Canllaw i ddefnyddio Nextdoor
Dyma ganllaw arweiniol ar gyfer cynghorwyr lleol ar sut i ddefnyddio Nextdoor. Mae’r canllaw yn rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i ddechrau defnyddio Nextdoor fel cynghorydd, y gwahanol opsiynau i bostio ar Nextdoor, sut i gymryd rhan yn eich cymdogaeth, sut i ymgysylltu’n effeithiol â thrigolion, beth i’w bostio a sut i gadw’ch hun yn saff a diogel gan ddefnyddio’r platfform.
Amcanion
Cyflwyniad i Nextdoor
- Beth sy’n unigryw am Nextdoor
Cofrestru
Gwneud defnydd o Nextdoor fel cynghorydd
- Defnyddio’r ffrwd newyddion
Postio ac ymateb
- Rhoi nod tudalen ar bostiadau
- Negeseuon preifat

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr
Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Cysylltiadau
Nextdoor for Public Services
Cyfyngiadau defnyddio Nextdoor fel cynghorydd
Sut i bostio’n ddiogel
- Delio â negyddiaeth a chamdriniaeth
- Diffodd a dileu eich cyfrif
Cyflwyniad i Nextdoor
Nextdoor yw un o’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf newydd yn y DU a lansiwyd yn 2016. Mae wedi tyfu’n gyflym ac erbyn hyn mae dros 15,000 o gymdogaethau Nextdoor ledled y DU.
Yn debyg iawn i sut mae Facebook yn cynnig offer a swyddogaethau amrywiol i bobl yn eich rhwydwaith cyfeillgarwch neu sy’n rhannu diddordebau tebyg, mae Nextdoor yn cynnig lle tebyg i bobl yn yr un gymuned leol ryngweithio â’i gilydd.
Mae Nextdoor yn galluogi i ddefnyddwyr ddechrau sgyrsiau am faterion lleol a chael cymdogion eraill i gyfrannu gan ddefnyddio sylwadau a negeseuon uniongyrchol.
Mae Nextdoor yn arf ardderchog i gynghorwyr gadw ar ben materion lleol a deall yr hyn y mae pobl yn eu hardal yn siarad amdano. Mae’n werth cofio nad yw Nextdoor mor hollbresennol â rhai rhwydweithiau cymdeithasol eraill eto (yn 2021, roedd 1 o bob 7 o drigolion y DU yn ei ddefnyddio), ac felly nid yw’n adlewyrchu’r ystod gyfan o safbwyntiau neu faterion y gallai eich ward leol eu cynnwys. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn ffordd wych o ymgysylltu’n uniongyrchol â thrigolion sydd eu hunain yn ymwybodol o’ch cymuned leol ac yn pryderu amdani.
Beth sy’n unigryw am Nextdoor?
Yr hyn sy’n gwneud Nextdoor yn unigryw yw ei fod yn cynnig rhwydwaith preifat ar gyfer ‘cymdogaethau’, sydd fel arfer yn cael eu diffinio fel pentrefi neu ardaloedd o drefi. Wrth gofrestru, rhaid i ddefnyddwyr brofi ble maent yn byw naill ai drwy ddarparu cod post neu rif ffôn. Yna cânt eu dyrannu i’w cymdogaeth, ond, yn wahanol i blatfformau eraill, ni allant weld postiadau mewn ardaloedd y tu allan i’w cymdogaeth leol a chymdogaethau sy’n ddaearyddol agos iawn.
Mae hyn yn gwneud Nextdoor yn anarferol o addas ar gyfer mathau o weithgareddau a gyflawnir gan gynghorwyr a chynghorau.
Mae Nextdoor yn arf ardderchog i gynghorwyr gadw ar ben materion lleol a deall yr hyn y mae pobl yn eu hardal yn siarad amdano.
Cofrestru
Mae creu cyfrif ar Nextdoor yn weddol syml, a gellir ei wneud naill ai drwy’r wefan (www.nextdoor.co.uk) neu drwy un o’r apiau symudol. Ar ôl darparu eich cyfeiriad, efallai y bydd angen i chi ddilysu eich cyfrif gan ddefnyddio naill ai eich ffôn, geo-leoliad awtomatig neu drwy lythyr yn eich gwahodd gyda chod dilysu. Mae Nextdoor yn defnyddio’r rhain er mwyn sicrhau mai dim ond y cymunedau lleol y maent yn byw ynddynt y gall pobl ymuno â nhw.
