Eich rolau yn y Cyngor
Gwneud Penderfyniadau

Gwneud penderfyniadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Mae gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd unigol a gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru heddiw ac yn y dyfodol, fel newid hinsawdd, tlodi, anghydraddoldeb iechyd a swyddi a thwf. I fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen i ni gydweithio i wneud penderfyniadau er lles pobl nawr ac yn y dyfodol. Mae dyletswyddau cynghorau yn y maes hwn wedi’u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Ddeddf yn diffinio saith nod lles sy’n dangos y math o Gymru mae cyrff cyhoeddus, fel un, ei heisiau. Rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag at y nodau hyn. Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno egwyddor datblygu cynaliadwy sy’n dweud wrth sefydliadau sut i fynd ati i gyflawni eu dyletswyddau dan y Ddeddf. Mae ‘pum ffordd o weithio’ y mae angen i gyrff cyhoeddus eu hystyried i ddangos eu bod wedi defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae’r pum ffordd o weithio’n ffordd synhwyrol o wneud penderfyniadau’n effeithiol a llywodraethu’n dda. Mae’r nodau a’r pum ffordd o weithio i’w gweld isod.
Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn ystyried y gofynion hyn wrth wneud penderfyniadau. Mae gan aelodau craffu rôl bwysig i sicrhau bod penderfyniadau wedi’u gwneud yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.


Gwneud penderfyniadau ar sail cydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae Cod Ymddygiad cynghorwyr yn amlinellu disgwyliadau o ran ymddygiad cynghorwyr ac ymrwymiad i gydraddoldeb a pharch. Mae gan gynghorau, fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a chyflogwyr mawr, amrywiaeth o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghlwm â chydraddoldeb.
Y ddyletswydd gydraddoldeb gyffredinol
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi’r “ddyletswydd gydraddoldeb gyffredinol” y mae’n rhaid i gynghorau ei hystyried wrth gyflawni eu swyddogaethau. Dyma yw’r ddyletswydd gydraddoldeb gyffredinol honno:
- Cael gwared ar neu leihau anfanteision y mae pobl yn eu dioddef oherwydd nodweddion a ddiogelir.
- Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau a ddiogelir lle bo’r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill.
- Annog pobl sydd â nodweddion a ddiogelir i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle bo eu cyfranogiad yn anghyfartal o isel.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn nodi cyfres o nodweddion a ddiogelir y mae’r ddyletswydd gydraddoldeb gyffredinol yn berthnasol iddynt.
Y nodweddion a ddiogelir yw:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth (sy’n cynnwys bwydo ar y fron)
- Hil
- Crefydd neu gred
- Rhyw
- Tueddfryd rhywiol

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae dyletswyddau cyfreithiol ar Gynghorau i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hybu cyfleoedd cyfartal a meithrin perthnasoedd da ar sail nodweddion gwarchodedig, fel rhywedd, hil, anabledd neu oedran. Nid yw’r dyletswyddau hyn yn eich rhwystro chi rhag cwtogi ar wasanaeth os bydd angen, ond maen nhw’n golygu bod angen i chi ystyried anghenion aelodau eich cymunedau.
Y ddyletswydd gymdeithasol-economaidd
Yn ogystal â’r ddyletswydd gydraddoldeb gyffredinol, mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn gofyn i gynghorau, wrth wneud penderfyniadau strategol, roi ystyriaeth ychwanegol i anfantais economaidd-gymdeithasol a’r anghydraddoldeb y gall ei chreu o ran canlyniad.
Mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau strategol:
- ystyried tystiolaeth a’r effaith bosib’
- ymgynghori ac ymgysylltu ag unigolion a grwpiau perthnasol
- deall barn ac anghenion y rhai sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniad, yn enwedig rhai sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol
- croesawu herio a phrosesau craffu
- annog newid yn y ffordd mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a’r ffordd mae rhai sy’n gwneud penderfyniadau’n gweithredu
Dylai cynghorwyr nodi mai ond wrth wneud ‘penderfyniadau strategol’ mae angen ystyried y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae rhagor o ganllawiau yn egluro’r ddyletswydd hon ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.