Eich rolau yn y Cyngor
Rhagor o wybodaeth am bwyllgorau

Y Cyngor Llawn
Yn gyfreithiol, mae cynghorau’n gyrff corfforaethol ac yn y pen draw, y Cyngor Llawn (sef yr aelodaeth lawn mewn cyfarfod ffurfiol) sy’n gyfrifol am bopeth mae’r cyngor yn ei wneud. Mae’n rhaid i rai penderfyniadau penodol gael eu gwneud gan y Cyngor Llawn. Mae’r rheini’n cynnwys polisïau mawr, cymeradwyo rhai cynlluniau statudol, gosod y gyllideb flynyddol a threth y cyngor a phenodiadau a diswyddiadau penodol. Dan y Model Arweinydd a Chabinet, mae popeth arall yn cael ei ddirprwyo i’r cabinet/weithrediaeth ac i swyddogion, ar wahân i swyddogaethau’r pwyllgorau statudol (cynllunio a thrwyddedu). Bydd gan gyfansoddiad eich cyngor ar wefan eich cyngor fwy o fanylion ynglŷn â sut mae’r Cyngor Llawn ffurfiol yn gweithredu.
Y Cabinet neu’r Weithrediaeth
Y Cabinet neu’r Weithrediaeth sy’n gyfrifol am wneud y rhan fwyaf o benderfyniadau’r cyngor o fewn y fframwaith polisi a chyllidebol cyffredinol. Mae gan bob Aelod Gweithredol faes portffolio penodol fel gwasanaethau cymdeithasol, yr amgylchedd a thai neu adnoddau dynol. Eu rôl yw cyflawni eu rhan nhw o’r Rhaglen Waith Weithredol. Yn anaml bydd aelodau newydd eu hethol yn derbyn rôl weithredol, ond mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r Rhaglen Waith Weithredol a gwneud y cysylltiadau angenrheidiol â deiliaid portffolio am faterion sy’n effeithio ar eu portffolio nhw yn eich ardal.
Trosolwg a Chraffu
Mae angen i bob cyngor fod ag o leiaf un Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ond mae gan y rhan fwyaf fwy nag un (maent weithiau yn cael eu galw’n baneli, fforymau neu fyrddau yn hytrach na phwyllgorau). Gan mai ond cyfran fach o gynghorwyr fydd yn rhan o’r cabinet neu’r bwrdd gweithredol, bydd angen i’r rhan fwyaf chwarae rhan sylweddol ar ffurf trosolwg a chraffu.
Mae craffu’n ffordd allweddol i gynghorwyr a chymunedau gyflwyno eu barn a dylanwadu ar bolisïau’r cyngor. Mae’n rhoi cyfle i gynghorwyr oruchwylio perfformiad y cyngor a herio’r cabinet neu’r weithrediaeth lle bo angen. Er bod craffu’n canolbwyntio ar y cyngor ei hun, trwy graffu, gall cynghorwyr ystyried materion ehangach sy’n effeithio ar eu hardal nhw, gan gynnwys y rôl mae partneriaid gwasanaeth cyhoeddus eraill yn ei chwarae.
Nid yw pwyllgorau trosolwg a chraffu’n gwneud penderfyniadau ar ran y cyngor, ond mae eu gwaith yn hollbwysig. Mae pwyllgorau craffu yn:
- Helpu’r cyngor i lunio polisi cyn i gabinet wneud penderfyniad yn ei gylch,
- Ymchwilio i fater sy’n peri pryder ac yn gwneud argymhellion i’r cabinet,
- Monitro perfformiad y cyngor ac yn tynnu sylw at unrhyw broblemau cyn iddynt droi’n broblemau mawr. A dweud y gwir, mae’r broses graffu yn aml yn cael ei disgrifio fel system rybuddio gynnar neu ffordd o ddod o hyd i ganlyniadau annisgwyl,
- Craffu ar benderfyniadau sydd wedi’u gwneud cyn iddynt ddod i rym, trwy “alw’r penderfyniad i mewn” ac argymell ei fod yn cael ei ailystyried gan y cabinet neu gan y cyngor.
- Mae gan gyrff trosolwg a chraffu ddyletswydd benodol i graffu ar waith ar y cyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, y Cyd-bwyllgor Corfforedig a chraffu ar faterion trosedd ac anhrefn.
Fel aelod craffu, bydd disgwyl i chi ymchwilio i ac adolygu gwybodaeth, gwrando ar dystiolaeth a gwybodaeth a ddarperir i’r pwyllgor a helpu i lunio canfyddiadau/argymhellion. Mae’n bwysig bod gennych chi sgiliau gwrando a holi da, i sicrhau eich bod yn casglu’r holl wybodaeth rydych ei hangen i wneud argymhellion cadarn yn seiliedig ar dystiolaeth.
Argymhellion i aelodau craffu gan gynghorwyr profiadol
“Ewch i bob cyfarfod a bod yn barod i wneud ymchwil rhwng cyfarfodydd.”
“Paratowch at y cyfarfod drwy ddarllen yr holl wybodaeth.”
“Gweithiwch gyda’r cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor i ddatblygu strategaeth gwestiynu.”
“Gofynnwch gwestiynau penodol, peidiwch â gwneud areithiau na sôn yn ddiddiwedd am yr hyn sy’n digwydd yn eich ward chi.”
“Wrth graffu, rydw i fel arfer yn dechrau drwy fy rhoi fy hun yn esgidiau’r preswylydd. Pa gwestiynau fydden nhw’n eu gofyn? A fydden nhw’n herio’r ymateb?”

Cynllunio
Mae cynllunio mewn awdurdodau lleol yn ymwneud â rheoli adnoddau lleol yn effeithiol a sicrhau bod datblygiadau’n gynaliadwy a phriodol. Bydd pob cynghorydd ynghlwm mewn rhyw ffordd â’r broses gynllunio.