Canllaw i ddefnyddio Facebook

Mae hwn yn ganllaw rhagarweiniol i gynghorwyr lleol ar sut i ddechrau defnyddio Facebook. Mae’r canllaw yn darparu cyngor a chyfarwyddyd ar sut i ddechrau defnyddio Facebook fel cynghorydd, pam dylen nhw ddefnyddio Tudalen Facebook yn hytrach na Phroffil a sut i ddechrau rhannu cynnwys. Mae hefyd yn cynnwys yr holl ffyrdd gwahanol i ddefnyddio Facebook, gan gynnwys negeseuon i’ch ffrwd, digwyddiadau, fideo a Facebook Live, deall sut i gryfhau eich ymgysylltiad â defnyddwyr Facebook eraill, eich Mewnwelediadau Facebook a sut i aros yn saff a diogel.

Amcanion

Cyflwyniad i Facebook

    • Pam y dylai cynghorwyr ddefnyddio Tudalen Facebook nid Proffil Facebook
    • Sut mae Tudalen Facebook yn cynnig preifatrwydd a diogelwch i chi
    • Creu eich Tudalen Facebook

Beth i’w gynnwys ar eich Tudalen Facebook

    • Rheolau ymgysylltu CLlL
    • Ychwanegu eich adran galwad i weithredu a Chwestiynau Cyffredin
    • Pwysigrwydd defnyddio lluniau da ar eich Tudalen

Camau cyntaf ar ôl i chi gyhoeddi eich Tudalen Facebook

    • Chwilio am Dudalennau a Grwpiau Facebook yn eich cymuned
    • Ymuno â Grwpiau Facebook
    • Pa Dudalennau Facebook ddylech chi eu hoffi?

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr

Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

Rhannu negeseuon, lluniau a fideos ar Facebook

    • Ychwanegu lluniau a delweddau ar gyfer mwy o effaith
    • Gwneud yn fawr o fideo ac ychwanegu is-deitlau
    • Sut i ddefnyddio digwyddiadau Facebook
    • Straeon Facebook
    • Facebook Live
    • Grwpiau Facebook yn erbyn Tudalen Facebook

Deall yr algorithm Facebook

    • Annog ymgysylltu i gyrraedd mwy o’ch cynulleidfa
    • Gofyn cwestiynau a chysylltu ag arolygon
    • Defnyddio llais dilys ar Facebook

Cipolwg Facebook

    • Hyrwyddo a hysbysebion am dâl ar Facebook
    • Hysbysebion daearyddol a dargedwyd
    • Adolygu effaith eich hysbysebion

Pwysigrwydd cael strategaeth Facebook

    • Adnoddau i’ch helpu i drefnu eich negeseuon ymlaen llaw

Aros yn saff a diogel ar Facebook

    • Delio gyda negyddoldeb a chamdriniaeth
    • Datgyhoeddi eich Tudalen Facebook
    • Diffodd a dileu Facebook

Cyflwyniad i Facebook a faint o bobl sy’n ei ddefnyddio yn y DU

 Facebook yw’r platfform cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd yn y DU gyda hanner defnydd y farchnad o gyfryngau cymdeithasol yn 2021 (56% o gyfanswm ymweliadau cyfryngau cymdeithasol*).  O ganlyniad, dyma’r platfform cyfryngau cymdeithasol a awgrymir amlaf i gynghorwyr ei ddefnyddio gyntaf oherwydd mai dyma ble byddwch yn gallu cyfathrebu gyda’r rhan fwyaf o bobl ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oed a demograffeg yn eich ward.  

 

Pam y dylai cynghorwyr ddefnyddio Tudalen Facebook – nid proffil

Eich cam cyntaf wrth ddefnyddio Facebook yw sefydlu cyfrif Facebook ac yna eich proffil Facebook, sy’n syml i’w wneud drwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost.   Fodd bynnag, rydym yn awgrymu’n gryf nad ydych yn defnyddio eich Tudalen proffil fel y prif ffordd o gyfathrebu ar Facebook fel cynghorydd, ond yn hytrach i sefydlu Tudalen Facebook o’ch proffil.

Mae llawer o resymau dros hyn. Mae proffil Facebook wedi’i gyfyngu i 5,000 o ffrindiau ac mae’n bosibl na fyddwch yn dymuno cael eich cyfyngu i hynny yn y dyfodol.   Gyda Thudalen Facebook byddwch hefyd yn cael mynediad i gipolwg a dadansoddiad am eich Tudalen a bydd gennych fynediad i wneud hysbysebion Facebook a negeseuon hwb. Gyda Thudalen gallwch sefydlu pobl eraill i gael rôl weinyddol ar eich Tudalen, sy’n golygu y gallwch gael cymorth a chefnogaeth gyda’ch Tudalen.  Byddwch hefyd yn gallu trefnu negeseuon o fewn Facebook.  Fodd bynnag, byddwch bob amser angen Proffil Facebook, o ble rydych yn sefydlu eich Tudalen.  

