Cyngor cyffredinol ar sut i ymdrin â chamdriniaeth a bygythiadau
Y ffactor pwysicaf er mwyn penderfynu sut i ymateb i aflonyddwch yw’r effaith mae’n ei chael arnoch chi. Beth bynnag fo barn pobl eraill, os yw’n cael effaith arnoch chi, yna mae hynny’n ddigon i chi wneud rhywbeth amdano.

Gall digwyddiadau penodol arwain at gamdriniaeth a bygythiadau gan y cyhoedd, er enghraifft penderfyniadau cynghorau, etholiadau, neu gamddealltwriaeth o rôl a chyfrifoldebau cynghorau a chynghorwyr. Gall cyflawnwyr fod yn unrhyw un; gallen nhw fod yn breswylwyr blin, aelodau anhapus o’r cyhoedd, neu rai sy’n ymgyrchu ar fater penodol.
Wedi dweud hyn, y ffactor pwysicaf er mwyn penderfynu sut i ymateb i aflonyddwch yw’r effaith mae’n ei chael arnoch chi fel cynghorydd. Beth bynnag fo barn pobl eraill, os yw’n cael effaith arnoch chi, yna waeth pwy fo’r cyflawnwr na’r hyn sy’n achosi’r ymddygiad ymosodol, mae’n ddigon i chi fod eisiau gwneud rhywbeth amdano.
Mae’n naturiol y bydd gwytnwch cynghorwyr unigol tuag at gamdriniaeth yn amrywio. Dywed rhai cynghorwyr fod ganddyn nhw oddefgarwch uchel o gamdriniaeth oherwydd eu profiad yn y gorffennol a hyd eu gwasanaeth. Wedi dweud hynny, ni ddisgwylir i gynghorwyr dderbyn na goddef ymddygiad camdriniol, a thrwy beidio ag ymdrin â’r materion hyn gellir cynyddu’r perygl i ddiogelwch cynghorwyr yn y dyfodol. Dylai gofyn am gymorth i ymdrin â’r materion hyn fod yn benderfyniad personol ac ni ddylai cynghorwyr gael eu cymell i beidio â dilyn eu greddf i ofyn am gymorth a chael eu diogelu.
Er mwyn cefnogi cynghorwyr ynghylch sut i ymdrin â chamdriniaeth a bygythiadau, mae CLlL wedi datblygu’r egwyddorion SHIELD canlynol. Mae’r egwyddorion hyn yn gosod fframwaith sylfaenol i gynghorwyr wrth feddwl am eu hymgysylltiad â’r cyhoedd, er mwyn lleihau’r peryglon a gwybod sut i ymdrin â digwyddiadau os byddan nhw’n codi. Dyma’r egwyddorion:

Yn gyffredinol, mae’n ddefnyddiol i chi feddwl yn strategol yn ogystal ag yn bersonol. Er enghraifft, efallai yr hoffech chi annog eich cyngor i gasglu data a dadansoddi’r patrymau risg a datrysiad rydych chi ac unigolion eraill yn dod ar eu traws, gan y gall hyn helpu i wella polisi a chefnogaeth ymhen amser. Os gwelir patrymau, gellir ymdrin â nhw mewn ffordd strategol.
Ymgysylltu â phreswylwyr sydd ag anghenion ychwanegol
Efallai y bydd anghenion ychwanegol, rhwystrau iaith neu ymddygiad anghyfarwydd gan rai preswylwyr sy’n gofyn am gymorth gan gynghorydd. Mae’n bwysig fod pob preswylydd yn gallu gofyn am gyngor a chynrychiolaeth gan eu cynghorydd. Efallai y bydd angen gwneud addasiadau ar gyfer rhai preswylwyr er mwyn rhoi cyfle teg a chyfartal iddyn nhw ymgysylltu â chi fel eu cynrychiolydd lleol. Mae cyngor am sut i gefnogi pobl ag anghenion ychwanegol ar gael gan nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol a gall swyddogion y cyngor, yn enwedig mewn cymunedau a chyfarwyddiaethau gofal cymdeithasol, neu Fyrddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, gynnig cyngor neu roi cymorth.
Serch hynny, dylech gofio nad yw ymddygiad ymosodol na bygythiadau a wneir yn eich erbyn yn dderbyniol o dan unrhyw amgylchiadau a dylid adrodd amdanyn nhw yn y ffordd arferol.
Rhagor o ddeunydd darllen am gefnogi unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig: Mae Young Minds, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, Mind, Headway, Combat Stress a’r Comisiwn Cydraddoldebau a Hawliau Dynol i gyd yn cyhoeddi a chynnig cyngor neu gymorth.
Gan fod natur gweithredoedd o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau’n gorgyffwrdd ei gilydd, mae’r Canllawiau hyn yn grwpio’r cyngor yn ôl y dull a ddefnyddiwyd i achosi niwed, a’r effaith mae’n ei chael ar gynghorwyr:[1] Bydd yr adrannau hyn yn ymwneud â cham-drin ar-lein yn fras, cam-drin corfforol a diogelwch personol a chamdriniaeth seicolegol, a’r effaith ar les.
[1] Bjarnegård, Elin & Pär Zetterberg. In Press.” Introduction: Politics, Violence, and Gender”, yn Elin Bjarnegård a Pär Zetterberg (eds.), Gender and Violence against Political Actors. Philadelphia, PA: Temple University Press