Canllawiau ar greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol hygyrch
Canllaw rhagarweiniol byr yw hwn i hygyrchedd cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cynghorwyr lleol.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor nad yw’n benodol i unrhyw blatfform. Ar gyfer materion sy’n ymwneud â phlatfformau penodol, bydd angen i chi ddarllen y canllawiau am y platfform hwnnw. Er enghraifft, i gael gwybod sut mae capsiynau caeedig yn gweithio ar YouTube, bydd angen i chi ddarllen ei ganllawiau.
Amcanion
- Darparu cyflwyniad byr i hygyrchedd y we
- Camau y gallwch eu cymryd i wneud eich cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn fwy hygyrch

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr
Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Cyflwyniad byr i hygyrchedd y we
Beth yw hygyrchedd y we?
Mae Cynllun Hygyrchedd y We W3C (W3c WAI) wedi diffinio hygyrchedd y we fel a ganlyn:
“Mae hygyrchedd y we yn golygu bod gwefannau, offer a thechnolegau’n cael eu dylunio a’u datblygu er mwyn i bobl ag anableddau allu eu defnyddio.”[1]
Yn syml, mae hygyrchedd y we yn golygu cael gwared ar rwystrau. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar yr hyn sydd ar y we a chyfrannu ato.
Defnyddir rhesymeg debyg gan gyngor sy’n gosod cyrbau gostyngedig. Mae’n gwneud hynny i sicrhau bod pob cerddwr yn gallu cael mynediad at groesfan. Mae hygyrchedd y we yn gweithio mewn ffordd debyg. Mae’n ceisio sicrhau mynediad cyfartal i’r we.
Dylunio cynhwysol
Mae dylunio cynhwysol yn gysyniad defnyddiol arall i’w ystyried. Mae’n ymwneud yn bennaf â chynllunio profiad defnyddwyr ar gyfer gwefannau, apiau a chynnyrch eraill. Y nod yw sicrhau’r profiad gorau i’r nifer fwyaf o bobl.
Mae dylunio cynhwysol yn cydnabod bod amrywiaeth yn bodoli. Y dylai ystod o opsiynau ar gyfer rhyngweithio fodoli. Mae hyn yn groes i dybio bod pawb yr un fath neu y dylid adeiladu popeth o gwmpas ‘defnyddiwr cyffredin’.
[1] W3C WAI. Cyflwyniad i Hygyrchedd y We. 24 Mawrth 2022. https://www.w3.org/WAI/fundamentals/accessibility-intro
Mae hygyrchedd y we yn golygu cael gwared ar rwystrau. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar yr hyn sydd ar y we a chyfrannu ato.
Pam mae hygyrchedd y we yn bwysig?
Amcangyfrifir bod 14.1 miliwn o bobl anabl yn y DU.[1] Yn anffodus, nid yw llawer iawn o gynnwys ar y we yn hygyrch. Mae hyn yn golygu y gall llawer o bobl ei chael yn anodd cael gafael ar wybodaeth sylfaenol hyd yn oed.
Wrth wneud cynnwys yn hygyrch, rydym yn sicrhau bod miliynau o ddinasyddion y DU yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau.
Cyn i ni fynd ymhellach, mae’n werth nodi bod pawb o bosibl yn elwa o wefan fwy hygyrch. Er enghraifft:
- Mae capsiynau caeedig fideo yn helpu’r rheini sy’n fyddar. Maen nhw hefyd yn golygu os nad yw rhywun yn gallu cael y sŵn ymlaen, maen nhw’n dal i allu dilyn yr hyn sy’n cael ei ddweud.
- Bydd testun sydd wedi’i ysgrifennu mewn iaith syml yn helpu’r rheini sydd â dyslecsia. Mae hefyd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd mwy o bobl yn gyffredinol yn deall yr hyn rydych yn ei ysgrifennu.
Mae hygyrchedd y we yn ymwneud yn benodol â chael gwared ar rwystrau i bobl abl, ond gall fod o fudd i lawer mwy o bobl yn y boblogaeth.
