Canllaw i ddefnyddio Twitter
Mae hwn yn ganllaw rhagarweiniol i gynghorwyr lleol ar sut i ddechrau defnyddio Twitter. Mae’r canllaw yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd at sut i ddechrau defnyddio Twitter fel cynghorydd, sut i ddechrau trydar a chael mwy o ymgysylltiad gyda phreswylwyr lleol. Mae hefyd yn rhannu cyngor ar ddeall eich dadansoddiad Twitter, cyflwyniad i elfennau sylfaenol ar Twitter, canllaw i gadw’n saff a diogel ar y platfform cyfryngau cymdeithasol a sut i ddiffodd neu ddileu eich cyfrif.
Amcanion
Dechrau ar Twitter
- Dewis eich enw defnyddiwr a lluniau Twitter
- Beth i’w gynnwys ar eich proffil Twitter
- Sut i ddod o hyd i bobl berthnasol i’w dilyn
Sut i drydar a chael effaith
- Sut i drydar – ond nid i ddarlledu’n unig
- Dyfynnu trydariadau
- Sut a pham y byddai rhywun yn ‘tagio’ bobl mewn trydariad
- Defnyddio’r hashnodau
- Cadw eich negeseuon trydar yn berthnasol
Deall a datblygu eich effaith ar Twitter
- Defnyddio dadansoddiadau Twitter
- Pam y dylech ychwanegu lluniau a fideos i’ch negeseuon ‘trydar’

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr
Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Pam ei bod yn fwy dylanwadol i ymgysylltu mwy ar Twitter
- Sut a pham i ychwanegu arolygon a phleidleisiau i’ch negeseuon trydar
- Pam y dylech wirio eich sylw Trydar
- Defnyddio Negeseuon Uniongyrchol ar Twitter
- Cyflwyniad i hysbysebu am dâl ar Twitter
Cadw’n ddiogel ac o fewn y rheolau ar Twitter
- Delio gyda negyddoldeb a chamdriniaeth
- Dysgu peidio bwydo ‘troliau’ cyfryngau cymdeithasol
- Bod yn hyderus i flocio a dileu dilynwyr
- Atal dros dro neu ddiffodd eich cyfrif Twitter
Dechrau arni ar Twitter
Mae Twitter yn ffordd wych i gyfathrebu gyda’r sawl sy’n byw ac yn gweithio yn eich cymuned leol, yn ogystal â gydag eraill sy’n eu gwasanaethu hefyd. Mae’n blatfform cyfryngau cymdeithasol gwych i ymgysylltu mewn amser real a chyfathrebu personol gydag ystod o bobl, gan roi’r cyfle i chi fel cynghorydd i gael cysylltiad uniongyrchol ac adborth.
Dewis eich enw defnyddiwr a lluniau Twitter
Pan fyddech yn dechrau defnyddio Twitter mae’n bwysig dewis yr enw defnyddiwr cywir sydd hefyd yn cael ei alw yn enw Trydar. Mae eich enw defnyddiwr angen eich gwneud yn hawdd i’ch adnabod, gan gynnwys fel cynghorydd. Bydd Twitter yn cadarnhau os yw’r enw a ffefrir gennych ar gael ac nad oes neb arall yn ei ddefnyddio. Hyd yn oed os bydd yr enw defnyddiwr a ffefrir gennych yn cael ei ddefnyddio gan rywun arall, gallwch gael enw arddangos fel arfer sydd yr un fath ag un rhywun arall – sy’n ddefnyddiol os oes gennych enw cymharol gyffredin.
Byddwch hefyd angen ychwanegu llun proffil a llun pennawd ar gyfer eich proffil. Gwnewch yn siŵr bod eich llun proffil yn glir a’i bod yn hawdd eich adnabod ynddo. Bydd eich llun pennawd ar frig eich tudalen proffil Twitter ac mewn siâp tirlun – hir a chymharol gul. Mae llawer o gynghorwyr yn dewis defnyddio llun pennawd gyda nhw mewn ardal hawdd i’w hadnabod yn eu ward.