Sut mae Tudalen Facebook yn cynnig preifatrwydd a diogelwch i chi

Yn bennaf oll, mae defnyddio Tudalen Facebook ar gyfer eich rôl fel cynghorydd yn cynnig mwy o breifatrwydd a diogelwch na defnyddio eich Proffil gan y gallwch ddefnyddio eich Proffil Facebook gyda rheoliadau preifatrwydd caeth i rannu diweddariadau gyda’ch teulu a ffrindiau, gan eich galluogi i gadw eich rôl fel cynghorydd ar wahân i’ch cyfryngau cymdeithasol personol.

Creu eich Tudalen Facebook

Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif a sefydlu eich proffil Facebook, mae’n syml iawn creu Tudalen Facebook i’ch hun fel cynghorydd.   Bydd llunio’r Dudalen ychydig yn wahanol i broffil. 

‘cyfeiriad’ Eich Tudalen Facebook

Eich cam cyntaf fydd dewis cyfeiriad Facebook.com unigryw ar gyfer eich Tudalen ac ysgrifennu disgrifiad byr ar gyfer y Dudalen – yn debyg o ymwneud â’ch rôl fel cynghorydd a chadw mewn cysylltiad â phreswylwyr lleol.  Dewiswch rywbeth syml ond hefyd hawdd i’w rannu ar daflenni neu gyfryngau cymdeithasol eraill. Mae’n bosibl y byddwch yn gweld bod eich dewis cyntaf o gyfeiriad yn cael ei ddefnyddio’n barod gan ddefnyddiwr arall.   Os ydyw, newidiwch y cyfeiriad ychydig i weld a yw hynny’n bosibl.  

Newid rhwng eich Proffil Facebook a’ch Tudalen

Mae’n hawdd iawn newid rhwng eich Proffil Facebook a’ch Tudalen – bydd y ddau yn ymddangos yn eich dewislen Facebook ar y chwith ac rydych yn clicio ar pa bynnag un ohonynt rydych eisiau ei ddefnyddio.   Gwnewch yn siŵr eich bod yn y dewis cywir cyn cymryd camau/gwneud sylw ar negeseuon pobl eraill ac ati.

Mae Facebook yn ble byddwch yn gallu cyfathrebu gyda’r rhan fwyaf o bobl ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oed a demograffeg yn eich ward.

Beth i’w ychwanegu at eich Tudalen Facebook

Pan fyddwch yn creu eich Tudalen mae yna lawer o bethau y gallwch ychwanegu at y Dudalen – eich lleoliad, y manylion cyswllt gorau i’w defnyddio, yn arbennig eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yr ydych yn hapus i’w gyhoeddi, url gwefan ac ati – bydd y cyfan yn ddefnyddiol i bobl sy’n ceisio cysylltu â chi. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu diweddaru yn rheolaidd.

Defnyddiwch reolau ymgysylltu CLlL

Dylech hefyd ychwanegu’r ‘rheolau ymgysylltu’ CLlL i gynghorwyr ar gyfryngau cymdeithasol i’ch Tudalen. Mae’r rhain yn hawdd i’w lawrlwytho a’u hychwanegu i’ch proffil a’i gwneud yn glir i ddefnyddwyr Facebook sut rydych yn bwriadu defnyddio eich tudalen Facebook (neu gyfrwng cymdeithasol arall).

Ychwanegu eich botwm ‘galwad gweithredu’

Byddwch hefyd angen penderfynu beth i’w sefydlu fel eich botwm ‘galwad gweithredu’ sef y botwm glas ar ochr dde eich Tudalen.   Mae yna sawl dewis ar gyfer beth i ddefnyddio hwn – ond rydym yn awgrymu eich bod yn ei ddefnyddio i ofyn i bobl anfon eich negeseuon Facebook.  Rydym hefyd yn awgrymu eich bod yn sefydlu ymateb awto ar eu cyfer – gallai hyn fod i ddweud diolch am gysylltu â chi ac y byddwch yn ymateb yn fuan). Gallwch newid y rhain yn ddiweddarach os dymunwch yn hawdd iawn.

Cwestiynau Cyffredin Eich Tudalen Facebook

Mae yna hefyd adran Cwestiynau Cyffredin y gallwch ei hychwanegu, fyddai’n eich galluogi i ychwanegu cwestiynau cyffredin syml sydd gan bobl i chi. Gall hyn gynnwys sut y gallant gysylltu gyda darn o waith achos y cyngor, neu gael golwg ar geisiadau cynllunio yn y ward.   Gallwch ei ddiweddaru’n rheolaidd, yn dibynnu ar faterion presennol.

Pwysigrwydd lluniau da ar gyfer llun proffil a phennawd eich Tudalen

Cyn i chi wneud eich Tudalen yn fyw, ychwanegwch lun proffil da a phennawd llun ar gyfer y Dudalen.   Mae’r llun rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer eich llun proffil yn bwysig.   Rydych angen bod yn weladwy a gallu eich adnabod. Mae llun ‘pen ac ysgwyddau’ clir yn berffaith.

Defnyddiwch rhywbeth o faint da ar gyfer llun pennawd eich Tudalen sy’n siâp hir a chymharol gul.  Mae llun delfrydol ohonoch gyda rhywbeth adnabyddus neu arwyddocaol yn eich ward yn gallu gweithio’n berffaith.  Dylech hefyd gynnwys ambell stori a llun fel bod yna fwy o gynnwys ar eich Tudalen pan fydd yn mynd yn fyw.