Llywodraeth leol a hygyrchedd y we
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwybodaeth am hygyrchedd y we wedi dod yn fwy cyffredin mewn llywodraeth leol. Mae hyn yn bennaf oherwydd Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Roedd Rheoliadau 2018 yn adeiladu ar ddyletswyddau presennol cyrff y sector cyhoeddus a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (neu Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 ar gyfer Gogledd Iwerddon). Maent yn nodi gofyniad i gyrff yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, gael gwefannau ac apiau hygyrch.[2]
Nid yw Rheoliadau 2018 yn gymwys i gyfryngau cymdeithasol cynghorwyr unigol. Fodd bynnag, mae Cod Ymddygiad enghreifftiol y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn gwahodd cynghorwyr i gytuno:
“Yn unol â’r ymddiriedaeth gyhoeddus a roddwyd i mi, ar bob achlysur … rwy’n trin pob person yn deg a chyda pharch [a] … Nid wyf yn ceisio rhoi mantais nac anfantais i unrhyw berson yn amhriodol”.[3]
Hybu a defnyddio iaith gynhwysol
Gall defnyddio iaith gynhwysol hefyd helpu i chwalu rhwystrau. Er nad yw’n dechnegol yn rhan o hygyrchedd y we, mae’n ceisio trin pawb â pharch ac urddas. Mae’n ymwneud â sicrhau nad oes neb yn teimlo ei fod wedi’i eithrio.
- Ystyried pethau o safbwynt pobl eraill
- Osgoi defnyddio iaith ablaidd
- Cadw at dermau a rhagenwau sy’n niwtral o ran rhywedd
- Ystyried sut gallech chi rannu amrywiaeth o leisiau
Beth all cynghorwyr ei wneud i gefnogi hygyrchedd y we?
Mae tri cham syml y gallai pob cynghorydd eu cymryd heddiw:
- Dysgu mwy am hygyrchedd y we;
- Hyrwyddo amrywiaeth a hygyrchedd ar y we yn eich cyngor, ac;
- Ystyried sut gallwch chi wella hygyrchedd eich cynnwys digidol. Mae eich cyfryngau cymdeithasol yn lle da i ddechrau.
Gwneud cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn fwy hygyrch
Mae platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn gweithio i wella hygyrchedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhan fwyaf nawr yn darparu offer, canllawiau neu nodweddion i helpu pobl i greu postiadau a chynnwys mwy hygyrch.
Mae gan bob platfform agwedd ychydig yn wahanol at hygyrchedd. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod pob un yn darparu gwasanaeth gwahanol. Er enghraifft, mae Twitter yn seiliedig ar destun yn bennaf o hyd. Mae YouTube yn fideo yn gyfan gwbl. Mae Facebook ac Instagram yn gymysgedd o gynnwys testun, delweddau a fideos.
Fodd bynnag, ceir rhai camau syml ac egwyddorion sylfaenol sy’n berthnasol yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd.
Cymraeg/Saesneg Clir
Y cam cyntaf, a gellid dadlau y cam pwysicaf, tuag at hygyrchedd yw ysgrifennu mewn Cymraeg/Saesneg clir.
Mae’n ffodus bod y cyfryngau cymdeithasol yn naturiol yn ffafrio brawddegau byr a llai o eiriau. Mae hyn yn cynyddu’r siawns y bydd negeseuon a chynnwys mewn iaith syml. Mae hynny yn ei dro yn helpu i wella dealltwriaeth.
Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) yn cynghori’r rheini sy’n ysgrifennu ar gyfer prif wefan GOV.UK i anelu at oedran darllen o naw oed.[4] Efallai y byddwch am gadw hyn mewn cof wrth ysgrifennu postiadau neu greu cynnwys.
- Defnyddiwch frawddegau a pharagraffau byr
- Peidiwch ag ysgrifennu blociau mawr o destun
- Rhowch strwythur synhwyrol i bost neu gynnwys sy’n hawdd ei ddilyn
- Rhowch neges neu alwad i weithredu sy’n syml a chlir
- Osgoi termau technegol, jargon llywodraeth leol ac iaith gymhleth
- Ceisiwch osgoi defnyddio byrfoddau ac acronymau
- Peidiwch â defnyddio symbolau yn lle geiriau. Er enghraifft, defnyddio ‘=’ yn hytrach na ‘hafal’
- Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio prif lythrennau. Gall wneud testun yn anoddach i’w ddarllen a bod yn agored i’w ddehongli. Er enghraifft, beth yw ystyr ‘DWY I’N MEDDWL Y DYLECH CHI FOD AR EICH GWYLIADWRAETH’. Ydy’r awdur yn gweiddi bygythiad neu’n ceisio tynnu sylw at wybodaeth bwysig neu roi rhybudd cyfeillgar?
