Pa gymorth cyfreithiol sydd ar gael?
Mae’r adran hon yn esbonio beth ddylech chi ei ddisgwyl gan yr heddlu pan fyddwch chi’n adrodd am ddigwyddiad neu ymddygiad sy’n peri pryder, a’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bygythiadau, camdriniaeth ac aflonyddwch, gyda’r nod i helpu cynghorwyr sy’n cael eu bygwth neu eu cam-drin i nodi pa fath ydyw yn ôl y ddeddfwriaeth.

Rôl yr heddlu
Fel cynghorydd, rydych yn debygol o adnabod eich tîm heddlu lleol ac wedi datblygu perthynas waith dda gyda nhw.
Gallwch roi gwybod i’r heddlu am unrhyw bryderon neu ymddygiad sy’n gwneud i chi boeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch unrhyw unigolyn arall. Os ydych chi’n pryderu am eich diogelwch eich hun ar unwaith, dylid gwneud hyn drwy ffonio 999. Gallwch roi gwybod i’ch heddlu lleol am bryderon nad ydyn nhw’n rhai brys drwy ffonio 101 neu gallwch adrodd ar-lein drwy ddefnyddio ffurflen adrodd Heddlu’r DU.
Bydd yr heddlu’n cymryd manylion cychwynnol gennych chi am y digwyddiad(au) ac yn rhoi rhif cyfeirnod i chi ar gyfer y drosedd. Yna byddan nhw’n cynnal asesiad ymchwiliol er mwyn penderfynu a ddylid ymchwilio ymhellach i’r digwyddiad(au). Mae’r systemau a’r arferion a ddefnyddir i gofnodi’r manylion cychwynnol hyn yn amrywio rhwng heddlu gwahanol ardaloedd, ond nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut dylai’r heddlu ymateb drwy fynd i Know Your Rights (Know My Rights – Hafan). Efallai y gofynnir i chi roi rhagor o wybodaeth a/neu gael eich cyfweld fel rhan o hyn (drwy roi datganiad). Ni fydd pob digwyddiad yn arwain at ymchwiliad a’r heddlu a fydd yn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad neu beidio, yn seiliedig ar nifer o ffactorau – nid yw penderfyniad i beidio â chynnal ymchwiliad yn golygu nad yw’r digwyddiad yn drosedd. Ni ddylech gael eich atal rhag adrodd am ddigwyddiad(au) yn y dyfodol oherwydd penderfyniadau a wnaed yn y gorffennol.
Mae arferion yn wahanol ym mhob ardal, ond mewn rhai ardaloedd o bosib y bydd y cynghorau yn gallu riportio’n uniongyrchol i’r heddlu ar ran y cynghorwyr, ac yn gallu helpu i sicrhau bod cwynion gan gynghorwyr yn cael eu hystyried o ddifrif gan yr heddlu lleol. Beth bynnag yw lefel y cysylltiad, dylech wneud yn siŵr bod y cyngor yn ymwybodol eich bod yn riportio digwyddiad i’r heddlu fel y gallent gynnig y gefnogaeth angenrheidiol i chi.
Os oes gennych unrhyw bryderon am ymddygiad neu benderfyniadau’r heddlu, gallwch eu hadrodd yn uniongyrchol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr, Comisiynydd Ymchwiliadau ac Adolygu’r Heddlu yn yr Alban ac Ombwdsman yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon.
Os bydd yr heddlu’n ymchwilio ac yn penderfynu dwyn achos yn erbyn y cyflawnwr, efallai y byddan nhw’n gofyn am benderfyniad cyhuddo gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth y Procuradur Ffisgal yn yr Alban a’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon. Wedi hynny, efallai y byddan nhw’n penderfynu peidio â dwyn achos yn erbyn yr unigolyn ac mae gan y dioddefwr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad dan y Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.
Dylid cysylltu’n uniongyrchol â Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag unrhyw bryderon neu gwynion yn ymwneud â nhw. Gellir cysylltu â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ynglŷn â phryderon neu gwynion am y llysoedd, dedfrydu a thribiwnlysoedd.
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau yng Nghymru a Lloegr yn amlinellu sut dylai’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a sefydliadau cyfiawnder troseddol eraill eich trin chi fel un sydd wedi dioddef trosedd. Ceir Cod Dioddefwyr yr Alban cyfatebol sy’n amlinellu eich hawliau a phwy allwch chi gysylltu â nhw am gymorth yn yr Alban, ac yng Ngogledd Iwerddon ceir Siarter y Dioddefwyr.
Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud
Gan adeiladu ar rannau blaenorol y Canllawiau hyn, mae’r rhan hon wedi’i llunio er mwyn rhoi trosolwg bras o rai o’r statudau a’r ddeddfwriaeth berthnasol yn y DU sy’n ymwneud â gwahanol fathau o ymddygiad. Nid yw’r rhestr hon yn un gyflawn, ond mae’n dangos rhai o’r ffyrdd y bydd y gyfraith yn ymdrin ag ymddygiad o’r fath. Yn yr un modd, rydym wedi cynnwys ychydig o wybodaeth am yr atebion sifil y gall yr heddlu a/neu y llys eu dilyn yn yr achosion hyn ond, unwaith eto, nid yw hon yn rhestr gyflawn a bydd argaeledd yr atebion hyn yn dibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau achosion unigol.
Aflonyddwch, stelcian a chyswllt/cyfathrebu digroeso
Ceir sawl trosedd sy’n cynnwys ymddygiad a ystyrir yn aflonyddwch a stelcian, a cheir troseddau eraill sy’n ymdrin â niwsans mwy cyffredinol a chyswllt digroeso.
Pan fydd ymddygiad yn cael ei ystyried yn gyfres neu’n batrwm o ymddygiad – a ddiffinnir yn ôl y gyfraith fel dau ddigwyddiad neu fwy – ystyrir hynny’n stelcian a/neu ofni trais neu fraw difrifol NEU drallod, daw hyn naill ai o dan droseddau Aflonyddwch neu Stelcian, ac ymdrinnir â’r ddau yn Neddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012) yng Nghymru a Lloegr a Gorchymyn Diogelwch rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997. Yn yr Alban, y statud perthnasol yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010.
Gall anfon negeseuon digroeso – naill ai drwy lythyr, ffacs neu ar-lein – gael ei ystyried yn drosedd o dan Ddeddf Cyfathrebu Maleisus 1988 a/neu Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (sy’n berthnasol i’r DU gyfan). Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, rhai statudau ychwanegol a allai fod yn berthnasol fyddai Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010, Gorchymyn Cyfathrebiadau Maleisus (Gogledd Iwerddon) 1988 a Deddf Telathrebu 1984 (Gogledd Iwerddon).
Gall yr heddlu wneud cais i’r llys ynadon i gael Gorchymyn Amddiffyn rhag Stelcian (SPO) (boed y digwyddiad yn arwain at gyhuddiad/erlyniad yn y pen draw neu beidio) sef gorchymyn sifil sy’n gallu gwahardd y troseddwr rhag gwneud amryw o bethau yn cynnwys cysylltu â’r dioddefwr, cyfyngu ar fynediad i ardaloedd daearyddol penodol a chysylltu â thrydydd parti megis teulu a ffrindiau’r dioddefwr. Neu, gall gorchmynion atal gael eu cyflwyno gan y llys – naill ai pan roddir collfarn neu ryddfarn (pan gaiff y troseddwr ei ganfod yn ddi-euog neu pan gaiff yr achos yn ei erbyn ei dynnu’n ôl). Mae’r rhain yn debyg i Orchymyn Amddiffyn rhag Stelcian gan mai gorchmynion sifil ydyn nhw, sy’n cyfyngu ar ymddygiad, gyda’r bwriad i ddiogelu’r dioddefwr. Mae torri Gorchymyn Amddiffyn rhag Stelcian neu orchmynion atal yn cael ei ystyried yn drosedd.
Os nad yw’r ymddygiad yn cael ei ystyried yn aflonyddwch ond ei fod yn cael ei ystyried yn niwsans – er enghraifft loetran, gormod o sŵn, ymgasglu mewn torfeydd mewn mannau cyhoeddus, gweiddi iaith ddifrïol tuag at unigolyn neu grŵp – gall fod yn drosedd dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2014. O ran atebion sifil, gall yr heddlu neu’r llys gyflwyno hysbysiadau o waharddeb (yn cynnwys Hysbysiad Amddiffyn Cymunedol neu Orchmynion Ymddygiad Troseddol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn yr Alban). Mae’r gorchmynion hyn yn golygu bod rhaid i unigolion roi’r gorau i ymddygiad penodol a/neu gyfyngu ar eu gweithgareddau mewn ffyrdd eraill.
