Llywodraethu yng Nghymru

Llywodraethu yng Nghymru

Llywodraethu yng Nghymru

Mae pedair ‘haen’ o ddemocratiaeth gynrychioladol yng Nghymru. Yn gwasanaethu Cymru, mae 40 Aelod o Senedd y DU, er bod disgwyl i hyn newid yn y dyfodol, 60 Aelod o Senedd Cymru a 1,234 o gynghorwyr lleol wedi’u hethol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig ac mewn rhai ardaloedd trefol, mae cyngor tref a chymuned hefyd yn gwasanaethu’r etholaeth. Mae dros 8,000 o gynghorwyr tref a chymuned yng Nghymru.

Awdurdodau yng Nghymru

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Mae 3 awdurdod parc cenedlaethol sy’n cynnwys Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri; mae’r aelodaeth yn cynnwys rhai aelodau sy’n cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru a chynghorwyr sydd wedi’u penodi gan yr awdurdodau lleol sydd â thir o fewn y parc cenedlaethol.

Awdurdodau Tân ac Achub

Mae 3 awdurdod tân ac achub yng Nghymru – ar gyfer Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru. Mae cynghorwyr yn cael eu penodi i’r Awdurdod Tân ac Achub gan yr awdurdodau lleol sy’n eu rhanbarth.

Heddluoedd yng Nghymru

Mae pedwar heddlu Cymru – Gwent, Dyfed-Powys, Gogledd Cymru a De Cymru i gyd yn cael eu llywodraethu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd etholedig ac mae panel heddlu a throsedd yn craffu arnynt, sy’n cynnwys cynghorwyr sydd wedi’u penodi gan yr awdurdodau lleol perthnasol.

Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru

Mae amrywiaeth o gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru hefyd. Cyrff cyhoeddus yw’r rhain, sydd â rôl ymgynghorol, polisi cyhoeddus, neu reoleiddiol neu sy’n gyfrifol am gyllid cyhoeddus neu ddarpariaeth gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud penodiadau cyhoeddus i fyrddau’r cyrff hyn. Mae enghreifftiau’n cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chwaraeon Cymru.

Byrddau a phwyllgorau

Mae saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru’n gyfrifol o fewn eu hardal ddaearyddol nhw am gynllunio, ariannu a darparu gwasanaethau gofal iechyd cynradd – meddygon teulu, fferyllfeydd, deintyddion ac optometryddion, gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau cymunedol. Mae aelod etholedig o awdurdod o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar bob un o’r Byrddau.

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn bartneriaethau statudol sy’n cael eu sefydlu i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal trwy gryfhau gwaith ar y cyd ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae rhai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithredu dros fwy nag un awdurdod, er enghraifft, yng Ngwent ac yng Nghonwy a Sir Ddinbych, ond yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru, mae’r BGC yn cyd-fynd â ffiniau’r awdurdod lleol. Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn llunio asesiadau lles a chynlluniau lles ar gyfer eu hardaloedd. Aelodau statudol BGC yw’r Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol, yr Awdurdod Tan ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r canlynol hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan: Gweinidogion Cymru, Prif Gwnstabliaid, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, rhai gwasanaethau prawf ac o leiaf un corff sy’n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol.

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig Rhanbarthol wedi cael eu sefydlu ar gyfer Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin a De-ddwyrain Cymru, yn fras ar yr un ffiniau rhanbarthol â’r Bargeinion Dinesig a Thwf. Eu bwriad yw galluogi rhai o swyddogaethau cynghorau i gael eu darparu’n fwy effeithiol a strategol ar lefel ranbarthol. Bydd y Cyd-bwyllgorau’n gyfrifol, i ddechrau, am les economaidd, cynllunio datblygiadau strategol a datblygu polisïau cludiant. Gallent ddewis derbyn cyfrifoldeb am swyddogaethau ychwanegol os yw hyn yn gweithio’n dda i’r rhanbarth.

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff llywodraeth leol a bydd gan bob un gyfansoddiad gwahanol wedi’i gytuno gan ei aelodau. Bydd Arweinwyr pob cyngor yn y rhanbarth yn ffurfio’r Pwyllgor, ynghyd ag aelodau cyfetholedig eraill ac uwch aelod o’r Parc Cenedlaethol os oes un yn yr ardal.

Beth mae cynghorau’n ei wneud?

Mae cynghorau’n darparu amrywiaeth o wasanaethau i’w cymunedau. Mae rhai’n statudol sy’n golygu bod rhaid eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys casglu gwastraff a llyfrgelloedd. Mae eraill yn rhai rheoliadol. Mae’n rhaid darparu’r rhain hefyd ac maent yn cynnwys cynllunio a rheoli datblygu tir ac eiddo, a thrwyddedu, er enghraifft, eiddo neu dacsis. Yn olaf, mae gwasanaethau yn ôl disgresiwn, a gall cynghorau ddewis darparu’r rhain, fel hyrwyddo twristiaeth.

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn mae’ch cyngor yn gyfrifol amdano:

Addysg
Ysgolion a chludiant i’r ysgol

Tai
Strategaethau, cyngor, darpariaeth a gweinyddu budd-daliadau

Gwasanaethau cymdeithasol
Gofalu am ac amddiffyn plant, pobl hŷn a phobl anabl

Priffyrdd a chludiant
Cynnal a chadw ffyrdd, rheoli traffig a chynllunio, enwi strydoedd

Rheoli gwastraff
Casglu gwastraff, ailgylchu a thipio anghyfreithlon

Gwasanaethau hamdden a diwylliant
Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau hamdden a’r celfyddydau

Diogelu defnyddwyr
Safonau masnach

Gwasanaethau amgylcheddol
Diogelwch bwyd, rheoli llygredd

Cynllunio
Cynllunio datblygiadau a rheoli datblygiadau

Datblygu economaidd
Denu busnesau newydd, hyrwyddo hamdden a thwristiaeth

Cynllunio rhag argyfwng
Yn achos argyfyngau fel llifogydd, afiechydon neu ymosodiadau terfysgol

Gwaith y Cyngor a chydweithio

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru

Gweithio gyda Llywodraeth y DU

Gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned