Materion a heriau i gynghorauNewid hinsawdd, datgarboneiddio, a bioamrywiaeth

Materion a heriau i gynghorau

Newid hinsawdd, datgarboneiddio, a bioamrywiaeth

Mae Cytundeb Paris yn gytundeb rhyngwladol cyfreithiol ar newid hinsawdd. Cafodd ei fabwysiadu gan 196 o bleidiau yn COP 21 ym Mharis, ym mis Rhagfyr 2015 a chafodd ei wneud yn weithredol ym mis Tachwedd 2016. Ei nod yw atal cynhesu byd eang rhag cyrraedd 2 radd, ac 1.5 gradd Celsius yn ddelfrydol, yn uwch na lefelau cyn yr oes ddiwydiannol. Hyd yn oed os bydd y byd yn llwyddo i wneud hynny, bydd y DU yn wynebu newidiadau eraill sylweddol i’w hinsawdd hyd at 2050 a thu hwnt.

Erbyn 2050, bydd tywydd poeth haf 2018 yn haf arferol, gall glaw yn yr haf ostwng cymaint â 24% a glaw yn y gaeaf gynyddu cymaint ag 16% – newidiadau a fydd yn effeithio ar ein lles, yr amgylchedd a’r economi.

Mae effaith newid hinsawdd yn cael ei theimlo fwyfwy gan bobl Cymru, o’r effaith ar gymunedau arfordirol fel Fairbourne yn y gogledd, i’r llifogydd dinistriol yn Ne Cymru. Mae’r cyhoedd yn disgwyl i gynghorau weithredu ar newid hinsawdd.

Drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) (Diwygio) 2016, mae Cymru wedi gosod targed cyfreithiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i 100% o linell sylfaen 1990 erbyn 2050, gyda thargedau yn y cyfamser o 63% erbyn 2030 ac 89% erbyn 2040. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gosod targed anstatudol i sector cyhoeddus Cymru o gyrraedd lefel allyriadau net sero erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gosod targed anstatudol i sector cyhoeddus Cymru o gyrraedd sero net o allyriadau erbyn 2030. Mae’r Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru  yn amlinellu’r meysydd allweddol y bydd yn rhaid i gynghorau a sefydliadau sector cyhoeddus eraill ganolbwyntio arnynt er mwyn cyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr, caffael, defnydd tir, symudedd a thrafnidiaeth ac adeiladau sero net. Mae hefyd yn darparu cyfres o gerrig milltir i’w bodloni ar y siwrnai i 2030.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu hail gyllideb garbon, Cymru Sero Net, ar gyfer y cyfnod 2021 – 2025.  Roedd y cynllun yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau ar gyfer awdurdodau lleol a gafodd eu datblygu ar y cyd gan Banel Strategaeth Hinsawdd Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a CLlLC.

Ceir enghreifftiau o rai o’r ymrwymiadau isod;

 Adeiladau

Sicrhau bod gan bob adeilad cyhoeddus systemau gwresogi carbon isel erbyn 2030 a’u bod yn cynhyrchu eu trydan eu hunain lle bo hynny’n ymarferol

 Caffael

Pennu manylebau lleihau carbon ym mhob contract newydd a phob contract a gaiff ei adolygu er mwyn hyrwyddo’r agenda datgarboneiddio.

 Defnydd tir

Arweinwyr yn ystyried atafaelu carbon fel diben craidd dilys ar gyfer defnyddio tir cyhoeddus ac awdurdodau lleol yn achub ar gyfleoedd ar eu tir eu hunain, gan gynnwys adfer cynefinoedd, plannu coed ac ati, fel y bo’n briodol.

 Symudedd a Thrafnidiaeth

Sicrhau bod pob car a cherbyd nwyddau ysgafn newydd yn rhai di-allyriadau/allyriadau isel iawn erbyn 2025.

Mae rhestr lawn o’r ymrwymiadau i awdurdodau lleol yng nghynllun Cymru Sero Net i’w gweld yma (t.204-205).

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Gan gadw at bum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae cynghorau’n meddwl yn hirdymor wrth ystyried ymyraethau i leihau allyriadau carbon. Bydd datrysiadau’n amrywio yn ôl y cyd-destun lleol, ond mae’n debygol y bydd yr effeithiau mwyaf i’w gweld drwy ddatgarboneiddio ynni, cludiant, adeiladau a phrosesau caffael. Efallai y bydd cymunedau gwledig yn gallu secwestru carbon (dal a storio carbon deuocsid) a darparu ynni adnewyddadwy o wynt neu ddŵr. Mewn ardaloedd mwy trefol, efallai mai rhwydweithiau gwres (rhannu gwres o ffynhonnell ganolog i nifer o adeiladau domestig ac annomestig) a theithio llesol (cerdded neu feicio) a fydd yn cynnig y manteision gorau. Ar hyd a lled Cymru, mae uwchraddio gosodiadau aneffeithlon mewn tai’n flaenoriaeth, ond mae’n rhaid i’r datrysiadau fod yn briodol ar gyfer y math penodol o dai. Mae cydbwysedd i’w gael felly rhwng arbedion oherwydd maint, a sicrhau bod datrysiadau’n addas ar gyfer anghenion penodol lleoedd.

Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol

Mae Adroddiad o gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru 2020 gan Gyfoeth Naturiol Cymru’n dangos dirywiad sylweddol mewn bioamrywiaeth yng Nghymru (fel sy’n wir am lawer o’r DU). Mae’n nodi:

  • O’r 6,500 o rywogaethau sydd yng Nghymru, bod 523 (8%) mewn perygl o ddiflannu o Brydain.
  • Bod cyfanswm o 666 (17%) mewn perygl o ddiflannu o Gymru a bod 73 arall wedi diflannu eisoes.

Mae gan gynghorau rôl glir i helpu i atal dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru, a dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n gyfreithiol ofynnol iddynt ‘gyhoeddi cynllun ar sut maent yn bwriadu cadw at y ddyletswydd i wella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.’