EICH ROLAU YN Y CYNGOR

Pwyllgorau Eraill

Trwyddedu

Drwy eu swyddogaethau trwyddedu, mae cynghorau’n ceisio atal trosedd ac anhrefn, sicrhau diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus, ac amddiffyn plant rhag niwed. Fel aelod o bwyllgor trwyddedu, gallech fod yn rhan o wneud penderfyniadau am safleoedd trwyddedig fel tafarndai a lleoedd sy’n paratoi bwyd, parlyrau tatŵs, casinos, trwyddedu tacsis, trefnu digwyddiadau neu fasnachwyr stryd.

Y Pwyllgor Safonau

Mae’n rhaid i bob cyngor fod â phwyllgor safonau. Rhaid i o leiaf 50% o aelodau’r pwyllgor fod yn aelodau lleyg annibynnol wedi’u penodi gan y cyngor. Mae’r pwyllgor yn gyfrifol am hyrwyddo safonau ymddygiad uchel gan gynghorwyr, ac am ddyfarnu mewn achosion honedig o gamymddwyn neu o fynd yn groes i god ymddygiad y cynghorwyr. Gall y pwyllgor gyflwyno ystod o gosbau, gan gynnwys gwahardd cynghorydd am chwe mis. Mae’n rhaid i bob cynghorydd lofnodi’r Cod Ymddygiad i sicrhau eu bod yn cynnal y safonau uchaf.

Mae pwyllgorau safonau’n gweithio’n agos gydag arweinwyr grwpiau gwleidyddol ac, o fis Mai 2022, bydd yn sicrhau eu bod yn cael y cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth maent eu hangen i gyflawni eu dyletswydd i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau eu grŵp a monitro pa mor dda mae arweinwyr grwpiau’n cyflawni’r dyletswyddau hyn.

Mae’n rhaid i bwyllgorau safonau gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol yn disgrifio sut mae swyddogaethau’r pwyllgor wedi’u cyflawni ac yn rhoi trosolwg o faterion ymddygiad o fewn y cyngor. Mae’r gofyn hwn yn newydd, ac mae’r adroddiad cyntaf i gael ei gyhoeddi yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2022/23. Bydd yn rhaid i’r cyngor ystyried yr adroddiad ac unrhyw argymhellion sy’n cael eu gwneud gan y pwyllgor safonau.

Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae’n rhaid i bob cyngor gael Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gyda chadeirydd lleyg annibynnol. Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n adolygu ac yn craffu ar faterion ariannol y cyngor, yn goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol ac yn adolygu datganiadau ariannol.

Mae’r pwyllgor hefyd yn cyfrannu at berfformiad effeithiol yr awdurdod drwy adolygu’r adroddiad drafft ar hunanasesiad blynyddol yr awdurdod a gwneud argymhellion am newidiadau i’r casgliadau neu’r camau mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd. Mae hefyd yn gwneud argymhellion mewn ymateb i adroddiad drafft Asesiad Panel yr awdurdod.

Mae’r pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion yn effeithiol.

Mae hefyd yn adolygu, asesu ac adrodd ar drefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol yr awdurdod.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi ac yn goruchwylio gwaith Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod digon o adnoddau a chefnogaeth i gynghorwyr a phwyllgorau, a’r swyddogaeth graffu yn enwedig. Mae’r awdurdod yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd i’r cyngor llawn am faterion yn ymwneud â chynghorwyr fel hyfforddiant a datblygu, y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i gynghorwyr a phwyllgorau unigol ac adnoddau cynghorwyr fel gliniaduron a ffonau symudol.