Croeso i’ch rôl newyddCanllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadauCyngor ymarferol ar sut i ymdrin â camdriniaeth gorfforol a diogelwch personol

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â camdriniaeth gorfforol a diogelwch personol

Mae’r adran hon yn nodi’r cyngor ymarferol ar gyfer delio â cham-drin corfforol a gwella diogelwch personol

Mae’r adran hon yn cyflwyno egwyddorion ymarferol y gall cynghorwyr eu dilyn er mwyn gwella’u diogelwch personol a diogelwch eu cartrefi a lleihau’r perygl o gael eu cam-drin yn gorfforol. Gellir defnyddio’r egwyddorion mewn sawl lleoliad megis cymorthfeydd, ymweliadau cartref, wrth deithio ac yng nghyfarfodydd y cyngor ac rydym wedi rhoi enghreifftiau drwy’r Canllawiau hyn. 

Diffiniad a sefyllfa gyfreithiol

Mae camdriniaeth gorfforol yn cwmpasu amrywiaeth eang o niwed corfforol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, wthio, slapio, cicio, chwifio arfau, herwgipio, ymosodiad rhywiol, trais a llofruddiaeth mewn achosion eithafol. Camdriniaeth gorfforol yw’r math o drais hawsaf i’w adnabod, ond dyma hefyd yw’r gamdriniaeth fwyaf prin mae cynghorwyr yn dod ar ei thraws. Ni fydd y rhan fwyaf o gynghorwyr yn dioddef unrhyw gamdriniaeth gorfforol ond gall paratoi a chynllunio leihau’r risg ymhellach. Yn y Canllawiau hyn, ymdrinnir â cham-drin geiriol o dan gam-drin seicolegol, er y gall cam-drin geiriol gynnwys bygythiadau sy’n cynrychioli pryder am ddiogelwch personol, neu drosedd, a dylai cynghorwyr fod yn ymwybodol y gall cam-drin geiriol waethygu a throi’n gam-drin corfforol.

Mae sawl ymddygiad a gaiff eu nodi o dan y term eang ‘cam-drin corfforol’ yn droseddau (mae troseddau perthnasol wedi’u rhestru’n llawn ym mhennod gyfreithiol y Canllawiau hyn). Mae unrhyw gyswllt corfforol heb ganiatâd a/neu esgus cyfreithlon yn debygol o fod yn drosedd ymosodiad cyffredin yng Nghymru a Lloegr (Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988) a, lle bo hynny’n achosi anaf, bydd yn cael ei nodi fel trosedd Gwir Niwed Corfforol neu Niwed Corfforol Difrifol (Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861). Yn yr un modd, mae cyswllt corfforol sy’n rhywiol ei natur yn debygol o fod yn drosedd rhyw (Deddf Troseddau Rhyw 2003).

Mesurau ataliol a diogelwch personol

Y ffordd orau i osgoi cam-drin corfforol yw bod yn ymwybodol y gall hyn ddigwydd, gwneud penderfyniadau cynnar i leihau neu liniaru’r risgiau ac asesu risg eich gweithgareddau cyn ac yn ystod y gweithgaredd.

Isod fe awn ni drwy rai egwyddorion ac enghreifftiau o sut gallwch chi wneud hyn yn ymarferol.

Bod yn rhagweithiol: diogelwch eich cartref a thechnoleg

Gellir gwneud nifer o bethau er mwyn helpu cynghorwyr i fod yn ddiogel, a theimlo’n ddiogel, yn bersonol ac yn eu cartrefi. Drwy ddilyn egwyddorion SHIELD a ddisgrifir uchod, gall cynghorwyr liniaru yn erbyn y perygl o gamdriniaeth gorfforol.

Meddyliwch am yr astudiaeth achos isod fel enghraifft:

Cafodd un cynghorydd ei gam-drin gan breswylydd a oedd yn anhapus am y penderfyniad cynllunio roedd yn ymwneud ag ef. Yn ddiweddar, aeth y preswylydd at y cynghorydd yn y stryd gan ddweud ei fod yn gwybod ym mhle roedd yn byw a gwnaeth fygythiadau yn erbyn y cynghorydd. Dywedodd y cynghorydd wrth yr heddlu am y digwyddiad, ac fe wnaethon nhw nodi cyfeiriad cartref y cynghorydd ac awgrymu rhagofalon ychwanegol y gellid eu cymryd tra roedd yr heddlu’n ymchwilio’r digwyddiad.