Gall defnyddio geiriau bygythiol neu gamdriniol neu ymddygiad a allai achosi trais neu aflonyddwch a braw ond nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn stelcian nac aflonyddwch (gan eu bod, er enghraifft, yn ddigwyddiadau ar eu pen eu hunain yn hytrach na chyfres o ymddygiad) gael eu cynnwys o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 (Cymru a Lloegr), Gorchymyn Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon) 1987 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010.
Ymosodiadau a throseddau treisgar yn cynnwys troseddau rhyw
Yn dibynnu ar natur y trais a’r anafiadau a gafwyd, gall nifer o droseddau fod yn berthnasol. Os ceir ymddygiad sy’n gwneud i rywun ofni bod rhywun yn mynd i ymosod arnyn nhw ar unwaith (boed rhywun yn ymosod arnyn nhw neu beidio) a/neu ymosodiadau sydd ddim yn achosi niwed neu anaf o gwbl, neu sy’n achosi niwed neu anaf bach iawn (megis crafiad) y drosedd fwyaf perthnasol yw Ymosodiad Cyffredin yng Nghymru a Lloegr (Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988) a Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010, Ymosodiad (y gyfraith gyffredin – Yr Alban) ac Ymosodiad (Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861) (Gogledd Iwerddon).
Gydag ymosodiadau corfforol sy’n arwain at anaf, y statud perthnasol yw Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861, sy’n ymgorffori Ymosodiad sy’n Achosi Gwir Niwed Corfforol a Niwed Corfforol Difrifol. Mae ymddygiad fel hyn yn cynnwys ymosodiadau corfforol sy’n achosi cleisio sylweddol, torri esgyrn, clwyfau, rhwygiadau, niwed i organau, anafiadau sy’n newid bywydau a marwolaeth a gall gynnwys anafiadau a achosir gan arfau. Mae atebion sifil posibl yn cynnwys gorchmynion atal.
Daw bygythiadau i ladd – boed hynny’n cael ei wneud wyneb yn wyneb neu drwy ddulliau cyfathrebu eraill – hefyd o dan Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861 (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a throsedd Bygythiadau o fewn y gyfraith gyffredin (Yr Alban).
Os bydd y drosedd yn rhywiol ei natur, daw’r ymddygiad o dan Ddeddf Troseddau Rhyw 2003 (Cymru a Lloegr), Y Gyfraith Gyffredin (Yr Alban) a daw trais, ymgais i dreisio ac ymosodiad anweddus o dan Orchymyn Troseddau Rhyw (Gogledd Iwerddon) 2008. Mae unrhyw gyswllt rhywiol heb ganiatâd yn drosedd. Yn dibynnu ar yr ymddygiad (e.e. treiddiol neu anhreiddiol, cyswllt neu ddim cyswllt) ceir amryw o droseddau sy’n cynnwys trais, ymosodiad rhyw, dinoethi a voyeuriaeth. Os bydd yr ymddygiad yn ymwneud â rhannu delweddau personol heb ganiatâd neu gymryd delweddau personol heb ganiatâd, mae’r ddeddfwriaeth uchod a/neu Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 a Deddf (Troseddau) Voyeuriaeth 2019 yng Nghymru a Lloegr yn ymdrin â’r ymddygiad hwn. Yn yr Alban, y ddeddfwriaeth berthnasol yw Deddf Ymddygiad Camdriniol a Niwed Rhywiol 2016 a Deddf Troseddau Rhyw (Yr Alban) 2009 ac yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Ddeddf Cyfiawnder, Gogledd Iwerddon 2016 yn ymdrin â’r troseddau hyn.
Mae atebion sifil a rheolau i gyfyngu ar ymddygiad y troseddwr a/neu eu monitro yn cynnwys Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (Cymru, Lloegr a’r Alban), Gorchymyn Risg Rhywiol (Yr Alban) a Gorchymyn Atal Troseddau Rhyw (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon).
Difrod i eiddo
Gall rhywfaint o niwed i eiddo gael ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddisgrifiwyd yn gynharach. Yn ogystal â hyn, gall difrodi neu fygwth difrodi eiddo – er enghraifft torri ffenestri, crafu ceir, cicio drysau – ddod o dan y Ddeddf Difrod Troseddol 1971 (Cymru a Lloegr), Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 a Gorchymyn Difrod Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1977.
