Cyfathrebu a’r cyfryngauCanllawiau cyfryngau cymdeithasol i gynghorwyrCanllawiau i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Canllawiau i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Mae hwn yn ganllaw rhagarweiniol ar gyfer llunio cynnwys cyfryngau cymdeithasol gan gynghorwyr lleol.   Hefyd, bydd yn nodi’n fyr sut y gall cynghorwyr lleol ymgysylltu’n gadarnhaol gyda phobl a sefydliadau eraill drwy gyfryngau cymdeithasol. 

Amcanion

Llunio cynnwys ar gyfer platfform cyfryngau cymdeithasol:

    • Sut i’w wneud,
    • Pa mor aml, a;
    • Deall sut mae ein ‘tôn llais digidol’ yn swnio fel cynghorwyr.

Sut i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda phobl a sefydliadau eraill a chyfryngau cymdeithasol

    • Sut i ddechrau a;
    • Beth i fod yn ymwybodol ohono

    Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr

    Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

    Llunio cynnwys cyfryngau cymdeithasol

    Felly rydych wedi llunio eich proffil cyfryngau cymdeithasol cyhoeddus. Y cam nesaf yw dechrau creu cynnwys.  Cyn gwneud hynny – stopiwch. Cymerwch eiliad i feddwl a chynllunio.  Nid oes yn rhaid i chi gamu’n syth i creu cynnwys.

    Cynghorir chi i gynllunio pa gynnwys rydych am ei greu.   Bydd hyn yn ei wneud yn fwy ymgysylltiol ac effeithiol. Ond yn bwysicach na dim bydd yn sicrhau nad ydych yn cynnwys rhywbeth y gallech ei ddifaru yn ddiweddarach.

    Prawf y ‘Dieithryn y Stryd’

    I gynghorwyr ar gynnwys cyfryngau cymdeithasol mae yna un rheol bwysig.   Rhywbeth y dylai pob cynghorydd ei gofio.   Sef hyn:

    Os nad ydych yn sicr am rywbeth, stopiwch a gofynnwch am gyngor. Peidiwch â dal ati a gobeithio’r gorau.

    Peidiwch ag anghofio eich bod chi’n gyfrifol yn bersonol am y cynnwys cyfryngau cymdeithasol rydych yn ei gynnwys, cyhoeddi a’i rannu

    Dylai Cynghorwyr hefyd gydnabod eu bod yn dal swydd gyhoeddus a byddant yn cynnal safon uwch.  Mae yna hefyd God Ymddygiad ar waith.

    Felly, cyn i chi gynnwys neges, cyhoeddi neu rannu gwnewch y prawf ‘Dieithryn yn y Stryd’. Gofynnwch y cwestiwn syml ond pwysig hwn i’ch hun:

    A fyddwn yn cerdded i fyny at ddieithryn llwyr yn y stryd a dweud beth oeddwn ar fin ei gynnwys, cyhoeddi neu ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol? Os mai’r ateb yw ‘na’ neu ‘dw i ddim yn siŵr’, yna peidiwch a gwneud!

    Peidiwch ag anghofio eich bod chi’n gyfrifol yn bersonol am y cynnwys cyfryngau cymdeithasol rydych yn ei gynnwys, cyhoeddi a’i rannu

    Ar gyfer pwy ddylwn i greu gynnwys?

    Cyn creu cynnwys, cwestiwn pwysig i’w ofyn yw: ‘Ar gyfer pwy ydw i’n creu hwn?’ Mewn geiriau eraill, pwy sydd yn eich cynulleidfa?

    Mae gwahanol bobl yn ymgysylltu â chynnwys gwahanol. Er enghraifft, mae beth sy’n apelio at fyfyriwr coleg 18 oed yn debyg o fod yn wahanol i rywun 68 oed sydd wedi ymddeol.

    Mae yna un enghraifft syml mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr yn ei chydnabod. Mae llawer o gynghorwyr yn cynrychioli ward sy’n cynnwys mwy nag un ardal neu gymuned. Mae’n bosibl y bydd pobl yn yr ardaloedd neu gymunedau gwahanol hynny angen cynnwys gwahanol.

    Ffordd syml i gael teimlad o’ch cynulleidfa yw llunio rhestr pwynt bwled syml. Yn y rhestr, dylech gynnwys pob grŵp yn eich cynulleidfa neu rydych yn dymuno iddynt fod.

    Wrth gynllunio neu greu eich cynnwys cyfryngau cymdeithasol, cadwch y rhestr honno mewn cof.   Dylech ystyried a yw’n ymgysylltu â’r bobl wahanol sy’n rhan o’ch cynulleidfa.