Camau cyntaf ar ôl i chi gyhoeddi eich Tudalen Facebook

Unwaith y bydd eich Tudalen Facebook wedi’i llunio dylech gynnwys ambell stori a llun (hyd yn oed ambell fideo efallai!) fel bod yna fwy o gynnwys i’ch Tudalen pan fydd yn cael ei chyhoeddi.  Unwaith y bydd yn cael ei chyhoeddi – ar gael i bobl ei gweld – dechreuwch estyn allan at eraill yn eich cymuned a dweud wrthynt am eich Tudalen.

Gallwch gynnwys eich dolen Tudalen Facebook ar droed nodyn eich e-bost, mewn taflenni a llythyrau.  Os ydych eisoes yn aelod o Grwpiau Facebook neu grwpiau Whatsapp, dywedwch wrth bobl ynddynt am eich Tudalen newydd a gofynnwch i bobl ei hoffi fel y gallant gadw mewn cysylltiad gyda beth rydych yn ei wneud.

Chwiliwch am Dudalennau a Grwpiau Facebook yn eich cymuned

Chwiliwch am Dudalennau neu Grwpiau Facebook fyddai’n berthnasol i chi eu hoffi neu ymuno â nhw.  Mae yna lawer o grwpiau cymunedol wedi eu sefydlu ar Facebook ac mae’n debygol iawn y byddant yn eich ardal chi hefyd.   Chwiliwch ar Facebook amdanynt gydag enw eich tref, maestref, cod post neu enw ward.  Mae’n eithaf tebyg y bydd llawer yn ymddangos.  Gofynnwch i ymuno â’r rhai sy’n edrych yn fwy perthnasol i’ch rôl chi fel cynghorydd.

Ymuno â Grwpiau Facebook

Pan fyddwch yn gofyn i ymuno â grwpiau Facebook yn aml mae’n rhaid i chi ateb ambell gwestiwn cyn i’r Gweinyddwr Grŵp dderbyn eich cais.   Mae’r rhain yn tueddu i ofyn os byddwch yn cytuno i beidio bod yn ddigywilydd neu’n ymosodol yn y Grŵp, pam ydych yn dymuno ymuno (e.e. ydych chi’n byw’n lleol a pheidio sbamio pobl (mae sbamio yn golygu ymatebion amherthnasol neu ddim o gymorth, amhriodol i’r Grŵp anfon llwyth o negeseuon ac ati).

Un her fyddwch yn ei hwynebu o bosibl yw bod rhai Grwpiau Facebook ddim yn caniatau i Dudalen ymuno â Grŵp ond bydd llawer yn caniatau hynny.  Os oes yna Grŵp rydych yn meddwl sy’n bwysig iawn i ymuno ag ef na fydd yn derbyn eich cais oherwydd eich bod yn Dudalen yna bydd yn rhaid i chi benderfynu a ydych yn dymuno ymuno gyda’ch proffil yn hytrach.

Pa Dudalennau Facebook eraill ddylech chi eu hoffi?

Chwiliwch am Dudalennau Facebook ar gyfer cynrychiolwyr etholedig eraill yn eich cymuned gan gynnwys eich AS, ar gyfer eich cyngor, busnesau lleol a sefydliadau.  Bydd yn ddefnyddiol i chi Hoffi’r Tudalennau hynny a’u dilyn fel y gallwch weld y math o wybodaeth maent yn ei rhannu.

Edrychwch allan am gynnwys y gallwch ei rannu yn ôl i’ch Tudalen eich hun, a meddyliwch a oes yna wybodaeth berthnasol y gallwch rannu gyda Grwpiau rydych yn aelod ohonynt ganddyn nhw hefyd.   Dylai’r hyn rydych yn ei rannu fod yn wybodaeth ddefnyddiol a pherthnasol i bobl yn y Grŵp neu sy’n dilyn eich Tudalen.

Rhannu negeseuon, lluniau a fideos ar Facebook

Y prif ffordd mae pobl wedi arfer cynnwys negeseuon ar Facebook yw drwy negeseuon i’w proffil neu ffrwd Tudalen.   Gall y rhain fod yn neges syml gyda thestun yn unig, un neu grŵp o luniau gyda chapsiynau a thestun, a gall eich dilynwyr wneud sylw, ymateb a rhannu’r negeseuon hyn (os nad ydych wedi newid eich gosodiadau i atal rhannu).

Ychwanegwch luniau ar gyfer mwy o effaith.

Byddwch yn cael llawer mwy o effaith o’ch negeseuon Facebook os byddwch yn ychwanegu lluniau atynt.   Gall y rhain fod yn luniau rydych wedi eu tynnu eich hun, neu rai o lyfrgelloedd lluniau. Mae gan CLlL ddolenni i lyfrgelloedd lluniau am ddim y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn.

Os ydych yn tynnu lluniau eich hun i’w defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am ganiatâd y bobl rydych yn tynnu eu llun i’w ddefnyddio ar-lein. Peidiwch byth â defnyddio lluniau o unrhyw un o dan 18 oed heb ganiatâd ysgrifenedig gan eu rhiant neu warchodwr swyddogol.