Ffontiau
O ran cyfryngau cymdeithasol, does dim llawer o ddewis o ran ffontiau a maint y ffont. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gellir cael rhywfaint o ddewis. Er enghraifft, mae’n debygol y bydd gennych rywfaint o ddewis wrth greu cynnwys fel delwedd ar gyfer post.
Defnyddiwch ffontiau mawr a chlir lle bynnag y bo modd
- Defnyddio ffont priodol
- Defnyddio maint ffont priodol nad yw’n rhy fach
- Cadw’r testun ar y chwith wedi’i alinio (peidiwch ag unioni)
- Ceisiwch beidio â defnyddio testun trwm, tanlinellu nac italig
- Gwnewch yn siŵr bod cyferbyniad da rhwng y testun a lliw’r cefndir. Er enghraifft, mae’n haws darllen testun du ar gefndir gwyn na thestun gwyrdd ar gefndir coch.
Emojis
Mae emojis yn ddelweddau bach sy’n aml yn cael eu hychwanegu at destun digidol. Prif bwrpas emoji yw cyfleu ystyr, emosiwn fel arfer ond ddim bob amser. Er enghraifft, mae’r emoji hwn yn aml yn golygu bod rhywun yn ‘cytuno’.
Mae emojis yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn helpu i gyfleu ystyr yn gryno. Bydd rhai awduron yn eu defnyddio i leihau faint o destun sydd ei angen i gyfleu ystyr.
Yn anffodus, un o anfanteision emojis yw eu bod weithiau’n agored i gael eu dehongli. Bydd angen i’r darllenydd ‘ddyfalu’ pa neges y mae’r awdur yn ceisio ei chyfleu. Er enghraifft, gallai’r emoji hwn mewn rhai amgylchiadau olygu bron unrhyw beth o ‘Rwy’n cytuno’ i ‘neges wedi ei derbyn’.
Gall darllenwyr sgrin ‘ddarllen’ emojis. Mae hyn wrth gwrs yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â darllenydd sgrin. Fodd bynnag, cyn defnyddio emoji, gall fod yn ddefnyddiol gwybod sut yn union y bydd yn cael ei ‘ddarllen’. Er enghraifft, bydd yr emoji hwn, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer ‘coegni’, yn cael ei ddarllen fel ‘person desg wybodaeth’.
- Peidiwch â defnyddio emojis yn unig i gyfleu ystyr. Er enghraifft,
- Ceisiwch osgoi defnyddio emojis yng nghorff brawddeg. Er enghraifft, ‘Roeddwn i wir yn hoffi’r pwdin a gawson ni neithiwr’
- Peidiwch â gorddefnyddio emojis. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai tri fod yn ddigonol
- Peidiwch â defnyddio’r un emoji dro ar ôl tro yn yr un post
Hashnodau
Mae hashnod yn dag sydd â’r symbol hash ‘#’ o’i flaen. Maent yn cael eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol i ganiatáu i ddefnyddwyr dagio a chroesgyfeirio cynnwys yn hawdd. Yn syml, mae’n ei gwneud yn hawdd rhannu a dod o hyd i bethau.
- Peidiwch â gorddefnyddio hashnodau. Mae’r GDS yn argymell dau
- Rhowch yr hashnodau ar ddiwedd y post
- Ceisiwch ddefnyddio priflythrennau ar ddechrau pob gair. Bydd hyn yn helpu darllenwyr sgrin. Er enghraifft: #CymdeithasLlywodraethLeol
Dolenni
Bydd y rhan fwyaf o blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i ddefnyddwyr ychwanegu dolenni. Mae dolenni i dudalennau gwefan yn aml yn las ac wedi’u tanlinellu. Mae dolenni’n caniatáu i ddefnyddwyr gael mwy o wybodaeth neu gwblhau galwad i weithredu. Er enghraifft, cael gafael ar wybodaeth am newidiadau i gasgliadau biniau neu lenwi arolwg.
