Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin seicolegol a’r effaith ar les
Mae’r adran hon yn nodi’r cyngor ymarferol ar gyfer delio â cham-drin seicolegol

Mae’r adran hon yn cyflwyno egwyddorion ymarferol y gall cynghorwyr eu dilyn er mwyn lleihau’r perygl o gamdriniaeth seicolegol a chyfyngu’r effaith ar les cynghorwyr. Gellir defnyddio’r egwyddorion gyda sawl math o fygythiadau ar-lein ac all-lein, yn cynnwys, ymhlith eraill, aflonyddwch, bygythiadau geiriol o niwed neu stelcian ac rydym wedi rhoi enghreifftiau drwy’r Canllawiau hyn i gyd.
Diffiniad a sefyllfa gyfreithiol
Mae cam-drin seicolegol yn cynnwys gweithredoedd sy’n diraddio, digalonni neu gywilyddio, peri ofn, achosi straen neu niweidio hygrededd. Mae cyfran fawr o gam-drin seicolegol yn fygythiadau, a gellir cael sawl math gwahanol. Er enghraifft, bygythiadau o niwed, marwolaeth neu drais, cam-drin geiriol, cam-drin geiriol sydd neu sydd ddim yn cynnwys bygythiadau o drais corfforol, bwlio, cael eich dilyn, fandaliaeth, stelcian a/neu aflonyddwch[1]. Gellir eu gwneud wyneb yn wyneb, dros y ffôn, dros e-bost ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn yr un ffordd ag y gall niwed corfforol gael canlyniadau seicolegol, gall cam-drin seicolegol hefyd achosi canlyniadau corfforol.[2] Yn aml, mae wedi’i dargedu’n benodol at ferched a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli. Mae’n fath niweidiol iawn o gam-drin gan ei fod yn gallu achosi straen a phryder sylweddol, yn ogystal â chael effeithiau negyddol mwy cyffredinol ar iechyd meddwl.
Mae sawl math o gam-drin seicolegol yn droseddau, yn cynnwys aflonyddwch, cael eich dilyn, cyfathrebiad neu gyswllt di-baid a/neu ddigroeso (Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 a Deddf Diogelu Rhyddidau 2012), bygythiadau, ymddygiad sy’n achosi niwsans, braw neu drallod (Deddf Trefn Gyhoeddus 1986) a difrod i eiddo (Deddf Difrod Troseddol 1997) (gweler yr adran gyfreithiol).
Mesurau ataliol
Mae’r ffordd orau i ymdrin â bygythiadau ac ymddygiad bygythiol arall yn dibynnu ar y ffordd y cawson nhw eu mynegi gan y cyflawnwr. Dylid adrodd wrth yr heddlu am fygythiadau i ladd, treisio, trais neu ymosodiad difrifol a difrod i eiddo.
Isod fe awn ni drwy rai egwyddorion ac enghreifftiau o sut gall cynghorwyr wneud hyn yn ymarferol.
Bygythiadau ar-lein
Fel y trafodwyd o’r blaen yn y Canllawiau hyn, yn aml gwneir bygythiadau ar-lein ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol neu dros e-bost. Rydym yn sylweddoli efallai fod rhai cynghorwyr yn osgoi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol gan fod arnyn nhw ofn cael eu bygwth neu eu cam-drin yno. Ond mae hyn hefyd yn eu rhwystro rhag defnyddio arf ddefnyddiol iawn ar gyfer cyfathrebu gwleidyddol. Un ffordd o ymdrin â bygythiadau ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol yw dileu, blocio ac adrodd am negeseuon a defnyddwyr camdriniol.
Edrychwch ar yr achos canlynol fel enghraifft:
Cafodd cynghorydd ei benodi i Bwyllgor Archwilio’r cyngor. Ddeufis ar ôl iddo ddechrau yn ei rôl, dechreuodd y cynghorydd dderbyn ymosodiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn cynnwys datganiadau difenwol a wnaed gan amryw o gyfrifon di-enw. Ar yr un pryd, dechreuodd y cynghorydd dderbyn negeseuon e-bost bygythiol a brawychus bob tro roedd ei bwyllgor yn gwneud penderfyniad. Mae’n amlwg mai nod gweithredoedd o’r fath oedd gwneud i’r cynghorydd ymddiswyddo o’i rôl newydd. Felly, penderfynodd y cynghorydd flocio cyfrifon di-enw ac adrodd amdanyn nhw wrth blatfform y cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd.
