Canllaw i ddefnyddio YouTube
Dyma ganllaw rhagarweiniol i gynghorwyr lleol ar sut i ddechrau defnyddio YouTube. Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i ddechrau defnyddio YouTube fel cynghorydd a sut i ddod o hyd i’ch ffordd o amgylch y platfform, pa fathau o fideos sy’n gweithio’n dda ar YouTube a sut i’w creu nhw. Yn y canllaw hefyd ceir cyngor ar ddeall dadansoddeg a delio â sylwadau gan y cyhoedd
Amcanion
Dechrau defnyddio YouTube
- Cyflwyniad i’r Platfform YouTube
- Sut i greu eich cyfrif YouTube
- Dod o hyd i’ch ffordd o amgylch YouTube
- Deall terminoleg YouTube
Creu fideos ar YouTube
- Pa fath o fideos sy’n gweithio’n effeithiol ar YouTube
- Sut i greu a recordio fideos
- Sut i fod yn hyderus o flaen y camera
- Enwi a disgrifio eich fideo
- Pwysigrwydd ddefnyddio hashnodau yn eich fideos YouTube

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr
Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Ymgysylltu â’r gymuned
- Ymateb i sylwadau
- Rhannu eich fideos
YouTube Lefel Uwch
- Deall dadansoddeg YouTube
Dechrau arni gyda YouTube
Cyflwyniad
Mae YouTube ar blatfform cyfryngau cymdeithasol poblogaidd sy’n eiddo i Google lle mae pobl yn rhannu fideos maen nhw wedi’u creu. YouTube hefyd yw peiriant chwilio mwyaf poblogaidd y byd ar ôl Google. Mae hyn yn golygu bod pobl yn defnyddio YouTube i chwilio am wybodaeth. Mae hefyd yn golygu bod fideos sy’n cael eu rhoi ar YouTube yn hawdd dod o hyd iddynt ar beiriannau chwilio eraill.
Mae YouTube yn wahanol i blatfformau cyfryngau cymdeithasol mawr eraill oherwydd bod y ffocws i gyd ar wylio, creu ac ymgysylltu â chynnwys fideo. Mae YouTube wedi’i greu ar gyfer fideos yn unig.
Mae sawl peth y gall Cynghorwyr ddefnyddio YouTube ar ei gyfer, yn cynnwys creu fideos i dynnu sylw at eu gwaith yn y gymuned ac i siarad am faterion lleol a phynciau perthnasol eraill. Mae’n werth nodi hefyd y gall fideos fod yn ffordd wych o gyflwyno materion cymhleth, yn ogystal ag egluro beth yw swyddogaeth cynghorydd mewn ffordd ddiddorol a gweledol
Gall fideo fod yn ffordd wych o gyflwyno materion cymhleth mewn ffordd ddeniadol, weledol.
Sut i greu eich cyfrif YouTube
Gallwch fynd i YouTube naill ai drwy borwr gwe neu drwy lawrlwytho’r ap YouTube i ffôn symudol neu ddyfais llechen. Does dim angen creu cyfrif YouTube i edrych ar y cynnwys ond rhaid creu cyfrif i greu fideos ac er mwyn gallu gwneud sylwadau ar fideos pobl eraill.
I greu cyfrif cliciwch ar y botwm ‘Sign In’ ar dop y sgrin yn y gornel dde. Gofynnir i chi wedyn naill ai lofnodi i mewn gyda chyfrif Google sydd gennych yn barod neu greu cyfrif Google newydd. Bydd y cyfrif hwn yn eich galluogi i ddefnyddio gwasanaethau eraill Google hefyd.
Dod o hyd i’ch ffordd o amgylch YouTube
Gan mai fideos yn unig yw cynnwys YouTube mae dod o hyd i’ch ffordd o amgylch y llwyfan yn gymharol syml. Pan ewch i YouTube byddwch yn gweld rhestr o’r fideos mwyaf poblogaidd ar y pryd (trending) y mae YouTube yn meddwl y byddant o ddiddordeb i chi yn seiliedig ar eich hanes o bori a gwylio fideos ar y platfform. Yn syml, po fwyaf yr ydych yn defnyddio YouTube, y mwyaf tebygol fydd hi y cewch eich cyflwyno i fideos sydd o ddiddordeb i chi.