Beth i’w ychwanegu i’ch proffil Twitter
Mae yna lawer llai i’w osod yn eich proffil Twitter nag ar blatfform fel Facebook. Prif elfen i’w hychwanegu yw eich bywgraffiad. Mae’n rhaid iddo fod yn fyr – 160 nod yn unig sydd gennych i’w ddefnyddio. Gwnewch iddynt gyfrif, a chadwch yn fyr ac yn gryno ond hefyd yn berthnasol ar gyfer yr hyn rydych yn defnyddio Twitter – eich rôl fel cynghorydd.
Gallwch hefyd ychwanegu eich lleoliad, sy’n bwysig fel cynghorydd i’w wneud yn glir a manylion cyswllt eraill fel eich cyfeiriad gwefan. Rydych yn gallu ychwanegu gwybodaeth fel dyddiad geni hefyd, ond am resymau diogelwch rydym yn awgrymu nad ydych yn gwneud hynny.
Rydym hefyd yn awgrymu eich bod yn pinio ‘rheolau ymgysylltu’ CLlL i gynghorwyr ar gyfryngau cymdeithasol i’ch tudalen. Mae’r rhain yn hawdd i’w lawrlwytho a’u hychwanegu i’ch proffil a’i gwneud yn glir i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol sut rydych yn bwriadu defnyddio eich cyfrif Twitter (neu gyfrwng cymdeithasol arall).
Dechrau ar Twitter
Unwaith yr ydych ar Twitter ac wedi gosod eich proffil, dechreuwch chwilio am bobl i’w dilyn. Gall y rhain fod yn gyd gynghorwyr yn eich awdurdod fel man cychwyn, gweinyddwyr cyhoeddus eraill yn ardal eich cyngor, pobl rydych yn eu hadnabod yn eich cymuned fel busnesau lleol a sefydliadau. Bydd llawer o bobl rydych yn eu dilyn ar Twitter yn eich dilyn yn ôl yn awtomatig a pho fwyaf yr ydych yn ymgysylltu â phobl rydych yn eu dilyn – drwy hoffi, ymateb neu eu hail-drydar – po fwyaf tebygol ydynt o’ch dilyn chi.
Mae Twitter yn rhoi cyfle i chi gael cysylltiad ac adborth ar unwaith.
Sut i drydar gydag effaith
Sut i drydar – nid dim ond i ‘ddarlledu’
Eich cam nesaf yw dechrau anfon negeseuon trydar. Roedd negeseuon trydar yn arfer bod wedi eu cyfyngu i 140 nod ond mae hynny bellach wedi dyblu i 280 nod – sy’n dal ddim yn hir iawn. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod yr ymgysylltu mwyaf gan eraill yn dod o negeseuon trydar sy’n llai na 100 nod o hyd, felly cadwch hynny mewn cof. Hefyd, cofiwch na allwch olygu negeseuon trydar unwaith y byddwch wedi eu cyhoeddi – ond gallwch eu dileu nhw a chywiro gwall a’i gyhoeddi eto.
Meddyliwch am beth rydych yn ei ysgrifennu, cynlluniwch negeseuon trydar a defnyddiwch dalfyriadau. Bydd Twitter yn creu fersiwn byrrach o urls mewn negeseuon trydar i chi yn awtomatig, (23 nod o hyd), sy’n helpu i dorri url maith i lawr fel y gallwch ei rannu.
Mae Twitter yn gallu ymwneud â darlledu gwybodaeth. Nid yn unig nad yw hynny bob amser yn arfer gorau, os ydych ond yn defnyddio Twitter i ddarlledu, rydych yn colli allan ar nifer o gyfleoedd eraill. Byddwch yn cael llawer mwy allan o Twitter os byddwch yn canolbwyntio ar ei ddefnyddio i ymgysylltu â phobl gymaint â chynnwys negeseuon trydar. Mae hynny’n golygu hoffi ac ail-drydar yn ogystal ag ymateb i negeseuon trydar.
Sut i ddyfynnu negeseuon trydar
Gallwch hefyd ddyfynnu neges trydar yn hytrach nag ail-drydar yn unig. Gallwch ddod o hyd i’r dewis hwn o dan yr un botwm ag ail-drydar ond yn hytrach nag aildrydar y neges heb unrhyw sylw eich hun, gallwch ysgrifennu ymateb i’r neges rydych yn ymateb iddo am ddelwedd y neges wreiddiol, gan gynnwys y sawl wnaeth ei anfon. Mae hyn yn gallu cynnig ffordd dda i chi ymateb i negeseuon trydar, gwneud sylw arnynt a chynnal sgyrsiau gyda phobl.
