Cyfathrebu a’r cyfryngau

Cyfathrebu a’r cyfryngau

Cyfathrebu a’r cyfryngau

Er y bydd arweinwyr a deiliaid portffolios yn hyrwyddo polisi corfforaethol y cyngor ac y gallai pleidiau gwleidyddol fod â strategaethau cyfathrebu, bydd disgwyl i chi gynhyrchu eich deunydd cyhoeddusrwydd a chyfathrebu personol eich hun ar gyfer etholwyr.

Pwy i gyfathrebu â nhw:

  • Y cyhoedd
  • Cynghorwyr eraill
  • Rheolwyr a staff y cyngor
  • ASau lleol
  • Eich plaid neu grŵp gwleidyddol os oes gennych un
  • Sefydliadau a busnesau lleol
  • Y cyfryngau
  • Sefydliadau sy’n cydweithio â’ch cyngor
  • Llywodraeth ganolog a chyrff rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru

Sut i gyfathrebu:

  • Y cyfryngau cymdeithasol
  • Newyddlenni a bwletinau
  • Gwefannau
  • Blogiau a flogiau
  • Y cyfryngau lleol, papurau newydd, y radio a theledu.

Elfen allweddol o’ch rôl o gyfathrebu a dylanwadu yw’r effaith rydych chi’n ei chael yn y cyfryngau lleol. Y gred gyffredinol yw bod llywodraeth leol yn cael sylw negyddol yn y wasg, ond mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y cyfryngau lleol yn fodlon cyflwyno llywodraeth leol fel rhywbeth cadarnhaol, os yw’n cael ei drin yn y ffordd gywir.

Bydd gan eich cyngor brotocolau ar gyfer cyhoeddi datganiadau i’r wasg a siarad â’r cyfryngau lleol. Os nad ydych yn siŵr p’un a oes gan eich cyngor weithdrefnau felly ai peidio, gofynnwch cyn gwneud unrhyw beth. Mae newyddiadurwyr teledu, radio a’r wasg leol eisiau stori dda. Mae’n bosib’ mai’r straeon hyn yn aml yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am lywodraeth leol i drigolion sydd â diddordeb a rhai sydd heb, a bydd angen i chi ddefnyddio’ch sgiliau cyfathrebu a dylanwadu i sicrhau bod cyfrif cytbwys a chywir yn cael ei roi i’r cyfryngau yn y lle cyntaf.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae gan gyfryngau digidol a rhwydweithio cymdeithasol botensial enfawr i gyfrannu at lywodraethu’n agored a thryloyw a chael pobl i gymryd rhan a chydweithio. Maent yn adnoddau defnyddiol i awdurdodau ac aelodau ymgysylltu â’r gymuned. Mae ystadegau’n dangos mai Twitter a Facebook yw’r sianeli cyfathrebu mae pobl hŷn yn parhau i’w ffafrio, er bod pobl ifanc yn fwy tebygol o ddefnyddio TikTok ac Instagram. Mae ymgysylltu’n ddigidol yn helpu cynghorwyr i siarad yn uniongyrchol â chymunedau a chasglu barn yn gyflym. Fodd bynnag, mae temtasiwn i gynghorwyr lleol a gwleidyddion yn gyffredinol ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel sianel gyfathrebu un-ffordd, gan dueddu i gyhoeddi syniadau a chamau yn hytrach na gwrando ac ymgysylltu â chymunedau ac unigolion. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn blatfform gwych i ofyn cwestiynau a derbyn adborth gan unigolion a chymunedau.

Mae rhai cynghorwyr hefyd wedi dod ar draws rhai o anfanteision defnyddio’r cyfryngau digidol. Mae angen i chi gofio, os oes modd eich adnabod fel cynghorydd, hyd yn oed pan nad ydych “ar ddyletswydd”, y bydd beth rydych yn ei ddweud yn agored iawn i bobl roi eu barn arno (o bosib’, o amgylch y byd) a bydd angen i chi gadw at y rheolau arferol ar gyfathrebu ac ymddygiad.

Am fwy o wybodaeth

Mae canllawiau am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i’w gweld yma.