    Pa gynnwys ddylwn i ei greu?

    Dylech anelu at gynnwys diddorol sy’n atyniadol mae pobl yn dymuno ei ddarllen neu ei wylio, rhannu a rhyngweithio gydag ef.   Ceisiwch osgoi darlledu gwybodaeth yn barhaus.  Dyma ble mae’r traffig unffordd, hynny yw oddi wrthych chi i weddill y byd.

    Wrth gwrs, byddwch angen rhoi gwybodaeth o dro i dro.   Fodd bynnag, dylech anelu at sgwrs dwy ffordd ble bynnag bo hynny’n bosibl.

    Un ffordd i ddechrau sgwrs yw ehangu’r wybodaeth rydych yn ei rhannu.   Peidiwch ag anfon ychydig o newyddion am yr ardal yn unig.   Rhoi barn. Gofyn cwestiwn. Dechrau pleidlais.

    Fel y trafodwyd, byddwch angen cael cynulleidfa mewn golwg.   Byddwch hefyd angen syniad am beth yw diddordebau’r gynulleidfa honno.  Mae hyn yn hanfodol os ydych eisiau cynnal diddordeb yn eich cyfryngau cymdeithasol dros yr hirdymor.

    Pwy bynnag yw eich cynulleidfa, dylai’r hyn rydych yn ei greu fod o leiaf un o’r canlynol:

      • Perthnasedd
      • Diddorol
      • Llawn gwybodaeth
      • Yn dweud stori
      • Ceisio adborth
      • Gofyn cwestiynau

    Math o gynnwys

    Wrth feddwl am gynnwys, mae yna bedwar math yn gyffredinol y bydd y rhan fwyaf o gynghorwyr yn ei greu ar gyfer cyfryngau cymdeithasol:

    1. Newyddion a gwybodaeth er enghraifft o’ch cyngor neu grwpiau lleol, hysbysu a diweddaru pobl
    2. Arwyddbostio i wasanaethau eich cyngor a gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau eraill.
    3. Gofyn cwestiynau i ganfod beth mae pobl yn ei feddwl am wahanol faterion.
    4. Rhannu cynnwys gan eraill, fel cynghorau lleol a grwpiau lleol

    Brawddegau a pharagraffau byr

    Cadwch eich paragraffau a’ch brawddegau yn fyr.  Osgowch iaith gymhleth neu dechnegol. Ceisiwch beidio defnyddio jargon llywodraeth leol. Ble bo’n bosibl, osgowch acronymau.

    Peidiwch â chymryd fod gan eich cynulleidfa wybodaeth flaenorol o’r pwnc.   Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn mynychu cyfarfodydd y cyngor nac yn darllen adroddiadau swyddogol. Eich sefyllfa ddiofyn yw nad yw eich cynulleidfa yn gwybod popeth am y pwnc rydych yn cynnwys gwybodaeth amdano.

    Emojis

    Un ffordd hawdd i wneud i’ch cynnwys sefyll allan yw defnyddio emojis.  Mae pobl iau yn arbennig yn debyg o weld y defnydd o emoji yn atyniadol ac yn dal y llygad. Cadwch hygyrchedd mewn cof a pheidiwch â defnyddio emojis i gyfleu ystyr.

    Lluniau a fideos

    Ceisiwch gynnwys fideo neu lun gyda’ch neges. Mae pobl yn gweld fideos a lluniau yn fwy atyniadol yn gyffredinol.  Weithiau mae llun wirioneddol werth mil o eiriau. Mae’n gallu helpu i egluro sefyllfaoedd cymhleth mewn ffordd effeithiol a chyflym.

    Mantais arall yw y bydd y rhan fwyaf o algorithm cyfryngau cymdeithasol yn ‘blaenoriaethu’ negeseuon gyda fideos a lluniau. Mae hyn yn golygu y bydd negeseuon gyda lluniau neu fideos yn fwy tebyg o ymddangos yn ffrydiau eich dilynwyr.

    ‘Galw i Weithredu’

    Ceisiwch ble bo’n bosibl i gynnwys ‘galw i weithredu’. Gall hyn er enghraifft fod yn gwestiwn, cais i rannu neu bleidlais neu arolwg.  Beth bynnag ydyw, dylai fod yn glir ac yn berthnasol.  Bydd hyn yn helpu i ddatblygu sgwrs dwy ffordd gyda’ch cynulleidfa.

    #Hashnodau

    Mae ychwanegu hashnod at neges yn gallu bod yn ffordd wych o rannu gwybodaeth a helpu pobl i’w ganfod. I greu hashnod y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw ychwanegu ‘#’ cyn gair, brawddeg, lle neu acronym.

