Materion a heriau i gynghorau
Tai
Mae gwella mynediad pobl at dai fforddiadwy o safon yn allweddol i wella lles cymunedol, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae rôl tai strategol cynghorau’n cynnwys asesu’r farchnad dai leol a’r galw lleol am dai, pennu blaenoriaethau lleol a chynllunio a gweithio gyda phartneriaid i ddarparu tai fforddiadwy safonol y mae eu hangen.

Mae awdurdodau lleol yn gweithio ar draws bob deiliadaeth a gydag ystod eang o bartneriaid i sicrhau bod y canlynol yn wir yn eu hardal nhw:
- Sector cynaliadwy o bobl yn berchen ar gartref ac yn byw ynddo
- Sector rhentu preifat llewyrchus, sy’n cael ei reoli’n dda ac sydd â chartrefi o safon
- Tai cymdeithasol o safon sy’n cael eu rheoli’n effeithlon ac effeithiol
Digartrefedd
Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i edrych ar ddigartrefedd yn eu hardal, datblygu strategaeth i atal digartrefedd a helpu pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod. Lle nad oes modd atal digartrefedd, gall awdurdodau lleol ddarparu llety dros dro a chymorth mewn argyfwng.
Mae rhagor o wybodaeth i bobl sy’n ddigartref ar gael ar Shelter Cymru.

Adeiladu cartrefi newydd
Ar hyn o bryd, mae tua 87,000 o gartrefi yng Nghymru sy’n eiddo i ac yn cael eu rheoli gan gynghorau. Yn dilyn diwedd yr Hawl i Brynu yng Nghymru a diddymu’r cyfyngiadau blaenorol gan Lywodraeth y DU ar fenthyca, mae’r 11 cyngor sydd â stoc dai’n dwyn cynlluniau ymlaen i gynyddu niferoedd y cartrefi cyngor newydd yn gyflym.
Diogelwch adeiladau
Mae safbwynt y Llywodraeth ar hyn o bryd wedi’i nodi yn y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021.
Ail gartrefi a thai gosod byrdymor
Yn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae ail gartrefi’n bwnc dadleuol, a gall ail gartrefi a thai gosod byrdymor gael effaith sylweddol ar farchnadoedd tai lleol. Mae safbwynt a chamau gweithredu’r Llywodraeth wedi’u nodi yma.
Mae gan gynghorau hefyd rolau ynghlwm â’r sector rhentu preifat fel gweithio gyda landlordiaid i wella amodau ac arferion rheoli, dod â chartrefi gwag yn ôl i gael eu defnyddio, a chefnogi cyflwyno mentrau arloesol fel Rhentu Doeth Cymru. Mae gan gynghorau hefyd bwerau gorfodi statudol ynghlwm â chyflwr tai.
