⌂ →
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Llais Cynghorau Cymru
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Rydym ni’n cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.
Mae’r 22 cyngor yng Nghymru’n aelodau o’r gymdeithas ac mae’r 3 awdurdod tân ac achub a’r 3 awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
Rydym ni’n credu bod y syniadau sy’n newid bywydau pobl yn digwydd yn lleol.
Mae cymunedau ar eu gorau pan maent yn teimlo eu bod wedi’u cysylltu â’u cyngor trwy ddemocratiaeth leol. Trwy gefnogi, hwyluso a sicrhau’r cysylltiadau hyn, gallwn ddatblygu democratiaeth leol fywiog sy’n caniatáu i gymunedau ffynnu.
Ein nod yn y pen draw yw hyrwyddo, amddiffyn, cefnogi a datblygu llywodraeth leol ddemocrataidd a buddiannau cynghorau yng Nghymru.
Byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth drwy:
- Hyrwyddo rôl ac amlygrwydd cynghorwyr ac arweinwyr cynghorau
- Sicrhau cymaint o ddisgresiwn lleol â phosib’ mewn deddfwriaeth neu ganllawiau statudol
- Cefnogi a sicrhau cyllid hirdymor a chynaliadwy i gynghorau
- Hyrwyddo gwelliant dan arweiniad y sector
- Annog democratiaeth leol fywiog, gan hyrwyddo mwy o amrywiaeth
- Cefnogi cynghorau i reoli eu gweithlu’n effeithiol
Mae CLlLC yn credu bod gwasanaethau’n cael eu darparu orau o fewn fframwaith democrataidd o atebolrwydd lleol ac y dylai’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus allu dweud eu dweud gymaint â phosib’ ynglŷn â’r modd maent yn cael eu trefnu, eu rheoli a’u hariannu. Llywodraeth leol yw’r haen o lywodraeth sydd agosaf at ddefnyddwyr gwasanaeth ac sy’n y lle gorau i ymateb i’w hanghenion. Cydnabyddir mai rôl y llywodraeth ganolog yw pennu’r strategaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn genedlaethol, ond llywodraeth leol sy’n darparu’r gwasanaeth ar sail amgylchiadau lleol.
Cafodd CLlLC ei sefydlu’n wreiddiol yn 1996 fel corff datblygu polisi a chorff cynrychioladol. Ers hynny, mae CLlLC wedi datblygu’n sefydliad sydd hefyd yn arwain ar welliant a datblygu, caffael, materion cyflogaeth ac yn cynnal amrywiaeth o gyrff partner sy’n cefnogi llywodraeth leol. Mae CLlLC yn cael ei hariannu gan gyfraniadau tanysgrifio’r awdurdodau sy’n aelodau ohoni a grantiau gan Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglenni cenedlaethol.
Prif gyrff gwneud penderfyniadau CLlLC yw’r cyngor, sydd â 71 o aelodau sy’n cynrychioli’r poblogaethau maent yn eu gwasanaethu’n gymesurol, a’r bwrdd gweithredol, sy’n cynnwys arweinwyr y 22 cyngor. Mae arweinydd y grŵp gwleidyddol mwyaf yn cael ei benodi’n Arweinydd CLlLC, ond mae CLlLC yn draddodiadol wedi ceisio cael cydbwysedd gwleidyddol ac mae’n gweithredu ar sail consensws, gan gynnwys pob grŵp gwleidyddol ar CLlLC.
Mae uwch gynghorwyr yn cael eu penodi’n llefarwyr ar ran CLlLC ar gyfer meysydd portffolio allweddol llywodraeth leol. Mae’r portffolios hyn yn cynnwys pob agwedd ar wasanaethau llywodraeth leol, o gyllid, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, hyd at gynllunio a chydraddoldeb. Mae bod yn llefarydd ar ran CLlLC yn gyfrifoldeb mawr, gan eu bod yn cynrychioli llywodraeth leol yn ei chyfanrwydd wrth drafod â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phartneriaid cenedlaethol eraill yn eu meysydd gwasanaeth. Mae gwaith lobïo’r gymdeithas felly yn sylweddol.
Am fwy o wybodaeth
Mae maniffesto CLlLC i’w weld yma.
Mae prif feysydd gwaith CLlLC yn cynnwys:
- Cyfarfodydd dwyochrog rhwng llefarwyr CLlLC a Gweinidogion Cymru a’r DU;
- Gwaith craffu cyn- ac ôl-ddeddfwriaethol gyda Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd Ewrop;
- Datblygu polisi a chydweithio â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU;
- Ymgysylltu â’r undebau llafur a chymdeithasau proffesiynol;
- Gweithio gyda’r gwahanol gyrff archwilio ac arolygu yng Nghymru;
- Darparu cefnogaeth i wella, gan gynnwys adolygu cymheiriaid a chyfleoedd datblygu a hyfforddi i aelodau a hyrwyddo arferion da;
- Trefnu cynadleddau, seminarau, gweithdai a digwyddiadau hyfforddi;
- Cyhoeddi adroddiadau, dogfennau canllaw ac adnoddau ar-lein; a
- Gwaith cyfathrebu, gwaith â’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.
Gwasanaethau cefnogi a datblygu aelodau gan CLlLC:
Mae CLlLC yn cefnogi pob cyngor ar draws Cymru i helpu i ddarparu cefnogaeth i aelodau drwy:
- Weithio’n strategol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion aelodau’n cael eu hyrwyddo;
- Darparu canllawiau ar gais am bob agwedd ar gefnogi a datblygu aelodau;
- Darparu rhwydweithiau rhwng aelodau a swyddogion i hwyluso cydweithio a rhannu arferion mewn gwasanaethau democrataidd a gwasanaethau cefnogi;
- Darparu deunydd cefnogaeth ac arweiniad fel strategaethau enghreifftiol, disgrifiadau rôl, fframweithiau datblygu a modiwlau hyfforddi; a
- Gweithio gyda phob awdurdod i ddatblygu a darparu cyfleoedd dysgu i gynghorwyr.