Canllaw i fynd i’r afael â chamdriniaeth ar-lein
Bydd y canllaw hwn yn archwilio problem gynyddol camdriniaeth ac ymosodiadau ar-lein. Mae llawer o gynghorwyr yn profi’r math hwn o negyddoldeb ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’n bwysig gwybod sut i’w adnabod a delio’n effeithiol ag ef.
Amcanion
- Amlinellu pa fathau o ymddygiad camdriniol y dylid gwylio amdano ar gyfryngau cymdeithasol
- Defnyddio iaith a thôn gadarnhaol i lywio ymgysylltiad
- Rhoi technegau i gynghorwyr ddelio ag ymddygiad o’r fath
- Deall pryd mae’n amser ‘cymryd seibiant’ neu adael cyfryngau cymdeithasol yn gyfan gwbl

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr
Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Cyflwyniad byr
Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnig nifer o gyfleoedd i gynghorwyr ymgysylltu’n adeiladol â’u cymunedau. Mae’n brofiad cadarnhaol y rhan fwyaf o’r amser. Mae cyfryngau cymdeithasol yn helpu i lunio proffil, egluro materion cymhleth mewn Cymraeg clir neu Saesneg clir a datblygu sgwrs ddwyffordd.
Yn anffodus, mewn nifer fach o achosion, gall cynghorwyr brofi camdriniaeth ar-lein. Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn rhywle lle mae unigolion yn troi at ymddygiad camdriniol fel iaith ymosodol, bygythiadau, trolio a bwlio.
Mathau o ymddygiad camdriniol y dylid gwylio amdano ar gyfryngau cymdeithasol
Troliau
Yn anffodus, mae camdriniaeth ar-lein yn broblem ar bob platfform cyfryngau cymdeithasol. Weithiau bydd yn digwydd ar hap neu am gyfnod byr. Droeon eraill, gall fod yn fwy parhaus ac wedi’i arwain gan ddefnyddwyr a ddisgrifir fel ‘troliau’ yn aml.
Trôl yw rhywun sy’n rhannu negeseuon dim ond er mwyn cael ymateb emosiynol neu i drin canfyddiadau pobl eraill. Gall y negeseuon fod yn ymosodol, amherthnasol, tanbaid, bwriadol anghywir neu annidwyll. Yn aml bydd troliau’n gwneud hyn er eu difyrrwch eu hunain neu er mwyn cyrraedd eu nod fel amharu ar broses ddemocrataidd.
Yn rhy aml, bydd troliau’n rhannu pethau heb feddwl, heb resymeg amlwg neu heb reswm da. Mae’n bwysig cofio nad yw troliau’n aml yn credu’r hyn maen nhw eu hunain yn ei rannu.
‘Pam na fedran nhw…?!’
Mae llawer o faterion mae cynghorau’n delio â nhw yn gymhleth. O’r tu mewn i’r cyngor, mae hyn yn glir. O’r tu allan, gall edrych fel nad oes unrhyw beth yn digwydd. Weithiau, gall fod yn anodd egluro mewn Saesneg neu Gymraeg clir pam na fydd ateb syml yn gweithio.
Bydd gan rai pobl yn y gymuned eu datrysiad ‘syml’ neu ‘synnwyr cyffredin’ eu hunain i broblem. Gall hyn arwain at bobl yn rhoi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol i ofyn ‘Pam na fedran nhw…?!’
Yn aml, bydd preswylwyr yn meddwl bod cynghorwyr a chynghorau yn eu hanwybyddu nhw pan na chaiff eu datrysiad syml ystyriaeth neu pan na chaiff ei weithredu. Mae’r broblem wedi’i dwysáu gan y ffaith fod y cyfryngau lleol yn edrych ar rai negeseuon ‘Pam na fedran nhw…?!’
Gall problemau hefyd godi pan ofynnir i bobl am fanylion am sut fyddai’r ‘datrysiad syml’ yn gweithio. Gall darparu gwybodaeth sy’n dangos na fydd ‘datrysiad syml’ yn gweithio achosi i rai pobl fod yn ymosodol, anhrefnus ac amddiffynnol.