Gallwch greu albwm lluniau ar eich Tudalen, ac ychwanegu atynt dros amser, sy’n eich helpu i ddatblygu enghreifftiau perthnasol dros amser.   Gall hyn fod o ddigwyddiadau rydych yn eu mynychu, lluniau sy’n ymwneud â gwaith achos, neu ymgyrchoedd ar gyfer newidiadau yn yr ardal.   Gallwch olygu lluniau yn syml yn Facebook, ond efallai y byddai’n haws eu golygu gyntaf yn eich llun neu ar eich cyfrifiadur.   Byddem yn awgrymu eich bod yn tocio eich lluniau, i gael mwy o effaith.

Creu lluniau yn Canva i’w defnyddio ar Facebook

Syniad arall yw creu lluniau cyfryngau cymdeithasol ar Canva.com. Mae yna bob math o dempledi y gallwch eu defnyddio i greu delwedd weledol ar gyfer eich Tudalen, i gael mwy o effaith a sefyll allan ar y ffrwd Facebook. Gallwch hefyd greu posteri neu gyfrwng arall y dymunwch ei argraffu ar Canva.

Gwnewch yn fawr o fideo.

Gallwch hefyd gynnwys fideos wedi eu recordio ymlaen llaw ar eich ffrwd Facebook yn yr un ffordd ag y byddech yn ei wneud gyda lluniau.  Er y gallwch rannu fideos eithaf maith ar Facebook ni fyddem yn argymell hynny.   Cadwch y cynnwys yn fyr ac i greu effaith. Byddwch yn gallu gweld o’ch Cipolwg Facebook am faint mae pobl yn gwylio eich fideos ac mae hynny’n ganllaw defnyddiol.

Ychwanegu isdeitlau at fideos

Mae llawer o bobl yn gwylio fideos ar gyfryngau cymdeithasol heb sain, felly ceisiwch ychwanegu is-deitlau at eich fideos. Bydd Facebook yn eu cynhyrchu’n awtomatig ar gyfer fideos os byddwch yn gofyn iddo wneud hynny, neu gallwch ysgrifennu un eich hun.   Gallwch hyd yn oed ychwanegu capsiynau at fideo rydych wedi’i gynnwys yn y gorffennol. Gwiriwch y capsiynau gan y gall gynnnwys gwallau weithiau.

Bydd defnyddwyr yn gweld capsiynau yn yr iaith maent wedi’i dewis ar gyfer defnyddio Facebook sy’n gallu eich helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol yn eich cymuned.

Mae ychwanegu negeseuon a fideos rheolaidd at eich ffrwd Facebook yn bwysig.   Cofiwch y gallwch eu dileu’n hawdd os ydych eisiau eu tynnu oddi ar eich tudalen – er mae’n bosibl fod pobl eraill wedi eu harbed felly gallant barhau i fodoli yn rhywle.

Sut i ddefnyddio digwyddiadau Facebook

Mae Facebook yn ffordd wych i rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod.  Gallwch gael mynediad i wybodaeth o Dudalennau Digwyddiadau a sefydlwyd gan bobl eraill, clicio i ddangos fod gennych ddiddordeb neu’n bendant yn mynychu’r digwyddiad a chynnwys negeseuon y gall pobl eraill a wahoddwyd neu sydd â diddordeb eu gweld.

Gallwch lunio eich Tudalen digwyddiadau yn hawdd hefyd a rhannu gyda’ch dilynwyr.   Pan fyddwch yn creu eich digwyddiad yn yr adran ddigwyddiadau ar Facebook gallwch osod y gosodiadau preifatrwydd ar gyfer y digwyddiad.   Gall y rhain fod yn breifat, cyhoeddus, ar gyfer eich ffrindiau yn unig neu i Grŵp.

Eich cam nesaf fyddai dewis enw’r digwyddiad, y dyddiad a’r amser dechrau a gorffen, lleoliad ac yna ychwanegu disgrifiad am beth mae’r digwyddiad.  Yna gallwch ychwanegu llun ar gyfer y digwyddiad – pwysig ei fod yn sefyll allan i bobl rydych yn eu gwahodd – a hefyd ychwanegu unrhyw gyd-drefnwyr.  Efallai y byddai’r rhain yn gynghorwyr yn yr un ward â chi.

Yn olaf, rydych yn cyhoeddi’r digwyddiad ac yn dechrau rhannu gwahoddiadau.  Os ydych wedi penderfynu ei wneud yn gyhoeddus, bydd eich digwyddiad yn ymddangos ar ffrwd digwyddiadau i bobl sy’n lleol i’r digwyddiad a byddant yn gallu RSVP hefyd.  Gallwch gynnwys negeseuon a diweddariadau ar y Dudalen ddigwyddiadau hefyd.

Peidiwch ag anghofio gwirio eich gosodiadau hysbysiad ar gyfer y Dudalen – gall hyn fod i gael eich hysbysu bob tro y bydd rhywun yn rhoi neges ar y Dudalen ddigwyddiadau, neu i beidio cael rhai o gwbl.

Dyblygu negeseuon digwyddiadau

Os ydych yn cynnal digwyddiadau tebyg yn rheolaidd – fel casglu sbwriel misol – gallwch ddyblygu eich Tudalen ddigwyddiadau i arbed amser yn y dyfodol, golygu’r dyddiad a’r amser yn unig, ac o bosibl y lleoliad.  Gallwch hefyd gopio’r ddolen i’r Dudalen ddigwyddiadau fel y gallwch ei hybu y tu allan i Facebook os dymunwch.