Yn yr enghraifft uchod, y cam nesaf i’w awgrymu wrth y cynghorydd fyddai edrych ar ei gartref a’i drefniadau diogelwch personol ac, fel rhan o hyn, gosod ffiniau clir rhwng ei fywyd cyhoeddus a’i fywyd preifat lle bo hynny’n bosibl. Efallai y gall swyddogion y cyngor neu’r heddlu lleol gefnogi cynghorwyr i gynnal asesiadau risg yn eu cartrefi.

Efallai yr hoffai cynghorwyr edrych ar ddiogelwch eu cartrefi yn rheolaidd, er enghraifft mae camau syml, fel sicrhau bod ffensys a waliau mewn cyflwr da a bod mynedfeydd ac allanfeydd wedi eu goleuo’n dda, yn gallu lleihau peryglon diogelwch. Gallai cynghorwyr hefyd ystyried gosod camerâu Teledu Cylch Caeedig, clychau clyfar ar y drws neu oleuadau gwell y tu allan i’w cartref. Mae gosodwyr arbenigol sy’n gysylltiedig â’r Arolygiaeth Diogelwch Cenedlaethol (NSI) neu’r Bwrdd Archwilio Systemau Diogelwch a Larymau (SSAIB) yn gallu cynghori ar ba fesurau lliniaru fyddai fwyaf defnyddiol ac efallai y gall y cyngor neu’r heddlu lleol hefyd helpu cynghorwyr i adolygu diogelwch eu cartrefi.

Mae’r cyllid sydd ar gael ar gyfer diogelwch cartrefi cynghorwyr yn amrywio rhwng gwahanol gynghorau a gwahanol wledydd. Mae’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Gymru wedi cadarnhau y dylai cynghorau ddarparu cyllid ar gyfer mesurau diogelu priodol i ddiogelu cynghorwyr rhag risg bersonol neu fygythiad arwyddocaol. Serch hynny, nid yw’r eitemau hyn yn dreuliau cymwys yng Ngogledd Iwerddon. Yn Lloegr, mae’r ddarpariaeth yn amrywio ac mae CLlL yn parhau i hyrwyddo arferion da ynghylch cefnogi cynghorwyr gyda’u diogelwch, yn cynnwys astudiaethau achos am Ddiogelwch Cynghorwyr a gyhoeddwyd yn Ebrill 2022. Byddem yn eich annog i siarad gyda’ch cyngor a’r tîm heddlu lleol ynghylch cyllid ar gyfer mesurau diogelwch priodol.

Gall rhaglennu rhifau argyfwng yn eich ffonau symudol fod yn ddefnyddiol os byddan nhw’n cael eu defnyddio’n briodol. Mae sicrhau bod gennych chi aelod o’r teulu neu gydweithiwr y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw ar ddeial cyflym yn gallu helpu mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn argyfwng a gellir adrodd am ddigwyddiadau nad ydynt yn argyfwng wrth yr heddlu ar-lein a thrwy ffonio 101. Mae 999 ar gyfer argyfyngau. Pan na allwch chi ffonio, neu os bydd y signal yn wael, neu os na allwch chi siarad, gallwch chi hefyd anfon neges destun at 999 i ofyn am gymorth, er y gall yr ymateb fod yn arafach drwy neges destun. Fe’ch cynghorir i gofrestru eich ffôn symudol gyda gwasanaeth testun 999 ymlaen llaw, drwy anfon ‘Register’ ar neges destun i 999.

Mae’n ddefnyddiol hefyd i chi ddod yn gyfarwydd â’r nodweddion argyfwng sydd ar rai dyfeisiau y gallwch eu gwisgo, er enghraifft oriawr glyfar. Gellir eu rhaglennu ymlaen llaw gyda rhifau argyfwng er mwyn ei gwneud yn haws cysylltu â’r heddlu, aelod o’r teulu neu ffrind y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw.