Herio a chraffu dilys
Mae herio a chraffu yn rhan allweddol o’n democratiaeth a’r broses gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, gall ein helpu i weld lle gallai penderfyniad fod yn cael effaith anfwriadol neu negyddol. Mae’r adborth hwn yn hanfodol.
Dylai herio a chraffu fod yn adeiladol. Ni ddylai arwain at iaith ymosodol ac ymddygiad camdriniol. Mae llinell bwysig na ddylid ei chroesi rhwng her ddilys a chamdriniaeth ar-lein.
Ni ddylai cynghorwyr geisio atal trafodaeth na barn. Fodd bynnag, ni ddylid eu rhoi mewn sefyllfa lle maen nhw’n wynebu iaith ymosodol ac ymddygiad camdriniol.
Mae llinell bwysig na ddylid ei chroesi rhwng her ddilys a chamdriniaeth ar-lein.
Gwleidyddiaeth
Mae gwleidyddiaeth yn debyg i herio a chraffu. Mae gan wleidyddiaeth rôl bwysig i’w chwarae mewn trafodaethau ac mae’n amlwg ei bod yn ffurfio rhan bwysig o’r broses ddemocrataidd.
Ni ddylai cynghorwyr geisio tawelu barn wleidyddol pobl eraill. Fodd bynnag, nid yw trafodaeth wleidyddol yn rhoi trwydded i bobl ar-lein gam-drin swyddogion etholedig. Unwaith eto, mae llinell glir rhwng trafodaeth iach a chamdriniaeth ar-lein.
Ymgyrchoedd pardduo
Ymgyrch bardduo yw ymgais fwriadol i effeithio’n negyddol ar safle unigolyn neu niweidio eu henw da. Caiff pardduo ei wneud fel arfer trwy rannu gwybodaeth ffug a thactegau dwyn anfri. Gallant fod yn sylwadau ‘untro’. Yn anffodus, gall rhai achosion fod yn barhaus ac wedi’u trefnu.
Ymgyrchoedd pardduo yw un o’r ffurfiau mwyaf anodd o gamdriniaeth ar-lein i ddelio â nhw weithiau. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen cael cyngor cyfreithiol neu gysylltu â’r Heddlu. Cofiwch gadw cofnod o’r gamdriniaeth a rhowch wybod i’r platfform cyfryngau cymdeithasol a’r awdurdodau am y broblem fel bo’n briodol.
Bwlio ac aflonyddu
Yn anffodus, mae bwlio ac aflonyddu ar-lein wedi dod yn fwy cyffredin mewn blynyddoedd diweddar. Er ei fod yn aml yn ymddangos yn y wasg o ran plant yn eu harddegau a phobl ifanc, mae’n rhywbeth sy’n gallu effeithio ar unrhyw un.
Bwlio ac aflonyddu ar-lein yw pan fydd rhywun yn bwlio neu’n aflonyddu ar rhywun arall ar-lein. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o fathau o ymddygiad fel bygythiadau, sylwadau rhywiol ac iaith casineb. Mewn rhai sefyllfaoedd, gall ffurfio patrwm parhaus o ymddygiad.
Defnyddio iaith a thôn gadarnhaol i lywio ymgysylltiad
Eich ‘tôn’ ddigidol
Mae tôn eich llais mor bwysig ar gyfryngau cymdeithasol ag mewn sgwrs wyneb i wyneb. Ar gyfryngau cymdeithasol, gyda’i leisiau blin, gallwch ddefnyddio tôn eich llais i lywio ymgysylltiad. I greu amgylchedd mwy cadarnhaol ac adeiladol. Arhoswch yn ddigyffro a chadarnhaol i helpu i dawelu’r sefyllfa a llywio’r sgwrs i gyfeiriad cadarnhaol.
