Diffiniad o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Mae aflonyddu, cam-drin a brawychu i gyd yn dermau ag iddynt ystyron cymdeithasol a chyfreithiol amrywiol; yn yr adran hon, rydym yn archwilio’r derminoleg yn agosach

Yn y DU, mae’r termau ‘aflonyddwch’, ‘bygythiadau’ a ‘chamdriniaeth’ yn aml yn cael eu cyfnewid am y naill a’r llall gan fod profiad y dioddefwyr yn gallu gorgyffwrdd.[1] Mae Canllawiau’r Swyddfa Gartref a’r Adran Iechyd ar  Ddatblygu a Gweithredu Polisïau a Gweithdrefnau Amlasiantaethol i Ddiogelu Oedolion Diamddiffyn rhag cael eu Cam-drin yn diffinio cam-drin fel un weithred gorfforol, eiriol neu seicolegol, neu weithredoedd o’r fath sy’n cael eu hailadrodd ac sy’n amharu ar hawliau dynol a hawliau sifil unigolyn. Mae rhai achosion o gam-drin yn cael eu hystyried yn droseddau. Er enghraifft, ymosodiad corfforol, seicolegol neu rywiol, dwyn, twyll a gwahaniaethu ar sail rhyw ac ar sail hil.

Mae Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 yn nodi bod gweithredoedd unigolyn yn cael eu hystyried yn aflonyddwch os ydyn nhw’n gwneud i’r dioddefwr deimlo’n ofidus, wedi ei gywilyddio, dan fygythiad neu’n ofnus y bydd yn dioddef mwy o drais. Prif nod aflonyddwch yw dwyn perswâd ar ddioddefwyr naill ai i beidio â gwneud rhywbeth mae ganddyn nhw hawl i’w wneud neu sydd angen iddyn nhw ei wneud neu i wneud rhywbeth nad oes raid iddyn nhw ei wneud.  Mae gweithredoedd o dan y Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

    • alwadau ffôn
    • llythyrau
    • negeseuon e-bost
    • ymweliadau
    • stelcian
    • cam-drin geiriol o unrhyw fath, yn cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol
    • bygythiadau
    • difrod i eiddo
    • niwed corfforol.[2]

Caiff gweithredoedd o’r fath eu hystyried yn aflonyddwch os ydyn nhw’n digwydd fwy nag unwaith.

Mae Canllawiau Polisi Gwrth-Aflonyddwch Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn diffinio gorfodaeth neu fygythiad fel un math o aflonyddu.  Diffinnir gorfodaeth fel y weithred o ddwyn perswâd neu fygwth unigolyn â grym i wneud rhywbeth sy’n cynnwys ymddygiad, megis blacmel, gorelwa a bygythiadau neu gallai ymosodiadau corfforol neu rywiol hefyd gael eu diffinio fel un math o aflonyddu.

Caiff bygythiadau gan y cyhoedd eu diffinio fel “geiriau a/neu ymddygiad sy’n ceisio, neu sy’n debygol o flocio, atal neu ddylanwadu ar bobl i beidio â chymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus, neu beri braw neu drallod a allai arwain at unigolyn yn penderfynu ei fod eisiau camu’n ôl o fywyd cyhoeddus”. Mae hyn yn cynnwys gweithredoedd o gam-drin, aflonyddu a bygythiadau megis: cam-drin geiriol; ymosodiadau corfforol; cael eich stelcian, eich dilyn neu rywun yn loetran o’ch cwmpas; bygythiadau o niwed; rhannu camwybodaeth; lladd cymeriad; negeseuon e-bost, llythyrau, galwadau ffôn a negeseuon anaddas ar y cyfryngau cymdeithasol; aflonyddwch rhywiol neu ymosodiad rhywiol; ac ymddygiad bygythiol arall, yn cynnwys dulliau cyfathrebu maleisus megis llythyrau gwenwynig, negeseuon e-bost anweddus neu hynod sarhaus neu luniau graffig sy’n ceisio peri trallod neu orbryder.

 Yn y Canllawiau hyn byddwn yn defnyddio cam-drin a bygythiadau i sôn am bob math perthnasol o gamdriniaeth, aflonyddwch a bygythiadau. Ar ddiwedd y Canllawiau, byddwn hefyd yn cynnig cipolwg ar ba gymorth cyfreithiol sydd ar gael.

 

[1] Collignon, S. a Rüdig, W. (2020) ‘Lessons on the Harassment and Intimidation of Parliamentary Candidates in the United Kingdom’, The Political Quarterly.

[2] Collignon, Sofia. In Press.” Harassment and Intimidation of Parliamentary Candidates in the United Kingdom”, yn Elin Bjarnegård a Pär Zetterberg (eds.), Gender and Violence against Political Actors. Philadelphia, PA: Temple University Press

Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Diffiniad o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Cyngor cyffredinol ar sut i ymdrin â chamdriniaeth a bygythiadau

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin ar-lein

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â camdriniaeth gorfforol a diogelwch personol

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin seicolegol a’r effaith ar les

Pa gymorth cyfreithiol sydd ar gael?

Cyngor i gefnogi cynghorwyr

Egwyddorion sylfaenol yn ymwneud â chyfathrebu gyda phreswylwyr, cydweithwyr a swyddogion

Adnoddau pellach