Gweithio gyda chymunedau
Cyfryngau cymdeithasol
Weithiau, y ffordd gyntaf a’r hawsaf i gysylltu â llawer o bobl yw’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gofyn cwestiwn ar Facebook neu Twitter yn ffordd gyflym o gasglu gwybodaeth a barn.

Rheolau ac ymwybyddiaeth
Cofiwch fod anfanteision o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr hyn rydych yn ei ddweud, os oes modd eich adnabod fel cynghorydd, hyd yn oed pan nad ydych “ar ddyletswydd” yn gallu cael ei farnu’n eang iawn a bydd angen cadw at holl ofynion y Cod Ymddygiad. Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o ganllawiau a phrotocolau’r cyngor i aelodau ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Gosodwch reolau clir i bobl sy’n cysylltu â chi dros y cyfryngau cymdeithasol. Efallai y byddech eisiau ystyried cyhoeddi’r rhain ar eich tudalen.
Camdriniaeth ar-lein
Mae’n bwysig eich bod yn cadw’ch hun yn ddiogel ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall bwlio ac aflonyddu ar-lein fod yn broblem. Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef hynny. Os yw’n digwydd i chi, siaradwch â’ch swyddog gwasanaethau democrataidd. Mewn rhai achosion, gall fod yn briodol dweud wrth yr heddlu. Mae rhagor o gyngor am ddelio â chamdriniaeth ar-lein i’w weld yma.