Defnyddiwch larymau personol, rhaglenni tracio ffôn a dyfeisiau technolegol eraill i adael i bobl wybod eich lleoliad mewn argyfwng. Mae yna nifer o apiau sy’n galluogi aelodau y gellir ymddiried ynddynt mewn grŵp i rannu eu lleoliad daearyddol. Gallwch rannu eich lleoliad drwy ddefnyddio mapiau Google, er hyn, mae yna amryw o apiau penodol wedi’u llunio er mwyn eich helpu i rannu eich lleoliad gyda chydweithwyr neu aelodau o’r teulu. Ymhlith yr enghreifftiau mwyaf cyffredin ceir technolegau Life 360, HollieGuard, PeopleSafe; efallai y bydd gan eich cyngor hefyd system larwm personol pwrpasol neu Ap a ffefrir i gynghorwyr ei ddefnyddio.

Gosod ffiniau rhwng eich bywyd preifat a’ch bywyd cyhoeddus. Caiff cynghorwyr eu cynghori i beidio â chyfarfod preswylwyr yn eu cartref eu hunain. Os daw preswylydd at eich tŷ, nid oes raid i chi agor y drws. Gallwch drafod y mater y tu allan ac awgrymu eu bod yn trefnu amser i’ch gweld mewn man mwy priodol. Os byddwch chi’n cytuno i weld preswylydd yn eich cartref, gwnewch yn siŵr fod yna berson arall yno i’ch cefnogi.

Manteisiwch ar gynigion hyfforddiant a chymorth. Cadwch lygad am weithdai hyfforddiant diogelwch a gynhelir gan y cyngor a chymerwch ran ynddyn nhw pan fyddan nhw’n cael eu cynnig. Caiff cynghorwyr newydd a rhai profiadol eu cynghori i fynychu hyfforddiant diogelwch yn rheolaidd os bydd ar gael.

Bod yn ymwybodol: rhyngweithio â’r cyhoedd a chymorthfeydd yn y wardiau

Yn aml, rhaid i gynghorwyr wneud penderfyniadau anodd mewn cyfarfodydd cyhoeddus ac maen nhw’n dod i gysylltiad â phreswylwyr yn rheolaidd, yn y gymuned ac mewn cymorthfeydd yn y wardiau. Mae bod yn agored a thryloyw yn elfennau pwysig o ddemocratiaeth, ond gall hefyd wneud cynghorwyr yn agored i gael eu cam-drin. Dyma pam mae’n bwysig meddwl am ddiogelwch wrth lunio gweithgareddau ac wrth gynllunio dyletswyddau cyhoeddus a rhyngweithio gyda phreswylwyr.  Meddyliwch am yr astudiaeth achos isod fel enghraifft:

Cynhelir cyfarfod cyngor yr wythnos nesaf a disgwylir trafodaeth am gau’r llyfrgell gyhoeddus. Mae hwn wedi bod yn fater dadleuol ers peth amser gan fod y llyfrgell gyhoeddus yn fan lle mae preswylwyr yn cyfarfod, cymdeithasu a dysgu. Disgwylir y bydd cau’r llyfrgell yn effeithio ar yr henoed yn bennaf. Disgwylir i lawer o breswylwyr anhapus iawn fynychu’r cyfarfod. Mae cynghorydd sy’n mynd i’r cyfarfod yn amau y bydd y drafodaeth yn un danbaid ac y caiff hyn ei drosglwyddo i sgyrsiau gyda phreswylwyr yn y gymuned ac yn ei gymhorthfa yn y ward.

Mae’r astudiaeth achos uchod yn dangos yr anawsterau mae llawer o gynghorwyr yn eu hwynebu wrth roi newyddion am benderfyniadau anodd i breswylwyr. Os bydd cynghorwyr yn teimlo’i bod yn ddiogel ymgysylltu â phreswylwyr sy’n anhapus, fe’u cynghorir i ddefnyddio technegau tawelu, er enghraifft drwy adael i breswylwyr gael dweud eu dweud a gwrando’n astud ar eu pryderon. Er hyn, mae’n bwysig cofio, os ydych chi’n teimlo dan fygythiad neu mewn perygl, gallwch ddod â’r drafodaeth i ben.

Dyma rai ffyrdd y gall cynghorwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol o ddiogelwch:

Sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ac amgylchedd addas megis eiddo’r cyngor yn ystod oriau agor, pan fo pobl eraill yn yr adeilad. Fe’ch cynghorir i glirio a symud gwrthrychau trwm o’r ystafell, rhag iddyn nhw gael eu defnyddio fel arfau.  Meddyliwch am y ffordd mae’r ystafell wedi’i gosod, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu sefyll a gadael yn hawdd, efallai y bydd hyn yn golygu eistedd yn y man agosaf at y drws er mwyn ei gwneud yn haws i chi adael yn gyflym os bydd angen, fe’ch cynghorir hefyd i ddefnyddio desg er mwyn gosod rhwystr naturiol rhyngoch chi a’r preswylydd.

