Trosolwg o gyfryngau cymdeithasol i gynghorwyr
Dyma ganllaw arweiniol i gynghorwyr lleol ar sut i ddechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o werth defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gynghorwyr, pa blatfformau i’w blaenoriaethu, sut i gadw’n saff a diogel, eich cyfrifoldebau fel cynghorydd ar-lein a sut i ddelio â negyddoldeb a cham-drin.
Amcanion:
Dechrau arni ar gyfryngau cymdeithasol
- Pam ddylai cynghorwyr ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol?
- Deall pa gyfryngau cymdeithasol sydd ar gael
- Adolygu’r platfformau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd
- Argymhellion ar sut i ddechrau cyfathrebu ar-lein
Cadw’n saff ac yn ddiogel ar-lein
- Sut i sefydlu eich hun a chadw’n saff wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Camau y gallwch eu cymryd i gadw’ch rôl fel cynghorydd a’ch bywyd teuluol ar wahân ar-lein
Eich cyfrifoldebau fel cynghorydd
- Y rheol aur i’w dilyn fel cynghorydd
- Deall beth yr ydych yn cael neu ddim yn cael ei rannu ar-lein, gan gynnwys yn gyfreithiol
Sut i ddelio â negyddoldeb a difrïo ar-lein
- Dysgu i beidio â bwydo’r rhai sy’n trolio ar gyfryngau cymdeithasol
- Rheolau ymgysylltu CLlL i gynghorwyr ar y cyfryngau cymdeithasol
- Bod yn hyderus i flocio a dileu dilynwyr
- Cymryd egwyl o’r cyfryngau cymdeithasol

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr
Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Dechrau arni ar gyfryngau cymdeithasol
Mae cyfathrebu effeithiol wrth wraidd llwyddiant unrhyw gynghorydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyfryngau cymdeithasol wedi trawsnewid sut mae cynrychiolwyr etholedig yn cyfathrebu â’u cymuned. Mae rhai’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol am y tro cyntaf wedi iddynt gael eu hethol fel cynghorydd, tra bod gan eraill fwy o brofiad. Mae’r canllaw hwn yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i bawb.
Mae llawer o fanteision allweddol o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gynghorwyr lleol. Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig platfformau prysur megis Facebook, yn galluogi cynghorwyr i ymgysylltu’n rheolaidd gyda nifer o breswylwyr ar draws pob grŵp oedran a demograffeg, gan gynnwys preswylwyr lleol sy’n llai tebygol o ddarllen pamffledi neu fynychu cyfarfodydd y Cyngor. Amlygwyd hyn hefyd dros gyfnod pandemig Covid-19. A hithau’n amhosib cynnal cyfarfodydd yn bersonol am gryn amser, roedd y cyfryngau cymdeithasol yn galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad â’u cynrychiolwyr etholedig ac i’r gwrthwyneb, ar gyfer cefnogaeth ac ymgysylltiad cymunedol.
Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn galluogi cynghorwyr i ymgysylltu’n rheolaidd â thrigolion ar draws pob grŵp oedran a demograffeg
Cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae mwy i gyfryngau cymdeithasol na dim ond rhannu gwybodaeth, er bod hynny’n rhan allweddol ohono. Mae yna nifer o fanteision eraill, gan gynnwys rhoi ‘clust i wrando’ ddigidol i gynghorwyr ar drafodaethau ar-lein, ynghylch yr hyn sy’n mynd ymlaen yn eich cymuned leol, boed ar dudalennau neu grwpiau Facebook, dilyn hashnodau Twitter ar gyfer eich tref neu ar Nextdoor.
Mae platfformau cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cynnig ffordd gosteffeithiol a chyflym i gynghorwyr adrodd yn ôl i breswylwyr ynghylch materion, gwaith y cyngor a’r hyn yr ydych chi’n ei wneud fel eu cynghorydd lleol. Tra bod y dulliau traddodiadol o gyfathrebu megis pamffledi a sylw yn y wasg leol yn bwysig o hyd, caiff negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol eu rhannu ar unwaith ac maent yn eich galluogi i ymateb yn gyflym ac effeithiol i’r hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol.
