Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau
Camau ymarferol y gallwch chi a’ch cyngor eu cymryd i ddiogelu eich hun fel unigolyn mewn swydd gyhoeddus

Rhagarweiniad
Rôl y llywodraeth leol yw gosod a darparu blaenoriaethau a gwasanaethau lleol ar ran y cymunedau lleol. Mae cynghorwyr yn arweinwyr a hyrwyddwyr lleol sydd yn pontio’r bwlch rhwng preswylwyr a llywodraeth leol. Maent yn gwneud penderfyniadau ar ran y preswylwyr lleol ac yn hyrwyddo materion sydd yn eu heffeithio. Mae cael eich ethol a gwasanaethu fel cynghorydd yn fraint ac yn gyfrifoldeb enfawr, ond mae hefyd yn golygu bod cynghorwyr yn weladwy iawn ac yn aml yn hygyrch iawn i breswylwyr.
Pryder cynyddol sy’n wynebu’r rheiny mewn swyddi cyhoeddus yw lefelau cynyddol o fygythiadau, aflonyddwch a chamdriniaeth y maent yn eu profi. Er bod trafod a mynegi gwahanol safbwyntiau i gyd yn rhan o ddemocratiaeth gynrychioladol iach, mae’r ymddygiad annerbyniol hwn yn tanseilio’r egwyddorion democrataidd allweddol, sef rhyddid barn, trafod ac ymgysylltu, ac maen nhw weithiau’n peryglu diogelwch cynghorwyr. Yn ffodus, mae digwyddiadau difrifol yn brin.
Mae gan gynghorwyr, eu cyfoedion, partïon gwleidyddol, swyddogion y cyngor, a lle bo’n briodol, yr heddlu, rôl i fynd i’r afael ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau. Rydym yn ymwybodol bod y twf mewn bygythiadau cyhoeddus yn gallu rhwystro pobl rhag sefyll mewn etholiad, a gall y mater hwn effeithio ar rai yn fwy nag eraill. Fodd bynnag, dylai darpar gynghorwyr a chynghorwyr sydd wedi eu hethol gofio nad ydynt ar eu pen eu hunain wrth ddelio gyda chamdriniaeth a bygythiad, ac mae nifer cynyddol o ffyrdd o ddiogelu eu hunain a chael eu cefnogi gan y rheiny sydd o’u cwmpas
Rydym eisiau sicrhau bod mwy o bobl yn sefyll mewn etholiadau, gan gynnwys ystod wahanol i gynrychioli eu cymunedau lleol. Rydym yn gwneud hyn drwy ymgyrch Bod yn Gynghorydd a thrwy adnoddau fel y Canllaw hwn ac eraill dan y rhaglen Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus.
Er mwyn cydnabod yr effaith mae camdriniaeth a bygythiadau’n ei chael ar gynghorwyr, mae CLlL wedi uno â CLlL Cymru, CLlL Gogledd Iwerddon, a Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban i lunio’r canllawiau hyn a chanllawiau eraill.
Defnyddio’r canllawiau hyn
Nod y Canllawiau hyn yw cynnig camau ymarferol y gall cynghorwyr a chynghorau eu dilyn er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y byddan nhw’n destun aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau, a rhoi ychydig o syniadau iddyn nhw ynglŷn â sut y dylid ymateb os bydd hyn yn digwydd. Datblygwyd y Canllawiau ar sail y gwaith ymchwil mwyaf perthnasol, a’r arfer da a nodwyd mewn amryw o sefydliadau, yn ogystal â phrofiad uniongyrchol cynghorwyr.
Drwy gydol y Canllawiau, rydym wedi rhoi rhai enghreifftiau o droseddau a allai fod yn berthnasol, ond nid yw’n rhestr gyflawn. Dylech ddweud wrth yr heddlu am unrhyw bryderon sydd gennych chi ynglŷn ag ymddygiad, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb, os yw’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu mewn perygl, ac mae’n ddyletswydd arnyn nhw i gymryd eich cwyn o ddifrif.
Rhoddir crynodeb yn ddiweddarach yn y Canllawiau am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill. Mae cefnogi cynghorwyr sy’n ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau’n hynod bwysig, gan gofio’r effaith niweidiol bosibl y gall gweithredoedd o’r fath ei chael ar eu hiechyd a’u lles meddyliol nhw a’u teuluoedd. Dylai cynghorwyr sy’n teimlo’n orbryderus, neu’n poeni neu’n teimlo bod eu gwaith yn cael effaith negyddol ar eu bywyd o ddydd i ddydd siarad gyda’u meddyg teulu lleol.
Rydym yn ymwybodol bod cefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr yn wahanol ym mhob cyngor ar draws y pedair cenedl. Byddwn yn annog cynghorau, partïon gwleidyddol a chynghorwyr cefnogol eraill i ystyried adran Cyngor i Gefnogi Cynghorwyr yn y canllaw hwn, sydd yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol ac astudiaethau achos, ac i ystyried cyngor gan gymdeithasau eraill ar draws y DU os oes angen.
Yn olaf, mae’r canllaw hwn yn ystyried yn fyr camdriniaeth ar-lein, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod y broblem hon yn cynyddu’n sylweddol felly mae CLlL wedi cynhyrchu cyfres o ganllaw ar wahân i gefnogi cynghorwyr sydd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau
Diffiniad o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau
Cyngor cyffredinol ar sut i ymdrin â chamdriniaeth a bygythiadau
Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin ar-lein
Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â camdriniaeth gorfforol a diogelwch personol
Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin seicolegol a’r effaith ar les
Pa gymorth cyfreithiol sydd ar gael?
Cyngor i gefnogi cynghorwyr
Hanfodion ar gyfathrebu â phreswylwyr, cydweithwyr a swyddogion
Adnoddau pellach


Nodwch nad yw’r Canllawiau hyn yn disodli’r cyngor cyfreithiol na chyngor personol gan yr heddlu am droseddau neu ddiogelwch personol. Os ydych chi’n bryderus am eich diogelwch personol o ganlyniad i gamdriniaeth, aflonyddwch neu fygythiadau, cysylltwch â’r heddlu.