Ceir cyngor ychwanegol defnyddiol am gam-drin ar-lein yn yr adran a gyflwynwyd eisoes. Yn ogystal â hyn, dylai cynghorwyr sylweddoli na fydd pob gweithred a phenderfyniad a wneir gan y cyngor yn denu’r un sylw gan y cyhoedd. Pan fydd penderfyniadau a wneir yn cael effaith fawr ar fywydau preswylwyr, mae’n fwy tebygol y bydd pobl yn cysylltu â nhw mewn ffordd ddifrïol neu fygythiol. Awgrymir y dylai cynghorwyr gymryd camau ataliol i wella diogelwch e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol pan gaiff mesur / polisi dadleuol ei basio neu ei drafod. Gellir gwneud hyn, er enghraifft, drwy ddefnyddio hidlyddion iaith anweddus, gosod gwrth-faleiswedd ar bob dyfais, defnyddio gwasanaethau e-bost wedi’u hamgryptio a diweddaru cyfrineiriau.
Tynnu gwybodaeth bersonol o’r parth cyhoeddus
Yn aml nid yw cynghorwyr yn adnabod y cyflawnwyr neu maen nhw’n unigolion nad ydyn nhw wedi cael llawer o gysylltiad â nhw yn y gorffennol. Bydd yr unigolion hyn yn ceisio cael gwybodaeth am y cynghorwyr a’u harferion er mwyn cyflwyno eu bygythiadau.
Meddyliwch am yr enghraifft hon:
Mae cynghorydd wedi derbyn tri bygythiad i ddifrodi eiddo. Anfonwyd un dros e-bost, a’r ddau arall dros y ffôn. Cafodd y cynghorydd ei stopio’r tu allan i’r sinema leol gan unigolyn sydd wedi gwneud o leiaf un o’r bygythiadau hyn a dechreuodd gymryd lluniau heb ganiatâd y cynghorydd. Sylweddolodd y cynghorydd ei bod yn gymharol hawdd canfod ei arferion o ddydd i ddydd gan ei fod yn sôn ar ei broffil Facebook cyhoeddus bod y cynghorydd yn rhan o’r gymdeithas ffilm sy’n cyfarfod bob dydd Iau yn y sinema leol.
Mewn achosion fel hyn, caiff cynghorwyr eu cynghori i:
Fod yn ofalus pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei rhannu ar-lein. Mae’r cyngor hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei rhoi ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol ond hefyd ar wefannau eraill. Gallwch roi eich enw mewn chwiliad ar y we i weld pa wybodaeth amdanoch chi sydd eisoes ar gael i’r cyhoedd a’i thynnu oddi yno lle bo hynny’n bosibl.
Gall gwefannau cyngor sydd wedi’u dylunio’n dda helpu cynghorwyr drwy esbonio’n eglur sut a phryd gellir cysylltu â chynghorwyr drwy ddefnyddio dulliau swyddogol. Yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid oes rhaid i gynghorwyr gynnwys eu cyfeiriad cartref ar wefan y cyngor, ac nid oes rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn y gofrestr o gysylltiadau. Gall cynghorwyr yn Lloegr wneud cais am oddefeb gan eu Swyddog Monitro er mwyn cadw eu cyfeiriad yn breifat ar y gofrestr gyhoeddus o gysylltiadau.
Yn ychwanegol, fe’ch cynghorir i ddileu unrhyw fanylion personol oddi ar y cyfryngau cymdeithasol megis rhif ffôn cartref, dyddiad geni, cyfeiriad cartref, manylion cerbyd a/neu fanylion am aelodau o’r teulu. Caiff cynghorwyr eu cynghori i osgoi “cofrestru” eu hunain mewn mannau’n rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol gan y gallai hynny helpu cyflawnwyr i wybod trefn ddyddiol cynghorwyr.
Anfon neges eglur
Rhoddir cyngor i gynghorwyr sy’n derbyn sylwadau sarhaus, bygythiol, brawychus, hiliol, homoffobig, rhywiaethol neu sylwadau gwahaniaethol a dirmygus eraill i beidio â chynhyrfu ac i roi gwybod i’r cyflawnwr bod eu hymddygiad yn anaddas, os yw’n ddiogel gwneud hynny. Mae hawl gan gynghorwyr yn y sefyllfa hon i ddod â galwadau ffôn, cyfarfodydd, dulliau cyfathrebu ar-lein neu drafodaethau i ben. Byddwch yn gadarn, yn eglur a pheidiwch ag ymgysylltu â’r cyflawnwr.