Sut a pham y byddai rhywun yn ‘tagio’ pobl mewn trydariad
Ar Twitter (yn debyg i gyfryngau cymdeithasol eraill) gallwch ‘dagio’ rhywun yn eich neges trydar. Mae hyn yn golygu eich bod yn eu nodi ac yn eu cysylltu’n uniongyrchol i’ch enw defnyddiwr Twitter. Byddant yn derbyn hysbysiad eich bod wedi eu tagio i’ch neges trydar a bydd unrhyw un sy’n clicio ar eu tag yn eich neges yn mynd i’w proffil Twitter.
Os ydych yn tagio pobl yn eich negeseuon trydar, gwnewch yn siŵr fod gennych eu henw defnyddiwr cywir a gwnewch yn siŵr nad ydych yn atalnodi ynddo. Rydych yn dechrau defnyddio’r symbol @ ac wrth i chi deipio bydd Twitter yn rhagweld y defnyddiwr rydych yn ei ychwanegu – gwnewch yn siŵr ei fod yr un cywir!
Defnyddio #hashnod ar Twitter
Defnyddiwch #hashnod yn eich negeseuon trydar y gellir eu harchwilio – os bydd rhywun yn chwilio am enw neu ddisgrifiad arbennig rydych wedi’i ddefnyddio fel hashnod yn eich neges trydar, yna bydd eich neges trydar yn ymddangos yn eu chwiliad, hyd yn oed os nad ydynt yn eich dilyn chi. Peidiwch â defnyddio gormod o hashnodau – yr uchafswm yw un neu ddau – a gwnewch yn siŵr eu bod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol ar gyfer cynnwys eich neges trydar.
Gwneud eich negeseuon trydar yn berthnasol
Cadwch eich negeseuon trydar yn berthnasol i’r prif reswm yr ydych ar Twitter. Fel cynghorydd lleol sy’n debyg o fod yn cysylltu â phreswylwyr eich ward ac ardal y cyngor, a chyfathrebu gyda phobl am weithgaredd yn yr ardal. Gallwch hefyd binio neges trydar ar frig eich ffrwd Twitter, gan ganiatáu i unrhyw un sy’n ymweld â’ch proffil Twitter i weld eich neges trydar pwysicaf. Gallwch ddiweddaru eich neges trydar wedi’i binio yn eithaf rheolaidd, yn dibynnu ar ddigwyddiadau neu faterion presennol ac mae’n bosibl y byddwch yn dewis amlygu achos neu ymgyrch penodol.
Dod i wybod am yr effaith rydych yn ei gael ar Twitter gyda dadansoddion
Byddwch yn dechrau deall llawer mwy am yr effaith rydych yn ei gael ar Twitter drwy ddefnyddio Dadansoddion Twitter. Gallwch gael mynediad i’r rhain drwy eich bwydlen Twitter o dan ‘Mwy’. Ar eich dangosfwrdd Dadansoddion gallwch weld faint o bobl sy’n gweld eich negeseuon trydar. Mae hyn yn aml yn cael ei ddisgrifio fel ‘cyrraedd’. Byddwch yn gallu gweld y ‘cyrraedd’ rydych yn ei gyflawni gyda’ch negeseuon trydar a’r nifer o ymweliadau â’r proffil a’r sawl sy’n crybwyll.
Byddwch hefyd yn gallu gweld pa amser o’r dydd rydych yn derbyn yr ymatebion ac ymateb mwyaf i’ch negeseuon trydar. Cymerwch hyn i ystyriaeth a dechreuwch drefnu eich negeseuon trydar. Gallwch wneud hyn yn Twitter ei hun, neu gallwch ddefnyddio adnodd fel Hootsuite neu Buffer i wneud hyn – mae llawer o gyfrifon newydd ar gyfer y rhain am ddim.
