Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr
Mae’r CLlL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i gynghorwyr. Gall cyfryngau cymdeithasol chwarae rôl allweddol wrth gyflawni hyn, os caiff ei ddefnyddio yn y ffordd gywir.
Gall cyfryngau cymdeithasol alluogi cynghorwyr i:
- hyrwyddo’r gwaith maen nhw’n ei wneud i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
- ymgysylltu â phreswylwyr, busnesau a grwpiau cymunedol
- gwrando ar sgyrsiau a materion sy’n digwydd yn eu hardaloedd lleol
Mae’r gyfres o ganllawiau isod yn egluro sut i ddefnyddio amryw blatfformau cyfryngau cymdeithasol, darparu cyngor am greu cynnwys da, rhoi awgrymiadau am hygyrchedd ac arfer gorau, a dangos y ffyrdd gorau o ymgysylltu â thrafodaethau iach a mynd i’r afael â chamdriniaeth ar-lein.

Yn yr adran hon:
Trosolwg o gyfryngau cymdeithasol i gynghorwyr
Mae hwn yn gyflwyniad i gynghorwyr am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Mae’n cynnwys trosolwg o sut a pham ddylai cynghorwyr ei ddefnyddio, eu cyfrifoldebau, ffyrdd o aros yn ddiogel a dulliau o ddelio â negyddoldeb
Canllaw i fynd i’r afael â chamdriniaeth ar-lein
Bydd y canllaw hwn yn archwilio problem gynyddol camdriniaeth ac ymosodiadau ar-lein. Mae llawer o gynghorwyr yn profi’r math hwn o negyddoldeb ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’n bwysig gwybod sut i’w adnabod a delio’n effeithiol ag ef.
Canllawiau i ddefnyddio Instagram
Mae hwn yn ganllaw cyflwyniadol i gynghorwyr am sut i ddefnyddio Instagram. Mae’n darparu cyngor am sut i ddechrau arni, y gwahanol ffyrdd o’i ddefnyddio, sut i ymgysylltu’n effeithiol â phreswylwyr a sut i aros yn ddiogel
Canllaw i ddefnyddio Nextdoor
Mae hwn yn ganllaw cyflwyniadol i gynghorwyr lleol am sut i ddefnyddio Nextdoor. Mae’r canllaw yn darparu cyngor a chanllawiau am sut i ddechrau arni, sut i gyfranogi yn eich cymdogaeth a sut i aros yn ddiogel wrth ddefnyddio’r platfform.
Arweiniad i rôl cynghorwyr ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae’r canllaw hwn yn archwilio’r rôl gall cynghorwyr ei chwarae ar gyfryngau cymdeithasol, sut i ymgysylltu â thrafodaethau iach a mynd i’r afael â chamwybodaeth, yn ogystal â beth i’w ystyried wrth gyhoeddi neu rannu cynnwys.
Canllawiau ar greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol hygyrch
Mae hwn yn ganllaw cyflwyniadol byr i hygyrchedd cyfryngau cymdeithasol i gynghorwyr. Nid yw’r cyngor yn benodol i unrhyw blatfform cyfryngau cymdeithasol.
Canllawiau i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Mae hwn yn ganllaw cyflwyniadol i gynghorwyr am sut i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn nodi’n fyr sut gall cynghorwyr ymgysylltu’n gadarnhaol â phobl eraill a sefydliadau ar gyfryngau cymdeithasol.
Canllaw i ddefnyddio Facebook
Mae hwn yn ganllaw cyflwyniadol i gynghorwyr am sut i ddefnyddio Facebook. Mae’r canllaw yn darparu cyngor a chanllawiau am ddechrau arni, y gwahanol ffyrdd o’i ddefnyddio, syniadau i gryfhau eich dull ymgysylltu a sut i aros yn ddiogel.
Canllaw i ddefnyddio YouTube
Mae hwn yn ganllaw cyflwyniadol i gynghorwyr am sut i ddefnyddio YouTube. Mae’r canllaw yn darparu cyngor a chanllawiau am sut i ddechrau arni, pa fath o fideos sy’n gweithio, sut i’w creu a ffyrdd o ddelio â sylwadau gan y cyhoedd.