Defnyddio iaith i lywio’r sgwrs
Mae’r iaith mae cynghorwyr yn ei defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer adeiladu ar dôn ein llais. Pan fydd rhywun yn ymosod arnoch, gall fod yn anodd osgoi defnyddio iaith ymosodol eich hun.
Hyd yn oed pan fo’n debyg i chi mai dyma’r unig opsiwn – nid yw defnyddio iaith ymosodol fyth yn gwella’r sefyllfa.
Dylai cynghorwyr bob amser geisio defnyddio iaith gadarnhaol a chynhwysol. Mae hyn yn helpu i reoli natur y rhyngweithio a chadw pethau mor adeiladol ag sy’n bosibl.
Yn aml, mae iaith y cyfryngau cymdeithasol yn ‘sgwrsiol’ ac mae’n bwysig sicrhau bod yr iaith rydych chi’n ei defnyddio mor hygyrch ag sy’n bosibl. Dylech osgoi defnyddio acronymau ac ‘iaith y cyngor’. Mae’n arfer cyffredin i gynghorwyr ddefnyddio acronymau ar gyfer eu cyngor neu bwyllgor eu hunain (er enghraifft GAA yn hytrach na Phwyllgor Gwerth am Arian). Ni fydd llawer o bobl yn y gymuned yn deall beth yw ystyr acronymau o’r fath.
Byddwch yn garedig!
Mae pobl yn gyffredinol yn fwy rhesymol os cânt eu trin â charedigrwydd a thrugaredd. Mae’n bwysig bod y bobl sy’n gwylio’r drafodaeth yn gweld eich bod yn cyflwyno eich dadl mewn modd digyffro, amyneddgar a phroffesiynol.
Canfod tir cyffredin
Ceisiwch ganfod tir cyffredin sy’n caniatáu i chi dawelu’r drafodaeth a dangos i’r rhai sydd yn y drafodaeth eich bod yn rhannu blaenoriaethau tebyg neu’n dod o’r un cefndir â nhw.
Fel arfer, bydd cynghorwyr yn byw yn y gymuned maen nhw’n ei chynrychioli, felly gall hynny fod yn lle gwych i ddechrau diarfogi’r rhai sy’n bod yn ymosodol trwy gyflwyno achos cyffredin am eich cymuned.
Gofyn i bobl ‘sut’ yn hytrach na ‘pham’
Mae gofyn i bobl ‘sut’ yn hytrach na ‘pham’ yn ffordd dda o weithio trwy sut fyddai pethau’n gweithio’n ymarferol. Mae siarad am sut byddai hyn yn gweithio, yn hytrach na meddwl am pam mae’n syniad da (neu beidio) yn helpu i ymgysylltu pobl yn adeiladol a gall ddangos y cymhlethdod a’r diffygion sy’n golygu bod eu hawgrym sy’n swnio’n syml, yn anodd mewn gwirionedd. Mae hyn yn eu gorfodi i ailasesu ac mae’n annog agwedd mwy cymedrol.
Technegau i drin camdriniaeth ar-lein
Ymgysylltu ag amrywiaeth o farn
Mae cynyddu nifer eich dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol yn golygu ei bod yn anoddach i nifer fach o leisiau blin gymryd drosodd. Mae’n rhoi cyfle i chi fel cynghorydd glywed gan amrywiaeth ehangach o bobl o bob cwr o’ch cymuned hefyd, ac ymgysylltu â nhw.
Mae hefyd yn sicrhau y bydd modd i fwy o bobl weld a rhannu’r dadleuon rydych chi’n eu cyflwyno i ymateb i ymosodiadau. Bydd hyn yn adeiladu ar dôn eich llais ymhellach a thrin pobl â pharch hyd yn oed os nad ydynt yn dangos yr un cwrteisi i chi, oherwydd bydd cynulleidfa fwy yn gweld y ffordd y bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal.
Bod â naratif cyson
Mae rhannu stori gyson i lenwi bylchau o ran gwybodaeth pobl yn helpu i chwalu damcaniaethau cynllwyn a sïon di-sail trwy gyflwyno naratif clir a chredadwy.
