Cyfathrebu a’r cyfryngauCanllawiau cyfryngau cymdeithasol i gynghorwyrArweiniad i rôl cynghorwyr ar y cyfryngau cymdeithasol

Arweiniad i rôl cynghorwyr ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae gan Gynghorwyr sawl rôl i’w chwarae wrth gyfathrebu gyda phobl yn eu cymuned leol. Mae’r rhain yn cynnwys hyrwyddo gwaith y cyngor a meithrin cyswllt â thrigolion a busnesau lleol. Mae gan gynghorwyr hefyd gyfle i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ‘wrando’ ar sgyrsiau pobl yn y gymuned leol. Mae yna hefyd agweddau swyddogol y mae’n rhaid i gynghorydd eu hystyried mewn perthynas â’u rôl ar y cyfryngau cymdeithasol.

Amcanion

Deall y gwahanol rolau y gall cynghorwyr eu chwarae ar y cyfryngau cymdeithasol

    • Rhannu gwybodaeth gan y cyngor
    • Rhannu gwybodaeth gyda’r gymuned
    • Rolau dinesig a seremonïol
    • Y stepen ddrws rithiol
    • Cymryd pwyll wrth ymateb i safbwyntiau ar lein
    • Ystyried elfennau gwleidyddiaeth plaid ar gyfer cynghorwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cymryd rhan mewn trafodaeth iach a mynd i’r afael â gwybodaeth anghywir ar lein

    • Annog trafodaeth gadarnhaol, gwrtais ac adeiladol
    • Cadw at y rheol euraidd
    • Cofiwch – mae eich ymddygiad chi yn cael dylanwad ar eraill
    • Defnyddio eich llais i fynd i’r afael â gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol

Ystyried y Cod Ymddygiad wrth gyfrannu ar y cyfryngau cymdeithasol

    • A yw’r wybodaeth eisoes yn gyhoeddus?
    • Byddwch yn ofalus o’r hyn rydych chi’n ei rannu
    • Mae cod ymddygiad y cynghorwyr yn dal i fod yn berthnasol

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol i gynghorwyr

Mae’r CLIL wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cynghorwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

Deall y gwahanol rolau y gall cynghorwyr eu chwarae ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae’n bwysig deall y cyfleoedd sydd ar gael i gynghorwyr chwarae gwahanol rolau ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd bod yn ymwybodol o hyn yn helpu cynghorwyr ystyried eu gweithgarwch ar-lein, y math o wybodaeth y maen nhw’n ei rhannu, beth i’w flaenoriaethu a sut i gael mwy o effaith gyda’u hamser.

Rhannu gwybodaeth gan y cyngor

Mae gan gynghorwyr rôl unigryw ar y cyfryngau cymdeithasol fel cynrychiolwyr etholedig. Mae cynghorwyr yn cael gafael ar wybodaeth cyn y rhan fwyaf o bobl, ac fe allan nhw ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o’i rhannu â’r cyhoedd. Mae’n bwysig sicrhau bod gennych chi ganiatâd i rannu gwybodaeth â’r cyhoedd – mwy am hynny’n nes ymlaen.

Gall cynghorwyr rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd y cyngor a’r penderfyniadau a wneir ynddyn nhw, pleidleisiau, ceisiadau cynllunio a dyddiadau cau, gwybodaeth am ddigwyddiadau a llawer mwy. Dros amser, bydd cynghorwyr yn dod i ddeall pa fath o wybodaeth gan y cyngor sydd o’r diddordeb mwyaf i’r trigolion lleol, a hynny ar sail faint o bobl sy’n ymateb i negeseuon a safon yr ymatebion hynny.

Mae gan gadeiryddion pwyllgorau, aelodau cabinet ac arweinwyr grŵp neu gyngor hefyd gyfle i rannu gwybodaeth sy’n berthnasol i’w rôl uwch yn y cyngor, a hynny i gynulleidfa ehangach na’r ward y maen nhw’n ei chynrychioli.

