Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin ar-lein

Mae’r adran hon yn amlinellu cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â gwahanol fathau o gamdriniaeth a bygythiadau a chynnal eich diogelwch personol chi

Mae’r adran hon yn cyflwyno egwyddorion ymarferol y gall cynghorwyr eu dilyn er mwyn gwella’u diogelwch ar-lein a lleihau’r perygl o gael eu cam-drin ar-lein. Gellir defnyddio’r egwyddorion gydag amryw o blatfformau cyfryngau cymdeithasol a dulliau cyfathrebu ar-lein, ac rydym wedi cynnwys enghreifftiau drwy’r canllawiau.

Diffiniad a sefyllfa gyfreithiol

Gall camdriniaeth, aflonyddwch a bygythiadau ar-lein gael eu diffinio fel “niwed a gaiff ei hwyluso drwy ddulliau digidol”[1]. Er enghraifft, cynnwys a rennir neu negeseuon uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda bygythiadau o drais, iaith neu ymddygiad difrïol. Mae hefyd yn cynnwys ymgyrchoedd pardduo, bwlio, camdriniaeth sy’n canolbwyntio ar y corff, docsio, dynwared, annog casineb, ymhlith gweithgareddau eraill. Gellir postio neu rannu aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau ar-lein ar unrhyw blatfform ar y cyfryngau cymdeithasol (megis Twitter, Facebook, Instagram a WhatsApp), dros e-bost neu ar blatfformau cyfarfod ar-lein (Zoom, Teams, Skype, Facetime neu rai tebyg).

Aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau ar-lein yw’r math mwyaf cyffredin o drais, yr hawsaf i’w normaleiddio ac, o bosibl, y mwyaf cymhleth i’r heddlu a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol ymdrin ag ef. Rhaid cofio, yn ôl yr heddlu, nad oes raid i’r neges a dderbynnir o reidrwydd fod yn dreisgar ei natur ond rhaid iddi fod yn ormesol a rhaid iddi fod wedi achosi braw neu drallod i’r dioddefwr er mwyn i’r heddlu weithredu arni.

Mae rhai o’r ffyrdd hyn o ymddwyn yn droseddau.  Er enghraifft, yng Nghymru a Lloegr, mae dulliau cyfathrebu sy’n cael eu hystyried yn faleisus – hynod sarhaus neu anweddus, neu fygythiol – yn gallu bod yn drosedd dan Ddeddf Cyfathrebu Maleisus (1988). Ymddygiad digroeso sy’n cael ei ailadrodd – dau ddigwyddiad neu fwy – a allai gynnwys negeseuon neu fygythiadau di-baid ar-lein, ‘dilyn’ ar y cyfryngau cymdeithasol a chyswllt dan orfodaeth – gall y rhain gael eu hystyried yn droseddau stelcian (Deddf Diogelu Rhyddidau 2012) (gweler yr adran gyfreithiol isod ar gyfer troseddau perthnasol yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon).  Ym mis Mawrth, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Diogelwch Ar-lein i’r Senedd ac, os daw i rym, bydd y Bil hwn yn cyflwyno myrdd o fesurau diogelu a throseddau newydd, wedi’u llunio i frwydro yn erbyn cam-drin ar-lein.

Mesurau ataliol ac adweithiol yn erbyn cam-drin ar-lein

Mae CLlL yn cydnabod bod llawer o waith angen ei wneud i sicrhau diogelwch cynghorwyr ar-lein. Mewn partneriaeth â chydweithwyr o CLlL Cymru, CLlL Gogledd Iwerddon a Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban, mae CLlL wedi datblygu adnoddau i gefnogi cynghorau i fod yn ddinasyddion digidol da yn ogystal â chanllawiau mwy cyffredinol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Yma mae CLlL wedi amlinellu egwyddorion lefel uchel i reoli dulliau cyfathrebu ar-lein, camdriniaeth ar-lein, aflonyddwch a bygythiadau.

Bod yn gyfarwydd â gosodiadau’r platfform. Ceir gwahanol ffyrdd i flocio, tawelu, dileu ac adrodd am sylwadau a defnyddwyr ar wahanol blatfformau ac mae’n ddefnyddiol i gynghorwyr ddod yn gyfarwydd â nhw. Efallai y bydd rhai cynghorwyr yn teimlo’n anghyfforddus am flocio neu dawelu defnyddwyr sy’n bod yn gamdriniol neu’n fygythiol, gan esgusodi ymddygiad o’r fath fel “herian arferol yn y byd gwleidyddol” neu ryddid mynegiant. Wedi dweud hyn, croesir y llinell rhwng rhyddid mynegiant a chamdriniaeth pan fydd y sgwrs yn rhoi’r gorau i sôn am faterion cyhoeddus ac yn troi’n bersonol ac yn amharchus yn hytrach nag yn adeiladol.

Yng nghanolbwynt cyfarfodydd ar-lein a hybrid CLlL ceir gwybodaeth am amryw o blatfformau fideo a sain, astudiaethau achos a mynediad at gymorth ar gyfer cynghorau a chynghorwyr sy’n defnyddio technolegau i gynnal cyfarfodydd ar-lein.  Yn Yr Alban, mae’r Gwasanaeth Gwelliant wedi cyhoeddi adnodd i grwpiau gwleidyddol am weithio o bell a chanllawiau i gynghorwyr am gynnal cymorthfeydd dros y we.