Dwysáu mater
Mewn rhai sefyllfaoedd, gallwch ddwysáu mater. Os bydd cwyn am wasanaeth y cyngor, gall fod yn gam gweithredu dilys i drosglwyddo’r mater i swyddog y cyngor. Yn dibynnu sut cafodd y gŵyn ei gwneud, mae’n bosibl y bydd angen i chi ystyried materion diogelu data. Weithiau, gall dilyn y camau hyn a gallu dangos bod camau’n cael eu cymryd helpu i dawelu’r sefyllfa.
Y gynulleidfa ehangach – pwy sy’n gwylio?
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai byddwch chi’n teimlo bod angen ateb. Er mwyn rhannu’r gwirionedd neu er mwyn cywiro gwybodaeth anghywir. Cyn ateb, mae’n bwysig eich bod yn ystyried y tebygolrwydd y byddwch chi’n llwyddo. Mae’n bwysig gofyn i chi eich hun pwy yw’r gynulleidfa ehangach?
Mae gwerth mewn gwneud dadl gytbwys a rhesymegol pan fo cynulleidfa ehangach yn gwylio’r drafodaeth. Ni fydd y rhan fwyaf o’r rhai sy’n gweld y drafodaeth yn ymgysylltu â hi. Yn y sefyllfa hon, mae ‘ennill’ yn golygu sicrhau bod y rhai sy’n gwylio yn cael sicrwydd a’u bod yn cael gwybodaeth gywir.
I’r gwrthwyneb, os ydych chi’n credu nad oes unrhyw un yn gwylio, mae angen i chi ofyn i chi eich hun ydi hi’n werth ateb?
Os byddwch chi’n ateb, dylech osgoi cael eich tynnu i mewn i drafodaeth hir dros gyfryngau cymdeithasol. Nid yn unig mae hyn yn cymryd llawer iawn o amser, mae’n annhebygol iawn y byddwch chi’n cael y gair olaf yn y drafodaeth.
Gwnewch gofnod
Pan fyddwch chi’n cael camdriniaeth ar-lein, dylech gadw cofnod ohono. Mae hyn yn bwysig rhag ofn i’r mater ddatblygu ymhellach. Yn enwedig os bydd yr heddlu neu gyrff cyhoeddus eraill yn rhan o’r mater. Mae hefyd yn ddefnyddiol wrth ddangos patrwm o ymddygiad.
Rheoli troliau
Gall fod yn anodd delio â throliau. Y ffordd orau o ddelio â thrôl yw ‘peidio â’i fwydo’. Mae hyn yn golygu peidio ag ymateb i neges sydd wedi’i llunio er mwyn peri gofid, ennyn ateb neu er mwyn datblygu nodau’r trôl ei hun ymhellach.
Eich ffordd orau o ymateb yw naill ai:
- Anwybyddu’r hyn maen nhw wedi’i rannu, neu
- Os yw ar eich tudalen neu eich proffil eich hun, dileu neu guddio eu sylw. Bydd hyn yn golygu na ddylai eich dilynwyr eraill ei weld
Os na fydd hynny’n gweithio, ystyriwch eich cam nesaf. Gallai hyn gynnwys eu blocio neu eu riportio i’r platfform cyfryngau cymdeithasol neu’r Heddlu.
Dileu a rheoli sylwadau
Mae’r rhan fwyaf o blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r gallu i chi ddileu sylwadau. Pan fydd rhywun wedi gwneud sylw camdriniol, mae’n bosibl y byddwch chi am ei ddileu. Dylech gofio tynnu ciplun yn gyntaf.
Bydd rhai cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r gallu i chi reoli cynnwys yn awtomatig. Mae gan rai ‘hidlydd rhegfeydd’. Pan fo’r cyfleuster hwn yn bodoli, dylech ystyried ei ddefnyddio. Fe fydd hyn yn arbed amser i chi a lleihau effaith sylwadau ac ymddygiad camdriniol.