Yn debyg iawn i Facebook, mae Nextdoor yn defnyddio enwau go iawn yn lle aliasau neu enwau defnyddwyr, felly cofiwch y bydd yr holl sylwadau a phostiadau a wnewch yn gysylltiedig â’ch hunaniaeth ac nid yn sefydliad neu’n broffil dienw. Wrth greu cyfrif ar Nextdoor, rydych yn gwneud hynny fel dinesydd preifat ac nid fel cynrychiolydd etholedig (mwy o fanylion am hyn isod), ac yn wahanol i blatfformau eraill ni allwch greu tudalen neu hunaniaeth ar wahân ar gyfer eich gwaith gwleidyddol.
Gwneud defnydd o Nextdoor fel cynghorydd
Mae gan Nextdoor nifer o ddefnyddiau clir ar gyfer cynghorwyr a gellir eu defnyddio’n effeithiol iawn. Mae rhai o’r defnyddiau y gall cynghorwyr eu canfod ar gyfer Nextdoor yn cynnwys:
- Cwrdd â thrigolion
- Gofyn cwestiynau neu bostio pleidlais
- Trefnu digwyddiadau
- Cael argymhellion
- Postio rhybuddion
Fel cynghorydd lleol, bydd modd i chi weld sut y daw materion i law yn eich cymuned leol a gofyn cwestiynau ac arolygon barn i fesur safbwyntiau. Mae hefyd yn caniatáu i chi drefnu a chefnogi digwyddiadau lleol.
Defnyddio’r ffrwd newyddion
Ffrwd newyddion Nextdoor yw’r peth cyntaf y byddwch yn ei weld ar y wefan neu’r ap ar ôl mewngofnodi, ac mae’n dangos ffrwd o gynnwys a bostiwyd gan ddefnyddwyr Nextdoor eraill yn eich ardal.
Yn ddiofyn, bydd y Ffrwd newyddion yn cael ei drefnu i ddangos y postiadau mwyaf poblogaidd yn gyntaf, ond gallwch chi newid hyn drwy:
- glicio ar eich enw ar frig ochr dde’r wefan
- dewis ‘view profile’
- clicio ar yr eicon ‘settings’, ‘Account settings & preferences’,
- dewis ‘Newsfeed Preferences’ ar y chwith
- yna dewis trefnu’r Ffrwd newyddion yn ôl gweithgarwch diweddar (h.y. y sylwadau diweddaraf ar bost) neu y postiadau mwyaf diweddar.
Mae dewis newid yr opsiwn i’r naill neu’r llall o’r rhain yn golygu y gallech weld ystod ehangach o gynnwys ar eich Ffrwd newyddion, tra bod ei adael ar ‘Top posts’ yn golygu y byddwch yn fwy tebygol o weld y cynnwys mwyaf poblogaidd yn gyntaf.
Gallwch bostio i’r Ffrwd newyddion unrhyw bryd, o frig tudalen gartref Nextdoor neu o’r ap, ac wrth wneud hynny gallwch ychwanegu testun, lluniau, delweddau, pleidlais (arolwg) neu ychwanegu rhywbeth i’r safle gwerthu (marketplace). Gallwch hefyd greu post am fater diogelwch os ydych eisiau codi ymwybyddiaeth o ymddygiad amheus.
Postio ac ymateb
Yn union fel llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mawr eraill, mae Nextdoor yn caniatáu i chi bostio ac ymateb i bostiadau gan ddefnyddwyr eraill. Mae’r prif gynnwys y byddwch yn ei weld mewn fformat fforwm trafod, sy’n eich galluogi i weld yr holl weithgareddau yn eich cymdogaeth.
Bydd gennych hefyd gyfres o ymatebion parod ar gael i chi. Maent yn wahanol i’r swyddogaeth ‘Hoffi’ ar Facebook ac yn fwy perthnasol i ddiolch i gymdogion am argymhellion a gwybodaeth. Gallwch hefyd groesawu aelodau newydd ac ymateb i bostiadau gyda neges eich hun.