- Peidiwch â gorwneud y nifer o ddolenni. Ceisiwch ei gadw i un ddolen ar gyfer pob post
- Ceisiwch osgoi defnyddio dolenni wedi’i byrhau. Gall hyn helpu defnyddwyr darllenydd sgrin. Mae dolenni hir hefyd yn gwneud mwy o synnwyr ac mae gan bobl fwy o syniad o ble mae’r cysylltiad yn arwain iddo
- Nodwch yn glir ac yn gryno at beth mae’r ddolen yn arwain ato. Er enghraifft, peidiwch ag ysgrifennu ‘cliciwch yma’ yn unig. Yn lle hynny, gallech ddefnyddio testun dolen fel ‘Canllawiau pellach am hygyrchedd’
Delweddau a fideos
Mae delweddau a fideos yn bwysig iawn. I rywun sy’n creu, gallant wneud pyst yn amlwg ymysg nifer. Bydd llawer o algorithmau cyfryngau cymdeithasol yn ffafrio negeseuon gyda lluniau a fideos. Mae hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn eu gweld.
Ar gyfer defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol, maen nhw yr un mor bwysig. Mae llawer o bobl yn credu bod delweddau a fideos yn ddiddorol neu’n ddifyr. Gallant hefyd ddarparu rhagor o wybodaeth. Helpu i egluro gwybodaeth gymhleth mewn ffordd gryno a chlir.
Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i wneud delweddau a fideos yn fwy hygyrch.
Testun amgen (‘alt text’)
Ychwanegu testun amgen at ddelweddau, fideos a GIFs. Mae testun amgen yn ddisgrifiad ysgrifenedig byr. Mae hyn yn helpu rhywun i wneud synnwyr o ddelwedd na allan nhw ei gweld. Er enghraifft, person â nam ar ei olwg sy’n defnyddio darllenydd sgrin.
Mae hefyd yn werth nodi y gall testun amgen helpu gydag optimeiddio peiriannau chwilio. Dylai hyn olygu bod pawb yn eich cymuned yn gallu dod o hyd i’ch cynnwys yn haws.
- Defnyddiwch destun amgen clir a chryno
- Ceisiwch gyfleu ystyr y cynnwys yn llawn. Er enghraifft, peidiwch â defnyddio ‘Siart Pei’. Yn lle hynny, gallech gael rhywbeth fel ‘Siart Pei yn dangos bod 80% o’r gwariant y llynedd ar gyflenwadau swyddfa ac 20% ar weinyddu’
- Does dim angen defnyddio ‘Delwedd o’ neu ‘Fideo o’ ar ddechrau eich testun amgen
- Peidiwch â dibynnu ar destun amgen a gynhyrchir yn awtomatig. Gall wneud camgymeriadau neu efallai na fydd yn gallu dehongli eich delweddau. Mae testun amgen rydych chi’n ei ysgrifennu yn debygol o roi disgrifiad gwell a mwy cywir
Delweddau
- Rhowch wybodaeth bwysig o’r ddelwedd yn y testun neu’r disgrifiad o’r post. Er enghraifft, os oes gan y ddelwedd fanylion digwyddiad, gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth yn y neges destun hefyd
- Peidiwch â defnyddio llun yn unig i gyfleu ystyr.
- Ystyriwch faterion megis cyferbyniad lliw os oes testun ar y ddelwedd
- Peidiwch â defnyddio llun neu sgan o ddogfen yn unig. Nid yn unig mae hynny’n anhygyrch, ond bydd hefyd yn fach iawn ar sgrin ffôn clyfar
Fideos
Dylech ychwanegu capsiynau caeedig (a elwir yn aml yn is-deitlau) at eich cynnwys fideo. Mae dau fath o gapsiwn:
- Gellir diffodd a galluogi Capsiynau Caeedig gan y gwyliwr. Mae Capsiynau Caeedig yn ddefnyddiol i rai pobl a allai deimlo bod capsiynau’n tynnu eu sylw
- Capsiynau Agored sydd wedi eu ‘llosgi’ ar y fideo ac a ddangosir bob amser. Mewn geiriau eraill, nid oes gan y gwyliwr y gallu i’w diffodd na’u rhoi ymlaen
Mae rhai platfformau cyfryngau cymdeithasol a meddalwedd golygu fideo yn darparu capsiynau awtomatig. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio’r rhain gan eu bod yn gallu gwneud camgymeriadau sylfaenol. Er enghraifft, camgymryd ‘Mayor’ am ‘mare’ neu gerddoriaeth ar gyfer rhywun sy’n siarad. Dylech wirio’r capsiynau a gynhyrchir yn awtomatig cyn postio eich cynnwys fideo.
