⌂ →
Eich rolau yn y Cyngor
Eich rolau yn y Cyngor
Mae rolau ffurfiol cynghorwyr o fewn y cyngor yn amrywio. Mae pob cynghorydd yn aelod o’r Cyngor llawn, sy’n gosod y polisïau cyffredinol a’r gyllideb. Bydd nifer bach o gynghorwyr yn ffurfio’r cabinet neu’r bwrdd gweithredol, bydd eraill ar amryw wahanol bwyllgorau fel pwyllgorau trosolwg a chraffu a phwyllgorau rheoleiddio. Fe welwch chi ragor o wybodaeth am rôl pob un o’r pwyllgorau hyn a’r rheolau sy’n berthnasol iddynt yng nghyfansoddiad eich cyngor. Mae cynghorwyr hefyd yn cynrychioli’r cyngor ar gyrff eraill fel awdurdodau tân ac achub, paneli’r heddlu a throsedd ac awdurdodau parciau cenedlaethol (lle bo hynny’n berthnasol). Gallai eich cyngor ddarparu disgrifiad rôl i chi. Os nad oes un o’r rheini ar gael, mae enghreifftiau ar gael yma.
Rhagor o wybodaeth am bwyllgorau
Darganfyddwch fwy am Pwyllgorau a chynllunio.


Cyrff allanol
Fel cynghorydd, efallai y cewch eich enwebu gan eich cyngor i fod ar amryw fathau o gyrff allanol fel sefydliadau cymunedol, cymdeithasau tai a chwmnïau lleol. Nid yw bod yn gynrychiolydd y cyngor ar gorff allanol o reidrwydd yn golygu y byddwch chi’n cynrychioli buddiannau’r cyngor ar y corff. Bydd disgwyl i chi weithredu er budd y corff allanol a defnyddio’ch crebwyll eich hun wrth wneud penderfyniadau, yn unol â’ch dyletswydd gofal i’r corff. Gallech ystyried buddiannau’r cyngor, ond ni ddylai fod yn brif ystyriaeth i chi. Mewn rhai achosion (e.e. os ydych yn gyfarwyddwr cwmni neu’n ymddiriedolwr elusen – gweler isod) gallai pleidleisio o blaid buddiannau’r cyngor olygu eich bod yn mynd yn groes i’ch dyletswydd i’r corff.
Gwasanaethu mewn meysydd arbenigol
Cyfarfodydd
Dan ddeddfwriaeth sydd yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gall cynghorau benderfynu sut maent eisiau cynnal cyfarfodydd. Gall hyn amrywio o bawb yn ymuno o bell i bawb yn bresennol yn gorfforol ac unrhyw gyfuniad ‘hybrid’ o’r ddau. Mae cyfarfodydd Paneli’r Heddlu a Throsedd yn cael eu rheoli dan ddeddfwriaeth Lloegr ac efallai na fydd ganddynt yr un hyblygrwydd. Mae rhai o gyfarfodydd y cyngor hefyd yn cael eu darlledu fel bod pobl leol, neu unrhyw un ar draws y byd, yn gallu eu gwylio!
Darganfyddwch fwy am gyfarfodydd drwy’r ddolen isod.
Rolau corfforaethol
Bydd eich rolau ffurfiol o fewn y cyngor yn amrywio, ond mae rhai cyfrifoldebau sy’n gyffredin i bob cynghorydd. Mae’n bwysig ymgyfarwyddo â pholisïau eich cyngor yn y maes hwn.