Materion a heriau i gynghorau
Diogelwch Cymunedol
Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
Cymunedau Mwy Diogel CymruEr na fydd pob cynghorydd yn aelodau o’u Partneriaethau Diogelwch Cymunedol , mae’n bwysig i bob un ddeall beth yw diogelwch cymunedol a beth yw’r Partneriaethau hyn.
Diogelwch Cymunedol yw’r dull y mae dinasyddion yn teimlo’n ddiogel ar draws pob cymuned ac amgylchedd yng Nghymru, gan ddarparu cymunedau cryf, diogel a hyderus mewn modd sy’n cynnig cyfle cyfartal, cyfiawnder cymdeithasol, cadernid ac sy’n gynaliadwy i bawb ac sy’n galluogi cydlyniant cymunedol. Mae Diogelwch Cymunedol yn cynnwys diogelwch y cyhoedd, caethwasiaeth fodern a chamfanteisio, trais difrifol a throseddau cyfundrefnol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal â therfysgaeth ac eithafiaeth.

Mae Diogelwch Cymunedol yn ddull partneriaeth o leihau trosedd ac anhrefn mewn cymunedau lleol, mae nifer o ddyletswyddau sy’n dod o dan ddiogelwch cymunedol, ac mae pob cyngor yn gyfrifol amdanynt. Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r heddlu, cynghorau, a gwasanaethau tân, iechyd a phrawf (a elwir yn awdurdodau cyfrifol). Yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu sydd ag arweinyddiaeth ar y cyd dros ddiogelwch cymunedol ac o fewn y gweithio partneriaeth statudol hwn, y nod yw lleihau trosedd ac anrhefn yn y gymuned leol yn ogystal â darparu canlyniadau o ran atal a lleihau trosedd ac aildroseddu, ofn troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig a niwed a gaiff ei achosi gan gamddefnyddio sylweddau. Mae gofyn i bob Partneriaeth fod ag asesiad strategol sy’n nodi blaenoriaethau a materion o fewn ardal ddaearyddol y cyngor.
Er bod staff dynodedig mewn cynghorau sy’n goruchwylio gweinyddu’r Partneriaethau, anogir pob cynghorydd i ddeall y strwythur llywodraethu diogelwch cymunedol penodol yn eu cyngor er mwyn sicrhau bod cyfathrebu, cefnogaeth a gweithio effeithiol a phriodol yn digwydd yn y maes statudol hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cyflwyniad i Ddiogelwch Cymunedol – Cymunedau Mwy Diogel Cymru