Canllawiau i ddefnyddio Instagram
Canllawiau rhagarweiniol yw’r rhain i gynghorwyr lleol ar sut i ddefnyddio Instagram. Mae’r canllawiau yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar sut i ddechrau defnyddio Instagram fel cynghorydd, y gwahanol ddewisiadau o ran cyhoeddi ar Instagram, defnyddio a dilyn #hashnodau, sut i ymgysylltu’n effeithiol gyda phreswylwyr, beth i’w gyhoeddi a sut i gadw eich hun yn saff a diogel wrth ddefnyddio’r platfform.
Amcanion
Cyflwyniad i Instagram
- Deall eich cynulleidfa ar Instagram
- A ddylech chi gyhoeddi neges yn awtomatig o Facebook i Instagram?
Deall Instagram
- Beth yw hashnodau a sut i’w defnyddio
- Dilyn hashnodau lleol
- Rheoli eich cyfrif Instagram
Dewisiadau ar gyfer cyhoeddi negeseuon ar Instagram
- Cyhoeddi eich ffrwd Instagram
- Ychwanegu hidlwyr i’ch lluniau
- Rhannu straeon Instagram
- Ychwanegu penawdau, is-benawdau, arolygon a chwestiynau i’ch straeon
- Rhannu riliau Instagram
- Blaenoriaethau ar gyfer cyhoeddi negeseuon ar Instagram

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr
Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Aros yn saff a diogel ar Instagram
- Sut i gyhoeddi negeseuon yn ddiogel ar Instagram
- Ymdrin â negyddoldeb a chamdriniaeth
- Hyder i atal a dileu dilynwyr
Trefnu eich hun ar Instagram
- Sut i drefnu cyhoeddi negeseuon ymlaen llaw
- Defnyddio mewnwelediadau Instagram i ddeall eich effaith
- Hysbysebu y talwyd amdano ar Instagram
Atal eich cyfrif Instagram
- Gwneud eich cyfrif Instagram yn breifat
Cyflwyniad i Instagram
Ym mis Rhagfyr 2021 roedd yna dros 28 miliwn o ddilynwyr Instagram yn y DU ac roedd traean ohonynt rhwng 25 a 34 oed. Gall y gynulleidfa hon fod yn un anodd i’w chyrraedd ac felly mae nifer o gynghorwyr yn ystyried sefydlu cyfrif Instagram. Cofiwch, fodd bynnag, fod hyd yn oed mwy o bobl yn defnyddio Facebook (gan gynnwys y rhan fwyaf o ddefnyddwyr Instagram) ac felly hwnnw fyddai’r dewis cyntaf i gynghorwyr ei ddefnyddio.
Mae Instagram yn blatfform cyfryngau cymdeithasol sy’n hynod o weledol gyda ffocws gwirioneddol ar luniau yn y ffrwd Instagram, ond hefyd mae’n ymwneud â rhannu ‘straeon Instagram’ (cymysgedd o luniau a fideos) a ‘Riliau’ (fideos byr) hefyd.
A ddylech chi gyhoeddi neges yn awtomatig o Facebook i Instagram?
Mae Facebook ac Instagram yn rhan o Meta, ac fe allwch eu cysylltu i draws gyhoeddi yn awtomatig. Fodd bynnag, nid ydym yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny – mae gan y platfformau wahanol arddulliau a chyd-destunau, ac mae’n well llunio cynnwys annibynnol ar gyfer pob un er mwyn cael yr effaith fwyaf.
Deall #hashnodau Instagram a sut i’w defnyddio
Fe all Instagram ymddangos fel platfform llawer symlach, ond nid yw hynny’n wir. Un elfen allweddol ar gyfer Instagram (sydd hefyd o fewn Facebook ond nid ydynt yn cael eu defnyddio mor dda yma) yw hashnodau – #. Pan rydych yn cyhoeddi ar ffrwd Instagram (neu mewn straeon neu riliau) yn ogystal â’ch disgrifiad fe ddylech ddefnyddio hashnodau i ddisgrifio perthnasedd y cynnwys.
Hashnodau fyddai’r rhain fel enw eich ward, enw eich tref, enw eich cyngor, enw digwyddiad neu bwnc – pethau y gall pobl chwilio amdanynt ar Instagram. Ond sicrhewch nad ydych yn defnyddio unrhyw fylchau nac atalnodau mewn #hashnod – ni fyddai’n chwiliadwy os ydych yn gwneud hynny. Fe allwch ddefnyddio sawl hashnod ar neges, ond efallai ei bod yn well peidio â mynd dros ben llestri gyda gormod.