Defnyddio lluniau a fideo ar Twitter
Gallwch gael llawer mwy o effaith ar gyfer eich negeseuon trydar drwy ychwanegu llun neu fideo. Mae tystiolaeth yn dangos bod lluniau yn gwneud i negeseuon trydar sefyll allan llawer cliriach ar ffrwd Twitter ac mae yna lai o luniau ar Twitter nag ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill. Gwnewch yn siŵr fod y llun rydych yn ei ddefnyddio yn berthnasol i’r neges trydar. Os oes angen, Mae gan CLlL ddolenni i lyfrgelloedd lluniau am ddim y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn.
Sut i ymgysylltu mwy ar Twitter
Fel cynghorydd eich nod yw ymgysylltu â phobl drwy Twitter. Nid yw ymgysylltu yn ymwneud â chael sylw, hoffi ar gyfer negeseuon trydar neu ail-drydar. Eich nod yw cael llawer mwy o sgyrsiau sy’n cael effaith. Ffordd wych i gyflawni hyn yw cynnwys galwadau i weithredu yn eich negeseuon trydar. Gall hwn fod yn gais syml i ail-drydar ar gyfer mwy o effaith, neu i anfon adborth atoch. Er enghraifft, os ydych yn anfon neges Twitter am dyllau yn y ffyrdd, gofynnwch i breswylwyr anfon lluniau o dyllau yn y ffyrdd yn eich ward, gyda’r lleoliad ynddynt.
Defnyddio arolygon a phleidleisiau
Os ydych yn cynnal arolwg yn eich ward gallwch gynnwys dolen i e-fersiwn ar blatfform fel Typeform neu SurveyMonkey, sy’n gallu cael llawer o effaith – ond cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys cwestiwn sy’n helpu i’w adnabod os yw pobl yn byw yn eich ward.
Gallwch hefyd gynnal pleidleisiau syml ar Twitter. Mae pleidleisiau yn syml i’w hychwanegu at neges twitter, dewiswch y botwm ‘add a poll’. Gallwch gael hyd at 4 dewis yn eich pleidlais, pob un yn cynnwys 25 nod o hyd. Nid yw sut mae unigolion yn pleidleisio yn gyhoeddus, ond bydd pawb yn gweld canlyniad cyffredinol eich pleidlais.
Crybwyll ar Twitter
Mae’n bwysig gwirio eich negeseuon ‘crybwyll’ ar Twitter yn rheolaidd. Gallwch ddod o hyd i’r rhain o dan hysbysiadau. Dylech fynd i’r fan hyn gyntaf pan ydych yn mynd ar Twitter i wirio ymgysylltu ers y tro diwethaf yr oeddech ar Twitter a gweld os ydych angen ymateb i negeseuon trydar ac ati. Os bydd rhywun yn anfon neges trydar atoch bydd yn ymddangos yn eich negeseuon crybwyll ar Twitter hefyd hyd yn oed os nad ydynt yn eich galluogi (neu os nad ydych yn eu dilyn nhw).
Mae’n ddefnyddiol gwirio eich negeseuon crybwyll yn rheolaidd fel cynghorydd lleol gan ei bod yn bosibl fod preswylwyr lleol yn ceisio cysylltu â chi fel hyn. Os byddai’n well gennych gadw gwaith achos ac ati i e-bost, mae’n hawdd anfon neges syml yn gofyn iddynt gysylltu â chi drwy e-bost, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.
Defnyddio Negeseuon Uniongyrchol ar Twitter
Gallwch anfon Neges Uniongyrchol at bobl sy’n eich dilyn – mae hynny’n golygu anfon neges breifat. DM yw hyn mewn llawfer ar Twitter. Mae defnyddio negeseuon uniongyrchol yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i chi fel cynghorydd os ydych yn ceisio cyrraedd pobl allweddol yn eich ward neu ardal leol a dechrau sgwrs mwy personol. Gallwch hefyd gynnal sgyrsiau grŵp ar negeseuon uniongyrchol sy’n gallu bod yn fanteisiol yn gweithio gydag eraill yn eich ward.
Gallwch baratoi Twitter i ganiatau i bobl nad ydynt yn eich dilyn chi i anfon neges uniongyrchol atoch – ond eich dewis chi yw hynny. Fodd bynnag, cofiwch nad yw pobl rydych wedi eu blocio ar Twitter yn gallu anfon negeseuon atoch, hyd yn oed mewn sgyrsiau grŵp.
