Gweithio gyda chymunedau
Cymorthfeydd cynghorwyr

Hysbysebu eich cymhorthfa
Bydd gwaith achos yn aml yn codi o gyfarfodydd â phobl leol. Mae’n bwysig bod pobl yn gallu siarad â’u cynghorydd lleol. Mae angen gallu cysylltu â chi’n hawdd ac mae angen i chi fod yn weledol iawn. Mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Ffordd arall o sicrhau y gall pobl gael gafael arnoch chi yw cynnal cymorthfeydd. Bydd hyn fel arfer yn golygu eich bod yn hysbysebu lle ac amser y byddwch ar gael i siarad â phobl am eu pryderon a beth mae’r cyngor yn ei wneud.
Gallech rannu eich cymhorthfa â chynghorwyr eraill neu asiantaethau lleol, neu drefnu eich cyfarfodydd mewn lleoliadau cymunedol prysur. Os oes gennych chi ward etholiadol fawr, gallai fod yn ddefnyddiol amrywio’r lleoliad i’w gwneud yn haws i bobl allu dod atoch. Mae hygyrchedd y lleoliad yn ystyriaeth bwysig. Mae canolfannau cymunedol neu lyfrgelloedd yn hygyrch ac mae ganddynt gyfleusterau fel lluniaeth, toiledau a mannau aros.
Eich diogelwch
Mae angen i chi sicrhau bod ble bynnag rydych cyn ei ddewis yn ddiogel i chi. Gofalwch fod rhywun arall yn yr adeilad gyda chi ac er bod ymddygiad treisgar yn anghyffredin, efallai y byddwch eisiau ystyried allanfa i chi eich hun o’r ystafell gyfarfod, sicrhau bod larwm i’w ganu a chadw eich ffôn symudol yn agos.
Er y gallwch chi alw heibio pobl yn eu cartrefi, meddyliwch yn ofalus am wneud hynny. Cofiwch am ddiogelwch personol, cymerwch gyngor gan swyddogion cyn mynd ac ewch â rhywun gyda chi. Mae cyngor ar gadw’n ddiogel i’w weld ar wefan CLlLC, yma.