I wylio fideo, cliciwch ar y crynolun perthnasol i fynd i dudalen ddynodedig y fideo lle bydd yn dechrau chwarae’n awtomatig. Ar ochr dde’r fideo yr ydych yn ei chwarae ar y pryd (ar ddyfeisiadau pen-desg a llechi) byddwch hefyd yn gweld rhestr o fideos perthnasol.
Wrth i chi wylio fideos bydd hysbysebion yn ymddangos o dro i dro. Gallwch fel arfer basio’r hysbysebion unwaith maen nhw wedi chwarae am ychydig eiliadau. Yr eithriad i hyn yw os ydych yn tanysgrifio i’r gwasanaeth YouTube premiwm y mae’n rhaid talu amdano.
Yn union yr un fath ag unrhyw fideo, gallwch symud yn ôl ac ymlaen a stopio fideos fel y dymunwch. Gallwch hefyd wylio fideos ar ffurf sgrin lawn ac addasu gosodiadau eraill, er enghraifft rhoi’r isdeitlau ymlaen a’u diffodd. O dan y fideo fe welwch ei deitl, ei ddisgrifiad a’i hashnodau yn ogystal â nifer y bobl sydd wedi’i ‘hoffi’ a faint sydd wedi ei wylio hyd yma. Bydd yna hefyd opsiynau i rannu, lawrlwytho, arbed, clipio a riportio’r fideo.
Mae ‘Share’ yn caniatáu i chi rannu dolen i’r fideo â phlatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill yn ogystal ag ar e-bost, neges testun a WhatsApp. Ceir hefyd opsiwn i ymwreiddio’r fideo ar wefan. Cewch fwy o wybodaeth am hyn o dan ‘Rhannu eich fideos YouTube’.
Mae ‘Download’ yn caniatáu i chi lawrlwytho copi o‘r fideo i’ch cyfrifiadur ond allwch chi ddim gwneud hyn oni bai eich bod wedi tanysgrifio ar gyfer gwasanaeth premiwm YouTube y mae’n rhaid talu amdano.
Mae ‘Save’ yn caniatáu i chi roi’r fideo mewn rhestr chwarae bersonol fel y gallwch ddod o hyd iddo a’i wylio’n rhwydd yn ddiweddarach. Gallwch greu gwahanol restrau chwarae i wahanol ddibenion.
Mae ‘Clip’ yn nodwedd gymharol newydd sy’n dal i gael ei roi ar waith fesul cam ar draws y platfform YouTube. Os yw ‘Clip’ yn bresennol gallwch arbed darn o’r fideo, rhwng 5-50 eiliad o hyd, i’w rannu ar blatfformau eraill.
Mae ‘Report’ yn caniatáu i chi roi gwybod am fideos amhriodol neu ddifrïol ar YouTube; bydd YouTube yn adolygu’r materion yr ydych wedi’u codi ac yn penderfynu a yw’r fideo yn mynd yn groes i’w polisïau, ac os penderfynir ei fod, bydd yn cael ei dynnu o’r platfform.
Deall terminoleg YouTube
Crewyr Fideos yw’r bobl sy’n creu fideos ac yn eu rhoi nhw ar YouTube
Gwylwyr Fideos yw’r bobl sy’n gwylio fideos y mae pobl eraill wedi’u creu.
Sianel yw tudalen ddynodedig y gall defnyddwyr YouTube ei chreu er mwyn dangos eu fideos.
Caiff Categori ei aseinio wrth greu fideo ar YouTube ac mae’n helpu i roi’r cynnwys mewn dosbarth o gynnwys penodol. Mae’r Categorïau ar YouTube ar hyn o bryd yn rhai penodedig ac yn gyffredinol byddem yn awgrymu bod fideos sy’n cael eu creu gan Gynghorwyr yn disgyn i’r categorïau ‘Nonprofits & Activism’ neu ‘People and Blogs’.
Defnyddir Hashnodau (Hashtags) i ddisgrifio eich cynnwys i’w gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i’ch fideos. Hashnod yw unrhyw air neu gymal sy’n dilyn y symbol #. Mae’r rhain yn gweithio mewn ffordd debyg i’r hashnodau a ddefnyddir ar Instagram a Twitter.
