Eich rolau yn y CyngorRolau corfforaetholYr iaith Gymraeg a chynghorau

Eich rolau yn y Cyngor

Yr iaith Gymraeg a chynghorau

Mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol swyddogol yng Nghymru, sy’n golygu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru ac y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn nodi ystod o safonau sy’n berthnasol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, ac a oedd yn sefydlu rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Y Comisiynydd

Mae’r Comisiynydd yn cyhoeddi Hysbysiad Cydymffurfio i bob corff cyhoeddus, sy’n nodi sut y dylai’r corff cyhoeddus hwnnw weithredu’r Safonau. Mae pob Hysbysiad Cydymffurfio’n unigryw i’r sefydliad, felly efallai y byddai angen i gynghorau gyrraedd gwahanol lefelau cydymffurfio o fewn y Safonau. Dylech felly ofyn i swyddogion y cyngor am arweiniad ynglŷn â sut mae’r Safonau’n berthnasol i chi yn eich swydd fel cynghorydd a sut maent yn berthnasol i’r cyngor fel darparwr gwasanaethau a chyflogwr.

Rôl Comisiynydd y Gymraeg yw hyrwyddo’r Gymraeg a gwella’r cyfleoedd sydd gan bobl i’w defnyddio. Mae’r Comisiynydd hefyd yn ceisio sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cadw at eu Hysbysiadau Cydymffurfio ac yn ymchwilio i unrhyw gwynion am sefydliad sydd heb fodloni’r Safonau neu ei Hysbysiad Cydymffurfio. Mae gan y Comisiynydd bwerau gorfodi a gall roi dirwyon i gyrff cyhoeddus am beidio â chydymffurfio.

Mae’r Safonau’n berthnasol i’r 6 maes hwn o waith cynghorau:

1. Safonau Darparu Gwasanaeth – yn canolbwyntio ar ddarpariaeth gwasanaethau, caffael, hunaniaeth gorfforaethol a chyfathrebu;

2. Safonau Llunio Polisi – yn canolbwyntio ar asesu effaith ar y Gymraeg ym mhob penderfyniad polisi a chymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo defnydd o’r iaith;

3. Safonau Gweithredol – yn canolbwyntio ar hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg mewn perthynas â gweithgareddau mewnol sefydliad;

4. Safonau Hyrwyddo – yn canolbwyntio ar hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd ar waith y cyngor gan gynnwys gwaith allanol/partneriaeth; ac yn edrych yn benodol ar addysg a sgiliau, trosglwyddo iaith, plant a phobl ifanc, y gymuned a chefnogi isadeiledd ar gyfer yr iaith Gymraeg;

5. Safonau Cadw Cofnodion – yn canolbwyntio ar gadw cofnodion ar gyfer cydymffurfio mewn meysydd fel sgiliau staff, cwynion, hyfforddiant a recriwtio gan gynnwys cydymffurfio â Safonau eraill; a

6. Safonau Ychwanegol – yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor baratoi Adroddiad Blynyddol ynglŷn â chydymffurfio a Safonau, a darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg yn ôl yr angen.