 

Mae gan gynghorwyr rôl unigryw ar y cyfryngau cymdeithasol fel cynrychiolwyr etholedig

 

Rhannu gwybodaeth gyda’r gymuned

Mae cynghorwyr mewn sefyllfa allweddol i allu cael gafael ar, a rhannu, amrediad eang o wybodaeth yn ychwanegol at wybodaeth gan eu cyngor eu hunain. Mae cynghorwyr yn aml ar restrau postio ac mewn cyfarfodydd lle rhennir gwybodaeth sy’n berthnasol i’r gymuned leol. Gallai’r wybodaeth hon ddod gan awdurdod lleol arall, er enghraifft gan y cyngor sir, neu gan AS neu grŵp busnes. Gallwch gyrraedd mwy o bobl drwy feithrin enw da am rannu gwybodaeth gyda’ch cynulleidfa drwy wneud hyn.

Rolau dinesig a seremonïol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfle go iawn i gynghorwyr sydd â rolau dinesig neu seremonïol yn y cyngor estyn allan ac ymgysylltu â’r cyhoedd, y tu hwnt i’w cyfarfod wyneb yn wyneb neu yn y cyfryngau traddodiadol fel papurau newydd lleol.

Y maer yw wyneb cyhoeddus y cyngor yn aml, felly gall mwy o weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol fod o fudd mawr i godi proffil y cyngor, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’r maer (neu unigolyn cyfatebol) yn ei wneud. Gall hyn annog y cyhoedd i gymryd mwy o ddiddordeb a dod i ddeall gwaith y cyngor, fydd yn cael mwy o effaith yn gyffredinol.

Y stepen ddrws rithiol

Mae gan gynghorwyr sy’n weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol gyfle gwych i weld sut mae’r gwynt yn chwythu ymysg y cyhoedd yn gyson. Mae yna wastad le i bolau piniwn ac arolygon all helpu mesur barn yn ffurfiol, gan gynnwys mesur perfformiad yn swyddogol.

Ond drwy fod yn rhan o grwpiau Facebook cymunedol a chadw llygad ar yr hyn a drafodir, neu fonitro’r hyn y mae pobl yn ei rannu ar Twitter drwy ddilyn hashnodau lleol, gall cynghorwyr gael cipolwg o safbwyntiau trigolion lleol a gweithredu ar hynny os bydd angen.

Fe allai hyn gynnwys sut y mae’r cyhoedd yn ymateb i benderfyniadau’r cyngor neu faterion sy’n codi ymysg y gymuned. Gellid disgrifio’r gwaith o fonitro’r hyn sy’n mynd ymlaen ar y cyfryngau cymdeithasol fel cael cannoedd ar gannoedd o sgyrsiau stepen drws bob wythnos.

Cymryd pwyll wrth ymateb i safbwyntiau ar lein

Mae yna berygl i gynghorwyr orymateb i safbwyntiau a fynegir ar lein. Mae’n allweddol cymryd pwyll wrth ymateb, a chofio nad yw barn pob un o’r trigolion yn cael ei chynrychioli ar lein. Mae gwrando ar farn pobl ar lein yn ffordd fuddiol iawn o gael blas ar farn yr ardal, ond cofiwch ystyried y darlun cyffredinol ehangach hefyd.

Cynghorwyr a’r elfen o wleidyddiaeth plaid ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae nifer o gynghorwyr, ond nid pob un, yn aelodau o blaid wleidyddol. Mae hyn yn ychwanegu rôl bellach iddyn nhw fel eiriolwyr eu plaid wleidyddol benodol yn y gymuned. Mae’n bwysig cofio eich bod yn cynrychioli pawb yn eich rôl fel cynghorydd, nid dim ond yr unigolion hynny sy’n cefnogi eich plaid wleidyddol. Yn wir, y cynghorwyr mwyaf poblogaidd fel arfer yw’r rhai sydd wedi ennill enw da am helpu pawb yn eu cymuned, waeth beth fo’u barn wleidyddol.

Gall gwleidyddiaeth plaid hefyd fod yn un o brif ysgogwyr ymatebion difrïol ac ymosodol ar y cyfryngau cymdeithasol, all fod yn arbennig o ddeifiol os yw’n digwydd rhwng cynghorwyr o wahanol bleidiau gwleidyddol ar yr un cyngor. Nid yw trigolion yn hoffi gweld eu cynghorwyr yn bod yn anghwrtais neu’n gas tuag at y naill a’r llall ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n hanfodol delio ag unrhyw anghytundebau gwleidyddol yn gwrtais, gan ddangos parch tuag at eich gwrthwynebwyr.

