Materion a heriau i gynghorau

Gwastraff

Wrth i adnoddau cyfyngedig edwino, mae Cymru, fel cenedl, angen gwella sut rydym yn rheoli ein hadnoddau. Mae hyn yn cynnwys beth fyddem yn draddodiadol wedi’i gyfrif yn ‘wastraff’. Fel hyn, gallwn warchod ein hadnoddau, cefnogi’r economi a darparu swyddi cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae datblygu economi gylchol yn allweddol ar gyfer hyn. Dyma lle mae adnoddau’n parhau i gael eu defnyddio sawl gwaith yn hytrach nag unwaith cyn eu taflu. Mae hwn yn faes posib’ ar gyfer twf swyddi yng Nghymru.

Mae cyfrifoldebau statudol ar awdurdodau lleol i gasglu a chael gwared â gwastraff cartrefi. Mae’r polisi allweddol yn y maes hwn wedi’i nodi yn Mwy nag Ailgylchu | LLYW.CYMRU sy’n mapio llwybr at fod yn ddiwastraff erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol y mae’n rhaid i gynghorau eu cyrraedd neu risgio dirwyon sylweddol.

Erbyn 2024/25, mae angen ailgylchu 70% o wastraff mae cynghorau’n ei gasglu ac mae’n hanfodol bod y gwastraff gweddilliol yn lleihau’n gyson dros amser. Gall Llywodraeth Cymru roi dirwyon am fethu â chyrraedd y targedau. Gall hyn gael ei gyflawni trwy lai o becynnau ar gynnyrch a phecynnau ailgylchadwy. Dyna pam mae nifer o gynghorau’n cyfyngu ar faint o wastraff ‘bag du’ mae cartrefi’n gallu cael gwared ag o. Mae ymchwil wedi dangos, pan wnaed y dadansoddiad diwethaf yn edrych ar beth mae pobl yn ei roi mewn bagiau du/biniau ar olwynion, fod modd ailgylchu o leiaf hanner beth mae pobl yn ei daflu gan ddefnyddio eu gwasanaeth presennol.

Mentrau DU gyfan

Yn y tymor hwn, mae mentrau ledled y DU fel Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (lle mae cynhyrchwyr pecynnau’n talu costau delio â’r deunydd wedyn) a Chynlluniau Dychwelyd Ernes yn debygol o gael eu cyflwyno.

Mae cynghorau Cymru wedi gwneud cynnydd da ar leihau faint o wastraff bioddiraddadwy (fel bwyd, gwastraff gardd, papur a chardfwrdd) sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a chynyddu cyfraddau ailgylchu. Mae nifer wedi cydweithio’n llwyddiannus i gaffael cyfleusterau trin gwastraff bwyd a gwastraff gweddilliol. Mae cyfraddau ailddefnyddio/ailgylchu a chompostio blynyddol ar gyfer pob cyngor i’w gweld yma.

Mae angen cydbwysedd rhwng canolbwyntio ar dargedau ailgylchu a hyrwyddo ymddygiad mwy cynaliadwy ar draws cymunedau. Bydd gan bob cyngor eu polisi gwastraff eu hunain i gyflawni hyn.