Rhestr Chwarae (Playlist) yw casgliad o fideos YouTube gyda chysylltiad rhyngddynt.
Tanysgrifiwr (Subscriber) yw rhywun sy’n eich dilyn chi ar YouTube.
Gweld (View) ydi faint o weithiau y mae pobl wedi gwylio eich fideo am o leiaf 30 eiliad.
Mae Canllawiau Cymunedol YouTube yn gyfres o reolau ar gyfer defnyddio YouTube sy’n nodi’r hyn y gallwch neu na allwch ei wneud ar y platfform a gellir eu gweld yn:https://www.youtube.com/intl/ALL_uk/howyoutubeworks/policies/community-guidelines/.
Fel gyda’r rhan fwyaf o blatfformau YouTube mae’r nodwedd Byw (Live) yn caniatáu i chi ddarlledu eich fideo’n fyw. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych eisiau adborth ar unwaith neu’n dymuno cynnal digwyddiad byw.
Pa fath o fideos sy’n gweithio’n effeithiol ar YouTube
Mae fideos YouTube yn amrywio’n aruthrol o ran eu hyd a’u cynnwys. Gall fideos sy’n cael eu creu gan gynghorwyr amrywio o rai ychydig eiliadau o hyd sy’n cynnwys neges fer neu gyfarchiad y Nadolig i rai llawer hirach sy’n trafod pwnc llosg lleol.
Yn union fel gydag unrhyw gyfryngau cymdeithasol eraill yr unigolyn sy’n penderfynu pa fath o gynnwys maen nhw am ei greu. Fodd bynnag, hoffem awgrymu bod cynghorwyr yn ystyried pa gynnwys sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’w cynulleidfa darged a fideo o ba hyd fydda’n briodol. Yn gyffredinol mae’r rhan fwyaf o fideos rhwng 1 – 5 munud o hyd.
Mae fideo’n gyfrwng cyfathrebu pwerus a gellir ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd effeithiol. Er enghraifft gallai cynghorwyr greu fideos yn cyflwyno eu hunain i’w cymunedau neu fideos sy’n rhoi diweddariadau ar eu gwaith yn cefnogi etholwyr. Gellid hefyd creu fideos y trafod pynciau’r dydd neu faterion lleol. Mae fideos hefyd yn ffordd wych o gyfleu materion cymhleth mewn ffordd ddiddorol sy’n ennyn sylw.
Yn gyffredinol mae fideos YouTube yn anffurfiol eu harddull. Mae’n bwysig dod o hyd i arddull a fformat fideo sy’n gweithio i chi, boed yn siarad yn uniongyrchol i’r camera, cael eich cyfweld gan rywun arall neu wneud fideo byw lle gall y gymuned ryngweithio â chi.
Wrth feddwl am greu fideo mae hefyd yn bwysig cadw Canllawiau Cymunedol YouTube mewn cof yn ogystal â Chod ymarfer eich cyngor eich hun a allai fod yn berthnasol.
Sut i greu a recordio fideos.
Mae gan YouTube sawl opsiwn ar gyfer creu fideos ond y ffordd fwyaf cyffredin yw recordio fideo naill ai ar ffôn symudol neu gamera fideo a’i uwchlwytho’n syth i YouTube trwy’r wefan neu’r ap symudol. Wrth i chi wneud hyn cofiwch y gallwch olygu’r ffilm ar ôl ei recordio ac nad oes angen i chi wneud ffilm berffaith i gyd mewn un recordiad.
Wrth greu fideos dyma ychydig o bethau sy’n werth eu cofio cyn i chi wneud hynny:
- Goleuo – Gofalwch bod goddrych y fideo wedi’i oleuo mor dda ag sy’n bosibl yn enwedig os mai’r prif oddrych yw’r sawl sy’n siarad yn uniongyrchol i’r camera. Efallai na fydd yr hyn sydd i’w weld yn berffaith gyda’r llygad noeth mor glir na llachar ar y camera. Goleuwch bobl o’r tu blaen (h.y. o’r ochr y mae eich camera’n ei wynebu) yn hytrach nag o’r tu ôl, a manteisiwch ar olau naturiol (e.e. golau sy’n dod drwy ffenestr) ble bynnag bosibl. Ceisiwch sicrhau bod y sawl sy’n cael eu ffilmio wedi’u goleuo i gyd er mwyn sicrhau nad oes cysgodion mawr yn eich fideo a threuliwch ychydig o amser yn profi’r gosodiad cyn recordio er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon â’r hyn yr ydych yn ei weld ar y camera.
