Cyngor ar gefnogi cynghorwyr

Mae’r adran hon yn awgrymu rhai ffyrdd y gall swyddogion cynghorau gefnogi eu haelodau.

Bydd y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) yn ategu at y canllawiau hyn.

Pwyntiau allweddol

  • Mae’n ddefnyddiol os oes gan gynghorau swyddog all gynnig cymorth i gynghorwyr sy’n wynebu aflonyddu cyhoeddus, a darparu pwynt cyswllt gyda’r heddlu
  • Gallai grwpiau gwleidyddol ar y cyngor ystyried enwebu rhywun i gynnig rôl gefnogol ar y materion hyn
  • Gall cynghorau ddatblygu eu polisïau, gweithdrefnau a briffiadau rheolaidd i gynorthwyo cynghorwyr sy’n wynebu aflonyddu. Mae Model Brotocol Datrysiadau Lleol  a ddatblygwyd gan Un Llais Cymru ar gael
  • Dylid annog cynghorwyr i ddefnyddio’r model rheolau ymgysylltu a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ar eu gwefannau a chyfryngau cymdeithasol personol.  Darllenwch holl ganllawiau’r Gymdeithas Llywodraeth Leol ar ddinasyddiaeth ddigidol
1. Sut gall Cynghorau gefnogi eu cynghorwyr

Gall Cynghorau gefnogi eu cynghorwyr drwy wneud y canlynol:

    • Penodi swyddog i weithredu fel cyfrwng cyfathrebu ar gyfer unrhyw gynghorydd neu swyddog sy’n dymuno cysylltu’n gyfrinachol os yw ef/hi wedi derbyn cyswllt neu gyfathrebiad bygythiol o ffynhonnell allanol neu fewnol. Gall y swyddog hwn gynnig cymorth a chyngor yn hytrach na cheisio datrys camdriniaeth o’r fath, a gallai hefyd gynnig cyngor ymarferol ar ddiogelwch personol. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid mynd ag unrhyw honiad difrifol o weithgaredd troseddol ymhellach.
    • Mae’n ofynnol i bob cyngor gael cod ymddygiad cynghorwyr lleol erbyn hyn er mwyn helpu cynghorwyr i fodelu a chydbwyso eu hymddygiad, deall disgwyliadau eu rôl, a nodi’r math o ymddygiad a allai arwain at gamau gweithredu yn eu herbyn. Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) wedi datblygu’r Model Cod Ymddygiad Cynghorwyr hwn, mewn cydweithrediad gyda phartneriaid allweddol ac yn dilyn ymgynghori helaeth gyda’r sector, fel rhan o’i gwaith i gefnogi pob haen o lywodraeth leol i barhau i ymdrechu i gyrraedd safonau uchel o ran arweinyddiaeth a pherfformiad.
    • Yng Nghymru, mae Protocolau Datrysiadau Lleol wedi bod yn adnodd defnyddiol i ymdrin â chwynion llai difrifol a datrys anghydfodau mewnol. Cynghorir cynghorau yn Lloegr i ddatblygu eu protocolau datrysiadau eu hunain.
    • Yn yr un modd, annogir pob grŵp gwleidyddol yn y cyngor i benodi naill ai arweinydd y grŵp a/neu un o’u plith i gyflawni rôl debyg ar gyfer eu haelodau etholedig.
    • Gall cynghorau sefydlu polisi yn nodi gweithdrefnau a phrotocolau petai cynghorydd yn teimlo ei fod yn cael ei aflonyddu neu ei gamdrin yn gyhoeddus. Gall cynnal briffiadau rheolaidd ar gyfer yr holl gynghorwyr, gan gynnwys y rheini sydd newydd gael eu hethol, lle gellir rhannu profiadau a phryderon, helpu i adnabod troseddwyr parhaus ac arwain at ddatrysiadau a arweinir gan y cyngor.
    • Gweithio gyda’r heddlu lleol, sefydlu swyddog a enwir â chyfrifoldeb dros ddelio â’r bygythiadau difrifol i gynghorwyr ac i roi cyngor ar ddiogelwch personol a diogeledd.
    • Sicrhau bod trefniadau yswiriant y cyngor yn cynnwys anafiadau neu golled a ddaw i ran aelodau etholedig yn rhinwedd eu rôl fel cynghorwyr mewn perthynas ag unrhyw achos o aflonyddu.
    • Ystyried pa gamau y dylai’r cyngor eu cymryd i leihau’r risg i gynghorwyr os bydd achos o aflonyddu a bygythiadau difrifol. Mewn rhai o’r achosion yr ymchwilwyd iddynt wrth lunio’r canllaw hwn, mae cynghorwyr sydd wedi bod yn destun bygythiadau i’w lladd wedi derbyn larymau personol gan yr heddlu, ac weithiau, gan eu cyngor. Dylai pob cyngor ystyried pa gamau y gall eu cymryd i fynd i’r afael ag unrhyw risgiau neu fygythiadau.
    • Mae cyfarfodydd ar-lein wedi’u rheoli wedi helpu i leihau camdriniaeth gan aelodau o’r cyhoedd. Mae rhai strategaethau yn cynnwys gofyn i gyfranogwyr gofrestru ymlaen llaw, neu fonitro neu analluogi’r swyddogaeth sgwrsio a darllen datganiadau agoriadol sy’n nodi na fydd camdriniaeth o unrhyw fath yn cael ei goddef.
2. Gweithio gyda’r Heddlu

