Eich rolau yn y CyngorRolau corfforaethol

Eich rolau yn y Cyngor

Rolau corfforaethol

Bydd eich rolau ffurfiol o fewn y cyngor yn amrywio, ond mae rhai cyfrifoldebau sy’n gyffredin i bob cynghorydd. Mae’n bwysig ymgyfarwyddo â pholisïau eich cyngor yn y maes hwn.

Rhai meysydd cyfrifoldeb pwysig yw:

Diogelu oedolion

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn diffinio oedolyn mewn perygl fel oedolyn sydd:

a. yn dioddef neu mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod;
b. ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r cyngor yn diwallu unrhyw rai o’r anghenion hynny ai peidio); ac
c. o ganlyniad i’r anghenion hynny, ddim yn gallu ei warchod/ei gwarchod ei hun rhan camdriniaeth neu esgeulustod neu berygl ohono.

Os oes gan gyngor le i gredu bod unigolyn o fewn ei ardal yn unigolyn mewn perygl, mae’n rhaid iddo wneud ymholiadau neu drefnu i ymholiadau gael eu gwneud i allu penderfynu a ddylid gweithredu ac, os felly, sut a phwy ddylai wneud.

Mae gan bob cynghorydd gyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu oedolion. Mae’r cyfrifoldebau hynny’n cynnwys eich gwaith gydag etholwyr ac wrth drafod a gwneud penderfyniadau yn rhan o’r cyngor. Ynghyd â’r GIG a’r Heddlu, mae gan gynghorau gyfrifoldeb allweddol o arwain i atal cam-drin ac esgeuluso oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth ac i sicrhau bod ymateb da pan mae pryderon yn cael eu codi. Eich rôl chi yw dwyn y rhai sydd â chyfrifoldeb statudol, yr Aelod Arweiniol a’r Cyfarwyddwr, i gyfrif, a sicrhau bod hawliau oedolion i fywyd a rhyddid heb driniaeth greulon neu israddol yn cael eu diogelu, ynghyd â’u hwaliau i breifatrwydd, bywyd teuluol, gwrandawiad teg a rhyddid a diogelwch.

Am fwy o wybodaeth

Mae Gweithlyfr i Gynghorwyr ar ddiogelu oedolion ar gael yma.

Mae gan gynghorwyr rôl allweddol i ddiogelu oedolion mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Sicrhau eu bod yn cyfrannu at atal camdriniaeth ac esgeulustod drwy’r penderfyniadau maent yn eu gwneud neu drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau craffu.
  • Bodloni eu hunain bod trefniadau cadarn ar waith rhwng partneriaid allweddol (yn enwedig cynghorau, y GIG a’r Heddlu) i ymateb i bryderon am gamdriniaeth ac esgeulustod.
  • Codi ymwybyddiaeth am gamdriniaeth ac esgeulustod tuag at oedolion yn eu gwaith yn eu ward.
  • Bod yn ymwybodol sut i roi gwybod am gamdriniaeth neu esgeulustod os byddant hwy neu eu hetholwyr yn dod i wybod am hynny.

Dyma rai cwestiynau allweddol y gallai cynghorwyr fod eisiau sicrhau bod swyddogion a phartneriaid yn gallu ymateb iddynt:

  • A yw gwasanaethau (iechyd a gofal cymdeithasol ac ymateb yr heddlu yn benodol) yn ein hardal yn ddigon da i atal cam-drin ac esgeulustod?
  • A yw gwasanaethau’n ymgysylltu â phobl ac yn gallu dangos eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol pan mae pryderon yn cael eu codi am gam-drin neu esgeulustod?
  • A yw pobl yn edrych ar ôl ei gilydd yn ein cymunedau ac a ydynt yn gwybod sut i fynegi pryderon?

Mae adnoddau a chanllawiau wedi cael eu datblygu ynghlwm ag ystod eang o bynciau i alluogi dysgu a datblygu dealltwriaeth o ddiogelu ar gyfer pobl mewn gwaith gofal cymdeithasol ar bob lefel ac maent ar gael yma:

Pecyn Hyfforddi Ymwybyddiaeth o Ddiogelu | Gofal Cymdeithasol Cymru

Diogelu plant

Mae gan bob cynghorydd gyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu plant a phobl ifanc. Ynghyd â’r GIG a’r Heddlu, mae gan gynghorau gyfrifoldeb allweddol o arwain i atal cam-drin ac esgeuluso plant sydd ag anghenion gofal a chymorth ac i sicrhau bod ymateb da pan mae pryderon yn cael eu codi.

Bydd yr ymatebion i atal cam-drin ac esgeuluso’n amrywio, yn dibynnu ar amgylchiadau. Mewn rhai achosion, gallai fod yn briodol ac yn angenrheidiol mynd â’r plentyn i gael gofal a dyma lle mae cyfrifoldebau rhianta corfforaethol penodol yn cael eu cyflwyno. Mewn eraill, yr ymateb diogelu fydd gweithio gyda’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw a’u teulu i ddeall pa gymorth sydd ei angen i sicrhau eu bod yn ddiogel a bod eu lles yn cael ei warchod. Mae hyn yn aml yn cael ei wneud heb fod angen camau gofal ffurfiol.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn dweud: Bod plentyn sydd mewn perygl yn blentyn sydd:
a: yn dioddef neu mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed; a
b. ag anghenion gofal a chymorth, p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw rai o’r anghenion hynny ai peidio.

