Gweithio gyda swyddogion

Gweithio gyda swyddogion

Gweithio gyda swyddogion

Mae swyddogion yn cael eu cyflogi i reoli gwaith y cyngor a helpu cynghorwyr i roi eu polisïau ar waith. Mae swyddogion sy’n gweithio i gynghorau, fel cynghorwyr, yn gorfod cadw at god ymddygiad.

Mae nifer o rolau swyddogion dynodedig allweddol sy’n rhai statudol, sef:

  • Y Prif Weithredwr – yr ymgynghorydd a’r rheolwr uchaf ei swydd yn y cyngor;
  • Y Swyddog Adran 151 (y Cyfarwyddwr Cyllid neu debyg fel arfer) sy’n gyfrifol am sicrhau cywirdeb ariannol;
  • Y Swyddog Monitro (Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith neu debyg fel arfer) sy’n sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith ac sy’n rhoi cyngor ac yn gweithredu i warchod y cyngor; a
  • Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Efallai mai’r Swyddog Monitro sy’n gwneud y rôl hon. Mae Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn sicrhau bod aelodau a phwyllgorau’n cael yr adnoddau a’r cymorth priodol. Byddant hefyd yn darparu cyngor ar bolisi i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Mae deddfwriaeth yn gosod cyfyngiadau gwleidyddol ar swyddi rhai swyddogion. Mae hyn yn golygu na all yr unigolion fod ag unrhyw rôl wleidyddol weithredol yn y gweithle na’r tu allan. Mae hyn yn berthnasol i Bennaeth Gwasanaeth Cyflogedig, y prif swyddogion statudol, dirprwy brif swyddogion (swyddogion sy’n atebol i’r prif weithredwr ac eithrio staff cymorth ysgrifenyddol/clerigol), y Swyddog Monitro, swyddogion sy’n arfer pwerau dirprwyedig, cymorthyddion grwpiau gwleidyddol ac unrhyw swyddog sy’n gyfrifol am roi cyngor yn rheolaidd i’r aelodau, pwyllgorau neu’r awdurdod.

Mae dyletswydd ar swyddogion i roi cyngor diduedd. Bydd angen i chi gofio bod y cyngor hwn yn cael ei roi o safbwynt proffesiynol ac mai ei fwriad yw eich helpu i wneud penderfyniadau priodol a gweithredu’n briodol.

Mae’n bwysig meithrin perthynas broffesiynol gadarnhaol â swyddogion fel y gallwch chi weithio mewn partneriaeth i weithredu ar bolisïau er budd y cyhoedd.

Staff y cyngor

Mae cynghorau’n gyflogwyr mawr yng Nghymru ac yn cyflogi tua 140,000 o weithwyr (cyfwerth â 100,000 llawn amser). Mae hyn wedi gostwng yn sylweddol oherwydd pwysau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd y rhan fwyaf o’r gweithlu’n byw ac yn gweithio o fewn ffiniau’r sir a byddant hwy a’u teuluoedd yn derbyn ac yn darparu gwasanaethau.

Mae gan gynghorau ddyletswydd i ofalu am eu gweithwyr. Mae cynghorau’n cyflogi staff fel cyrff corfforaethol a chynghorwyr yn y pen draw sy’n atebol am eu lles. Mae llu o ddeddfwriaeth gyflogaeth i warchod gweithwyr a sicrhau cydraddoldeb i bob aelodau o staff. Mae’n bwysig bod unrhyw benderfyniad mae’r cyngor yn ei wneud yn ystyried yr effaith ar y gweithlu. Dylai cynghorau sicrhau bod strategaeth adnoddau dynol effeithiol mewn grym sy’n gysylltiedig â’r amryw strategaethau a chynlluniau mae’r cyngor wedi’u mabwysiadu. Dylai’r strategaeth ystyried sut y bydd yn recriwtio, hyfforddi, cadw, datblygu a gwobrwyo’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau a chyflawni blaenoriaethau’r Cyngor.

Mae’n bwysig cynnal perthynas waith effeithiol rhwng staff y cyngor a chynghorwyr, aelodau a swyddogion sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, parch a dealltwriaeth o swyddogaethau unigol. Caiff cynghorwyr eu hethol i gynrychioli’r gymuned gyfan a chaiff swyddogion eu penodi gan y cyngor i gynnig cyngor diduedd a fydd yn helpu cynghorwyr i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu cymuned.   Mae gan gynghorau godau ymddygiad ar gyfer cynghorwyr a gweithwyr a phrotocol ar berthnasoedd aelodau/swyddogion sy’n amlinellu swyddogaethau a chyfrifoldebau unigol yn ogystal â disgwyliadau mewn perthynas â didueddrwydd a phrosesau ar gyfer ymdrin ag ymholiadau neu gwynion.

Cyflogau ac amodau gwasanaeth

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n gweithredu telerau ac amodau cyflogaeth sydd wedi’u cytuno’n genedlaethol ar gyfer llywodraeth leol, a graddfeydd cyflog wedi’u cytuno’n genedlaethol. Mae’r rhain yn rhwymo cynghorau dan gontract, fel y bydd unrhyw setliadau cyflog blynyddol. Mae bargeinion cyflog yn gyffredinol yn cael eu setlo ar lefel genedlaethol ond ymgynghorir â phob cyngor cyn dod i unrhyw gytundeb. Fodd bynnag, gall cynghorau bennu ac amrywio rhai o’u telerau a’u hamodau eu hunain e.e. oriau gweithio hyblyg a pholisïau gwyliau. Bydd angen iddynt wneud hynny gan ymgynghori â thrafod ag undebau llafur cydnabyddedig i ddatblygu’r hyn sy’n cael ei alw’n gydgytundeb a fydd wedyn yn berthnasol i bob contract.