Yn ystod y gwaith ymchwil a wnaed i ddatblygu’r canllaw hwn, gwelwyd bod ymateb yr heddlu i aflonyddu ar gynghorwyr yn amrywio ar draws y wlad.

Rydym yn gwybod fod rhai heddluoedd yn adolygu eu hymatebion i fygythiadau o’r fath, a bod y Llywodraeth yn edrych ar y mater hwn. Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) wedi tynnu sylw at y mater hwn yn ei hymateb i’r ymgynghoriad ar ‘amddiffyn y drafodaeth: ymgynghoriad ar aflonyddu, dylanwad a gwybodaeth‘.

Argymhellir bod cynghorau yn gweithredu mewn ffordd ragweithiol gyda’u heddlu a’u comisiynydd heddlu a throsedd lleol i sefydlu protocolau ar gyfer sut dylai cynghorwyr roi gwybod am achosion o aflonyddu a bygythiadau a wneir yn eu herbyn yn eu rôl fel cynghorydd. Gall yr heddlu hefyd gynnig cyngor mwy uniongyrchol a manwl am sut i ymateb a’r ffactorau a fydd yn pennu eu hymateb i unrhyw fygythiadau, ac achosion o gamdriniaeth neu aflonyddu.

3. Llesiant cynghorwyr

Gall gael eich camdrin, eich bygwch neu/a eich aflonyddu effeithio ar lesiant unigolion. Mae’n bosibl bod gan eich cyngor Bencampwr Iechyd Meddwl  all gynnig cymorth i gyd-gynghorwyr, neu efallai bod gennych gynllun cymorth yn y gwaith y gallai cynghorwyr elwa arno. Os bydd cynghorydd yn rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, dylid gofyn iddo ef/hi a oes angen cymorth llesiant arno hefyd.

Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Diffiniad o aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Cyngor cyffredinol ar sut i ymdrin â chamdriniaeth a bygythiadau

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin ar-lein

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â camdriniaeth gorfforol a diogelwch personol

Cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â cam-drin seicolegol a’r effaith ar les

Pa gymorth cyfreithiol sydd ar gael?

Cyngor i gefnogi cynghorwyr

Egwyddorion sylfaenol yn ymwneud â chyfathrebu gyda phreswylwyr, cydweithwyr a swyddogion

Adnoddau pellach