Yn ogystal â chapsiynau caeedig, byddech fel arfer yn ychwanegu trawsgrifiad. Fodd bynnag, yn aml nid yw’n bosibl ychwanegu trawsgrifiad ar gyfryngau cymdeithasol. Fel dewis arall, gallech ychwanegu trawsgrifiad yn yr edefyn neu sicrhau ei fod ar gael ar dudalen gwefan.
- Testun disgrifiadol ychwanegol i fideos
- Gwnewch yn siŵr bod y siaradwr yn glir
- Peidiwch ag ychwanegu elfennau sy’n fflachio
- Dylid osgoi cerddoriaeth a thraciau cefndir uchel
- Os yw fideo yn cynnwys testun yn unig a dim sain, dylech roi ‘trawsgrifiad’ yn yr edefyn yn rhywle neu ar dudalen gwefan
Defnyddio lliw
Mae’n debyg mai dyma un o’r materion sy’n cyffwrdd y rhan fwyaf o bobl.
Mae rhai camgymeriadau’n digwydd oherwydd bod pobl yn dylunio cynnwys ar liniaduron neu gyfrifiaduron desg. Pan fyddwch yn chwyddo ar sgrin fawr, mae popeth yn edrych yn wych. Dim ond pan fydd rhywun yn defnyddio sgrin ffôn clyfar fach y daw’r broblem yn glir.
Mae problem arall yn codi pan fydd testun yn cael ei roi ar ddelwedd. Y rheswm am hyn yw bod testun yn gallu bod yn anodd ei ddarllen ar ddelweddau. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, ystyriwch ddefnyddio cefndir solid neu flwch didraidd y tu ôl i’r testun.
Mae mater arall yn codi pan fydd pobl eisiau defnyddio brand sefydliad. Dydy rhai lliwiau brand hirsefydlog ddim bob amser yn gweithio’n dda mewn amgylchedd digidol. Fel lliwiau cefndir, dydyn nhw ddim yn cyferbynnu digon â’r testun yn y blaendir.
Gall testun y blaendir a chymarebau cyferbynnedd lliw cefndir fod yn gymhleth. Y ffordd hawsaf o feddwl amdano yw po leiaf fydd y testun, y mwyaf y bydd angen i’r cyferbyniad lliw fod.
- Defnyddiwch gyferbyniad da rhwng y cefndir a’r testun
- Peidiwch â dibynnu ar liw i gyfleu ystyr. Er enghraifft, dydy rhai pobl ddim yn gallu gweld y lliw gwyrdd ac ni fyddan nhw’n sylweddoli eich bod chi’n awgrymu ‘Go’ iddynt
Rhowch fanylion cyswllt
Ceisiwch ddarparu manylion cyswllt er mwyn i bobl allu cysylltu â chi. Mae hyn yn beth pwysig i unrhyw gynghorydd ei wneud yn gyffredinol. O ran hygyrchedd, mae’n bwysig bod pobl yn gallu rhoi adborth i chi a gofyn am fwy o wybodaeth.
[1] GDS. Beth rydym wedi’i ganfod wrth fonitro hygyrchedd y sector cyhoeddus. 24 Mawrth 2022. https://accessibility.blog.gov.uk/2021/12/20/what-weve-found-from-monitoring-public-sector-accessibility/
[2]Yn benodol, dylent fodloni safonau Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 AA fel y nodir gan W3C WIA.
[3] LGA. Cymdeithas Llywodraeth Leol, Cod Ymddygiad Cynghorwyd 2020. 24 Mawrth 2022. https://www.local.gov.uk/publications/local-government-association-model-councillor-code-conduct-2020
[4] GDS. Dylunio cynnwys: cynllunio, ysgrifennu a rheoli cynnwys. 24 Mawrth 2022. https://www.gov.uk/guidance/content-design/ writing-for-gov.uk