Hysbyseb y telir amdano ar Twitter
Fel gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, mae yna gyfle ar gyfer hysbysebu am dâl ar Twitter. I wneud hyn, byddech angen sefydlu cyfrif hysbysebion Twitter, y gallwch ei baratoi o’ch cyfrif Twitter personol. Yna, byddai’n cael ei gysylltu i’ch ffrwd Twitter arferol, felly bydd unrhyw hysbysebion am dâl yn cael gweld yn glir yn dod gennych chi.
Mae yna ystod o gynnyrch hysbyseb Twitter y gallwch eu defnyddio, gan gynnwys hybu negeseuon trydar gyda neges testun yn unig neu gyda lluniau neu fideo. Mae hysbysebion syml fel hyn, a dargedwyd at gynulleidfa ddaearyddol allweddol yn gallu mwyhau eich negeseuon gydag effaith gwirioneddol. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn monitro effaith ac yn cymharu eich cyrhaeddiad organig, os ydych yn penderfynu buddsoddi mewn hysbysebu ar Twitter.
Cadw’n ddiogel ac o fewn y rheolau ar Twitter
Y peth gwych am Twitter yw gallu derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau presennol. Ail-drydar pobl – byddwch yn ofalus. Nid ydych eisiau achosi problemau i’ch hun drwy ail-drydaru rhywbeth rydych yn anghytuno gydag ef fyddai’n gallu cael effaith ar eich rôl fel cynghorydd.
Fel gydag unrhyw blatfform cyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig cadw’n saff a diogel ar Twitter. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cyfrinair a mewngofnodi diogel a galluogi dilysiad 2 ffactor ar gyfer eich cyfrif.
Delio gyda negyddoldeb a chamdriniaeth
Byddwch yn ystyrlon wrth ddefnyddio Twitter Byddwch yn agored i gael trafodaethau gyda phobl – ond peidiwch â mynd i ddadlau! Yn anffodus, mae yna lawer o botensial ar gyfer bod yn negyddol ar Twitter, gan gynnwys baetio a throlio. Byddwch yn barod amdano. Rydych angen bod yn gadarn ac yn barod i flocio dilynwyr. Peidiwch ag anghofio eich bod hefyd yn gallu atal eich cyfrif Twitter dros dro os ydych yn teimlo eich bod angen seibiant o’r platfform.
Gwnewch eich gorau i beidio bwydo’r troliau
Yr arfer gorau yw peidio cymryd rhan mewn dadleuon ar Twitter – weithiau mae pobl sy’n ceisio eich pryfocio yn cael eu disgrifio fel troliau. Mae’n anodd ennill dadleuon, a chofiwch mae yna lawer o bobl sy’n eich dilyn sy’n fwy pwysig i chi – nid y troliau. Gwell blocio pobl, a rhoi gwybod am gam-drin, gan gynnwys rhoi gwybod i’r heddlu os bydd angen.
Mae Twitter hefyd yn fforwm cyhoeddus iawn – felly byddwch yn ymwybodol bod llawer o bobl yn debyg o weld beth rydych yn ei gynnwys ac mae hynny’n cynnwys negeseuon rydych wedi eu cynnwys amser maith yn ôl, o bosibl ymhell cyn i chi hyd yn oed feddwl am fod yn gynghorydd.
Atal dros dro neu ddiffodd eich cyfrif
Cofiwch ei bod yn hawdd iawn atal dros dro neu ddiffodd eich cyfrif Twitter dros dro os ydych yn teimlo eich bod angen seibiant oddi wrtho. Os ydych ond yn cymryd seibiant, gallwch wneud hynny am 30 diwrnod – ond os ydych eisiau cadw eich cyfrif, rydych angen mewngofnodi cyn diwedd y 30 diwrnod.
Os nad ydych eisiau eich cyfrif mwyach a’i fod yn cael ei ddileu, bydd eich negeseuon trydar yn parhau a gall pobl barhau i sôn amdanoch yn eu negeseuon – ond ni fydd yn cysylltu i’ch proffil mwyach. Fodd bynnag, unwaith y bydd eich cyfrif wedi’i ddileu ni allwch ei adfer.