Blaenoriaethu pa blatfform cyfryngau cymdeithasol i’w ddefnyddio
Mae yna lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol ar gael i’w defnyddio. Caiff rhai eu defnyddio lawer mwy nag eraill, fodd bynnag. Mae Statista’n amcangyfrif bod mwy na 53 miliwn o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn y DU yn 2022. Facebook sydd â’r mwyaf o gyfranddaliadau marchnad – gyda 56% o ymweliadau yn 2021, ac yna Twitter gyda bron i 24%. Roedd bob un arall yn is.
Mae gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r cyfle i chi siarad gyda gwahanol gynulleidfaoedd – gwahanol aelodau o’ch cymuned leol. Mae llawer o bobl yn defnyddio Twitter fel ffordd o gasglu newyddion, a negeseuon byr iawn sydd arno – uchafswm o 240 cymeriad mewn trydariad. Mae instagram yn blatfform hynod weledol – mae popeth yn ymwneud â lluniau a fideos. Er bod modd cyhoeddi lluniau a fideos ar Twitter, nid dyna’r prif nod – ond mewn gwirionedd, mae Instagram yn benodol ar gyfer lluniau ac ymgysylltu â nhw.
Fel cynghorydd, mae angen i chi ddefnyddio’ch amser yn effeithiol – rydych yn unigolyn prysur. Rydym yn eich cynghori i flaenoriaethu un platfform cyfryngau cymdeithasol allweddol i ddechrau, a dod yn hyderus a dysgu sut i ddylanwadu arno cyn symud ymlaen at rai eraill.
Efallai yr hoffech ddechrau gyda Facebook, gan mai dyma’r un sydd â’r gynulleidfa fwyaf yn y DU. Dyma’r prif le y bydd preswylwyr yn eich ardal yn chwilio am wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol.
Serch hynny, mae dewisiadau eraill. Mae Twitter yn lle gwych i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym, cael sgyrsiau un i un ar y pryd gydag adborth ar unwaith. Mae Instagram yn blatfform hynod weledol, bydd arnoch angen cynnwys da o luniau a fideos i’w ddefnyddio. Mae Nextdoor yn blatfform â ffocws lleol, a gall fod yn hynod ddefnyddiol er mwyn ymgysylltu â phobl yr ydych yn eu hadnabod sy’n byw yn eich cymuned. Fodd bynnag, nid yw’n cyrraedd cymaint o bobl â Facebook.
Cadw’n saff ac yn ddiogel ar-lein
Sut i sefydlu eich hun i fod yn ddiogel gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
Er bod nifer o fanteision yn gysylltiedig â chael presenoldeb gweithgar a dengar ar gyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw’n saff a diogel fel defnyddiwr. Mae camau allweddol y gallwch eu cymryd er mwyn amddiffyn eich hun ar-lein, waeth pa blatfform cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwch.
Y cyntaf yw sicrhau eich bod yn defnyddio manylion mewngofnodi e-bost diogel.
Byddwn yn awgrymu ichi:
- nad ydych yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost cynghorydd, sy’n debygol o fod yn gyfarwydd
- defnyddiwch gyfrineiriau gwahanol ar gyfer pob cyfrif.
Dylech osod dilysiad dau ffactor ar gyfer pob platfform cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwch, sy’n cynnig diogelwch ychwanegol i’ch cyfrif. Mae dilysiad dau ffactor (neu ddilysiad aml-ffactor) yn golygu nad eich cyfrinair yn unig fydd ei angen arnoch i fewngofnodi i’ch cyfrif. Bydd hefyd angen i chi naill ai nodi cod a gaiff ei anfon at eich rhif ffôn symudol neu e-bost, neu fel arall, awdurdodi’ch manylion mewngofnodi ar ap ar eich ffôn.
Cadw’ch bywyd personol a theuluol yn breifat
Sicrhewch eich bod yn cadw eich bywyd personol, teuluol a’ch proffil cyhoeddus ar wahân. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio Tudalen Facebook yn hytrach na Phroffil ar gyfer eich rôl fel cynghorydd. Gall hyn fod o gymorth mawr i chi o ran cadw balans a chadw’r ddau fywyd ar wahân. Mae dewisiadau tebyg ar gyfer platfformau cyfryngau cymdeithasol eraill hefyd – megis ar Instagram a Twitter Sicrhewch eich bod yn gosod y rheolaethau preifatrwydd sy’n cael eu cynnig ar bob platfform hefyd.