Straeon Facebook

Mae straeon Facebook yn debyg iawn i straeon Instagram.  Mae’r rhain yn luniau neu fideos sydd ar gael am 24 awr yn unig cyn iddynt ddiflannu o’ch proffil neu’ch Tudalen.  Mae straeon Facebook sy’n cael eu cynnwys gan bobl rydych yn eu dilyn ar gael ar frig eich ffrwd Facebook ar yr ap symudol, a dyna ble gallwch glicio i greu eich un chi.   Yn wahanol i Instagram, mae’r botwm straeon ar Facebook yn driongl.

Gallwch gynnwys lluniau neu fideo, naill ai yn fyw o gamera eich ffôn neu o’ch albwm lluniau.  Yn wahanol i Instagram gallwch gynnwys straeon o gyfrifiadur, ond mae yna ddewisiadau symlach.  Gallwch gynnwys fideos, ond rhai byr, 20 eiliad er y gallwch ychwanegu sawl fideo mewn rhes.  Gallwch ychwanegu capsiynau, hashnodau ac isdeitlau i’ch straeon.

Fel ar Instagram gall pobl anfon ymatebion i’ch straeon.   Cofiwch er bod straeon yn diflannu ar ôl 24 awr mae eich dilynwyr yn gallu cymryd cip lun ohonynt. Os ydych eisiau arbed eich straeon Facebook rydych angen paratoi archif stori a byddant yn cael eu storio yno’n awtomatig.

Facebook Live

Mae Facebook Live yn caniatau i chi ffrydio fideo yn fyw i’ch dilynwyr mewn ‘amser real’. Gall hyn fod o ddigwyddiad neu weithred rydych yn ei fynychu, neu efallai chi yn siarad i’r camera.   Gall pobl sy’n gwylio eich ffrwd fideo byw ymateb a gwneud sylw arno’n fyw.   Unwaith y byddwch wedi gorffen eich Facebook Live, bydd y fideo yn cael ei gynnwys fel arfer ar eich Tudalen Facebook a gall pobl ei wylio fel neges fideo arferol.   Gallwch ei ddileu os dymunwch, fel unrhyw neges arall.

Grŵp Facebook

Mae Grwpiau Facebook yn wych i gynghorwyr lleol ymuno â nhw.   Mae llawer o Grwpiau Facebook yn canolbwyntio’n lleol, sy’n rhoi’r cyfle perffaith i ymgysylltu â phreswylwyr lleol a’r trafodaethau a gwybodaeth a rennir yno.   Maent yn aml yn teimlo’n lle mwy diogel hefyd, gan fod llawer yn cynnwys rheolaeth weinyddol gaeth sy’n dileu aelodau os byddant yn torri rheolau (er enghraifft oherwydd sylwadau digywilydd ac ati).

Mae gweinyddiaeth gaeth i Grwpiau yn gallu bod yn her i gynghorwyr yn achlysurol gan eu bod yn gallu cyfyngu pwy sy’n gallu ymuno â Grwpiau ac weithiau mae hynny’n golygu na fyddant yn gadael i gynghorwyr ymuno.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb yr holl gwestiynau a ofynnir gan y gweinyddwyr pan fyddwch yn gofyn i ymuno â’r grŵp, ac os na fyddwch yn cael eich derbyn i gysylltu a gofyn pam. Gall hynny eich helpu i ymateb gydag ateb pam y dylech allu ymuno â’r Grŵp.

Mae rhai cynghorwyr yn mwynhau Grwpiau Facebook gymaint eu bod eisiau cael Grŵp eu hunain yn hytrach na Thudalen. Fodd bynnag, mae yna ddibenion gwahanol i Dudalen a Grŵp. Mae Tudalennau yn agored i bawb eu canfod, ond mae Grwpiau yn gallu bod yn gwbl breifat.  Mae Tudalen Facebook yn rhywle ble gallwch rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ar bethau fel cyfarfodydd cyngor a digwyddiadau cymunedol a gynhelir.   Mae grwpiau yn cael eu dylunio i fod yn lle i bobl sy’n ymgysylltu a gyda diddordeb mewn trafod pwnc penodol – efallai ar gael pobl i wirfoddoli yn y digwyddiad cymunedol hwnnw.

Mae Tudalen Facebook yn bwysig i gynghorydd ei defnyddio, hyd yn oed os ydynt yn weithredol iawn mewn Grwpiau Facebook hefyd.   Mae Tudalennau Facebook yn haws i’w canfod pan fydd pobl yn chwilio amdanynt mewn chwilotwr fel Google – pwysig iawn ar gyfer cynghorwyr lleol.  Mae yna lai o Gipolwg ar gael i Grwpiau na Thudalen, ac ni allwch wneud hysbysebion am dâl nac hyrwyddo i Grwpiau chwaith.

Os oes gennych bryderon am gynnwys neu sylwadau sy’n cael eu cynnwys mewn Grŵp Facebook, y cam cyntaf yw rhoi gwybod i weinyddwr y Grŵp.   Rydych yn gyfrifol am ymateb i’ch adroddiad a chymryd camau os byddant yn cytuno gyda’r hyn rydych yn adrodd arno.  Maent yn gallu dileu negeseuon, cuddio neu ddileu sylwadau a dileu aelodau o’r Grŵp.