    Ceisiwch fod yn gyson gyda hashnod a pheidiwch â mynd dros ben llestri.  Os nad ydych yn siŵr lle i ddechrau, ceisiwch ddefnyddio’r hashnod presennol ar gyfer y gymuned rydych yn ei chynrychioli. Er enghraifft os byddech yn byw yn Birmingham byddech yn defnyddio #Birmingham.

    Tagiau

    Gallwch hefyd ‘dagio’ pobl a sefydliadau eraill.  Gallwch wneud hyn ar lawer o gyfryngau cymdeithasol drwy roi’r ‘@’ cyn enw unigolyn neu sefydliad.

    Byddwch yn ofalus i beidio gorwneud hyn gan fod rhai pobl yn ei weld yn annifyr. Fodd bynnag, gall fod yn ffordd braf o gydnabod rhywun. Ffordd sydyn o adael iddynt wybod eich bod wedi cynnwys neges amdanynt.

    Mynd yn Fyw

    Unwaith y byddwch yn hyderus gyda chyfryngau cymdeithasol gallech feddwl am ‘Fynd yn Fyw’. Dyma ble rydych yn ffrydio cynnwys fideo byw i gyfryngau cymdeithasol.

    Mae yna un fantais fawr dros wneud hyn. Bydd y rhan fwyaf o gyfryngau cymdeithasol yn ‘hysbysebu’ y ffaith eich bod yn fyw yn eithaf amlwg i’ch dilynwyr.  Weithiau bydd yn eu hysbysu cyn, yn ystod ac ar ôl yr amser yr ydych yn fyw.

    Mae symud ymlaen yn gallu bod yn ffordd wych o ymgysylltu gyda phobl iau. Gallech ddefnyddio hwn i wneud sesiwn cwestiwn ac ateb byw ar bwnc.  Mae hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i greu sgwrs dwy ffordd.  Mae hefyd yn gallu helpu i egluro pwnc cymhleth.

    Canfod a dilyn arfer gorau

    Mae cyfryngau cymdeithasol yn wych ar gyfer canfod arfer gorau. Mae’n syml. Pan fyddwch yn canfod unigolyn neu sefydliad yn gwneud rhywbeth rydych yn ei hoffi, dilynwch. Ceisiwch gynnwys yr elfennau rydych yn eu hoffi yn eich cynnwys eich hun.  Os bydd gan rywun lawer o ddilynwyr, hoffi ac ymgysylltu â’u negeseuon, mae fel arfer yn arwydd da eu bod yn gwneud rhywbeth yn iawn.

    Pa mor aml ddylwn i greu cynnwys?

    Peidiwch â phoeni gormod am faint o gynnwys rydych yn ei roi. Mewn byd delfrydol, byddech yn creu o leiaf un darn o gynnwys ymgysylltu bob dydd.   Mae rhai pobl yn gallu gwneud hynny, llawer o bobl yn methu.

    Felly, mae’n ddoeth bod yn realistig.  Ceisiwch greu cynnwys ar raddfa sy’n gweithio i chi.   Y peth allweddol yw cael cynllun realistig ac yna cadw ato. Nid ydych eisiau i’r cyfryngau cymdeithasol gymryd drosodd eich bywyd.  Hefyd, nid ydych eisiau i’ch cyfrif fod yn segur.

    Amseru

    Ffactor arall i’w ystyried yw amseru. Weithiau, mae postio ar yr adeg cywir yn gallu bod yr un mor bwysig â’r cynnwys rydych yn ei greu.

    Mae’r amser gorau o’r dydd i gynnwys neges yn dibynnu ar y gynulleidfa. Er enghraifft, os yw eich cynulleidfa yn cynnwys cymudwyr yn bennaf sy’n gaeth ar drenau rhwng 5:30pm-7pm gall hynny fod yn amser da i gynnwys neges.

    Mae yna adnoddau rheoli cyfryngau cymdeithasol sy’n caniatáu i chi drefnu negeseuon ymlaen llaw.  Mae hyn yn golygu y gallwch gynnwys neges ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.   Bydd rhai adnoddau hyd yn oed yn darparu’r ‘amseroedd gorau’ i gynnwys negeseuon.

    Rhannu cynnwys eraill

    Mae rhannu cynnwys o gyfryngau cymdeithasol eraill yn gallu bod yn ddefnyddiol weithiau. Dyma ble rydych yn rhannu trydariad, negeseuon, lluniau a fideos eraill.  Er enghraifft, os yw eich cyngor yn cynnal arolwg pwysig gall hwnnw fod yn rhywbeth da i’w rannu drwy gyfryngau cymdeithasol.