Cadw cofnod o’r rhyngweithiad, yn cynnwys enwau’r mynychwyr. Dywed rhai cynghorwyr fod gofyn i fynychwyr gofrestru ymlaen llaw wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy diogel. Mae cofrestru ymlaen llaw yn rhoi syniad o faint o bobl a fydd yn dod i’r cyfarfod ac unrhyw faterion posibl eraill a allai godi, gan roi amser iddyn nhw baratoi ac addasu eu strategaeth diogelwch personol.

Cadw log digwyddiadau a chofnodi ac adrodd am unrhyw fath o ymddygiad annerbyniol. Dylid nodi’r dyddiad a’r amser wrth gofnodi pob digwyddiad a dylid ei lofnodi rhag ofn bydd angen cymryd camau gweithredu yn y dyfodol. Mae’n syniad da i chi hefyd rannu hyn gyda chyd gynghorwyr a’r cyngor fel y gallan nhw fod yn ymwybodol o broblemau posibl ac, os bydd angen, addasu eu strategaeth diogelwch personol eu hunain.

Teithio’n ddiogel

Mae cynghorwyr yn aelodau gweladwy iawn o’u cymunedau lleol, gall hyn eu gwneud yn ddiamddiffyn, nid yn unig pan fyddan nhw’n gweithio yn eu rôl fel cynghorydd, ond hefyd yn eu bywyd o ddydd i ddydd ac yn arbennig wrth deithio i ddigwyddiadau’r cyngor neu ddigwyddiadau yn eu ward, a theithio adref wedi hynny. Mae ymgorffori mesurau diogelwch yn eich teithiau ac wrth gynllunio eich teithiau’n bwysig o ran diogelwch personol.

Rhaid i gynghorwyr deithio’n rheolaidd i gyfarfodydd y cyngor, gyda’r nos o bryd i’w gilydd. Mae’r astudiaeth achos isod yn rhoi enghraifft o sut gallai cynghorydd asesu risg ei gynlluniau teithio o dan yr amgylchiadau hyn.

Mae gan gynghorydd gyfarfod o’r cyngor gyda’r nos mewn adeilad nad yw wedi bod ynddo o’r blaen. Nid yw’r cynghorydd yn gyrru ac mae’n defnyddio ap cynllunio siwrnai i edrych ar wahanol ddewisiadau a phenderfynu a fydd yn beicio i’r cyfarfod neu’n mynd ar y bws. Mae’r cynghorydd yn edrych ar fap ar y safle bws lle byddai angen iddo aros ac yn cofio nad yw wedi’i oleuo’n dda ac nad oes gwasanaeth rheolaidd ar ôl 8 o’r gloch y nos. Mae’r cynghorydd yn gyfarwydd iawn â’r llwybr beicio a’r cyfleusterau cloi ac yn penderfynu beicio draw. Mae ganddo hefyd gydweithiwr sydd fel arfer yn beicio i’r cyfarfodydd ac mae’n cysylltu ag ef i drefnu pryd byddan nhw’n cyrraedd er mwyn iddyn nhw allu cerdded i’r adeilad ac oddi yno gyda’i gilydd.

Cyn gadael eich cartref ar gludiant cyhoeddus, ar eich beic neu mewn car, fe’ch cynghorir i:

Fod yn anrhagweladwy ac osgoi cadw at yr un drefn bob tro. Mae cadw at yr un drefn bob tro, er enghraifft pryd a sut byddwch chi’n teithio, yn gallu ei gwneud yn haws i bobl wybod ym mhle fyddwch chi a phryd. Yn lle hynny, ceisiwch amrywio pryd byddwch chi’n teithio a’r llwybrau y byddwch yn eu dilyn, yn enwedig pan fyddwch yn cerdded.

Gwirio’r siwrnai i’r lleoliad ac yn ôl. Mae gwneud hyn ymlaen llaw hefyd yn gallu helpu i osgoi unrhyw sefyllfaoedd peryglus, mynd ar goll neu fethu’r trên/bws olaf adref. Dylid archebu tacsi neu finicab ymlaen llaw os bydd angen.