Meddyliwch am yr enghraifft hon:
Daw preswylydd at gynghorydd – sy’n adnabyddus yn y gymuned am ymgyrchu dros y gymuned LHDTC+ – yn y stryd i drafod materion y cyngor. Mae’r drafodaeth yn dirywio’n gyflym, ac mae’r preswylydd yn dechrau gwneud sylwadau sy’n seiliedig ar rywedd a sylwadau homoffobig er mwyn ceisio tanseilio sefyllfa’r cynghorydd a’i allu i wneud penderfyniadau diduedd. Mae’r cynghorydd yn flin gan fod cyhuddiadau o’r fath yn annheg iawn. Er hyn, mae’r cynghorydd yn cymryd anadl ddofn ac yn dweud wrth y preswylydd, heb gynhyrfu, ei fod yn teimlo bod ei ymddygiad yn fygythiol. Mae’r cynghorydd yn datgan yn bendant wrth y preswylydd bod y drafodaeth wedi dod i ben ac yn argymell ei fod yn gwneud apwyntiad i drafod y mater ymhellach pan fydd wedi tawelu. Mae’r cynghorydd hefyd yn nodi na fydd yn goddef camdriniaeth na bygythiadau ac os bydd hyn yn parhau, bydd yn rhoi gwybod i’r heddlu amdano.
ll y math hwn o ymddygiad bygythiol hefyd ddigwydd mewn galwadau ffôn, llythyrau, wrth gyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu dros e-bost. Dyma rai awgrymiadau ar sut i gyfleu neges eglur a phendant:
Peidio â chynhyrfu. Dylai cynghorwyr sy’n wynebu’r math hwn o ymddygiad sicrhau’n gyntaf eu bod yn ddiogel, a cheisio canfod beth yw cwyn y preswylydd. Fe’ch cynghorir hefyd i recordio’r sgwrs gan ddefnyddio ffôn symudol neu ddyfais recordio a dweud wrth y cyflawnwr bod yr alwad neu’r sgwrs yn cael ei recordio.
Wrth ymdrin ag ymddygiad bygythiol, brawychus neu gamdriniol, caiff cynghorwyr eu cynghori i osgoi dadlau’n ôl yn uniongyrchol. Yn anaml iawn mae dadlau’n ôl yn datrys y broblem a bydd yn gwneud y gwrthdaro’n waeth. Yn lle hynny, gall cynghorwyr geisio peidio â chynhyrfu a gofyn am anghenion a dewisiadau amgen y preswylydd. Gall y wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol er mwyn penderfynu ar natur eu hymddygiad, a oes modd cytuno ar unrhyw fater neu a ddylid gadael yr amgylchedd lle cynhelir y drafodaeth. Ran amlaf, mae ymddygiad brawychus yn ymgais i gael rheolaeth, ond ni ellir cael rheolaeth os gwrthodir ymgysylltu â nhw.
Gosod a chynnal safonau uchel. Rhaid i bob cynghorydd ddilyn cod ymddygiad er mwyn diogelu rôl ddemocrataidd cynghorwyr, annog ymddygiad da a diogelu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn llywodraeth leol.
Mae gan bob cenedl ei chod ymddygiad ei hun ar gyfer cynghorwyr: yn Lloegr, mae’r CLlL wedi datblygu cod enghreifftiol i’w addasu’n lleol; yng Nghymru ceir cod statudol; yn yr Alban caiff y cod ei gymeradwyo gan Senedd yr Alban ac mae’n berthnasol i bob cynghorydd; ac yng Ngogledd Iwerddon mae pob cyngor yn mabwysiadu’r un cod:
Caiff cynghorwyr eu cynghori i dynnu sylw cynghorwyr eraill a phreswylwyr at y codau ymddygiad perthnasol a phenderfynu ar yr hyn maen nhw’n ei ystyried yn ymgysylltiad priodol ym mhob lleoliad. Er enghraifft, drwy ddefnyddio’r rheolau ymgysylltu y soniwyd amdanyn nhw’n gynharach ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, dylid rhannu’r rheolau hyn gyda phreswylwyr dros e-bost cyn cyfarfod a’u hargraffu a’u harddangos mewn cymorthfeydd yn y wardiau. Gall hyn fod yn ddefnyddiol fel ffordd i atgoffa pob cyfranogwr o’r hyn sy’n ymddygiad derbyniol a’r hyn nad yw’n dderbyniol a chanlyniadau unrhyw gamdriniaeth, aflonyddwch a bygythiad.