Blocio defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol camdriniol
Ar bron pob platfform cyfryngau cymdeithasol, gallwch flocio unigolion sy’n gamdriniol yn barhaus. Os bydd unigolion yn ymosodol yn gyson, gall fod yn synhwyrol a rhesymol i’w blocio rhag ymgysylltu ymhellach â chi.
Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid i chi dderbyn ymddygiad camdriniol fel cynghorydd. Mae gennych chi gymaint o hawl ag unrhyw un i gael eich trin gydag urddas a pharch. Gallwch gynnwys “rheolau ymgysylltu” ar eich proffil i’w gwneud yn glir i bobl eraill na fyddwch chi’n goddef ymddygiad o’r fath.
Mae blocio unigolion camdriniol yn bwysig i chi fel cynghorydd ac i bobl eraill sy’n eich dilyn chi a allai deimlo dan fygythiad gan ymddygiad camdriniol. Mae ganddyn nhw hawl i fynegi eu barn hefyd.
Riportio camdriniaeth ar-lein a materion cyfreithiol
Riportio mater i’r platfform cyfryngau cymdeithasol
Mae gan y rhan fwyaf o blatfformau cyfryngau cymdeithasol ‘reolau’ neu ‘delerau defnydd’ sy’n gwahardd ymddygiad camdriniol. Mae gan bob un eiriad gwahanol, ond mae’r rhan fwyaf yn gwahardd ymddygiad sy’n cam-drin, bwlio, aflonyddu neu sy’n ymddygiad bygythiol.
Os byddwch chi’n teimlo bod rhywun wedi torri ‘rheolau’ platfform cyfryngau cymdeithasol, gallwch roi gwybod i’r platfform dan sylw am y defnyddiwr. Yna penderfyniad y platfform fydd cymryd camau pellach.
Riportio mater i’r Heddlu
Dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y bydd angen i chi riportio mater i’r Heddlu. Bygythiadau trais, iaith hiliol, iaith casineb a deunydd pornograffig yw’r mathau o bethau y bydd angen i chi eu riportio. Os byddwch chi’n riportio’r mater, dylech ddilyn y cyngor a roddir i chi gan yr Heddlu a’u ceisiadau am wybodaeth.
Riportio achos o dorri’r Cod Ymddygiad
Pe baech chi’n cael camdriniaeth ar-lein gan gynghorydd arall, mae’n bosibl y bydd yn fater Cod Ymddygiad. Os byddwch chi’n credu y bu achos o dorri’r Cod Ymddygiad, dylech ei riportio wrth swyddog monitro eich cyngor.
Cymryd camau cyfreithiol
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai byddwch chi’n teimlo bod cymryd camau cyfreithiol yn weithredu dilys. Dylech gydbwyso risgiau’r dull hwn a rhoi ystyriaeth ofalus i’r tebygolrwydd o lwyddiant. Mae cost ariannol hefyd ynghlwm â’r dull hwn yn aml.
Rhoi gwerth i’ch iechyd meddwl a’ch lles – pryd mae’n bryd gadael y cyfryngau cymdeithasol?
Os bydd camdriniaeth yn gyson a’i fod yn niweidio eich iechyd meddwl ac iechyd meddwl pobl o’ch cwmpas, mae’n bosibl ei bod yn bryd gadael y cyfryngau cymdeithasol. Gall hyn olygu dileu cyfrifon yn gyfan gwbl neu gymryd seibiant am gyfnod.
Mae rhai platfformau cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i ddefnyddwyr ‘ddad-gyhoeddi’ neu ‘ddad-actifadu’ cyfrifon dros dro. Mae rhai pobl yn sylwi bod rhoi cynnig ar blatfform newydd yn ddefnyddiol. Er enghraifft, rhoi cynnig ar Instagram yn hytrach na Facebook.
Mae manteision hysbys iawn i iechyd meddwl o adael cyfryngau cymdeithasol am gyfnod penodol neu’n barhaol.