Cadw eich dwylo a’ch meddwl yn rhydd. Mae ffonau symudol yn declynnau gwych i’w cael os bydd angen cymorth arnoch, ond maen nhw hefyd yn tynnu eich sylw. Cadwch eich ffôn o fewn gafael, mewn poced yn hytrach na bag, a sylwch ar yr hyn sydd o’ch cwmpas wrth i chi deithio.

Mae greddf yn ganllaw da. Meddyliwch ddwywaith cyn cynnig lifft i bobl ddiarth, ceisiwch osgoi strydoedd gwag os byddwch chi’n cerdded, a pheidiwch ag eistedd mewn cerbydau trên gwag nac ar y llawr uchaf ar fysiau gwag.

Cynllunio ymlaen llaw. Parciwch eich car neu eich beic mewn lleoliad hygyrch sydd wedi’i oleuo’n dda, lle mae hefyd yn hawdd i’w adael; gwnewch yn siŵr fod gennych chi rywfaint o arian a dulliau eraill o dalu mewn argyfwng rhag ofn bydd angen i chi newid eich cynlluniau.

Gwnewch yn siŵr fod rhywun yn gwybod ym mhle’r ydych chi. Pan fyddwch chi’n gwneud gwaith y cyngor yn y gymuned neu yn swyddfeydd y cyngor, gwnewch yn siŵr fod rhywun yn gwybod ym mhle y dylech chi fod, pryd bydd disgwyl i chi ddychwelyd a sut byddwch chi’n teithio. Weithiau gelwir hyn yn ‘system gyfeillio’ a gallai eich cyfaill fod yn ffrind, aelod o’r teulu, cyd gynghorydd neu un o swyddogion y cyngor. Er enghraifft, wrth gerdded adref o gyfarfod y cyngor gyda’r nos, dylech adael iddyn nhw wybod bod y cyfarfod wedi gorffen, eich bod ar eich ffordd a phryd rydych chi’n gobeithio cyrraedd adref. Os nad ydych chi’n byw gyda’ch cyfaill, gadewch iddyn nhw wybod pan fyddwch chi wedi cyrraedd adref yn ddiogel.

 

Meddwl yn ddoeth am ymweliadau cartref

Mae’n well peidio â threfnu cyfarfodydd gyda phreswylwyr yn eu cartrefi. Yn aml, mae defnyddio gofod cyhoeddus, cael sgyrsiau dros y ffôn neu ddefnyddio cyfarfodydd dros y we, yn ddewisiadau’r un mor effeithiol. Wedi dweud hyn, am amryw o resymau, weithiau bydd cynghorwyr yn penderfynu ymweld â phreswylydd yn ei gartref. Meddyliwch am yr enghraifft isod:

Mae gan breswylydd sy’n rhentu’n breifat broblemau gyda’r ffordd mae ei landlord yn ymdrin â rhai problemau y tu mewn i’r eiddo ac mae’n gofyn i’w gynghorydd gwrdd ag ef yn ei gartref. Mae’r cynghorydd yn cytuno y byddai ymweliad cartref yn addas er mwyn gweld cyflwr yr eiddo, serch hynny, mae’r preswylydd yn dangos arwyddion ei fod yn flin iawn gyda’r cyngor yn ystod galwad ffôn cyn hynny ac mae’r cynghorydd yn bryderus am ymweld â’r eiddo

Yn yr achos hwn, gall cynghorwyr:

    • Wirio am unrhyw gyfeiriadau at y cartref a’r preswylydd. Gall cynghorwyr ofyn i gyd gynghorwyr os ydyn nhw wedi dod ar draws y preswylydd o’r blaen a gofyn i swyddogion y cyngor wirio eu cofrestr o unigolion treisgar/contractau rhybuddion i weld a yw’r preswylydd neu’r cyfeiriad wedi’i restru. Os oes pryderon difrifol, efallai bydd y cyngor yn gallu gwirio a yw’r heddlu lleol wedi fflagio’r preswylydd neu’r cyfeiriad o ganlyniad i ymddygiad treisgar neu gamdriniol ac a yw’r heddlu’n credu y byddai’n ddoeth i ymweld â’r preswylydd.
    • Peidio â mynd ar eich pen eich hun. Holwch a all un o’ch cyd gynghorwyr ddod gyda chi neu a all swyddog perthnasol fynd yno gyda chi, er enghraifft swyddog o’r gwasanaeth perthnasol mae gan y preswylydd ddiddordeb ynddo. Caiff cynghorwyr eu cynghori i wneud ymweliadau cartref mewn parau bob amser ac osgoi gweithio ar eu pen eu hunain.
    • Ffonio’r preswylydd i gadarnhau’r cyfarfod ac asesu eu hwyliau ymlaen llaw. Mae’n werth i chi holi’r preswylydd hefyd a oes yna gath, ci neu anifeiliaid anwes eraill yn y tŷ ac, os oes, gofynnwch i’r preswylydd eu cadw mewn ystafell ar wahân.
    • Dylid cynnal asesiad risg byr cyn mynd i mewn i’r cartref. Ar ôl cyrraedd, edrychwch am dystiolaeth o gŵn, pobl nad oeddech yn disgwyl eu gweld yno, cyflwr cyffredinol y cartref ac allanfeydd posibl. Peidiwch â mynd i mewn i’r eiddo’n syth ar ôl i’r drws gael ei agor a chymerwch amser i asesu’r sefyllfa. Peidiwch â gadael i’r preswylydd eich cloi i mewn gyda nhw. Eisteddwch ger y drws a gwnewch yn siŵr fod gennych chi lwybr clir i adael. Cymerwch amser i feddwl a theimlo a yw popeth yn iawn ac asesu cyflwr corfforol a meddyliol y preswylydd.
    • Rhannu gwybodaeth am eich trefniadau a chynllunio drwy adael i bobl eraill wybod amser a hyd disgwyliedig eich ymweliad. Gwnewch yn siŵr fod eich ffôn symudol yn gweithio, bod digon o fatri ynddo bob amser a diweddarwch eich rhifau ffôn argyfwng.

Diogelu eich gwybodaeth

Mae’n bwysig fod cynghorwyr yn cadw mewn cysylltiad â phreswylwyr a chymunedau a’u bod ar gael i’r ddau. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymgysylltu â phreswylwyr yn rhoi boddhad heb natur wrthwynebol. Er hyn, weithiau bydd preswylwyr blin neu rwystredig yn cysylltu â chynghorwyr, fel yn yr enghraifft isod, ac mae’n bwysig gosod ffiniau amlwg rhwng bywydau preifat a chyhoeddus y cynghorwyr.

Mae cynghorydd yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd yn y llyfrgell gyhoeddus. Maen nhw’n cael eu cynnal bob wythnos ar yr un adeg ac yn yr un lleoliad. Fel arfer, mae’r cymorthfeydd yn rhoi llawer o foddhad gan eu bod yn hwyluso rhyngweithio wyneb yn wyneb gyda phreswylwyr a chyfle i drafod eu problemau neu eu pryderon gyda nhw’n uniongyrchol. Serch hynny, mae’r cynghorydd yn sylwi bod yr un person yn dod yno bob wythnos i drafod materion sydd ddim yn ymwneud â’r cyngor, a hynny mewn ffordd flin. Yn ddiweddarach, fe ddechreuodd y preswylydd ddisgwyl nes byddai’r cynghorydd wedi gorffen ei gymhorthfa.

Yn yr achos hwn, fe’ch cynghorir i ystyried:

    • Peidio â chynnal cymorthfeydd ar eich pen eich hun a bod yn ofalus ynghylch pa wybodaeth rydych chi’n ei rhannu’n gyhoeddus. Nid yw bob tro’n syniad da hysbysebu lleoliadau ac amseroedd cymorthfeydd ar wefannau cyhoeddus. Yn lle hynny, gall cynghorwyr drefnu cymorthfeydd yn y ward gydag apwyntiadau yn unig neu dim ond rhannu gwybodaeth am amser a lleoliad y gymhorthfa gyda’r bobl sy’n cysylltu i ofyn am y wybodaeth honno.
    • Mae gwefan dda gan y cyngor yn hollbwysig er mwyn hwyluso dulliau cyfathrebu swyddogol drwy gynnig gwybodaeth eglur am fanylion cyswllt swyddogol ac oriau gwaith cynghorwyr, ond dylai cynghorwyr fod yn ofalus am ba wybodaeth sy’n gyhoeddus.