    Cofiwch wirio’r neges neu’r cynnwys cyn i chi ei rannu.  Nid ydych eisiau rhannu rhywbeth sy’n sarhaus, anghyfreithlon neu’n hurt.

    Canfod eich ‘tôn llais digidol’

    Beth yw ‘tôn llais digidol’?

    Nid yw hyn yn ymwneud â beth rydych yn ei ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n ymwneud â sut rydych yn ei ddweud.

    Mewn bywyd arferol, mae’r rhan fwyaf o bobl yn mabwysiadu tôn llais gwahanol ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol.   Er enghraifft, mae’r ffordd rydych yn siarad gyda hen gyfaill yn debyg o fod yn wahanol i’r ffordd y byddech yn siarad ar banel yn ystod cyfweliad am swydd.   Mae’r un yn wir ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

    Pam bod fy ‘nhôn llais digidol’ yn bwysig?

    Cymerwch foment i feddwl am eich tôn llais digidol. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun:

    Sut ydw i eisiau dod drosodd ar y cyfryngau cymdeithasol?

    Pan nad yw cynghorwyr yn gofyn y cwestiwn hwn maent yn tueddu i fabwysiadu tôn ffurfiol a darlledu.  Mae’r tôn diofyn hwn yn gweithio gyda rhai gohebiaeth swyddogol ond mae’n bosibl na fydd yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd eraill. Mewn gwirionedd, gall weithio yn eich erbyn chi.

    Maen debyg er mwyn bod yn gwbl effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol byddwch angen datblygu ‘tôn llais digidol.’ Ar gyfer y rhan fwyaf o gynghorwyr mae un anffurfiol ond nid amhriodol yn gweithio orau.

    Sut ydw i yn datblygu fy ‘nhôn llais digidol’?

    Dechreuwch drwy edrych ar beth mae cynghorwyr a chynghorau eraill yn ei gynnwys.   Byddwch yn nodi bod y sawl sydd fwyaf effeithiol yn gallu addasu eu tôn llais digidol i wahanol gynulleidfaoedd a sefyllfaoedd.

    Dylech hefyd wrando ar eich cynulleidfa a gweld sut mae pobl yn cyfathrebu.  Gwnewch nodiadau. Edrychwch ar beth sy’n boblogaidd.  Beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio Ble bo’n bosibl, dylech addasu eich tôn llais digidol yn unol â hynny.

    Felly, beth ddylwn i anelu ato?

    Dylai’r rhan fwyaf o gynghorwyr anelu am anffurfiol ond nid amhriodol. Fodd bynnag, dylech barhau i geisio bod yn ddilys. Peidiwch â mabwysiadu tôn llais digidol sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus.

    Mae’n debyg y byddwch angen addasu eich tôn llais digidol i wahanol gynulleidfaoedd a sefyllfaoedd.   Er enghraifft, bydd neges am arolwg parc sglefrio angen bod mewn tôn llais gwahanol i neges am Sul y Cofio.

    Dylech ystyried datblygu ‘tôn llais digidol’ y gallwch ei ddefnyddio gyda chynulleidfaoedd gwahanol ac mewn sefyllfaoedd gwahanol.   Er enghraifft:

      • Sgyrsiau bob dydd a phersonol. I’w defnyddio mewn sgyrsiau cyfryngau cymdeithasol uniongyrchol. Ceisiwch gynnal sgwrs, bron yn siaradus. Y nod yw bod yn gyfeillgar, defnyddiol a hygyrch.
      • Cynnwys parchus a swyddogol: Mae hyn yn cael ei ddefnyddio mewn sefyllfa sydd angen tôn mwy parchus neu swyddogol. Y nod yw bod yn ffurfiol, proffesiynol ac yn y rhan fwyaf o achosion nid yn ddoniol.
      • Cynnwys cymunedol: Dyma’r tôn llais i’w ddefnyddio wrth siarad gyda chynulleidfaoedd mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydych yn ceisio annog teimlad o gymuned ac ymgysylltu yn aml. Dylai fod yn gyfeillgar, anogol a gall fod yn ddoniol. Dylai’r iaith fod yn syml a’r neges neu’r alwad i weithredu yn glir.  Dylai’r math yma o gynnwys fod yn hawdd i’w rannu.

    Beth ddylwn ei ddefnyddio i greu cynnwys?