Cofiwch mai cynghorwyr yn bersonol sy’n gyfrifol am y cynnwys maent yn ei gyhoeddi ar unrhyw ffurf ar gyfryngau cymdeithasol, boed yn ysgrifenedig ar gyfrif personol a’i peidio. Argymhellir yn gryf nad ydych yn postio neu rannu unrhyw beth ar-lein nac ar unrhyw gyfrif cyfryngau cymdeithasol na fyddech yn gyfforddus yn ei ddweud neu ei rannu mewn cyfarfod cyhoeddus.
Mae’n hawdd iawn rhannu gwybodaeth amdanoch chi’ch hun ar-lein. Fel cynghorydd, mae angen i chi feddwl yn ofalus ynghylch yr hyn yr ydych yn ei rannu’n gyhoeddus, a faint ohono. Cyn i chi ddechrau postio, mae’n werth ystyried yr hyn yr ydych yn gyfforddus yn ei bostio yn ogystal â’r hyn sy’n ddiogel i’w bostio – a’r hyn yr ydych am iddynt fod ar gael ymhell i’r dyfodol.
Fel rheol gyffredinol, peidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol, megis eich rhif ffôn personol, dyddiad geni, neu gyfeiriad cartref (neu luniau sy’n amlygu unrhyw un o’r rhain). Cofiwch fod angen i chi hefyd ystyried data personol eraill o’ch cwmpas. Efallai eich bod chi’n gyfforddus yn byw eich bywyd yn llygad y cyhoedd, ond dylech ofyn i chi’ch hun: “A yw fy nheulu, fy ffrindiau, fy nghymdogion a’m cydweithwyr?”
O safbwynt diogelwch, meddyliwch yn ofalus cyn postio. Unwaith y bydd rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol, rydych yn colli bron bob rheolaeth ar sut y caiff ei ddefnyddio. Fel gydag e-byst, bydd angen i chi gadw llygad am sgamiau gwe-rwydo, twyll neu feddalwedd maleisus.
Your responsibilities as a councillor
Y rheol aur i’w dilyn
Dyma’r ‘Rheol Aur’ – os ydych yn ansicr ynglŷn â phostio rhywbeth, stopiwch a gofynnwch am gyngor cyn gwneud unrhyw beth arall. Mae’r cyfryngau cyhoeddus yn gweithredu’n gyhoeddus. Unwaith y bydd rhywbeth wedi’i gyhoeddi, yn aml gall pawb ei weld ac mae’n hawdd iddo:
- gael ei ledaenu
- cael ei addasu neu newid heb eich caniatâd
- cael ei gymryd allan o’i gyd-destun
- cael ei rannu ledled y byd
Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel aelod etholedig (neu aelod cyfetholedig) o gyngor, yn wahanol iawn o’i gymharu â’i ddefnyddio fel rhywun sydd ddim yn aelod. Mae gan gynghorwyr gyfrifoldebau ychwanegol oherwydd y swydd sydd ganddynt.
Os ydych yn ansicr am bostio rhywbeth, stopiwch a gofynnwch am gyngor yn gyntaf.
Deall yr hyn y gallwch ac na allwch ei bostio ar-lein, gan gynnwys yn gyfreithiol
Cynghorwyr yn bersonol sy’n gyfrifol am y cynnwys cyfryngau cymdeithasol maent yn ei greu, ei gyhoeddi a’i rannu. Ni fydd y ffaith eich bod yn gynghorydd yn atal rhywun arall rhag cymryd camau cyfreithiol ar ôl cyhoeddi datganiad anwir. Mewn sefyllfa o’r fath, mae’n debygol y byddech yn atebol yn bersonol.
Dylai cynghorwyr fod yn ystyriol o’r gwahaniaeth rhwng ffeithiau a barn. Mae Aelodau Etholedig hefyd yn chwarae rhan ganolog mewn atal lledaenu twyllwybodaeth. Meddyliwch ddwywaith cyn pwyso’r botwm ‘rhannu’ neu ‘aildrydar’!