Crëwch eich hashnodau syml eich hun ar gyfer digwyddiadau cymunedol. Ychwanegwch nhw at hysbysebion neu bosteri ar gyfer y digwyddiad, neu docynnau os yw’n ddigwyddiad sydd â thocynnau a gofynnwch i bobl eu defnyddio gyda lluniau maent yn eu tynnu a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol eu hunain. Mae’n ffordd wych i allu cael mwy o effaith ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich digwyddiadau, adnabod pobl newydd yn eich cymuned i gysylltu â nhw ar-lein a hefyd er mwyn gallu casglu mwy o luniau o’ch digwyddiadau. Os ydych eisiau defnyddio unrhyw rai fe ddylech gysylltu â’r unigolyn sydd wedi rhannu’r llun i ofyn iddynt ai nhw dynnodd y llun ac i ofyn am eu caniatâd i’w ddefnyddio.
Un awgrym gwych – yn hytrach nac ysgrifennu eich hashnodau bob tro, fe allwch gadw’r hashnodau rydych yn eu defnyddio’n aml mewn ap nodiadau a’u copïo a’u pastio i mewn pan fo’u hangen – fe all hyn arbed llawer o amser i chi.
Pam y dylech chi ddilyn #hashnodau lleol
Fe allwch hefyd ddilyn hashnodau yn union fel y byddech yn dilyn unigolyn ar Instagram. Er enghraifft fe allech ddilyn hashnod ar gyfer eich tref, pentref neu faestref. Fe allech ddilyn hashnod ar gyfer mater allweddol yn eich ardal y mae pobl yn cyhoeddi negeseuon yn ei gylch. Byddai straeon a gyhoeddwyd yn defnyddio’r hashnod hwnnw yn ymddangos yn eich ffrwd, yn union fel y byddent pe byddai rhywun yr ydych yn ei ddilyn wedi cyhoeddi stori. Fe all fod yn ffordd wych o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â beth sy’n digwydd yn eich cymuned leol.
Defnyddio hashnodau, chwilio am aelodau o’ch cymuned leol, sefydliadau a busnesau yn eich ardal leol i’w dilyn ar Instagram. Fe all dilyn eu negeseuon ac ymgysylltu gyda nhw fod yn ffordd wych o ddod i wybod beth sy’n digwydd yn yr ardal leol a chefnogi pobl. Nid yw mor hawdd i rannu negeseuon ar Instagram ag yw hi ar Facebook – ond mae’n hawdd i rannu drwy swyddogaeth straeon Instagram fodd bynnag.
Sut i reoli eich cyfrif Instagram
Instagram sydd fwyaf ymarferol o ran rheoli drwy ei ap ffôn symudol, nid trwy borwr gwe, yn wahanol i Facebook. Fe allwch agor Instagram ar borwr a chael mynediad i’ch ffrwd Instagram, ond ni allwch rannu lluniau na straeon yn iawn i’ch ffrwd eich hun drwyddo. Fe all hyn ei gwneud ychydig yn anoddach i rai ei ddefnyddio.
Mae Instagram yn blatfform cyfryngau cymdeithasol sy’n hynod o weledol gyda ffocws gwirioneddol ar luniau
Opsiynau ar gyfer postio ar Instagram
Cyhoeddi ar eich ffrwd Instagram
Mae yna sawl ffordd allweddol o rannu eich lluniau neu eich fideos ar Instagram. Mae’r cyntaf drwy rannu negeseuon ar eich ffrwd. Gall rhain fod yn lluniau neu fideos, a gallant fod yn lluniau unigol neu’n garwsél o nifer o luniau y gellid llithro trwyddynt pan fyddant yn cael eu rhannu. Fe allwch gyhoeddi lluniau neu fideos i’ch ffrwd gan gynnwys cymysgedd o’r ddau. Mae cyhoeddiadau fel hyn wedi eu cynllunio i fod ar gael yn barhaol ar Instagram, oni bai eich bod yn dileu eich neges (sy’n hawdd i’w wneud).
Ychwanegu hidlwyr i’ch lluniau
Mae Instagram yn cynnig amrediad o wahanol hidlwyr y gallwch eu hychwanegu at eich lluniau. Fodd bynnag, fe fyddem ni’n awgrymu eich bod yn cadw pethau’n syml. Fe allwch hefyd docio neu sythu eich llun. Pan fyddwch yn hapus fod eich lluniau neu eich fideo yn barod fe allwch hefyd ychwanegu pennawd a fyddai’n cynnwys eich hashnodau os ydych yn bwriadu eu defnyddio, tagio pobl yn eich lluniau ac ychwanegu lleoliadau. Pan rydych yn barod i gyhoeddi fe allwch ddefnyddio gosodiadau uwch i ddewis diffodd unrhyw sylwadau a hefyd os ydych eisiau cuddio’r nifer o bobl sydd wedi dangos eu bod yn hoffi’r neges neu guddio’r nifer sydd wedi gweld eich neges.