- Sain – mae sain fideo YouTube yn aml yn bwysicach nag ansawdd y fideo ei hun – mae pobl yn gallu derbyn ffilm sydd ychydig yn aneglur ond os nad ydynt yn gallu clywed yr hyn yr ydych yn ceisio ei ddweud yna bydd y fideo cyfan yn colli ei bwrpas. Wrth recordio y tu allan, gofalwch eich bod yn cadw’r camera yn agos at y sawl yr ydych yn ei ffilmio fel nad ydych yn colli’r sain. Os yw’n bosibl cael gafael ar un, bydd meicroffon clipio ymlaen yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd y sain gan leihau sŵn gwynt ac ati a rhoi mwy o ryddid i chi o ran ble i osod y camera i ffilmio.
Unwaith y bydd y ffilm wedi’i recordio galwch ei huwchlwytho’n syth i YouTube drwy’r wefan drwy glicio ar yr eicon ‘Create’ (camera) ar dop y wefan ar y dde a dewis ‘Upload Video’. O’r fan honno, y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw dewis ffeil fideo ar eich dyfais a’i uwchlwytho i YouTube. Bydd yn cymryd ychydig funudau i YouTube baratoi’r fideo ar y fformat cywir ond wrth i chi aros gallwch weithio ar ychwanegu’r teitl a’r disgrifiad cywir. Mae yna hefyd ychydig o dermau a gosodiadau eraill y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt wrth ychwanegu eich fideo newydd yn cynnwys:
- ‘Made for Kids’ – mae hyn yn caniatau i chi ddweud bod eich fideo wedi’i greu yn benodol ar gyfer plant ac felly y bydd cyfyngiadau o ran sut y gellir gweld a gwneud sylwadau amdano. Mae’n debygol iawn na fyddwch yn creu’r math yma o gynnwys.
- End Screen – mae hyn yn caniatáu i chi gyflwyno un neu fwy o fideos cysylltiedig i wylwyr ar ddiwedd yr un presennol ac mae’n ffordd dda o gysylltu cynnwys sy’n ymwneud â’r un pwnc.
- Visibility – hyn sydd yn penderfynu sut y bydd pobl yn gallu dod o hyd i’ch fideo. Dim ond chi fydd yn gallu gweld fideo preifat, gellir rhannu fideo heb ei restru drwy ddolen ond ni fydd yn ymddangos mewn chwiliadau, ond bydd fideo cyhoeddus yn weladwy i bawb. Fwy na thebyg byddwch eisiau i’r rhan fwyaf o’ch fideos, os nad y cyfan, fod wedi’u gosod fel rhai cyhoeddus. Gellir newid y gosodiad hwn ar unrhyw bwynt ar ôl i’r fideo gael ei gyhoeddi.
Unwaith y bydd eich ffeil fideo wedi’i uwchlwytho i YouTube gallwch ddefnyddio’r teclynnau golygu sydd wedi’u mewnosod yn y platfform i’w wella cyn ei ryddhau i’ch cynulleidfa.
Gwybodaeth ddefnyddiol ar sut i olygu fideo.
- Torrwch ychydig oddi ar ddechrau (a diwedd) eich fideo – yn aml dim ond ychydig eiliadau ar y mwyaf fydd gennych i ddarbwyllo gwyliwr i barhau i wylio eich fideo, felly gofalwch bod eich fideo yn mynd yn syth i mewn i’r cynnwys a pheidiwch â gwastraffu eiliadau gwerthfawr cyn i rywun ddechrau siarad.