Rhoi nod tudalen ar bostiadau
Os am unrhyw reswm eich bod am gadw cofnod o bost ar y Ffrwd newyddion a’i wneud yn haws dod o hyd iddo yn y dyfodol, gallwch ddewis cadw unrhyw bost gyda’r opsiwn ‘bookmark’. Cliciwch ar y ddewislen tri dot ar ochr dde’r post a dewis ‘ Bookmark’.
Yna gallwch gael mynediad at y postiadau rydych wedi’u cadw ar unrhyw adeg, drwy glicio ar eich enw ar frig ochr dde y wefan, yna ‘View profile’, yna ‘bookmarks’. Ar yr ap symudol, mae’r opsiwn hwn i’w gael ar y sgrin gartref. Cliciwch ar eicon eich proffil ar y chwith, ac yna yn yr un modd dewiswch ‘bookmarks’ oddi yno.
Negeseuon preifat
Yn ogystal â thrafod materion mewn grwpiau ac ar y Ffrwd newyddion, mae Nextdoor yn caniatáu i chi gysylltu ag unigolion yn uniongyrchol gan ddefnyddio negeseuon. I wneud hynny, cliciwch ar enw’r unigolyn rydych am gysylltu ag o a chliciwch ar y botwm ‘Message’ ar ei broffil. Gallwch ddewis cael copi o unrhyw ohebiaeth a anfonwyd i’ch cyfeiriad e-bost hefyd, ond gwnewch yn siŵr nad ydych yn defnyddio’r nodwedd hon i ymgymryd yn uniongyrchol ag unrhyw fusnes swyddogol y Cyngor neu waith achos (gweler isod).
Gallwch gael mynediad cyflym at eich holl drafodaethau ar unrhyw adeg ar y wefan drwy ddewis ‘Messages’ o’r ddewislen ar y chwith, neu drwy dapio’r eicon swigod siarad yng nghornel dde yr ap.
Cysylltiadau
Mae ‘Connections’ yn galluogi i chi gysylltu ag unigolion ar Nextdoor, mewn ffordd debyg i ddilyn neu ychwanegu rhywun fel ffrind ar blatfformau eraill. Pan fyddwch chi’n cysylltu â rhywun rydych chi’n ei adnabod (ac maen nhw’n derbyn eich cais), bydd eu postiadau yn ymddangos ar frig eich Ffrwd newyddion, bydd eu sylwadau ar bostiadau eraill yn cael eu hamlygu, a byddwch yn cael hysbysiadau pan fyddant yn postio cynnwys newydd. Bydd modd i chi hefyd eu cynnwys mewn negeseuon a sylwadau drwy eu tagio – i wneud hynny, teipiwch ‘@’ ac yna eu henw, a bydd Nextdoor yn ychwanegu cyfeiriad atyn nhw i’r post ac yn eu hysbysu’n awtomatig.
I gysylltu â rhywun ar unrhyw adeg, cliciwch ar eu henw o bost neu gwnewch sylw, a dewiswch yr opsiwn ‘Connect’ ar eu proffil.
Nextdoor for Public Services
Mae Nextdoor for Public Services yn caniatáu i gynghorau lleol, heddluoedd, gwasanaethau tân a chyrff y GIG weithredu fel sefydliadau ar y platfform. Mae hyn yn golygu y gall cyrff cyhoeddus bostio cynnwys fel cyfrif swyddogol wedi’i ddilysu am ddigwyddiadau, gwasanaethau ac eitemau newyddion pwysig.
Bydd aelodau Nextdoor yn cael eu ‘tanysgrifio’ yn awtomatig i gael negeseuon gan y gwasanaethau sy’n eu gwasanaethu. Mae gan wasanaethau cyhoeddus hefyd fynediad at offer arbennig, megis rhybuddion brys y gellir eu defnyddio i hysbysu trigolion lleol am bethau fel cau ffyrdd yn annisgwyl, pobl ar goll a bygythiadau uniongyrchol eraill.
