Materion a heriau i gynghorau
Iechyd a gofal cymdeithasol
Mae gan gynghorau Cymru gyfrifoldeb statudol dros gynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â dyletswydd i ddiogelu unigolion. Mae hyn yn golygu mai cynghorau yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gefnogi a diogelu pobl ddiamddiffyn. Mae llawer o waith achos cynghorwyr yn dod o’u rôl i gyfeirio pobl ddiamddiffyn neu eu gofalwyr at swyddogion a gwasanaethau’r cyngor sy’n gallu helpu.
Mae pob un o’r 22 cyngor yn cynllunio ac yn cyflawni’r cyfrifoldeb statudol hwn yn wahanol; er enghraifft, mae rhai’n darparu gofal yn uniongyrchol ac mae rhai’n comisiynu gwasanaethau gan y sector preifat neu wirfoddol.


Mae newid demograffig, galw, pwysau a heriau cynyddol o ganlyniad i’r pandemig, a diffyg digon o gyllid i gyd yn rhoi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dan bwysau. Hefyd, mae heriau recriwtio a chadw staff yn y gweithlu gofal cymdeithasol.
Yn 2018, arweiniodd yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru at gyhoeddi ‘Cymru Iachach’, cynllun cenedlaethol hirdymor (10 mlynedd) Llywodraeth Cymru i gael un system ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymgynghori’n ddiweddar ar Bapur Gwyn Gofal Cymdeithasol: Cydbwysedd gofal a chymorth.
Deddfau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae gwaith gofal cymdeithasol cynghorau’n cael ei lywio gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sy’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar, buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Yn fras, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud y canlynol.
1. Pobl – rhoi unigolyn a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais iddynt a mwy o reolaeth dros gyflawni canlyniadau personol sy’n eu helpu i fod yn iach.
2. Lles – cefnogi pobl i warchod eu lles eu hunain a mesur llwyddiant y cymorth hwn.
3. Ymyrraeth gynnar – hyrwyddo’r defnydd o ddulliau ataliol o fewn y gymuned i fynd i’r afael ag anghenion pobl cyn iddynt waethygu’n arw.
4. Cydweithio – gweithio mewn partneriaeth yn well ar draws bob sefydliad a chefnogi pobl yn well i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Mae’r Ddeddf yn canolbwyntio ar gyflawni’r amcanion sy’n angenrheidiol i sicrhau lles rhywun – fel unigolyn, fel rhan o deulu ac fel rhan o’u cymuned.
Mae’r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn darparu’r fframwaith statudol i reoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gofal Cymdeithasol Cymru yw rheoleiddiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r un sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu’r gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yn ogystal â chefnogi ymchwil i ofal cymdeithasol a gwella gwasanaethau yng Nghymru. Mae ganddynt dri phrif nod, sef datblygu’r gweithlu, gwella gofal a chymorth a gwella hyder y cyhoedd yn y maes gofal.
Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n gyfrifol am gofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.