- Torrwch seibiannau a chyfnodau o ddistawrwydd allan. Mae’n annhebygol iawn y byddwch yn gallu gwneud recordiad perffaith heb stopio, felly mae seibiannau, distawrwydd ac ailddechrau yn rhan naturiol o wneud fideo – ond ni ddylent fod yn rhan o’r fideo terfynol. Defnyddiwch declyn trimio YouTube i dynnu unrhyw rannau o’r fideo nad ydych yn meddwl eu bod yn ychwanegu unrhyw beth. Er nad yw seibiant o hanner eiliad rhwng brawddegau i’w weld yn hir iawn ar bapur, pan mae rhywun yn gwylio fideo llawn seibiannau maen nhw’n teimlo’n llawer hirach a byddwch yn colli sylw pobl yn llawer cynt.
Isdeitlau
Mae isdeitlau’n rhan hanfodol o’r profiad YouTube, nid yn unig i bobl ag anghenion hygyrchedd (megis pobl â nam ar eu clyw) ond hefyd i bobl sy’n gwylio eich fideo rywle lle gall fod yn anodd clywed (e.e. ynghanol llawer o bobl eraill neu ar gludiant cyhoeddus)
Am y rheswm hwn mae YouTube yn ychwanegu is-deitlau awtomatig at bob fideo y gellir eu rhoi ymlaen yn rhwydd drwy ddim ond pwyso ‘c’ ar eich bysellfwrdd. Os yw’r isdeitlau hyn yn gywir yna ni fydd angen i chi greu eich rhai eich hun o gwbl, felly gofalwch eich bod yn chwarae’r fideo drwodd gyda’r isdeitlau awtomatig cyn penderfynu a oes angen ychwanegu eich isdeitlau eich hun ai peidio.
Os ydych wedi creu ffeil isdeitlau gyda theclyn golygu allanol gallwch uwchlwytho’r ffeil yn syth YouTubeStudio drwy ddewis ‘Subtitles’ yn y rhestr ar ochr dde unrhyw fideo ac uwchlwytho’r ffeil ar ôl dewis yr iaith.
I ychwanegu isdeitlau’n syth i mewn i YouTube mae’r opsiwn ‘auto-sync’ yn caniatau i chi deipio eich trawsgrifiad wrth ymyl y fideo a bydd YouTube yn gweithio allan yr amseru yn awtomatig ac yn cydamseru’r isdeitlau â’r fideo. Gallwch addasu’r amseriad wedyn os bydd angen.
Sut i fod yn hyderus o flaen y camera
Cyn i chi hyd yn oed ddechrau ar y broses o ymarfer a recordio eich fideo, y peth cyntaf y byddwch eisiau ei wneud yw sicrhau eich bod yn hyderus yn siarad am y pwnc yr ydych am ganolbwyntio arno yn eich fideo – dim ots pa mor dda ydych chi am adrodd y sgript, bydd hi bob amser yn amlwg drwy gliwiau llafar a heb fod yn llafar a ydych yn gyfarwydd â’r pwnc hwnnw ai peidio. Bydd arbenigwr yn gallu siarad yn fwy argyhoeddiadol a gyda’r pwyslais yn y lle cywir na rhywun sy’n gwneud hyn am y tro cyntaf, hyd yn oed os ydi’r ddau’n darllen yr un sgript.
Os nad ydych wedi recordio fideo eich hun o’r blaen, bydd yn teimlo ychydig yn chwithig neu efallai y bydd gennych ychydig o ofn i ddechrau. Y fideos mwyaf effeithiol yw’r rhai sy’n teimlo’n ddilys, felly mae’n bwysig eich bod yn rhoi digon o amser i chi eich hun neu’r sawl fydd yn ymddangos yn y fideo i baratoi ac ymarfer cyn recordio’r fideo ei hun. Os ydych yn ceisio cyfleu gwybodaeth am faes eithaf dyrys, yna ymarferwch eich llinellau dro ar ôl tro hyd nes y byddwch yn gallu eu dweud nhw’n naturiol – er bod digon o atebion yn bodoli ar gyfer darllen sgript oddi ar y camera mae’n anodd iawn gwneud hynny mewn ffordd sy’n swnio’n naturiol. Bydd yn amlwg iawn hefyd os ydych yn darllen sgript fesul llinell yn hytrach na chael sgwrs naturiol gyda rhywun yr ochr arall i’r camera.