Cadw cyfeiriadau cartref yn breifat. Mae gan ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau lleol nawr y dewis i gadw eu cyfeiriadau cartref yn breifat a dim ond datgan yr ardal maen nhw’n byw ynddi. Ar ôl etholiadau, mae gofyn i gynghorwyr ddatgan eu holl fuddiannau ariannol o fewn 28 diwrnod i gael eu hethol ond gallwch wneud cais am oddefeb gan y Swyddog Monitro i gadw eich cyfeiriad yn breifat ar y gofrestr gyhoeddus.

Egwyddorion cyffredinol eraill ar gyfer diogelwch personol

Defnyddio eich rhwydwaith o deulu, cydweithwyr a ffrindiau

Sefydlwch rwydwaith diogelwch gyda phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw fel y gallan nhw eich helpu os bydd angen. Nid yn unig y mae rhwydweithiau personol a phroffesiynol yn gwneud gweithio’n fwy hwyliog ond maen nhw’n allweddol er mwyn gweithredu strategaeth lwyddiannus ar gyfer eich diogelwch personol. Gallwch ddefnyddio rhwydweithiau diogelwch er mwyn:

    • Hysbysu cydweithwyr rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, teulu a ffrindiau am y gweithgareddau rydych chi wedi eu trefnu, lleoliad ac amser y cymorthfeydd, eich symudiadau neu unrhyw ymweliadau cartref rydych chi wedi eu trefnu.
    • Gofyn i rywun fynd gyda chi i weithgareddau gwahanol.
    • Cytuno gyda nhw ar air diogelwch i ofyn am gymorth os bydd angen.
    • Rhannu profiadau. Mae cynghorwyr wedi nodi eu bod yn teimlo’n fwy diogel ac yn teimlo mwy o sicrwydd pan fyddan nhw’n rhannu eu profiadau gyda phobl eraill.

Cadw cofnod

Nid yw hyn at ddibenion yr heddlu yn unig ond gall hefyd fod yn berthnasol i fân weithredoedd ymosodol neu gamdriniol parhaus. Gellir hefyd cadw cofnod er mwyn rhybuddio cydweithwyr eraill o faneri coch posibl a helpu’r cyngor i nodi patrymau ymddygiad sy’n galw am ymateb wedi’i gydlynu gan y cyngor.

Peidio â chynhyrfu

Gall rhai preswylwyr fod yn flin neu’n anhapus a disgwyl i gynghorwyr ddatrys problemau a allai fod y tu hwnt i’w rheolaeth nhw. Peidiwch â chynhyrfu a cheisiwch beidio â chymryd rhan mewn dadleuon tanbaid.  Mae gennych chi hawl i ohirio neu ddod â chyfarfod neu ymweliad i ben os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich cam-drin neu eich bygwth. Dywedwch wrth y person y byddwch chi’n siarad â nhw pan fyddan nhw wedi tawelu a cheisiwch aildrefnu’r apwyntiad.

Cysylltu â’r heddlu os byddwch chi’n teimlo mewn perygl

Cofiwch fod trothwy pobl i ymdrin ag ymddygiad annerbyniol yn wahanol ac mae pobl yn profi pethau’n wahanol. Rydych chi’n cynrychioli eich cymuned leol ond nid oes unrhyw reidrwydd arnoch chi i roi eich hun mewn sefyllfaoedd peryglus. Os ydych chi’n derbyn sylwadau sarhaus, bygythiol, brawychus, hiliol, homoffobig, rhywiaethol neu ddirmygus, mae gennych chi hawl i ddod â’r cyfarfod i ben a gofyn am gymorth. Argymhellir eich bod yn cymryd nodyn manwl o’r digwyddiad a’r person(au) dan sylw a gadael i’ch cyngor wybod am y digwyddiad. Gallwch chi benderfynu a ydych chi eisiau rhoi gwybod i’r heddlu neu beidio.

Efallai bydd yr adran Adnoddau pellach yn y Canllawiau hyn yn ddefnyddiol er mwyn cael canllawiau a dogfennau ategol mwy manwl am ddiogelwch personol.

Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Diffiniad o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Cyngor cyffredinol ar sut i ymdrin â chamdriniaeth a bygythiadau

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin ar-lein

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â camdriniaeth gorfforol a diogelwch personol

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin seicolegol a’r effaith ar les

Pa gymorth cyfreithiol sydd ar gael?

Cyngor i gefnogi cynghorwyr

Egwyddorion sylfaenol yn ymwneud â chyfathrebu gyda phreswylwyr, cydweithwyr a swyddogion

Adnoddau pellach