Gweithio gyda chymunedau
Cymunedau amrywiol

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Fel cynghorydd, rydych chi’n cynrychioli llawer o bobl amrywiol. Byddwch eisiau trin pawb â pharch, felly mae dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth yn hanfodol. Mae’r Cod Ymddygiad yn mynnu eich bod yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn trin eraill â pharch ac yn ystyriol.
Cydraddoldeb yw sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal. Nid yw hyn yn golygu trin pawb yr un fath, ond adnabod y gwahaniaethau yn eu sefyllfaoedd, diwylliannau a phrofiad a sicrhau bod cyfle cyfartal i bawb.
Cynrychioli eich cymuned
Er mwyn cynrychioli’r bobl amrywiol yn eich ward, mae angen i chi ddeall eu sefyllfa a gwybod beth maent ei angen. Er enghraifft, ydych chi’n deall anghenion gwahanol ryweddau neu bobl o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol? Beth am bobl ifanc, pobl hŷn, pobl trawsryweddol, dynion hoyw, lesbiaid, pobl anabl, pobl o wahanol sefydliadau ffydd neu grefydd, pobl Ddu, Asiaidd neu bobl o wahanol grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill? Er eu bod yn aml yn cael eu categoreiddio yn ôl y nodweddion hyn, ni fydd pawb o’r un nodweddion o reidrwydd angen yr un pethau. Y ffordd orau o ddarganfod beth mae pobl ei angen yw gofyn iddynt!

Dolenni defnyddiol
Niwrowahaniaeth Cymru
Gan y bydd nifer o’ch etholwyr chi’n niwrowahanol neu â pherthnasau niwrowahanol, mae’n arfer da dod i ddeall niwrowahaniaeth a’r codau ymarfer cysylltiedig.
Mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn dilyn y Model Cymdeithasol o Anabledd – golyga hyn bod gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahaniaethau yn helpu cael gwared â rhwystrau ar gyfer pobl niwrowahanol. Mae rhagor o wybodaeth am y Model Cymdeithasol o Anabledd i’w gweld yma ac mae diffiniadau o Niwrowahaniaeth i’w gweld yma.
Niwrowahaniaeth Cymru
NiwrowahaniaethCymru.org: Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am gyflyrau niwrowahanol, gan gynnwys awtistiaeth, ADHD a syndrom Tourette. Mae yna wybodaeth hefyd am ba wasanaethau a chyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ar lein, ac amrywiaeth eang o adnoddau dwyieithog y gellir eu lawrlwytho am ddim, sydd wedi cael eu datblygu gyda phobl niwrowahanol, eu rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru.
Modiwlau dysgu electronig
Mae yna amrywiaeth o fodiwlau e-ddysgu ar y wefan, gan gynnwys Deall Awtistiaeth; Awtistiaeth a Deall Sut i Gyfathrebu’n Effeithiol; Deall Asesiad ac Awtistiaeth; Deall ADHD; a Deall Syndrom Tourette.
Mae ein Cynllun Deall a Derbyn yn annog sefydliadau ledled Cymru i ddod i ddeall niwrowahaniaeth yn well a derbyn pobl niwrowahanol.
Cod Amarfer
Cafodd y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth ei ddatblygu a’i roi ar waith mewn ymateb i adborth gan bobl awtistig a’u teuluoedd a/neu ofalwyr, oedd eisiau eglurhad o’r gwasanaethau y gallan nhw ddisgwyl eu cael yng Nghymru.
Mae’r Cod Ymarfer Niwrowahaniaeth wrthi’n cael ei ddatblygu.