    Mae rhywfaint o’r cynnwys a welir ar y cyfryngau cymdeithasol yn llachar ac yn broffesiynol. Mewn gwirionedd, y cyfan mae pobl ei angen i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol yw:

      • Ffôn clyfar
      • Ychydig o wybodaeth dechnegol
      • Cyfrif neu broffil cyfryngau cymdeithasol gweithredol
      • Cysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd

    Unwaith y bydd gennych yr uchod yna gallwch ystyried:

      • Creu cynnwys o fewn cyfryngau cymdeithasol: Er enghraifft Facebook, Instagram neu Twitter yn yr un ffordd â’r rhan fwyaf o bobl.  Mae hyn yn ffordd dda i ddechreuwyr ddechrau neu os ydych ar frys.  Fodd bynnag, bydd yn cyfyngu’r hyn y gallwch ei wneud yn yr hirdymor.
      • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol: Er enghraifft, defnyddio Cyfres Busnes Meta (ar gyfer Facebook ac Instagram) neu Hootsuite. Byddwch angen ychydig o sgil dechnegol, ond dylai’r rhan fwyaf o bobl allu ei feistroli’n eithaf sydyn.   Mae’r adnoddau hyn yn hawdd i’w defnyddio ac yn cynnig mwy o hyblygrwydd.  Bydd yn caniatáu i chi wneud pethau fel trefnu negeseuon a chreu cynnwys yn hawdd.
      • Defnyddio meddalwedd, apiau a phlatfform: Gallech ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith, apiau golygu fideo neu blatfform dylunio graffeg. Yr anfantais fawr o ddefnyddio meddalwedd a phlatfform o’r fath yw’r ystod anferth o bosibiliadau, templedi a chynnwys defnyddiol sydd ar gael.  Fodd bynnag, mae yna waith dysgu ac mae’n ddarn o adnodd arall y byddwch angen ei ddefnyddio i greu cynnwys.

    Cofiwch fod pobl yn defnyddio ffonau clyfar ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

    Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio ffôn glyfar ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.  Dylech gofio hyn os ydych yn creu cynnwys ar liniadur neu gyfrifiadur. Ble bo’n bosibl, gwiriwch i weld sut mae cynnwys a negeseuon yn edrych ar ‘ffôn symudol’.

    Adolygu

    O dro i dro dylech adolygu eich cynnwys cyfryngau cymdeithasol.  Ceisiwch wneud hyn o leiaf unwaith bob chwe mis.  Gallwch gael golwg ar eich cipolwg neu ystadegau cyfryngau cymdeithasol. Os nad oes gennych fynediad iddynt, gallwch gael golwg ar bwy sydd wedi hoffi, rhannu neu ymgysylltu â’ch cynnwys.

    Gofynnwch y canlynol i chi eich hun:

      • Beth weithiodd?
      • Beth oedd ddim yn gweithio?
      • Beth allwn ni ei wella?

    Ceisiwch gadw cofnod rheolaidd o’ch cipolwg neu ystadegau cyfryngau cymdeithasol.   Bydd hyn yn eich helpu i greu darlun dros amser.

    Cyflwyniad i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda phobl a sefydliadau eraill.

    Yn amlwg, mae yna lawer o bethau eraill i’w hystyried wrth geisio ymgysylltu’n gadarnhaol.

    Roeddem yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol creu A-Y o sut rydych chi fel cynghorydd lleol yn gallu ymgysylltu’n gadarnhaol.   Bydd hyn yn rhoi cyngor defnyddiol i chi roi ar waith.

    Yr A-Y o sut i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda phobl a sefydliadau eraill

    Cydnabod

    Wrth rannu cynnwys newyddion eraill gall fod yn syniad da i’w cydnabod nhw.   Mewn rhai sefyllfaoedd gall hyn fod yn beth cwrtais i’w wneud. Gallai hefyd helpu i sicrhau nad ydych yn cael eich gweld yn hawlio’n ffug i fod wedi creu neu gyflawni rhywbeth.

    Bod yn aelod gweithredol o Grwpiau neu dudalennau cymunedol

    Mae gan rai platfformau cyfryngau cymdeithasol dudalennau grwpiau neu gymunedol. Dyma’r meysydd ble mae pobl yn yr un ardal ddaearyddol yn ymgynnull ar y cyfryngau cymdeithasol.   Mae bod yn gyfrannwr gweithredol a chadarnhaol yn bwysig.

     Ceisiwch gynnwys gwybodaeth berthnasol a diddorol i fannau cymunedol. Byddwch yn ofalus i beidio sbamio tudalennau Grwpiau neu gymunedol. Ble bo’n briodol, dylech hefyd rannu cynnwys tudalennau Grŵp a chymuned yn eich cyfryngau cymdeithasol.