Gosod disgwyliadau. Gall cynghorwyr gyhoeddi eu rheolau ymgysylltu eu hunain ar eu proffil, lle gallan nhw osod disgwyliadau am dôn a chynnwys dulliau cyfathrebu ar-lein, yn ogystal â’r goblygiadau i unrhyw un sy’n torri’r rheolau. Maen nhw’n ddefnyddiol iawn er mwyn gosod ffiniau a rheoli disgwyliadau. Drwy ddefnyddio’r rheolau’n gyson, bydd cynghorwyr yn meithrin trafodaethau adeiladol ar eu proffiliau a chyda’u cynnwys.

Arwain drwy esiampl  Peidiwch â phostio sylwadau a allai gael eu hystyried yn sarhaus, a/neu rannu gwybodaeth ffug neu wybodaeth heb ei gwirio. Mae gwneud hyn yn tanseilio enw da’r cyngor a gall beryglu bywydau a lles pobl eraill. Cofiwch barhau i fod yn adeiladol a chanolbwyntio ar y trafodaethau, triongli gwybodaeth a chywiro anwiredd.

Er enghraifft, gall perthnasoedd a thensiynau gwleidyddol ddwysau yn ystod ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau lleol. Yng Nghymru, drwy CLlLC, cytunodd y 22 arweinydd ar Addewid Ymgyrchoedd Teg cyn etholiadau lleol 2022 a chafodd ei fabwysiadu a’i weithredu gan grwpiau gwleidyddol ac arweinwyr yn lleol. Mae’r addewid Ymgyrchoedd Teg yn ymrwymo ymgeiswyr i gynnal ymgyrch etholiadol deg a pharchus sy’n seiliedig ar ymgyrchu cadarnhaol a theilyngdod, yn hytrach nag ymosodiadau personol a phardduo enwau unigolion.

Ar draws y DU, mae Sefydliad Jo Fox yn cynnal ymgyrch ac adnoddau tebyg ar gyfer ‘Addewid Moesgarwch’, sy’n canolbwyntio ar osod tôn addas wrth ymgyrchu, arwain drwy esiampl a hyrwyddo urddas pobl eraill.

Ystyried y cynnwys. Bydd rhai mathau o gynnwys yn fwy dadleuol nag eraill. Cyn postio, dylech feddwl sut dylid rheoli unrhyw ymgysylltiad â’r wybodaeth hon. Er enghraifft, gallech ymgysylltu drwy wneud sylwadau am y polisi ei hun neu gyfeirio pobl at ddogfennau ymgynghori. Mae rhai cynghorwyr yn nodi bod defnyddio datganiadau swyddogol i’r wasg yn helpu i gadw ffocws i’r drafodaeth a’i chadw’n adeiladol.

Lleihau gwrthdaro. Gall oedi cyn ymateb leihau gwrthdaro, yn ogystal ag ailasesu eich iaith eich hun. Mae rhai cynghorwyr yn teimlo bod angen ymateb ar unwaith i bob cyswllt a wneir ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn cymryd llawer o amser ac yn creu straen, weithiau mae’n well cymryd cam yn ôl ac aros am ychydig cyn ateb – gall hyn helpu i greu llai o wrthdaro.

Gwybod pryd i gamu’n ôl. Cofiwch nad oes raid i chi ymgysylltu ag ymddygiad camdriniol neu fygythiol. Gallwch esbonio’r sefyllfa gyda gwybodaeth ffeithiol os ydych yn dymuno, ond gallwch gamu’n ôl pan fyddwch yn dymuno.

Diogelu eich preifatrwydd a’ch diogelwch ar-lein. Gosodwch gyfrineiriau gwahanol ar gyfer cyfrifon gwahanol er mwyn sicrhau bod eich mannau ar-lein yn ddiogel a pheidiwch â rhannu eich cyfrineiriau. Peidiwch â phostio gwybodaeth sy’n galluogi pobl i wybod eich hanes y tu hwnt i waith swyddogol y cyngor a defnyddiwch y gosodiadau preifatrwydd ar y gwahanol blatfformau i reoli pwy sy’n gallu gweld neu wneud sylwadau ar eich negeseuon. Mae CLlL wedi llunio Canllawiau mwy manwl ar sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac edrychir ar hyn yn fanylach.

Cael a rhoi cefnogaeth. Pan allwch chi, rhowch gefnogaeth i gyd gynghorwyr ar-lein, a gofynnwch am gefnogaeth gan eich cydweithwyr a’ch cyngor pan fo angen. Meddyliwch am fod yn gyfaill digidol – i gael rhagor o wybodaeth am hyn, darllenwch ganllawiau elusen ‘Glitches’ am Fod yn Wyliwr Gweithredol Ar-lein.

Cofnodi camdriniaeth ac adrodd am faterion difrifol. Cadwch sgrinlun o sylwadau a chadwch gofnod o negeseuon camdriniol neu fygythiol. Os nad ydych yn teimlo y gallwch chi ymdrin â chamdriniaeth ar-lein eich hun, neu os oes gennych unrhyw bryderon am eich diogelwch, rhowch wybod am hyn i’ch cyngor neu i’r heddlu.

 

[1]Eleonora Esposito. In Press.” Politics, Violence, and Gender”, yn Elin Bjarnegård a Pär Zetterberg (eds.), Gender and Violence against Political Actors. Philadelphia, PA: Temple University Press

Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Diffiniad o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Cyngor cyffredinol ar sut i ymdrin â chamdriniaeth a bygythiadau

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin ar-lein

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â camdriniaeth gorfforol a diogelwch personol

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin seicolegol a’r effaith ar les

Pa gymorth cyfreithiol sydd ar gael?

Cyngor i gefnogi cynghorwyr

Egwyddorion sylfaenol yn ymwneud â chyfathrebu gyda phreswylwyr, cydweithwyr a swyddogion

Adnoddau pellach