnwch am fentor. Ni fydd yn dweud sut i wneud eich gwaith, ond gall yn sicr eich helpu i ddeall sut mae popeth yn gweithio!”
“Cofiwch fod cynghorwyr o bob plaid eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.”