Fodd bynnag, os bydd y gweinyddwr yn gwrthod cymryd camau gallwch roi gwybod i Facebook am y Grŵp am dorri ei Safonau Cymunedol. Mae hyn yn eithaf syml i’w wneud – ewch i ochr dde’r ddewislen a hofran dros y ddewislen – ble mae’r 3 dotyn mewn llinell wrth y botwm chwilio.   Bydd dewislen yn ymddangos a dewis yno i roi gwybod i’r grŵp.   Bydd yn rhaid i chi ddewis am beth rydych yn rhoi gwybod am y grŵp, a rhoi gwybodaeth arno, felly byddwch yn barod.

Deall yr algorithm Facebook

Pan fyddwch yn mynd ar Facebook ac yn darllen eitemau yn eich ffrwd ar y cyfrifiadur neu ar ap symudol, nid ydych yn gweld negeseuon yn y drefn y cawsant eu cyflwyno nac ar hap chwaith.  Rydych yn eu gweld yn y drefn a benderfynwyd gan algorithm Facebook i chi yn unigol.

I’w gadw’n syml, mae Facebook wedi neilltuo sgôr i bob neges, ac yna penderfynu beth i’w ddangos i chi – ac yn bwysig beth i’w ddangos i bobl sy’n eich dilyn chi – mewn trefn ddisgynnol o ddiddordeb yn unol â beth mae’n feddwl sydd gan bob defnyddiwr ddiddordeb ynddo.

Mae’r hyn mae Facebook yn feddwl sydd gennych ddiddordeb ynddo yn ymwneud â’r negeseuon yr ydych wedi ymateb iddynt, gwneud sylw arnynt neu ei rannu yn y gorffennol neu hyd yn oed faint o amser rydych wedi’i dreulio yn neges rhywun – a ydych wedi cael trafodaeth gyda rhywun mewn sylwadau ar neges Facebook ganddyn nhw?  Bydd hynny yn cynyddu’r tebygolrwydd ohonoch yn gweld mwy o’u negeseuon yn y dyfodol.  Mae sut mae Facebook yn sgorio negeseuon yn newid yn rheolaidd hefyd, ac nid yw’n gwbl dryloyw.

Annog ymgysylltu i gyrraedd mwy o’ch cynulleidfa 

Bod yn eglur wrth ofyn i bobl gyfrannu at eich negeseuon, ac mae cymryd camau yn ffordd dda iawn i annog cyfrannu at eich negeseuon.   Mae cyfrannu yn golygu bod defnyddiwr Facebook arall yn cymryd camau ar eich neges, boed hynny yn glicio ar ‘ymateb’ Facebook (hoffi, caru, gofal, haha, waw, trist a blin), gwneud sylw am y neges, ei rannu gyda’u ffrwd eu hunain neu rhywun yn Facebook messenger.

Ar ddiwedd neges Facebook, yn llythrennol gofyn i rywun hoffi, gwneud sylw neu rannu  Ysgrifennwch y neges i annog pobl i ddweud pethau wrthych.   Gall hyn fod i ddweud wrthych am waith achos, fel ble mae yna dyllau yn y ffordd neu oleuadau stryd sydd angen eu trwsio.

Ymateb i bobl sydd wedi gwneud sylw ar eich negeseuon

Os ydy pobl yn gwneud sylw ar eich negeseuon mewn ffordd adeiladol, ymatebwch iddynt.  Hoffwch eu sylw. Ymatebwch iddo. Gwnewch iddynt deimlo eu bod yn cael eu clywed gennych chi.  Bydd hyn yn annog ymgysylltu cadarnhaol gyda chi yn y dyfodol hefyd.

Gofyn cwestiynau a chysylltu ag arolygon

Mae pobl wrth eu bodd pan ofynnir eu barn.  Byddwch yn hyderus yn gofyn cwestiynau yn eich negeseuon, gofyn i bobl am wybodaeth neu i rannu eu barn. Gwnewch yn glir fodd bynnag bod yn rhaid iddynt ei gadw’n adeiladol a bod yn garedig.

Mae’n bosibl y byddwch yn cynnal arolwg preswylwyr blynyddol yn eich ward neu’n gwneud un o amgylch mater penodol.   Lluniwch fersiwn ar-lein syml o’ch arolwg papur yn surveymonkey neu typeform, a chysylltu iddo yn eich neges Facebook. Gofynnwch i bobl nid yn unig i ymateb ond os gallant ei rannu gyda phobl eraill yn y gymuned hefyd.

Defnyddio ‘llais’ dilys ar Facebook

Mae’n well bod yn onest gyda’ch hun wrth ddefnyddio Facebook.  Defnyddio iaith fel y byddech yn ei defnyddio wrth gael sgwrs gyda phreswylydd lleol yn eich ardal. Mae cyfryngau cymdeithasol yn ‘siaradus’ iawn ac fel arfer yn bersonol o ran arddull.