Wrth ysgrifennu sgript cofiwch mai cael sgwrs efo rhywun fyddwch chi yn hytrach nag ysgrifennu dogfen dechnegol ar y mater. Cadwch yr iaith mor llafar ag y gallwch wedyn fydd dim rhaid i chi wneud cymaint o ymdrech i swnio’n llai ffurfiol wrth ddarllen y sgript.
Yn olaf, wrth siarad i mewn i’r camera, dychmygwch eich bod yn siarad yn uniongyrchol ag un person – er eich bod eisiau i’r fideo gael ei weld gan gannoedd o bobl, bydd pob gwyliwr yn edrych arno fel unigolyn a byddwch yn hoelio eu sylw yn well os ydych yn siarad fel pe baech yn siarad efo nhw yn bersonol. Os yw’n helpu, dychmygwch eich bod yn siarad â naill ai chi’ch hun, cyfaill neu’r sawl sydd yr ochr arall i’r camera.
Enwi a disgrifio eich fideo
Dylai teitl eich fideo fod yn fyr ac yn gryno. Ychwanegwch ddyddiad at y teitl dim ond os yw hynny’n berthnasol (e.e. cyfarfod cyngor rheolaidd) a meddyliwch am y gwerth y mae’r fideo yn ei ychwanegu i’ch cynulleidfa bosibl yn lle ceisio ei disgrifio’n rhy llythrennol – er enghraifft ‘cyflwyno lle chwarae newydd i deuluoedd yng Ngerddi Parc y Gogledd’ yn hytrach na ‘Cynghorydd Jones yn siarad am strategaeth mannau chwarae’r Cyngor 2022’.
Y blwch disgrifiad yng ngosodiadau fideo yw’r man lle gallwch ychwanegu mwy o gyd-destun am gynnwys y fideo a’i egluro’n gliriach, ond fel gyda’r teitl anelwch at fod yn gryno. Gall blwch disgrifiad hefyd gynnwys dolenni at gynnwys allanol (e.e. blog yr ydych o bosibl wedi’i ysgrifennu am y pwnc), felly cofiwch ddefnyddio dolenni i ehangu ar y mater yn hytrach na llenwi’r blwch disgrifiad â thestun na fydd pawb eisiau ei ddarllen.
Mae YouTube hefyd yn caniatau i chi roi ‘stamp amser’ yn y disgrifiad – h.y. ychwanegu dolenni at bwyntiau penodol mewn fideo. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol gyda fideos hirach fel cyfarfodydd lle mae gan bobl ddiddordeb mewn dim ond un rhan o ddadl er enghraifft. I wneud hyn y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw teipio’r amser perthnasol (e.e. 04:32 os yw’r darn perthnasol bedwar munud a 32 eiliad i mewn i fideo) a rhowch y disgrifiad wrth ymyl yr amser.
Yn olaf mae llawer o sianelau’n dewis defnyddio’r maes disgrifiad i drafod eu gwaith ehangach a gall cynghorwyr ddefnyddio’r cyfle hwn i ychwanegu brawddeg neu ddwy am eich meysydd chi o gyfrifoldeb ac i gyfeirio pobl at eich gwefan a’ch sianel cyfryngau cymdeithasol yn ogystal a darparu unrhyw fanylion cyswllt.
Crynoluniau
Y crynolun (h.y. y llun bach rhagarweiniol o’ch fideo) o bosibl yw’r ffactor pwysicaf o ran denu sylw rhywun sy’n pori drwy YouTube a’u penderfyniad i glicio ar eich fideo chi neu beidio. Yn debyg iawn i glawr llyfr gall crynolun ar ei ben ei hun fod yn ddigon i stopio pobl yn eu hunfan oherwydd ei fod yn gwneud i’ch fideo chi sefyll allan o blith y dwsinau o fideos eraill sy’n eu hwynebu. Hefyd, yn union fel teitl dylai fod yn weledol, yn ddeniadol ac yn glir ynghylch cynnwys y fideo – os yw’r fideo, er enghraifft, yn sôn am agoriad parc chwarae newydd, yna ni fydd llun pen ac ysgwydd o’r cynghorydd yn siarad i’r camera heb gynnwys llun o’r parc yn dweud digon wrth y defnyddiwr am y fideo.