Troseddau casineb
Gall ‘troseddau’ casineb gynnwys rhywbeth a ddywedwyd ar lafar neu ymddygiad, er enghraifft cam-drin unigolyn yn gyhoeddus, yn breifat neu ar-lein, neu ymosodiad sy’n cael ei annog gan elyniaeth tuag at rywun ar sail nodwedd a ddiogelir (hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd a hunaniaeth drawsryweddol yng Nghymru a Lloegr, ac yn yr Alban oedran ac amrywiadau mewn nodweddion rhyw). Nid oes ‘troseddau casineb’ penodol – yn lle hynny, mae’r drosedd ‘sylfaenol’ (e.e. ymosodiad cyffredin) yn gwaethygu oherwydd yr elfen o elyniaeth/casineb lle bydd uchafswm y cosbau’n uwch. Ar gyfer pob trosedd ‘sylfaenol’ arall, lle nad oes fersiwn waethygedig statudol, mae dedfryd estynedig ar gael i’r farnwriaeth.
Er hyn, mae achosi neu annog casineb ar sail hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol yn droseddau cydnabyddedig. Mae’r ymddygiad y cyfeirir ato’n cynnwys defnyddio geiriau ac ymddygiad wyneb yn wyneb, dangos a chyhoeddi delweddau a deunydd ysgrifenedig, a recordiadau, darllediadau a chynyrchiadau theatrig sy’n achosi neu’n annog casineb. Mae’r statudau perthnasol yn cynnwys Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 a Deddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006 yng Nghymru a Lloegr, Gorchymyn Trefn Gyhoeddus (Gogledd Iwerddon) 1987 a Deddf Trosedd Casineb a Threfn Gyhoeddus (Yr Alban) 2021.
Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau
Diffiniad o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau
Cyngor cyffredinol ar sut i ymdrin â chamdriniaeth a bygythiadau
Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin ar-lein
Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â camdriniaeth gorfforol a diogelwch personol
Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin seicolegol a’r effaith ar les
Pa gymorth cyfreithiol sydd ar gael?
Cyngor i gefnogi cynghorwyr
Egwyddorion sylfaenol yn ymwneud â chyfathrebu gyda phreswylwyr, cydweithwyr a swyddogion
Adnoddau pellach
Crynodeb o droseddau a deddfwriaeth gyfatebol
Ymddygiad ac enghreifftiau | Y Gyfraith Berthnasol yng Nghymru a Lloegr* | Y Gyfraith Berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon** | Atebion sifil |
Aflonyddwch neu fraw neu niwsans wedi’i gyfeirio tuag at unigolyn neu grŵp, cymuned neu amgylchedd. Ymhlith yr enghreifftiau ceir niwsans cerbyd/cerbyd gadawedig, ymddygiad swnllyd neu sŵn, taflu sbwriel, loetran, creu graffiti, yfed mewn mannau cyhoeddus, tân gwyllt a chardota.
| Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 – y Ddeddf gyfan | Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ayb (Yr Alban) 2004
Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2004 | Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Yr Alban)
Gwaharddeb sifil, Hysbysiad Amddiffyn Cymunedol (CPN) neu Orchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon |
Anfon llythyrau, ffacs neu negeseuon maleisus ar-lein neu drwy rwydwaith (fel negeseuon testun neu Whatsapp) sy’n hynod sarhaus, yn fygythiol neu â naws anweddus, masweddus neu fygythiol. Mae hyn yn cynnwys seiberfwlio. | Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988 – Adran 1 Deddf Cyfathrebiadau 2003 (yn berthnasol i’r DU gyfan) – Adran 127 | Tor Heddwch (Y Gyfraith Gyffredin) (Yr Alban) Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 Gorchymyn Cyfathrebiad Maleisus (Gogledd Iwerddon) 1988 Deddf Telathrebu 1984 (Gogledd Iwerddon) | Gellir caniatáu gwaharddeb sifil neu orchymyn atal mewn rhai amgylchiadau yng Nghymru a Lloegr. |
Achosi neu annog casineb ar sail hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae’r ymddygiad y cyfeirir ato’n cynnwys defnyddio geiriau ac ymddygiad wyneb yn wyneb, dangos a chyhoeddi delweddau a deunydd ysgrifenedig, a recordiadau, darllediadau a chynyrchiadau theatrig. | Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 – Rhan 3 a 3A Deddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006 – y Ddeddf gyfan