Rhannu straeon Instagram
Ail ddewis allweddol yw i rannu ‘straeon’ Instagram. Gellir cael mynediad i straeon Instagram a gaiff eu rhannu gan bobl eraill yr ydych yn eu dilyn drwy’r lluniau cylchol ar frig eich ap Instagram. Fe all y rhain fod yn lluniau neu fideo, ond maent wedi eu cynllunio i fod dros dro – oni bai fod yr unigolyn a gyhoeddodd y rhain yn eu harbed ar eu tudalen Instagram fel uchafbwynt (neu grŵp o uchafbwyntiau), fe fyddant yn diflannu ar ôl 24 awr.
Fe allwch arbed eich straeon Instagram i uchafbwynt yn hawdd iawn – pan rydych yn edrych yn ôl ar eich straeon, chwiliwch am y botwm arbed i uchafbwynt ar y gwaelod. Cliciwch arno ac fe gewch chi’r dewis i un ai arbed eich stori i bwnc uchafbwynt presennol neu ychwanegu un newydd. Dim ond 100 o straeon allwch chi eu cael mewn uchafbwynt ond nid oes cyfyngiad ar nifer yr uchafbwyntiau y gallwch eu cael.
Fe all straeon Instagram fod yn ffordd wych o ymgysylltu gyda’ch cynulleidfa a’r gymuned. Amcangyfrifir fod dros 85% o ddefnyddwyr Instagram yn cyhoeddi ac yn cael mynediad i straeon Instagram bob dydd. Mae straeon yn creu darlun mwy nag y gall neges, ac mae yna anogaeth i ymateb i straeon neu anfon neges at y rhai sy’n eu rhannu drwy’r ap. Fodd bynnag fe all y swyddogaeth hon gael ei dileu pe byddech yn ffafrio hynny.
Ychwanegu penawdau, is-benawdau, arolygon a chwestiynau i’ch straeon
Fe allwch ychwanegu penawdau, hashnodau, dolenni i wefannau neu leoliadau, gifiau – pob math o bethau i’ch straeon boed yn lluniau neu’n fideo. Mae gan Instagram ddewis lle bydd yn ychwanegu ei isdeitlau ei hun i fideos, gan ddal beth sy’n cael ei ddweud. Fe fyddem yn argymell eich bod yn gwneud hyn gan fod nifer o bobl yn gwylio straeon Instagram heb sŵn, ac fe allech golli effaith. Fodd bynnag, cadwch lygad am isdeitlau anghywir – weithiau maent yn anghywir.
Mae fideos ar gyfer Straeon yn 15 eiliad ar y mwyaf, er gallwch gyhoeddi sawl fideo.
Mae yna arolygon a chwestiynau y gallwch hefyd eu cynnwys mewn straeon, gan gynnig llu o gyfleoedd i ymgysylltu gyda phobl sy’n eich dilyn.
Rhannu ‘riliau’ Instagram
Yr elfen fwyaf newydd o Instagram yw Riliau. Fideos byr 15, 30 neu 60 eiliad yw riliau sy’n debyg i gynnwys TikTok. Gellir rhannu rhain fel neges ar eich ffrwd, ac yn yr achos hwn maent yn barhaol, neu fe allwch eu rhannu fel stori – a byddant yn diflannu ar ôl 24 awr. Fe allwch roi penawdau ar riliau yn union fel rydych yn ei wneud gyda negeseuon, a gallwch arbed fersiynau drafft (ni allwch wneud hyn gyda Straeon).
Mae riliau yn tueddu i fod yn gynnwys sy’n ymhelaethu mwy ac wedi ei gynllunio’n fwy na fideo y byddech o bosibl yn ei ddefnyddio ar Stori. Hefyd mae gennych fynediad i ddewisiadau sain a cherddoriaeth drwy Instagram i’w ddefnyddio ar Rîl.
Blaenoriaethau ar gyfer defnyddio Instagram
Fe fyddem yn awgrymu eich bod yn dod yn gyfforddus gyda Negeseuon a Straeon Instagram cyn eich bod yn symud ymlaen at Riliau, gan weld y math o gynnwys a gaiff ei rannu ar Riliau cyn eich bod yn llunio eich cynnwys eich hun.
Aros yn saff a diogel ar Instagram
Fel gyda holl blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol mae angen i chi aros yn ddiogel ar Instagram. Fe ddylech ddefnyddio cyfrineiriau diogel bob amser a dilysiad dau ffactor i atal hacio eich cyfrif.
Fe allwch hefyd greu mwy nag un proffil ar eich cyfrif (hyd at uchafswm o bump), felly fe allwch gael cyfrif personol yn ogystal ag un ar gyfer eich rôl cynghorydd os fyddai’n well gennych wneud hynny, gan gadw eich bywyd personol a’ch rôl gyhoeddus gyda’r cyngor ar wahân.