Gwnewch eich gorau i osgoi defnyddio acronymau neu siarad-cyngor a pheidiwch â chymryd fod gan bobl wybodaeth ymlaen llaw o’r pwnc yr ydych yn ei drafod

Un enghraifft wych yw Moneysavingexpert Martin Lewis sydd â llais dilys iawn ar Facebook, a rhywun sy’n egluro beth sy’n aml yn destunau cymhleth iawn yn aml yn glir iawn.  Mae hefyd yn annog ymgysylltu yn dda iawn, felly mae’n werth edrych ar sut mae’n ei wneud.

Cipolwg Facebook

Pan fyddwch wedi llunio eich Tudalen Facebook bydd gennych fynediad i bob math o gyfleoedd eraill.  Un pwysig yw cael mynediad i Gipolwg Facebook.  Mae Cipolwg Facebook yn caniatau i chi ddeall yr effaith mae eich Tudalen yn ei gael yn gyffredinol, gan gynnwys demograffeg pobl sy’n hoffi eich negeseuon, yr amser o’r diwrnod mae’r rhan fwyaf o bobl yn edrych ar eich negeseuon, a chyrhaeddiad cyffredinol eich negeseuon a’r Dudalen.

Mae Cipolwg Facebook yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol iawn i chi ei defnyddio.   Maent yn dangos y math o gynnwys y dylech gynnwys mwy ohono, pa amser o’r wythnos neu’r dydd y dylech gynnwys straeon ac (os ydych yn defnyddio hysbysebion am dâl ac ati) eich helpu i gymharu eich cyrhaeddiad Facebook â thâl yn erbyn organig.  Gallwch hyd yn oed weithio allan a yw pobl yn ymateb i unrhyw alwadau i weithredu yr ydych wedi eu cynnwys mewn negeseuon a gallwch ystyried a ydych angen gwneud y galwadau i weithredu hynny yn fwy amlwg.

Hyrwyddo a hysbysebion am dâl ar Facebook

Gyda’ch Tudalen Facebook wedi’i llunio rydych hefyd yn gallu hyrwyddo a hysbysebu cynnwys eich Facebook am dâl os ydych yn dymuno gwneud hynny.   Mae hysbysebu ar Facebook yn gallu bod yn rhad, ond nid bob amser.  Wrth i’r galw gynyddu, bydd costau’n codi. Gallwch ddweud os telir am neges Facebook os yw’r gair a noddir yn ymddangos uwch ei ben.

Mae hysbysebion Facebook yn weddol hawdd i’w llunio.  Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2022 roedd Facebook wedi gwneud newidiadau i ba wybodaeth y gallwch ei defnyddio i dargedu hysbysebion.  Un cyfle gwych i gynghorwyr yw eich bod yn adnabod yr ardal ddaearyddol ble mae’r bobl rydych eisiau eu cyrraedd – eich cynulleidfa – yn byw.

Hysbysebion daearyddol a dargedwyd

Os byddwch yn dewis hyrwyddo eich negeseuon am dâl, gan ddechrau gyda thalu i hyrwyddo eich negeseuon mewn ardal ddaearyddol benodol yw’r lle i ddechrau, i gynyddu’r tebygolrwydd o’ch negeseuon yn ymddangos yn y ffrwd Facebook o bobl sydd yn eich ward.

Ond cymerwch ofal – gall y bobl hynny fod yn pasio drwodd a ddim yn byw yn eich ward.  Os oes gennych eiddo busnes mawr neu ganolfannau siopa gyda thraffig trwm yn eich ward, mae’n bosibl y byddwch yn ei chael hi’n anoddach cyrraedd at bobl sy’n byw yn y ward ei hun.

Adolygu effaith eich hysbysebion ar Gipolwg Facebook

Os ydych yn gwneud gwaith hyrwyddo neu hysbysebu am dâl ar Facebook mae’n bwysig iawn adolygu sut maent yn perfformio ar eich Cipolwg Facebook yn rheolaidd.  A ydych yn cael yr effaith roeddech yn ei ddymuno o’ch hysbysebion? Ydy’r bobl gywir yn gweld y negeseuon hyrwyddo? Beth yw eich cyrhaeddiad â thâl yn erbyn organig (am ddim)?

Os nad ydych yn cyflawni’r hyn yr oeddech yn ei ddymuno gallwch oedi eich hysbyseb ac adolygu’r paramedrau rydych wedi’u gosod ar gyfer targedu.   Oedd eich ardal darged yn rhy fach neu’n rhy fawr er enghraifft? Neu efallai y byddwch yn gweld ei bod yn mynd yn dda iawn a’ch bod eisiau cynyddu eich gwariant.

Pwysigrwydd cael strategaeth Facebook

Mae’n well peidio cael dull ar hap ar gyfer sut rydych yn defnyddio Facebook.  Dylech gael cynllun ar gyfer sut rydych eisiau defnyddio Facebook, bydd y math o straeon rydych eisiau eu cynnwys a phryd rydych yn mynd i’w cynnwys yn help mawr i chi.

Defnyddiwch eich Cipolwg Facebook a gweld pryd mae’r rhan fwyaf o bobl yn darllen ac yn ymateb i’ch negeseuon.  Cadwch hynny mewn cof ac ysgrifennwch restr calendr syml ar gyfer negeseuon gan feddwl sawl neges rydych yn dymuno eu llunio bob wythnos.