Gall bod yn aelod o blaid wleidyddol hefyd ddenu cynghorwyr i drafod materion sydd ymhell y tu hwnt i gylch gwaith neu reolaeth eu cyngor lleol. Mae hyn yn arbennig o wir os yw eu plaid mewn grym ar y pryd, a gall cynghorwyr ganfod eu bod yn cael eu beirniadu gan drigolion neu gynghorwyr eraill am benderfyniadau a wnaed yn San Steffan. Penderfyniad yr unigolyn yw ymgysylltu â’r materion hyn neu beidio, gan y gallai trafod un mater cenedlaethol olygu bod trigolion yn disgwyl clywed eich barn am eraill hefyd.

Cymryd rhan mewn trafodaeth iach a mynd i’r afael â gwybodaeth anghywir

Mae gan bobl yn llygad y cyhoedd, gan gynnwys cynghorwyr, ran bwysig i’w chwarae o fewn y gymuned, ac fe’u hystyrir yn ddylanwadol yn eich ardal leol. Mae hyn yr un mor wir ar lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol ag ydyw wyneb yn wyneb neu yn y cyfryngau traddodiadol. Mae gweithredoedd, ymdeimlad, agwedd ac iaith cynghorwyr ar lein yn cael effaith eang, nid yn unig yn bersonol, ond i lawer o bobl eraill ar lein.

Cadw at y rheol euraidd

Dilynwch y rheol euraidd – gwnewch i eraill fel yr hoffech i eraill ei wneud i chi. Dydi hi byth yn braf derbyn negeseuon negyddol neu sylwadau difrïol. Fel cynghorydd, rhaid i chi godi uwchlaw ymddygiad o’r fath, gwneud yn siŵr eich bod yn ymateb i eraill yn gwrtais ac yn gadarnhaol ac annog trafodaeth iach ar eich cyfrifon eich hun a chyfrifon eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.

Annog trafodaeth gadarnhaol, gwrtais ac adeiladol

Mae yna amryw o ffyrdd i annog eraill i ymddwyn yn gadarnhaol ar lein. Yn gyntaf, dylech ychwanegu ‘rheolau ymgysylltu’ y Gymdeithas Llywodraeth Leol ar gyfer cynghorwyr ar eich cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n hawdd llwytho’r rhain a’u hychwanegu at eich proffil, a’i gwneud yn glir i ddefnyddwyr eraill y cyfryngau cymdeithasol sut rydych chi’n bwriadu defnyddio eich cyfrif – mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

Pan fyddwch chi’n cyhoeddi negeseuon ar eich cyfrifon eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn llunio eich ceisiadau am ymgysylltiad gan ddefnyddwyr eraill mewn modd cadarnhaol. Gofynnwch i bobl gadw eu negeseuon yn gadarnhaol ac yn gwrtais, gan eu hatgoffa bod hyn yn bosib hyd yn oed os ydyn nhw’n anghytuno â barn pobl eraill.

Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymateb yn gwrtais ac yn gadarnhaol i’r hyn y mae pobl eraill yn ei rannu hefyd, hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno neu os yw’n neges gan eich gwrthwynebwyr gwleidyddol.

 

Cofiwch – mae eich ymddygiad chi yn cael dylanwad ar eraill

Bydd eich ymddygiad chi fel cynghorydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar eraill. Os bydd aelodau’r cyhoedd yn gweld bod cynghorydd wedi gwneud sylwadau negyddol neu rai nad ydyn nhw’n adeiladol, maen nhw’n fwy tebygol o feddwl ei bod yn iawn iddyn nhw ymddwyn yn wael ar lein hefyd. Dydi hyn ddim yn golygu na allwch chi anghytuno â’r hyn y mae pobl yn ei ddweud – ond mae’r ffordd y gwnewch chi hynny’n bwysig.

 Cofiwch – allwch chi ddim cwyno eich bod yn derbyn ymatebion negyddol neu ddifrïol os nad yw’r sylwadau rydych chi’ch hun yn eu gwneud yn gwrtais.

Defnyddio eich llais i fynd i’r afael â gwybodaeth gamarweiniol neu anghywir

Os gwelwch chi wybodaeth yn cael ei rhannu sy’n wallus neu’n anghywir, dywedwch hynny. Fe allwch chi adael sylw ar y neges yn dweud nad yw’n wir. Fe allech chi wedyn anfon neges breifat neu uniongyrchol at yr unigolyn sy’n rhannu’r wybodaeth yn dweud wrthyn nhw nad yw’n wir, ac yn gofyn iddyn nhw ddileu’r neges.