Egwyddorion cyffredinol eraill ar gyfer diogelwch a lles
Cadw cofnod
Awgrymir bod achosion o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau’n cael eu hysgrifennu mewn dyddiadur cyn gynted â phosib ar ôl y digwyddiad. Dylai cofnodion cynghorwyr gynnwys y digwyddiad, y dyddiad, yr amser a rhestr o dystion posibl. Byddan nhw’n ddefnyddiol er mwyn sicrhau bod y cyngor yn ymwybodol o unrhyw fygythiadau posibl a phatrymau o fygythiadau a rhoi gwybod i’r heddlu hefyd os bydd angen.
Gellir recordio sgyrsiau llafar a galwadau ffôn yn hawdd drwy ddefnyddio peiriannau recordio neu ffonau symudol. Gellir arbed copi neu sgrinlun o fygythiadau ar y cyfryngau cymdeithasol neu dros e-bost. Gellir recordio achosion o stelcian gyda lluniau Teledu Cylch Caeedig neu gyda lluniau, ond dim ond os bydd cynghorwyr yn teimlo’n ddiogel i wneud hynny.
Ym mhob achos, os yw’n ddiogel, caiff cynghorwyr eu cynghori i nodi enw’r cyflawnwr, ei fanylion cyswllt (os ydyn nhw’n hysbys) a disgrifiad o’r unigolyn.
Gofalu am eich hun
Gall camdriniaeth seicolegol, camdriniaeth gorfforol a bygythiadau gael effaith emosiynol sylweddol ar gynghorwyr, eu teulu a’u ffrindiau. Mae’n bwysig hefyd fod teulu a ffrindiau’n cael cymorth i ymdrin ag unrhyw anghenion emosiynol sy’n codi os bydd cynghorydd yn cael ei gam-drin neu ei fygwth.
Mae siarad gyda theulu a ffrindiau am deimladau a phrofiadau’n ffordd dda i ymdrin â chanlyniadau emosiynol camdriniaeth seicolegol. Gall siarad gyda chynghorwyr o bleidiau gwahanol mewn lleoliadau daearyddol gwahanol hefyd helpu gan y gallan nhw roi safbwyntiau a syniadau gwahanol ar sut i deimlo’n fwy diogel. Efallai y gall y pleidiau a’ch cyngor hwyluso perthnasoedd mentora neu berthnasoedd cyfeillio neu gymorth arall fel bo’r angen. Mae rhai cynghorwyr yn teimlo’i bod yn ddefnyddiol i ddatgysylltu o’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost a dulliau cyfathrebu eraill pan fyddan nhw gartref, ar ôl oriau gwaith neu yn ystod y penwythnos.
Gellir canfod gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer unigolion sy’n cael eu cam-drin a’u bygwth yn ogystal â chyngor cyffredinol am les ac iechyd meddwl drwy sefydliadau megis Victim Support (Hafan – Victim Support) a Mindhttps://www.mind.org.uk/ (Hafan – Mind). Os bydd cynghorwyr yn teimlo bod eu lles yn dioddef, efallai y dylen nhw gysylltu â’u meddyg teulu lleol a’u gwasanaethau iechyd meddwl neu ofyn am therapi proffesiynol, er bod yna gost ynghlwm â gofyn am therapïau nad ydyn nhw’n rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Rhannu
Hyd yn oed os mai hwn yw’r digwyddiad cyntaf neu’r unig ddigwyddiad, efallai y bydd cynghorwyr eraill wedi cael eu bygwth hefyd. Drwy rannu, bydd cynghorwyr yn cyfrannu at greu cofnod ar y cyd, a all helpu i wella diogelwch cynghorwyr eraill ac efallai y bydd yn hwyluso unrhyw gamau gweithredu a gymerir yn y dyfodol os bydd angen.
Mae pobl yn profi pethau’n wahanol ac mae ganddyn nhw drothwyon gwahanol. Nid yw’r ffaith nad yw rhywbeth yn effeithio ar gydweithiwr yn golygu nad yw’n broblem a dylech ofyn am gyngor annibynnol os ydych chi’n poeni amdano.
Os ydych chi’n teimlo mewn perygl, trafodwch a rhowch wybod i’r heddlu a’r cyngor am y digwyddiad
[1] Krook, Mona Lena. 2020. Violence against Women in Politics, Oxford University Press, tudalen 256
[2] Zetterberg, Pär & Elin Bjarnegård. In Press.” Psychological Violence”, yn Elin Bjarnegård a Pär Zetterberg (eds.), Gender and Violence against Political Actors. Philadelphia, PA: Temple University Press