Cynllunio, Perfformiad ac Adrodd Corfforaethol

Cynllunio, Perfformiad ac Adrodd Corfforaethol

Cynllunio, Perfformiad ac Adrodd Corfforaethol

Cynllunio, Perfformiad ac Adrodd Corfforaethol

Bob blwyddyn, mae cynghorau Cymru’n llunio nifer o gynlluniau ac adroddiadau perfformiad, at ddibenion rheoli ac i adrodd am eu hamcanion a’u perfformiad wrth y cyhoedd. Mae pob cyngor yn cyhoeddi Cynllun Corfforaethol sy’n nodi eu gweledigaeth gorfforaethol fwy hirdymor h.y. beth fyddant yn ei wneud, sut, a sut y byddant yn monitro cynnydd. 

Rhaid i gynghorau bennu a chyhoeddi amcanion lles a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar eu cynnydd. Mae’r amcanion lles fel arfer yn cael eu cynnwys o fewn y cynllun corfforaethol ac yn cyd-fynd â strategaeth les y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n rhaid i gynghorau ymgymryd â hunan-asesiad blynyddol o ba mor effeithiol y maent yn bodloni eu dyletswyddau perfformiad, sut maent yn darparu eu swyddogaethau a pha mor effeithiol y maent yn defnyddio eu harian a’u hadnoddau ac yn llywodraethu hynny.  Mae’n rhaid cynnwys hyn mewn adroddiad hunanwerthuso blynyddol. 

Mae dyletswydd statudol ar Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar berfformiad gwasanaethau cymdeithasol.

Bydd dangosyddion ac adroddiadau perfformiad eich cyngor yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth i chi fel cynghorydd, p’un a ydych mewn rôl cabinet neu graffu, i fesur a monitro perfformiad mewn meysydd blaenoriaeth a barnu a yw eich cyngor ar y trywydd cywir i gyflawni amcanion a chanlyniadau ai peidio.

 

 

Gofynion perfformiad

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cyflwyno fframwaith perfformiad newydd i awdurdodau lleol. Wrth wraidd y gyfundrefn berfformiad newydd hon mae pwyslais o’r newydd ar hunan-wella dan arweiniad y sector, sy’n herio cynghorau lleol i herio’r drefn arferol yn barhaus, gofyn cwestiynau ynglŷn â sut maent yn gweithredu, ac ystyried yr arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt.

Yn rhan o’r fframwaith newydd hwn, mae dyletswydd ar gynghorau i barhau i adolygu eu perfformiad ac ystyried i ba raddau maent yn bodloni eu ‘gofynion perfformiad’ drwy hunanasesu ac asesiadau perfformiad gan banel. Mae hyn yn golygu bod angen i’r awdurdod ystyried i ba raddau mae’n:

  1. arfer ei swyddogaethau’n effeithiol,
  2. defnyddio ei adnoddau’n economaidd, effeithlon ac effeithiol, a
  3. llywodraethu ei hun.

Hunanasesu perfformiad Mae’n rhaid i gynghorau gynnal hunanasesiad blynyddol gan ystyried y gofynion perfformiad uchod a chyhoeddi adroddiad o’r asesiad hwn ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Asesiad perfformiad gan banel Yn ychwanegol at hunanasesiadau blynyddol, mae’n rhaid i’r awdurdod hefyd drefnu asesiad perfformiad gan banel annibynnol unwaith fesul tymor y cyngor. Bydd CLlLC yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hwyluso asesiadau panel.

Am ragor o wybodaeth, un ai am broses hunanasesu neu asesiadau panel, darllenwch ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru.

Archwilio Cymru

Mae Archwilio Cymru yn gweithio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef swyddog gwarchod gwasanaethau cyhoeddus. Mae Archwilio Cymru’n archwilio cyfrifon ariannol cynghorau, adrodd ar sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu, asesu a ydynt yn rhoi gwerth am arian ac yn gwirio sut maent yn bwriadu gwneud gwelliannau.

Mae Archwilio Cymru hefyd yn llunio Adroddiadau Gwella Blynyddol ar gyfer pob cyngor sy’n rhoi sylwadau am gynlluniau llywodraethu, gwella a pherfformiad a threfniadau adrodd.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n gyfrifol am arwain gwaith i wella gofal a chymorth i bobl yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu cymorth i’r gweithlu, gosod safonau i warchod y cyhoedd, arwain ar welliant ac yn darparu ymchwil a gwybodaeth. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhoi sicrwydd am ansawdd a diogelwch gwasanaethau, yn archwilio ac yn annog gwella gwasanaethau rheoledig a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac yn cynnal adolygiadau cenedlaethol o wasanaethau gofal cymdeithasol.

Estyn

Estyn yw’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Maent yn arolygu’r holl ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru o leiaf unwaith yn ystod y cylch o saith mlynedd a ddechreuodd ar 1 Medi 2016. Mae Estyn yn rhoi tair wythnos o rybudd o arolwg, ac eithrio i wasanaethau addysg llywodraeth leol (10 wythnos o rybudd) ac addysg gychwynnol i athrawon (8 wythnos o rybudd) ac mae gwaith ymgynghori ar fynd ar drefniadau’r cylch nesaf.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion bod aelodau o gyrff llywodraeth leol wedi torri’r cod ymddygiad. Mae’r Ombwdsmon hefyd wedi sefydlu Awdurdod Ymdrin â Chwynion i wella prosesau ymdrin â chwynion er mwyn arwain at welliannau i wasanaethau drwy gasglu a chyhoeddi data a darparu canllawiau a hyfforddiant.