    Sgwrs yw’r nod

    Y peth cyntaf a phwysicaf i’w wneud yw gweithio tuag at sgwrs dwy ffordd gyda’r gymuned.   Bydd darlledu gwybodaeth ond yn eich cael i ryw fan. Er mwyn datblygu ymgysylltiad cadarnhaol hirdymor byddwch angen cynnal sgwrs gyda’r gymuned.

     Er enghraifft, gallech ofyn cwestiynau perthnasol. Paratoi pleidleisiau. Cynnal arolygon  Os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth arall, mae ymateb i sylwadau a negeseuon yn dda.  Dylai eich nod fod i fynd heibio darlledu ac i sgwrs dwy ffordd.

    “Peidiwch â bwydo’r troliau”

    Mewn llawer o sefyllfaoedd mae’n well cofio “Peidio bwydo’r troliau.” Yn y pen draw, yn y rhan fwyaf o achosion byddant yn debyg o ddiflasu a symud ymlaen.  Ceisiwch beidio ymateb ac yn arbennig nid gydag emosiwn.

    Mae yna rai rhesymau da dros hyn. Nid yw llawer o droliau yn credu’r hyn maent yn ei gynnwys. Mae hyn yn golygu na allwch eu ‘curo’ nhw gyda ffeithiau neu resymeg.

    Bydd ymateb hefyd yn cael effaith eich taflu oddi ar y testun.  Bydd eich cyfryngau cymdeithasol yn dechrau adweithio. Yn chwerthinllyd, gallech hefyd ymgysylltu mwy gyda’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol mae’r troliau yn gwneud sylw arnynt.

    Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwch angen rhoi gwybod am broffil neu grŵp i’r awdurdodau perthnasol neu blatfform cyfryngau cymdeithasol.

    Annog adborth

    Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn ceisio adborth gan y gymuned.   Gallech wneud hyn mewn ffordd anffurfiol fel cynghorydd unigol drwy bleidleisiau, arolygon a thrafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Neu gallwch ei wneud mewn ffordd mwy swyddogol.  Er enghraifft, pan mae eich cyngor yn cynnal ymgynghoriad neu arolwg dosbarthu’r wybodaeth ac adborth i unrhyw gwestiynau.

    Dilyn

    Dilyn tudalennau, proffiliau a chyfrifon sy’n berthnasol i’ch cymuned chi.  Rhannu gwybodaeth a rhoi llais i’ch cymuned drwy roi gwybodaeth yn ôl.

    Annog eraill i’ch dilyn a’i gwneud yn haws i chi gael eich dilyn.   Gwneud eich Cyfryngau Cymdeithasol proffil cyhoeddus yn hawdd i’w ddarganfod. Darparu dolenni ar eich tudalen proffil cynghorydd os yn bosibl. Cynnwys poster ar yr hysbysfwrdd.   Wedi’r cyfan mae’n anodd datblygu perthynas gadarnhaol os nad oes unrhyw un yn gwybod am eich cyfryngau cymdeithasol.

    Y nod ehangach y tu ôl i hyn yw cadw mewn cysylltiad gyda grwpiau lleol, sefydliadau a busnesau o fewn eich cymuned.

    Newyddion da

    Mae hyn yn ymddangos fel rhywbeth mor syml i’w wneud, ond mor aml yn cael ei esgeuluso. Rhannu newyddion da am eich cymuned.   Neges am y pentref yn cael ei gydnabod ‘Yn ei Blodau’, y grŵp Sgowtiaid lleol yn ennill gwobr neu mae yna fuddsoddiad yn yr ardal.

    A pheidiwch â chynnwys neges unwaith yn unig am y newyddion da – gwnewch hynny sawl gwaith.

    Gall hyn hefyd gynnwys adrodd yn ôl i breswylwyr am faterion, rhannu gwybodaeth am y gwaith mae’r cyngor a chi yn ei wneud fel cynghorydd.

    Gyda chymaint o rai eraill yn ceisio cyfleu newyddion drwg, beth am wneud i’ch hun sefyll allan?  Byddwch yn un sy’n cyflwyno newyddion da i’ch cymuned!

    Uchafbwynt ac arwyddbostio

    Rhywbeth cadarnhaol arall y gall y rhan fwyaf o gynghorwyr ei wneud yw arwyddbostio pobl i ffynonellau gwybodaeth.   Mae hyn yn gam pwysig iawn yn y sgwrs dwy ffordd.   Felly os nad yw rhywun yn gwybod sut i roi gwybod am fethu casglu eich bin, gallwch amlygu’r dudalen berthnasol ar wefan y cyngor.