Ar y cyfryngau cymdeithasol, dylai cynghorwyr ystyried eu cyfrifoldeb o ran gwybodaeth gyfrinachol, hawlfraint, diogelu data, y cyfnod cyn yr etholiad ac adroddiadau eithriedig. Mae cynghorwyr yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, lle mae cysylltiad amlwg rhwng y cynnwys sydd wedi’i bostio a busnes y Cyngor neu eich rôl fel cynghorydd. Fel rheol gyffredinol, dylai cynghorwyr ddangos ymddygiad da bob amser, ac felly dylent ymddwyn fel petai eu hymgysylltiad cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol yn dod o fewn cwmpas y Cod Ymddygiad.
Wrth bostio ar gyfryngau cymdeithasol, dylech gofio:
- Eich bod yn gynrychiolydd etholedig o’r Cyngor
- Gall yr hyn yr ydych yn ei rannu effeithio ar enw da’r Cyngor
- Mae’r Cyngor yn gorff sy’n gwneud penderfyniadau corfforaethol – ni allwch wneud penderfyniadau’n annibynnol dros y Cyngor ar gyfryngau cymdeithasol
- Mae’n well gadael rhai materion a chysylltiadau i gyfryngau cymdeithasol swyddogol y Cyngor, sydd fel arfer yn cael eu rheoli gan swyddogion
- Gall bod ag un llais neu neges fod yn hanfodol mewn rhai sefyllfaoedd – er enghraifft mewn llifogydd mawr.
- Nid oes rhaid i chi ymateb neu roi sylwadau ar bopeth ar y cyfryngau cymdeithasol – weithiau mae’n well peidio
Meddyliwch cyn pwyso ‘cyhoeddi’! Mae prawf syml. Os byddech chi’n amharod i ddweud rhywbeth wyneb yn wyneb o flaen grŵp o ddieithriaid, yna mae’n debyg na ddylech ei ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol.
Sut i ddelio â negyddoldeb a difrïo ar-lein
Dysgwch i beidio â bwydo ‘trols’ cyfryngau cymdeithasol
Yn anffodus, gellir cael defnyddwyr eraill sy’n negyddol ac yn cam-drin ar bob platfform cyfryngau cymdeithasol – a ddisgrifir yn aml fel pobl sy’n trolio. Nid yw’n hawdd delio â hyn. Y ffordd orau o ddelio ag ef yw ‘peidio â bwydo’r rhai sy’n trolio’. Yr hyn a olygwn yw, peidiwch ag ymateb i’r hyn maent yn ei bostio, sydd wedi’i fwriadu i gynhyrfu, ennyn ymateb neu hyrwyddo eu hamcanion eu hunain. Y ffordd orau i chi ymateb yw naill ai anwybyddu’r hyn maent wedi’i bostio, neu (os yw ar eich tudalen neu broffil eich hun) ddileu neu guddio eu sylw, fel na all dilynwyr eraill ei weld ychwaith.
Dinasyddiaeth ddigidol ‘rheolau ymgysylltu’
Mae’r CLlL wedi llunio canllawiau rheolau ymgysylltu i gynghorwyr y gallwch eu hychwanegu at eich proffil cyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhain yn nodi’r cod cyfryngau cymdeithasol y byddwch yn eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â sut yr ydych yn disgwyl i’ch dilynwyr ymddwyn.
Byddwch yn hyderus i rwystro a dileu dilynwyr
Hefyd, mae’n hawdd dileu neu flocio dilynwyr, yn ogystal ag adrodd am unigolion sy’n eich cam-drin yn gyson, gan gynnwys i’r heddlu. Mae’n synhwyrol ac yn rhesymol i flocio pobl – nid yn unig er mwyn amddiffyn eich hun, ond i amddiffyn eraill sy’n eich dilyn chi hefyd, sydd o bosib yn teimlo dan fygythiad hefyd gan yr hyn maent yn ei roi yn y sylwadau.
Cymryd seibiant o gyfryngau cymdeithasol
Peidiwch â bod ofn cymryd egwyl o’r cyfryngau cymdeithasol, os ydych yn teimlo eich bod angen gofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles. Gallech ddadgyhoeddi eich tudalen Facebook neu gyfrif Twitter dros dro a rhoi rhywfaint o ‘amser all-lein’ i’ch hun.