Os yw eich cyngor lleol yn defnyddio Nextdoor fel Gwasanaeth Cyhoeddus swyddogol, efallai y bydd yn dewis caniatáu i rai swyddogion bostio diweddariadau eu hunain gan ddefnyddio manylion adnabod swyddogol o dan gyfrif Gwasanaeth Cyhoeddus, neu efallai y bydd yn dewis postio cynnwys fel sefydliad annibynnol. Pan fydd post yn cael ei wneud o gyfrif Gwasanaeth Cyhoeddus, gallwch chi nodi’r sefydliad a’r unigolyn a’i creodd ar frig y post ei hun, er enghraifft ‘Heddlu Merton – PCSO John Smith’.
Mae pob Gwasanaeth Cyhoeddus sydd wedi’i ddilysu yn cael bathodyn gyda thic gwyrdd ar eu proffiliau a phob post, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr Nextdoor yn gallu gwirio’n hawdd bod cynnwys yn dod o ffynhonnell swyddogol.
Cyfyngiadau defnyddio Nextdoor fel cynghorydd
Tra bod Nextdoor yn caniatáu trafod materion gwleidyddol lleol perthnasol yn y Ffrwd newyddion, mae’n llwyr wahardd y defnydd o’r llwyfan i drafod neu drefnu ymgyrchu gwleidyddol, ac i hyrwyddo digwyddiadau ymgyrchu neu godi arian.
Yn yr un modd, fel Cynghorydd etholedig, ni chaniateir i chi ddefnyddio eich cyfrif Nextdoor personol i ymdrin yn uniongyrchol â gwaith achos neu unrhyw fusnes swyddogol arall. Yn lle hynny, rhaid i chi gyfarwyddo pobl i gysylltu ag adrannau neu gynrychiolwyr perthnasol drwy gyfeiriad(au) e-bost swyddogol y llywodraeth.
Sut i bostio’n ddiogel
Mae Nextdoor yn cael ei ystyried fel platfform ‘mwy cyfeillgar’ na llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mawr eraill. Mae mwy o’i gynnwys yn annadleuol, fel pobl yn gwerthu pethau neu’n hyrwyddo digwyddiadau lleol. Yn gyffredinol, nid yw’n gweld yr un lefel o drolio a cham-drin ag a welir ar rai platfformau eraill. Nid bod hynny byth yn digwydd, ond mae’n llai cyffredin.
Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn bod cynghorwyr yn ofalus o ran pa faterion i ymwneud â nhw. Gall cynnwys hynod leol Nextdoor achosi canlyniadau o natur gadarnhaol a negyddol, oherwydd gall y problemau ddenu beirniadaeth neu farn gref ymysg trigolion. Dylai cynghorwyr gofio y gallant gyfeirio materion yn ôl i’r sianeli swyddogol yn hytrach na delio gyda nhw eu hunain.
Byddwch yn siŵr o’ch ffeithiau cyn postio. Sicrhewch eich bod yn gwirio unrhyw beth rydych am ei rannu neu ei hyrwyddo.
Delio â negyddiaeth a chamdriniaeth
Peidiwch â bod ofn blocio neu adrodd am bobl: Os ydych chi’n meddwl bod cyfrifon yn ffug, blociwch nhw o’ch proffil. Os cewch sylwadau ymosodol neu lawer o rai negyddol gan ddilynwyr, gallwch ddileu sylwadau a blocio’r bobl hynny. Peidiwch ag oedi cyn adrodd am bobl (gan gynnwys i’r heddlu) os cawsoch negeseuon neu sylwadau a fyddai’n cael eu hystyried yn drosedd casineb.
Diffodd neu ddileu eich cyfrif Nextdoor
Gallwch ddiffodd neu ddileu eich cyfrif Nextdoor ar unrhyw adeg. Mae gwahaniaeth pwysig rhwng y ddwy weithred. Mae diffodd eich cyfrif yn tynnu eich proffil ond yn gadael eich postiadau hanesyddol, y gall defnyddwyr eraill eu gweld. Mae hyn yn golygu y gallwch ailgychwyn ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi eto. Mae dileu eich cyfrif yn tynnu eich proffil a’ch holl bostiadau, ac ni ellir dad-wneud hyn.