    Cynnwys y llun

    Defnyddiwch luniau i helpu i gael gwybodaeth drosodd a gwneud i’ch negeseuon sefyll allan.   Mae lluniau yn gallu bod yn ffordd effeithiol o helpu i rannu gwybodaeth.   Mae pobl hefyd yn hoffi edrych ar luniau o’u hardal leol.   Nid yw eich lluniau yn gorfod bod yn broffesiynol, ond yn berthnasol a diddorol.

    Cydbwyso eich amser

    Rhowch ddigon o amser o’r neilltu i allu datblygu ymgysylltu’n gadarnhaol. Ni fydd eich cysylltiadau a sgyrsiau cyfryngau cymdeithasol yn datblygu na rheoli eu hunain.  Peidiwch â dechrau rhywbeth a’i orffen hanner ffordd. Ceisiwch beidio â chymryd gormod ymlaen ar unwaith chwaith. Mae’n well meistroli un platfform cyfryngau cymdeithasol cyn symud ymlaen i’r nesaf.

    Peidiwch â chynhyrfu a …

    … gofynnwch am gyngor.

    Os nad ydych yn sicr sut i ddelio gyda sefyllfa neu os yw rhywbeth yn mynd o’i le, gofynnwch am gyngor. Peidiwch â dal ati a gobeithio’r gorau. Pan fyddwch yn cael cyngor peidiwch â’i anwybyddu, yn arbennig cyngor cyfreithiol.

    Hoffi

    Mae rhai cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i ddefnyddwyr ‘hoffi’ rhywbeth.  Byddwch yn ofalus wrth wneud hyn. Mewn rhai achosion mae’n well ‘dilyn’ yn hytrach na ‘hoffi’ unigolyn neu grŵp arall.  Mae ‘hoffi’ rhywbeth yn cael ei weld gan rhywun fel eich bod yn dweud eich bod yn ‘ei gefnogi’.

    Gwnewch eich negeseuon yn berthnasol ac yn ddiddorol.

    Cofiwch bod ymgysylltu cadarnhaol a datblygu sgwrs yn cymryd amser.   Ni fyddwch yn gallu ei wneud mewn prynhawn.  Byddwch angen datblygu’r berthynas a chyfrannu at ddeialog.

    Bydd rhywbeth personol yn mynd ymhell i ddatblygu perthynas gyda naill ai unigolyn neu sefydliad.   Defnyddio neges uniongyrchol ble bo’n briodol. Teilwra cynnwys ble bo’n briodol.  Gwnewch eich negeseuon yn berthnasol ac yn ddiddorol.

    Peidiwch byth â chymryd y bydd cyfryngau cymdeithasol yn gofalu am ei hun

    Nid yw cyfryngau cymdeithasol byth yn dod i ben. Mae’n rhywbeth sy’n dal i fynd ac ni ellir ei anwybyddu.  Peidiwch byth â chymryd y bydd cyfryngau cymdeithasol yn gofalu am ei hun. Os ydych wedi treulio misoedd neu flynyddoedd yn datblygu perthynas gadarnhaol peidiwch â gadael i’r cyfan ddiflannu. Fel unrhyw berthynas, mae’n bwysig dal i annog eich cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol.

    Agored a thryloyw.

    Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn bwysig.   Mae ymddiriedaeth yn ffactor allweddol wrth ddatblygu ymgysylltiad cadarnhaol.

    Oedi…

    Un o’r maglau mwyaf mae pobl yn disgyn iddynt ar y cyfryngau cymdeithasol yw ymateb yn flin. Os byddwch yn canfod eich hun mewn sefyllfa o’r fath, anadlwch ac o bosibl cerddwch i ffwrdd oddi wrth eich dyfais.   Ceisiwch ysgrifennu’r ymateb rydych eisiau ei anfon yn Word a chysgwch arno. Peidiwch ag ymateb yn syth os ydych yn flin.

    Ansawdd nid maint

    Weithiau mae un neges effeithiol wedi’i hamseru’n dda ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn fwy effeithiol na 10.  Meddyliwch am y cynnwys a gyda phwy yr ydych yn rhannu’r neges.   Trefnwch negeseuon ar gyfer amser y bydd pobl yn eu hagor.  Nid yw 9.30am ar ddyddiau’r wythnos yn debyg o fod yr amser gorau i lawer o bobl.

    Ymateb i negeseuon a sylwadau

    Does dim byd gwaeth na rhywun ddim yn ymateb i’ch e-bost neu alwad ffôn.   Mae’r un yn wir ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.  Os bydd rhywun yn ysgrifennu sylw neu’n anfon neges, dylech ymateb (oni bai, fel yr amlinellwyd, ei fod yn ymosodol neu’r aflonyddwch). Mae hyn yn bwysig iawn i ddatblygu ymgysylltiad cadarnhaol.

