Materion a heriau i gynghorauGadael yr Undeb Ewropeaidd

Materion a heriau i gynghorau

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Yn 2016, cefnogodd 52.5% o bleidleiswyr yng Nghymru i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Gadawodd y DU yr UE am 11pm ar 31 Ionawr 2020. Wedi hynny, bu cyfnod pontio tan 31 Rhagfyr 2020 pan adawodd y DU Farchnad Sengl ac Undeb Tollau Ewrop yn ffurfiol.

Bydd gadael yr Undeb yn parhau i gael effaith sylweddol ar y cyhoedd, gwasanaethau cyhoeddus a chynghorau am flynyddoedd. Bydd cydlynwyr pontio o’r UE ym mhob cyngor tan ddiwedd 2022. Dyma rai enghreifftiau o’r newidiadau mae cynghorau’n eu hwynebu.

1. Datblygu economaidd

Mae Cymru wedi elwa’n sylweddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf o sawl rhaglen gyllid Ewropeaidd. Wrth adael yr UE, collodd Cymru’r hawl i’r rhaglenni cyllid hynny a ddarparai lawer o gyllid ar gyfer datblygu economaidd, adfywio, sgiliau a chyflogaeth a gweithgarwch datblygu gwledig.

Mae gwariant a darpariaeth rhaglenni cyfredol sydd wedi’u hariannu gan yr UE yn parhau tan ddiwedd 2023.

Ar wahân i’r cyllid ei hun, roedd Cymru’n gweithredu o fewn fframwaith polisi, strategaeth a deddfwriaeth cyffredinol yr UE a oedd yn llywio gwaith o ddarparu a chyflwyno’r holl raglenni cyllid. Pan oedd Cymru yn yr UE, roedd cynghorau’n parhau i allu cyfrannu at ddatblygu a chynllunio rhaglenni ac roeddent yn rhan o’u rheoli ar lefel Cymru drwy’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni.

Mae cynllunio a pharatoi at gyllid yn lle cyllid yr UE yn parhau i fod yn rhan allweddol o waith i sicrhau bod cyllid ar gael i gymunedau ledled Cymru i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu economïau lleol, sy’n waeth oherwydd yr argyfwng Covid-19.

Datblygodd llywodraeth leol, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol i Gymru ym mis Tachwedd 2020, i arwain ar gyllid yn lle cyllid yr UE i Gymru.

2. Y gyfraith

Newidiadau i’r gyfraith ynglŷn ag, er enghraifft, caffael a chymorth gwladwriaethol.

3. Y gweithlu

Newidiadau i’r hawl i lafur symud yn rhydd a’r effaith ar gronfeydd pensiwn.

4. Gwasanaethau

  • Oedi posib’ ar amseroedd danfon a phrisiau uwch ar nwyddau a bwyd sydd wedi’u mewnforio.
  • Mwy o bwysau ar adrannau Safonau Masnach sy’n gyfrifol, er enghraifft, am ddiogelwch cynnyrch ac adrannau Iechyd yr Amgylchedd sy’n gyfrifol, er enghraifft, am dystysgrifau iechyd i allforio.
  • Gallai unrhyw wasanaethau allanol gael eu heffeithio.

5. Arweinyddiaeth gymunedol

Mae cynghorau yn:

  • Gweithio gyda busnesau lleol i asesu a mynd i’r afael ag effeithiau economaidd ar fusnesau a deall y rheolau newydd sy’n effeithio, er enghraifft, masnach a safonau cynnyrch
  • Gweithio gyda’r sector amaethyddol i ddelio â newidiadau i gymorth uniongyrchol a chyllid datblygu gwledig
  • Ymateb i’r effaith economaidd ar gymunedau a thrigolion.

    Effeithiau

    Dyma rai enghreifftiau o’r effeithiau ar fywydau pobl am nad yw’r DU bellach ym Marchnad Sengl ac Undeb Tollau Ewrop. Bydd cynghorau’n ei gweld yn ddefnyddiol gwybod sut y gall y cyngor helpu a therfynau pŵer y cyngor.

    Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma: Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad Brexit ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru

    Effaith peidio â bod ym Marchnad Sengl/Undeb Tollau Ewrop mwyach ar:

    N

    Beth all y cyngor ei wneud

    M

    Beth na all y cyngor ei wneud

    Nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys safonau cynnyrch)

    N
    • Mae gan Safonau Masnach rôl i sicrhau safonau/diogelwch cynnyrch
    • Mae’r marc UKCA (UK Conformity Assessed) yn farc newydd ar gynnyrch yn y DU sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer nwyddau penodol sy’n cael eu gwerthu ym Mhrydain (Cymru, Lloegr a’r Alban) – gweler Using the UKCA marking. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o nwyddau oedd yn arfer bod angen marc CE
    M
    • Caniatáu i gynnyrch gael ei werthu’n lleol sydd heb y marciau diogelwch angenrheidiol

    Prisiau (oedi; mwy o waith papur; trefniadau TAW newydd yn effeithio arnynt)

    N
    • Gweithio gyda’i gadwyn gyflenwi ei hun i wella cadernid cyflenwadau (gan gynnwys prynu’n lleol)
    M
    • Osgoi gwiriadau a mwy o reolaethau ar y ffiniau ar nwyddau mae’n eu mewnforio o’r UE (e.e. bwyd a defnyddiau adeiladu)

    Rhyddid i symud/gallu i deithio/mewnfudo

    N
    M
    • Recriwtio dinasyddion yr UE os nad oes ganddynt statws preswylydd sefydlog

    Effaith ar swyddi a hyfforddiant

    N
    • Cefnogi busnesau lleol i ddeall y rheolau a’r rheoliadau newydd a’u cyfeirio at gyngor (e.e. Hafan | Busnes Cymru – Porth Brexit.)
    • Ceisio denu a datblygu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant newydd
    • Cefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio drwy golli eu swyddi, cael eu gwneud yn ddi-waith ac sydd mewn tlodi
    M
    • Gwneud ceisiadau am gyllid gan yr UE

    Hawl i fudd-daliadau: angen i ddinasyddion yr UE fod â statws preswylydd sefydlog (effeithio ar fod yn gymwys i gael gwasanaethau, ac ati)

    N
    • • Hyd at fis Mehefin 2021, cefnogaeth a chyngor ar ymgeisio ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (Dinasyddion yr UE – rydym ni am i chi aros yng Nghymru); ar ôl Mehefin 2021, ymdrin â/darparu cefnogaeth mewn achosion lle nad oes ceisiadau wedi’u gwneud
    M
    • Darparu budd-dal tai i ddinasyddion yr UE sydd heb gael statws preswylydd sefydlog