Y math o negeseuon fyddai’n gallu mynd i’ch rhestr

Yn eich rhestr, cynlluniwch ymlaen am ychydig wythnosau, gan gadw cofnod o bethau y gallech greu negeseuon Facebook amdanynt. Gall y rhain fod yn gyfarfodydd y cyngor y byddech eisiau siarad amdanynt, cynllunio ymweliadau sy’n effeithio ar eich ward, gwyliau’r ysgol, digwyddiadau cymunedol, digwyddiadau cenedlaethol y byddech yn dymuno cyfeirio atynt, gwaith ffordd rydych yn gwybod sy’n mynd i gael ei wneud yn y ward.

Unwaith y byddwch yn dechrau byddwch yn gweld bod yna lawer o bethau y gallwch eu rhannu – gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu am y pethau fydd o fwyaf o ddiddordeb a pherthnasol i bobl sy’n byw yn eich ward.

Defnyddiwch adnoddau i’ch helpu i drefnu eich negeseuon ymlaen llaw

Ni allwch fod ar Facebook bob amser, ac mae yna adnoddau ar gael i’ch helpu chi i drefnu negeseuon a drefnwyd ymlaen llaw yn awtomatig. Gallwch wneud hyn o fewn Facebook ei hun neu gallwch ddefnyddio adnoddau fel Hotsuite neu Buffer.

Os ydych yn bwriadu llunio neges sy’n sensitif iawn o ran amser, cymerwch ofal i sicrhau eich bod wedi gosod yr amser cywir iddo gael ei gyhoeddi.   Os bydd gennych amheuaeth, arhoswch a’i wneud nes ymlaen.

Aros yn saff a diogel ar Facebook

Fel gyda holl blatfform cyfryngau cymdeithasol, mae’n hanfodol aros yn saff a diogel ar Facebook. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cyfrinair a mewngofnodi diogel a galluogi dilysiad 2 ffactor ar gyfer eich cyfrif.   Mae awdurdodiad dau ffactor (neu awdurdodiad amlffactor) yn golygu pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif cyfryngau cymdeithasol, byddwch nid yn unig angen ychwanegu eich cyfrinair, ond hefyd naill ai gynnwys cod a anfonir i’ch ffôn symudol neu e-bost neu fel arall awdurdodi eich mewngofnodi ar ap ar eich ffôn.

Delio gyda negyddoldeb a chamdriniaeth

Bod yn ystyrlon am sut rydych yn cynnwys negeseuon ar Facebook.  Byddwch yn agored i gael trafodaethau gyda phobl – ond peidiwch â mynd i ddadlau! Yn anffodus mae rhai defnyddwyr Facebook yn hoffi bod yn negyddol.  Byddwch yn barod amdano. Rydych angen bod yn gadarn ac yn barod i flocio dilynwyr. Peidiwch ag anghofio eich bod hefyd yn gallu atal eich Tudalen Facebook dros dro os ydych yn teimlo eich bod angen seibiant.

Gwnewch eich gorau i beidio bwydo’r troliau.

Yr arfer gorau yw peidio cymryd rhan mewn dadleuon ar Facebook – weithiau mae pobl sy’n ceisio eich pryfocio gyda negeseuon negyddol yn cael eu disgrifio fel ‘troliau’.  Mae’n anodd ennill dadleuon, a chofiwch mae yna lawer o bobl yn eich dilyn nad ydynt yn ceisio bod yn anodd ac sy’n ymddwyn yn gyfrifol.   Mae yna bobl mwy pwysig – nid y troliau.   Gwell blocio pobl, a rhoi gwybod am gam-drin, gan gynnwys rhoi gwybod i’r heddlu os bydd angen.

Datgyhoeddi eich Tudalen Facebook

Os byddwch yn penderfynu eich bod angen seibiant o’ch Tudalen Facebook cynghorydd bydd ond yn cymryd ychydig eiliadau i’w ddatgyhoeddi.   Ewch i osodiadau eich Tudalen a phwyso datgyhoeddi. Gallwch adael eich Tudalen heb ei chyhoeddi am gyhyd ag yr hoffech ac yna cyhoeddwch eto os a phan fyddwch yn barod.

Dileu neu ei adael heb ei gyhoeddi?

Os ydych eisiau dileu’r Dudalen, gallwch wneud hynny’n hawdd iawn hefyd.   Fodd bynnag, unwaith y bydd wedi’i ddileu ni allwch gael eich Tudalen a’r negeseuon yn ôl, felly mae’n haws ei adael heb ei gyhoeddi rhag ofn y byddech yn dymuno ei ddefnyddio eto yn y dyfodol.

Nid yw datgyhoeddi eich Tudalen Facebook yn cael unrhyw effaith ar eich Proffil Facebook, ac os ydych wedi cadw gosodiadau preifatrwydd tynn iawn, gall hyn fod yn fantais fawr, gan ganiatau i chi barhau i ymgysylltu gyda’ch teulu a ffrindiau heb orfod delio gyda negeseuon sy’n ymwneud â’r cyngor.

Diffodd Facebook

Os ydych yn dymuno diffodd eich proffil Facebook, mae hynny yr un mor hawdd i’w wneud a gallwch aros gymaint ag y dymunwch i’w ailweithredu. Ni allwch ddiffodd eich Proffil, fodd bynnag, a chynnal Tudalen Facebook.  Rydych bob amser angen Proffil byw i ddefnyddio Tudalen.