Sut i gyhoeddi negeseuon yn ddiogel ar Instagram
Fe allwch wneud eich cyfrif yn ddiogel, fodd bynnag fe fyddai hynny yn cyfyngu sut y gallwch ymgysylltu gyda’r cyhoedd yr ydych eisiau cyfathrebu gyda nhw. Ond mae yna gamau y gallwch eu cymryd i gadw eich hun yn ddiogel.
Ystyriwch p’run ai a ydych eisiau gwneud eich lleoliad yn gyhoeddus i eraill pan rydych yn defnyddio Instagram. Mae’n bosibl y byddwch yn penderfynu mai dim ond yn nes ymlaen neu ar ddyddiad diweddarach y byddwch yn cyhoeddi negeseuon gyda thag lleoliad, pan nad ydych yn y lleoliad hwnnw mwyach.
Meddyliwch beth sy’n weledol yn y lluniau rydych yn eu rhannu: a all pobl weld arwyddion stryd sy’n dangos lle rydych chi hyd yn oed heb dag lleoliad, neu’n dangos eich bod yn bell o’ch cartref fel y gallent feddwl bod eich cartref yn wag?
Byddwch yn sicr cyn cyhoeddi. Peidiwch ag anghofio hyd yn oed os ydych wedi cyhoeddi Straeon dros dro, fe all dilynwyr gymryd lluniau ohonynt ar y sgrîn.
Ymdrin â negyddoldeb a chamdriniaeth
Peidiwch â bod ofn atal neu roi gwybod am bobl: os ydych yn credu fod cyfrifon yn rhai ffug, ewch ati i’w hatal o’ch proffil. Os ydych yn cael sylwadau ymosodol neu nifer o sylwadau negyddol gan ddilynwyr yna fe allwch ddileu sylwadau ac atal y bobl hynny. Peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod i’r awdurdodau (gan gynnwys yr heddlu) os ydych wedi derbyn negeseuon neu sylwadau a fyddai’n cael eu dosbarthu fel trosedd casineb.
Trefnu eich negeseuon Instagram
Yn debyg i blatfformau eraill y cyfryngau cymdeithasol fe allwch hefyd ddefnyddio adnodd trefnu y telir amdano fel Hootsuite neu Buffer i drefnu eich negeseuon a’ch straeon Instagram a’u cynllunio ymlaen llaw. Fe all hyn fod yn ddefnyddiol iawn os ydych eisiau sicrhau fod yna gynnwys yn cael ei gyhoeddi’n rheolaidd a’ch bod wedi creu eich strategaeth ac yn gwybod ymlaen llaw beth rydych eisiau ei gyhoeddi. Fe allwch hefyd gael mynediad i negeseuon a dadansoddeg drwyddynt.
Defnyddio mewnwelediadau Instagram i ddeall eich effaith
Os oes gennych gyfrif busnes neu grëwr rydych hefyd yn gallu cael mynediad i fewnwelediadau i’ch cyfrif Instagram (er dim ond drwy’r ap ffôn symudol) gan ddeall pwy rydych yn eu cyrraedd yn eich cynulleidfa, pa rai o’ch negeseuon sydd fwyaf poblogaidd a thueddiadau cyffredinol.
Hysbysebu y talwyd amdano ar Instagram
Mae hysbysebion a hyrwyddo y talwyd amdanynt hefyd yn bosibl ar Instagram, er bydd angen cyfrif busnes arnoch i ddefnyddio’r rhain. Gyda chyfrif busnes fe fyddech hefyd yn gweld y cyrhaeddiad gwahanol rhwng cynnwys y talwyd amdano neu a hybwyd, pe byddech yn dewis talu i hybu rhai negeseuon.
Atal eich cyfrif Instagram
Fe allwch atal eich cyfrif Instagram, ond mae angen i chi wneud hynny drwy fynd i’ch cyfrif o gyfrifiadur, nid o’r ap ffôn symudol. Nid oes yna unrhyw gyfyngiad amser o ran am ba hyd y gallwch ei gadw wedi ei atal – ni fydd eich cyfrif yn cael ei ddileu oni bai eich bod yn penderfynu gwneud hynny.
Gwneud eich cyfrif Instagram yn breifat
Dewis arall yw i osod eich cyfrif yn un preifat yn hytrach na’i atal. Pan fyddwch yn gwneud hynny dim ond dilynwyr yr ydych yn eu cymeradwyo a fydd yn gallu gweld beth rydych yn ei rannu ac yn ei gyhoeddi arno. Pan fo eich cyfrif yn breifat, mae’n rhaid i bobl wneud cais i’ch dilyn, ac fe allwch ddewis peidio â’u derbyn. Os oedd pobl eisoes yn eich dilyn cyn i chi wneud eich cyfrif yn breifat ac nad ydych eisiau iddynt eich dilyn mwyach, yna fe fyddai angen i chi eu hatal.