    Gwrthdaro ar y cyfryngau cymdeithasol:

    Yn achlysurol (byddai rhai yn dweud yn anochel) mae gwrthdaro yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol.  Mae’r rhan fwyaf o wrthdaro yn fyrhoedlog a bydd yn diflannu’n eithaf cyflym. Yn anffodus, mae rhai yn gallu parhau am flynyddoedd.  Mewn sefyllfaoedd o’r fath, dylai cynghorydd feddwl yn ofalus iawn am sut y byddant yn ymateb.   Dylent ystyried a ydynt am gyfrannu o gwbl.

    Mynd â thôn anffurfiol yn rhy bell.

    Mae’n bwysig cael eich tôn ar y cyfryngau cymdeithasol yn gywir.  Ceisiwch beidio â mynd â’r mater yn rhy bell.  Mae yna le ar gyfer hiwmor, ond byddwch yn ofalus.   Osgowch ensyniad, eironi a sylwadau enllibus.

    Deall eich cynulleidfa

    Mae’n bwysig eich bod yn deall eich cynulleidfa cyfryngau cymdeithasol.   Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu perthynas gadarnhaol.  Os nad ydych yn deall pwy sydd yn eich cynulleidfa, mae’n debyg y bydd llawer o’ch negeseuon a chynnwys yn disgyn yn fflat.  I ddod i adnabod eich cynulleidfa, ewch i gael golwg ar gipolwg a ddarperir gan y cyfryngau cymdeithasol a gweld beth sy’n boblogaidd.

    Cynnwys fideo

    Mae fideos yn ffordd wych o ddyneiddio’r gwaith yr ydych chi fel cynghorydd a’r cyngor yn ei wneud.  Byddant yn eich helpu i gysylltu â chynulleidfa ehangach.  Mae fideos hefyd yn gallu bod yn ddefnyddiol i’ch helpu i egluro materion cymhleth.

    Bodlon estyn allan.

    Estyn allan ac ymgysylltu gyda phreswylwyr ar draws llawer o wahanol grwpiau oed, yn arbennig preswylwyr ‘anoddach i’w cyrraedd’ na fydd fel arall yn ymgysylltu  gyda’r cyngor neu gynghorwyr.

    Mae yna hefyd gyfle i gynghorwyr fod yn ‘glust i wrando’ ar y gymuned.  Gwrando ar bryderon lleol, materion a beth y siaredir amdano ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Egluro materion a phenderfyniadau cymhleth

    Mae’r cyfryngau cymdeithasol y platfform perffaith i chi egluro materion a phenderfyniadau cymhleth.  Bydd y brawddegau byr ac ambell air yn eich helpu i ysgrifennu mewn Cymraeg clir. Mae’r defnydd o luniau a fideos yn gallu helpu hefyd.

    Yn bwysicaf oll, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i chi gael sgwrs gyda’ch cymuned. Defnyddiwch y cyfle i gael adborth.  I ganiatáu i bobl ofyn cwestiynau.  Ewch yn fyw ble gallwch gynnal sesiwn holi ac ateb byw.

    Eich amcanion a nod y cyfryngau cymdeithasol

    Un o’r pethau gwaethaf y gallwch ei wneud yw ceisio gwneud popeth ar unwaith.   Cael nod ac amcanion syml.  Dylai’r rhain fod yn fwy na phedair neu bump brawddeg.  Unwaith y bydd gennych nod ac amcanion cadwch atynt.

    Gallai un fod yn ‘ceisio datblygu perthynas gadarnhaol gyda’r gymuned. Adolygwch beth sy’n digwydd dros amser.   Ceisiwch weithio allan beth sy’n mynd yn dda, beth sydd ddim a ble gallwch wella.

    Drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel hyn byddwch yn atal eich hun rhag ceisio bod â gormod o bresenoldeb. Dylech hefyd barhau ar darged a deall sut mae pethau’n datblygu.

    Y – Nid yw’n dechrau gydag ‘Y’ ond mae’n debyg o fod y peth pwysicaf

    Cyn i chi gynnwys neges, cyhoeddi neu rannu gwnewch y prawf ‘Dieithryn yn y Stryd’. Gofynnwch y cwestiwn syml ond pwysig hwn i’ch hun:

     A fyddwn yn cerdded i fyny at ddieithryn llwyr yn y stryd a dweud beth oeddwn ar fin ei gynnwys, cyhoeddi neu ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol? Os mai’r ateb yw ‘na’ neu ‘dw i ddim yn siŵr’, yna peidiwch a gwneud!