Bydd YouTube yn gadael i chi ddewis ‘ffrâm’ o’ch fideo i’w ddefnyddio fel crynolun felly dylech o leiaf geisio dewis yr un sy’n cyfleu pwrpas y fideo orau. Serch hynny, y fideos mwyaf effeithiol yn aml yw’r rhai sy’n cynnwys ‘crynolun fideo pwrpasol’ – hynny yw graffeg yr ydych wedi’i greu’n bwrpasol a’i uwchlwytho i’ch fideo YouTube. Gall crynoluniau pwrpasol gynnwys unrhyw elfennau graffig a thestun yr ydych yn dymuno eu cynnwys, ond cofiwch y bydd eich defnyddwyr yn gwylio’r rhain ar amrywiaeth o wahanol ddyfeisiadau felly peidiwch â’u gor-gymhlethu na defnyddio testun bach nad oes modd ei weld yn glir ar ffonau symudol. I greu crynolun pwrpasol bydd arnoch angen defnyddio teclyn dylunio graffeg y tu allan i YouTube.
Un o’r ffyrdd gorau o ddeall beth sy’n gwneud crynolun effeithiol yw mynd i YouTube ac edrych drwy’r cynnwys ar y dudalen hafan i weld pa fideos sy’n bachu eich sylw gyntaf!
Pwysigrwydd ddefnyddio hashnodau yn eich fideos YouTube.
Mae Hashnodau’n ffordd gyflym a rhwydd o ‘gategoreiddio’ eich fideo drwy ‘tagio’ gyda geiriau neu dermau sy’n disgrifio’r pwnc dan sylw yn y fideo orau. Gallwch ychwanegu hyd at 15 o hashnodau yn syth i’r disgrifiad, naill ai ynghanol y copi ei hun neu ar eu penna’u hunain ar y diwedd drwy ychwanegu’r symbol # at y termau/cymylau yr ydych am ei tagio.
Swyddogaeth bwysicaf hashnod yw gwella’r gallu i ‘chwilio’ am eich fideo oherwydd eu bod yn dweud yn benodol wrth YouTube beth yw pwnc eich fideo ac yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau am chwiliadau gyda’r termau neu’r cymalau hynny ynddynt.
Pan fyddwch yn dechrau sianel YouTube o’r newydd mae’n bwysig iawn eich bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gan bobl siawns dda o ddod o hyd i’ch cynnwys, felly bydd cymryd munud neu ddau i ychwanegu hashnodau at eich disgrifiad yn talu ar ei ganfed o ran sicrhau bod pobl yn dod o hyd i’r fideo yr aethoch i drafferth i’w greu.
Ymateb i sylwadau
Yn yr un modd a llawer o ffurfiau eraill o gyfathrebu dylid trin YouTube fel llwyfan i lansio sgwrs ddwy ffordd, nid dim ond fel teclyn darlledu. Dylech roi’r un sylw i sylwadau gan breswylydd sy’n gofyn cwestiwn ystyrlon ag y byddech pe baent wedi anfon e-bost atoch a bydd y graddau yr ydych yn ymgysylltu â’ch cynulleidfa yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran sut y maent yn debygol o ymgysylltu â’ch cynnwys yn y dyfodol.
Weithiau bydd angen i chi gymryd camau i gymedroli sylwadau ‘spam’ neu drafodaethau sy’n fwriadol heriol, ac yn yr achosion hynny bydd teclynnau cymedroli YouTube yn caniatau i grewyr fideos rwystro rhai defnyddwyr rhag gwneud sylwadau ar eich fideos. Dylech ddefnyddio’r rhain cyn lleied â phosibl mewn ymdrech i ymgysylltu’n bositif â sylwadau sy’n ymwneud â’ch fideo hyd yn oed os ydynt o natur feirniadol.
Rhannu eich fideos
Mae YouTube yn ei gwneud yn hawdd i rannu fideos ar unrhyw blatfform drwy ychwanegu botwm ‘Share’ at y bar offer o dan bob fideo sy’n caniatau i wylwyr rannu’r fideo’n gyflym ar rwydweithiau cymdeithasol poblogaidd yn ogystal â thrwy ddulliau eraill.