Mae diogelu a hyrwyddo lles plentyn yn rhan o ddyletswydd cyngor (fel mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei nodi), ond beth mae’r term ‘lles’ yn ei olygu yng nghwmpas canlyniadau lles y Ddeddf? Mae’r canlynol yn ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol:

  • Iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol
  • Datblygiad cymdeithasol ac ymddygiadol
  • Diogelwch rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • Addysg, hyfforddiant a hamdden
  • Perthnasoedd teuluol a phersonol
  • Bod yn rhan o’r gymuned leol
  • Sicrhau hawliau
  • Lles cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys peidio â byw mewn tlodi
  • Byw mewn llety addas

Mae rôl hollbwysig, statudol gan gynghorau i ddiogelu plant. Nid oes modd gwneud hyn heb gydweithio â’r gymuned yn ehangach a’n hasiantaethau partner. Gall cynghorau ddefnyddio eu cysylltiadau â’r heddlu, ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol a grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd i amlygu’r arwyddion a sicrhau bod pobl yn gwybod ble i droi os oes pryderon.

Dylai pob cynghorydd gymryd diddordeb manwl yn y modd mae’r cyngor yn cefnogi plant a phobl ifanc gan fod hwn yn gallu bod yn grŵp diamddiffyn iawn. Mae angen gafael yn y mater a’i arwain ac, yn benodol, gweithio mewn partneriaeth ar lefel uwch ac mae hyn yn cynnwys pob aelod etholedig.

Mae gan gynghorau hefyd gyfrifoldebau rhianta corfforaethol ar gyfer y plant hynny sy’n ‘derbyn gofal’ ac mae cyfrifoldebau clir sydd angen eu trosi’n gamau ymarferol.

Mae adnoddau a chanllawiau wedi’u datblygu ynghlwm ag ystod eang o bynciau i gefnogi dysgu a dealltwriaeth o ddiogelu ar gyfer pobl mewn gwaith gofal cymdeithasol ar bob lefel ac mae’r rhain ar gael yma:

Pecyn Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddiogelu | Gofal Cymdeithasol Cymru

Eich cyfrifoldebau chi fel rhiant corfforaethol

Fel cynghorydd, rydych chi’n bersonol gyfrifol am ofal, addysg a siawns bywyd pob plentyn sy’n derbyn gofal gan eich cyngor. Y rheswm am hynny yw pan mae llys wedi penderfynu rhoi gorchymyn gofal, mae’r cyngor yn ei gyfanrwydd yn dod yn rhiant corfforaethol cyfrifol.

Bydd gan eich cyngor aelod arweiniol sydd â phwerau dirprwyedig a chyfrifoldebau Statudol dan Ddeddf Plant 2004. Bydd yr aelod hwn yn gyfrifol am sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion ar gyfer plant a phobl ifanc lleol, yn cynllunio gwell mesurau diogelu a chanlyniadau ac yn gweithio gyda phartneriaid statudol a gwirfoddol i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu comisiynu a’u hariannu’n ddigonol a bod blaenoriaethau’n cael eu pennu.

Bydd pwyllgorau trosolwg a chraffu’n monitro ac yn cwestiynu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i blant sy’n derbyn gofal, gan sicrhau bod cysylltiad clir rhwng y blaenoriaethau a nodwyd mewn gwahanol gynlluniau statudol, a chyllideb y cyngor. Gall fonitro perfformiad ac effaith gwasanaethau ar fywydau plant sy’n gadael gofal. Gallai helpu i ddatblygu polisi i’r weithrediaeth ei ystyried. Gall gynnwys pobl berthnasol (plant a phobl ifanc, gofalwyr, rhieni, sefydliadau partner a staff rheng flaen) wrth gasglu tystiolaeth.

Fel cynghorydd lleol, mae dyletswydd arnoch i sicrhau bod plant a phobl ifanc eich ardal yn cael eu cefnogi’n ddigonol. Er na fydd y cyngor yn gallu datgelu gwybodaeth am unigolion, gallwch wirio argaeledd gwasanaethau’n gyffredinol. Os ydych chi’n llywodraethwr ysgol, gallwch ofyn cwestiynau am y gefnogaeth sydd ar gael gan yr ysgol i blant sy’n derbyn gofal sy’n ddisgyblion yno. Mae’n bwysig cofio na ddylai cynghorwyr gymryd rhan ym mywydau plant unigol, na chyfarwyddo swyddogion ynglŷn â gofal plant.

Mae Llawlyfr i Gynghorwyr ar Rianta Corfforaethol wedi’i ddatblygu, ac mae ar gael yma.

Gwneud Penderfyniadau

Yr iaith Gymraeg a chynghorau