| Gorchymyn Trosedd Casineb a Threfn Gyhoeddus (Yr Alban) 2021 Gorchymyn Trefn Gyhoeddus (Gogledd Iwerddon) | |
Geiriau neu ymddygiad casineb, er enghraifft cam-drin unigolyn yn gyhoeddus, yn breifat neu ar-lein, neu ymosodiad sy’n cael ei annog gan elyniaeth tuag at rywun ar sail nodwedd a ddiogelir (hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd a hunaniaeth drawsryweddol). | Nid oes troseddau penodol – yn lle hynny, mae’r drosedd ‘sylfaenol’ (e.e. ymosodiad cyffredin) yn gwaethygu oherwydd yr elfen o elyniaeth/casineb lle bydd uchafswm y cosbau’n uwch. Ar gyfer pob trosedd ‘sylfaenol’ arall, lle nad oes fersiwn waethygedig statudol, mae dedfryd estynedig ar gael i’r farnwriaeth. Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 Deddf Dedfrydu 2020 | ||
Stelcian ac aflonyddwch, yn cynnwys cyfres o ymddygiad a gaiff ei ystyried yn stelcian a/neu ofni trais neu fraw difrifol NEU drallod. Gall ymddwyn fel hyn gynnwys dilyn rhywun, cysylltu â nhw, eu monitro (wyneb yn wyneb neu ar-lein), hacio, gwylio/ysbïo. Mae cyfres o ymddygiad yn golygu o leiaf ddau achlysur. | Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 – adrannau 2 a 4, a 2A a 4A fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 | Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010
Gorchymyn Diogelwch rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997 | Gorchymyn atal Gorchymyn peidio ag ymyrryd (mewn cyd-destun trais domestig) Cyfarwyddyd gan yr heddlu i adael yr ardal a pheidio â dychwelyd o fewn 3 mis Gorchymyn Peidio ag Aflonyddu (Yr Alban) Gorchymyn Atal Troseddau Treisgar (Yr Alban) |
Bygwth tystion – yn berthnasol i dystion neu aelodau o’r rheithgor tra bydd ymchwiliad neu dreial yn cael ei gynnal. Mae’n cynnwys ymddygiad bygythiol neu ddarbwyllol | Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 – Adran 51 | Deddf Dioddefwyr a Thystion (Yr Alban) 2014
Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1996 | |
Ymosodiad cyffredin a churo – ymddygiad sy’n gwneud i rywun ofni trais anghyfreithlon a/neu ddefnydd o ‘drais’ ar unwaith. Ymddygiad nodweddiadol o ymosodiad cyffredin/curo fyddai gwthio, cicio neu daro sy’n achosi dim anaf neu anaf bychan (e.e. clais). | Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 – adran 39 | Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 Ymosodiad (y gyfraith gyffredin – Yr Alban) Ymosodiad (Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861) (Gogledd Iwerddon)
| |
Ymosodiad sy’n arwain at anaf difrifol neu farwolaeth. Gall anaf difrifol gynnwys anaf seicolegol. Mae ymddygiad yn cynnwys ymosodiadau corfforol sy’n achosi cleisio sylweddol, torri esgyrn, clwyfau, rhwygiadau, niwed i organau, anafiadau sy’n newid bywydau a marwolaeth. Gall gynnwys anafiadau a achosir gan arfau. | Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861 – adrannau 47, 18 a 20. | Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861
Ymosodiad (Yr Alban – trosedd y gyfraith gyffredin) | |
Defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol neu gamdriniol a allai achosi trais anghyfreithlon neu aflonyddwch neu fraw | Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 – Adran 4 ac Adran 4A | Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 Gorchymyn Trefn Gyhoeddus (Gogledd Iwerddon) 1987
| |
Ymosodiad rhyw, trais, dinoethi a voyeuriaeth. Mae’n cynnwys unrhyw weithgaredd rhywiol lle nad yw’r achwynydd/dioddefwr yn rhoi caniatâd. | Deddf Troseddau Rhyw 2003 – amryw o adrannau sy’n cyfeirio at ymddygiad gwahanol | Y Gyfraith Gyffredin (Yr Alban) – trais, ymgais i dreisio, ymosodiad anweddus Gorchymyn Troseddau Rhyw (Gogledd Iwerddon) 2008 | Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (Cymru, Lloegr a’r Alban) Gorchymyn Risg Rhywiol (Yr Alban) Gorchymyn Atal Troseddau Rhyw (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) Gwaharddeb Sifil
|