Wrth hyrwyddo cynnwys gallwch ddefnyddio’r ddolen yn y ffenestr ‘rannu’ hon i gyfeirio pobl at eich fideo o unrhyw blatfform. Yn ogystal â chysylltu pobl â’ch cynnwys, gallwch ymwreiddio’r fideo yn syth i we-dudalen drwy ddewis yr opsiwn ‘Embed’ a chopïo a phastio’r cod y byddwch yn ei gael i’ch system rheoli gwefan, yn ddibynnol ar y platfform. Bydd ymwreiddio fideo yn syth i wefan yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd pobl yn cymryd yr amser i’w wylio o gymharu â dim ond cynnwys hyperddolen ato.
Mae’n bwysig cofio mai dim ond pobl sydd wedi tanysgrifio i’ch sianel fydd yn cael gwybod yn awtomatig am fideo newydd pan gaiff ei uwchlwytho, felly mae’r un mor bwysig bod â chynllun ar gyfer rhannu fideo’n rhagweithiol gyda’ch rhwydweithiau ag y mae i greu’r fideo ei hun.
Deall dadansoddeg YouTube
Mae YouTube yn caniatáu i chi weld sut y mae eich fideo a’ch sianel yn perfformio drwy ddarparu metrigau yn YouTube Studio.
Gall dadansoddeg fod yn ffordd wych o ddeall pa fath o gynnwys y mae gan eich gwylwyr y mwyaf o ddiddordeb ynddo, ond mae hi bob amser y bwysig cydbwyso â’r angen i wasanaethau sawl cynulleidfa – er enghraifft ni fydd recordiad o gyfarfod pwyllgor cynllunio bob amser yn denu nifer fawr o wylwyr, ond i newyddiadurwyr lleol sy’n adrodd ynghylch gwaith y cyngor, mae’n declyn hollbwysig i’w helpu nhw i roi cyhoeddusrwydd i’r hyn yr ydych yn ei wneud;
Wrth ddadansoddi perfformiad yn adran Dadansoddeg (Analytics) YouTubeStudio, byddwch yn gweld termau fel:
- Reach – pobl sy’n darganfod eich sianel ac o ble maen nhw’n dod (e.e. fideos a gwefannau eraill, chwiliadau YouTube)
- Engagement – faint o amser y mae pobl yn ei dreulio’n gwylio eich fideos a beth yw’r fideos mwyaf poblogaidd.
- Audience – Pa fath o bobl sy’n gwylio eich fideos, ydyn nhw’n dod yn ôl a pha bryd mae nhw ar YouTube
Yn ogystal â dadansoddeg fideo cyffredinol, mae YouTube yn darparu dadansoddeg fesul fideo a fydd yn eich helpu chi i ddeall pa mor dda y mae darn unigol o gynnwys yn perfformio gan ddefnyddio metrigau fel:
- Sawl gwaith yr edrychwyd ar y fideo – sawl gwaith y mae eich fideo wedi cael ei wylio (yn cynnwys un person wedi ei wylio fwy nag unwaith)
- Tanysgrifwyr – cyfanswm y bobl sydd wedi tanysgrifio i’ch sianel ar ôl gwylio fideo. Mae hyn yn arbennig o fuddiol o ran gweld a wnaeth fideo gysylltu’n ddigon da i wneud i rywun fod eisiau parhau i weld eich cynnwys.
- Amser gwylio – cyfanswm yr amser y mae pobl wedi’u dreulio’n gwylio fideo. Mae amser gwylio’n ffactor allweddol o ran pa mor uchel y mae YouTube yn graddio eich fideo mewn canlyniad chwilio.
- Hyd cyfartalog gwylio – faint o amser y mae un person yn ei dreulio’n gwylio’r fideo penodol hwnnw cyn gadael. Bydd hyn fel arfer yn mynd am i lawr yn raddol ond os oes pwyntiau penodol yn eich fideo lle mae pobl yn gadael yn sydyn dylech edrych ar eich fideo i weld beth sy’n digwydd yn union cyn iddynt adael a fyddai o bosib wedi achosi iddynt wneud hynny.