Mae hefyd yn bwysig iawn i gynghorwyr gadarnhau cywirdeb yr hyn y maen nhw’n ei rannu eu hunain. Mae’n hawdd iawn rhannu cynnwys o rywle arall yn sydyn heb ei wirio, dim ond i ddarganfod yn nes ymlaen ei fod yn anghywir.

Fe allwch chi roi gwybod i’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol am negeseuon, gan ddweud wrthyn nhw nad yw’r wybodaeth yn wir. Os yw’n berthnasol, gallwch roi gwybod i awdurdodau’r cyngor am negeseuon sy’n cynnwys gwybodaeth anghywir. Efallai mai tîm cyfryngau eich cyngor fydd hyn, os teimlwch chi y gallai fod angen cymryd camau i wrthbrofi’r wybodaeth, neu swyddog monitro eich cyngor.

Ystyried y Cod Ymddygiad wrth gyfrannu ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae angen i gynghorwyr fod yn ymwybodol eu bod yn bersonol gyfrifol am y cynnwys y maen nhw’n ei gyhoeddi ar unrhyw fath o gyfryngau cymdeithasol. Os byddwch chi’n cyhoeddi datganiad nad yw’n wir am berson, sy’n arwain at niwed i’w henw da, fe allech chi wynebu achos difenwi y byddwch chi’n bersonol yn atebol amdano. Mae’r un peth yn wir os byddwch chi’n rhannu unrhyw ddatganiadau anghywir rydych chi wedi’u derbyn.

A yw’r wybodaeth eisoes yn gyhoeddus?

Cofiwch ystyried hefyd a yw’r wybodaeth rydych chi’n bwriadu ei rhannu eisoes yn wybodaeth gyhoeddus ai peidio. Os nad ydyw, a yw’n wybodaeth ariannol neu wleidyddol sensitif? Meddyliwch am y goblygiadau posib i chi’n bersonol os byddwch chi’n rhannu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi bod yn wybodaeth gyfrinachol hyd at y pwynt hwnnw.

Byddwch yn ofalus o’r hyn rydych chi’n ei rannu

Mae safleoedd y cyfryngau cymdeithasol yn gyhoeddus ac mae’n bwysig sicrhau eich bod yn hyderus bod y wybodaeth rydych chi’n ei rhannu’n addas. Ar ôl cyhoeddi cynnwys, mae bron yn amhosib ei reoli ac fe allai gael ei drin a’i drafod heb eich caniatâd, ei ddefnyddio mewn gwahanol gyd-destunau neu ei rannu ymhellach.

Argymhellir yn gryf na ddylai cynghorwyr byth gyhoeddi na rhannu unrhyw beth ar lein nac ar y cyfryngau cymdeithasol na fydden nhw’n gyfforddus yn ei ddweud neu ei rannu mewn cyfarfod cyhoeddus.

Mae defnyddio Tudalen Facebook ar gyfer eich gweithgarwch fel cynghorydd a chreu proffil ar wahân ar gyfer eich cyhoeddiadau personol yn caniatáu rhywfaint o wahaniaethu.  Os ydych chi eisiau cadw eich gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn breifat, fe allwch chi roi gosodiadau preifatrwydd llym iawn ar eich cyfrifon. Mae posib gwneud hyn ar y mwyafrif o blatfformau cyfryngau cymdeithasol, ond efallai bod gwahanol ffyrdd o’i wneud ar gyfer gwahanol blatfformau, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi defnyddio’r gosodiadau cywir.

Ar y cyfan, mae’n hynod bwysig cofio bod yna berygl o hyd y bydd gweithgarwch ar eich proffil personol yn cael ei weld a’i rannu’n gyhoeddus, waeth pa mor llym yw’ch gosodiadau preifatrwydd chi. Dydi dweud ei fod yn breifat ddim yn amddiffyniad.

Mae cod ymddygiad y cynghorwyr yn dal i fod yn berthnasol

Mae cod ymddygiad y cynghorwyr a deddfwriaeth berthnasol yn gymwys ar lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Os byddwch chi’n cyfeirio mewn unrhyw ffordd at eich rôl fel cynghorydd ar lein, ystyrir eich bod yn gweithredu yn eich “rhinwedd swyddogol” a gall y cod fod yn berthnasol ar gyfer unrhyw ymddygiad.