EICH ROLAU YN Y CYNGOR

Cynllunio

Mae cynllunio mewn awdurdodau lleol yn ymwneud â rheoli adnoddau lleol yn effeithiol a sicrhau bod datblygiadau’n gynaliadwy a phriodol. Bydd pob cynghorydd ynghlwm mewn rhyw ffordd â’r broses gynllunio. Byddwch yn cyfrannu, er enghraifft, at lywio datblygiad y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy’n pennu’r fframwaith i wneud penderfyniadau’n lleol ynglŷn â defnydd tir, a’i adolygu a’i fonitro. Y Cynllun Datblygu mabwysiedig yw’r sail i benderfynu ar geisiadau cynllunio gan ei fod yn nodi beth yw cynlluniau’r cyngor ar gyfer yr ardal a bydd wedi bod yn destun llawer o fewnbwn gan y gymuned a phrosesau craffu cyhoeddus. Dylai aelodau ystyried datblygiad ardal gyfan trwy gydweithio ar draws sectorau a disgyblaethau i greu lleoedd unigryw a bywiog. Creu lleoedd yw’r enw am hyn. Rhagor o wybodaeth yma.

Pwyllgorau cynllunio

Mae pwyllgorau cynllunio ynghlwm â phenderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio, gan ystyried y gyfraith ar ddatblygu a gofynion y Cynllun Datblygu Lleol. Gall bod ar bwyllgor cynllunio fod yn heriol wrth orfod cadw at y Cod Ymddygiad. Mae’n rhaid dilyn y gyfraith wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Gallai methu â gwneud hynny arwain at herio drwy’r llysoedd, a chwynion ffurfiol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ogystal â niweidio enw da’r awdurdod lleol.

Rhaid i aelodau’r pwyllgor cynllunio sicrhau bod sail gadarn i benderfyniadau, gan roi ystyriaeth i gefndir cyfreithiol a pholisi perthnasol.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n aelod o bwyllgor cynllunio, mae’n debygol iawn y byddwch yn cael ymholiadau gan y cyhoedd am faterion cynllunio, felly mae’n bwysig gwybod beth mae’r pwyllgor cynllunio’n ei wneud a sut.

Ceisiadau Cynllunio

Mae ceisiadau cynllunio’n mynd drwy’r camau canlynol:

  • Cyngor cyn cynllunio (opsiynol i ymgeiswyr, ond yn cael ei annog).
  • Dilysu, lle mae ceisiadau’n cael eu gwirio a’u dilysu.
  • Ymgynghori, cyhoeddusrwydd a hysbysu. Mae angen hysbysebu pob cais drwy hysbysiad safle neu drwy gyflwyno hysbysiad i berchnogion neu feddianwyr cyfagos. Dylid ymgynghori ag eraill hefyd, fel cynghorau tref a chymuned. Mae terfynau amser penodol i wneud hyn. Dylai aelodau lleol fod yn ymwybodol o geisiadau yn eu hardaloedd nhw a dylent gysylltu â swyddogion os ydynt angen eglurhad neu ragor o wybodaeth. Mae rhestr o ymgyngoreion statudol fel Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Priffyrdd. Ymgynghorir â’r rheini ar geisiadau perthnasol.
  • Ystyriaeth ac asesu. Bydd angen penderfynu ar y cais ochr yn ochr â’r cynllun mabwysiedig oni bai fod ystyriaethau perthnasol sy’n awgrymu fel arall. Mae’r Llywodraeth yn gosod targed o 8 wythnos i wneud penderfyniadau, neu 13 wythnos ar gyfer ceisiadau mawr. Mae llawer o benderfyniadau’n cael eu gwneud dan bwerau dirprwyedig i swyddogion. Bydd y penderfyniadau sydd i gael eu gwneud gan aelodau’n cael eu cyflwyno trwy adroddiad gan swyddogion sy’n gwneud argymhelliad.
  • Argymhelliad. Mae swyddogion yn wneud argymhelliad ysgrifenedig clir mewn adroddiad, gan ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol er mwyn i’r aelodau allu gwneud penderfyniad cytbwys.
  • Penderfyniad
  • Rhoi caniatâd cynllunio, caniatâd cynllunio gydag amodau neu gytundeb cyfreithiol neu ei wrthod.

Beth sy’n digwydd pan mae caniatâd yn cael ei wrthod?

Yn gyntaf, mae’n rhaid bod rhesymau dros wrthod sydd wedi’u nodi’n glir ac sy’n seiliedig ar egwyddorion cynllunio cadarn. Gall fod un rheswm neu fwy am wrthod.

Mae gan ymgeisydd (nid trydydd parti) hawl i apelio yn erbyn gwrthod cais, ac mae’n rhaid gwneud hyn o fewn 6 mis i ddyddiad y penderfyniad. Bydd Arolygiaeth Gynllunio Cymru’n ymdrin â’r apêl a bydd costau i’r awdurdod cynllunio lleol i amddiffyn ei benderfyniad.

Os bydd cynigion arwyddocaol yn codi materion o bwysigrwydd mwy nag i’r ardal leol yn unig, mae gan y Gweinidog yr awdurdod i “alw’r cais i mewn” i Lywodraeth Cymru benderfynu arno. Mae’r penderfyniad yn cael ei dynnu oddi wrth yr awdurdod lleol ac mae fel arfer yn arwain at ymchwiliad cyhoeddus.

Mae cyfraith, polisïau a gweithdrefnau cynllunio’n ddyrys a chymhleth. Bydd mynd i sesiwn gynefino eich cyngor yn hanfodol.