Materion a heriau i gynghorauDatblygu economaidd

Materion a heriau i gynghorau

Datblygu economaidd

Mae datblygu economaidd yn broses i wella lles dinasyddion mewn sawl maes, gan gynnwys ffyniant economaidd, disgwyliad oes a chyrhaeddiad addysgol. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd agwedd ranbarthol tuag at ddatblygu economaidd. Mae hyn wedi’i nodi yn ei Chynllun Gweithredu Economaidd. Mae’r dull rhanbarthol hwn hefyd wedi arwain Llywodraeth Cymru i ddynodi Lles Economaidd fel un o’r swyddogaethau sydd i gael eu datblygu drwy Gyd-bwyllgorau Corfforedig ym 4 rhanbarth economaidd Cymru fel maent wedi’u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer economïau rhanbarthol a lleol – bargeinion twf

Mae bargeinion twf yn ffordd o ddenu buddsoddiadau a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn rhanbarth penodol. Mae bargen dwf ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru, a’r rheiny yw: Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd, Tyfu Canolbarth Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Maent yn cynnwys pob awdurdod lleol yn gweithio’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gynlluniau 10 mlynedd sy’n ceisio gwella cynhyrchedd a thwf economaidd ledled Cymru.

Cyllid ar ôl gadael yr UE

Ar ôl i’r DU adael yr UE ddiwedd 2020, gweithredodd Llywodraeth y DU i gymryd rheolaeth uniongyrchol o’r cyllid yn lle cyllid yr UE ar gyfer y DU gyfan drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, sy’n darparu’r sail ddeddfwriaethol iddi ddarparu cyllid o fewn meysydd sydd wedi’u datganoli fel datblygu economaidd ar draws y DU.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU nifer o raglenni a mentrau cyllid ac ariannu newydd ar gyfer economïau lleol a rhanbarthol. Er bod rhai o’r rhain yn berthnasol i Loegr yn unig, mae’r rhan fwyaf ar gyfer y DU gyfan. Roedd y rhain yn cynnwys ymestyn cyfalaf y Gronfa Codi’r Gwastad ar draws y DU gyfan a chyflwyno cynllun peilot refeniw ar gyfer y brif gronfa gyllid yn lle cyllid yr UE, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Cronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae’r ddwy gronfa’n golygu rôl allweddol i gynghorau i hwyluso a chydlynu ceisiadau lleol a datblygu eu ceisiadau eu hunain am gyllid. Mae’r ddwy’n cynnwys proses gystadleuol, a phob cyngor ar draws y DU wedi’u gwahodd i gyflwyno ceisiadau am gyllid. Mae pob cyngor wedi’u gosod mewn 3 chategori blaenoriaeth ar gyfer y Gronfa Codi’r Gwastad ar sail methodoleg sydd wedi’i phennu gan Lywodraeth y DU. Yn yr un modd, mae 100 o leoedd blaenoriaeth wedi’u dynodi ar gyfer y Gronfa Adfywio Cymunedol.

Cyfnodau clo COVID-19 a chymorth busnes mewn argyfwng

Y datblygiad arwyddocaol arall sydd wedi effeithio ar economïau lleol yn ystod tymor diwethaf y Senedd yw’r argyfwng Covid-19 a’i effaith ddinistriol ar gyflogaeth, busnesau a chymunedau lleol.

Mae’r argyfwng wedi dangos y rôl allweddol sydd gan gynghorau i gefnogi eu heconomïau lleol, yn bennaf drwy fod ynghlwm â darparu’r mesurau cymorth busnes mewn argyfwng sydd wedi bod yn achubiaeth i fusnesau ar hyd a lled Cymru.

Drwy eu gwybodaeth leol, mae cynghorau wedi dangos mai y nhw sydd yn y lle gorau i ddarparu cymorth i fusnesau o fewn eu cymunedau.

Mae cynghorau hefyd wedi chwarae rôl allweddol i gefnogi eu heconomïau lleol wrth i gyfyngiadau gael eu codi ar ôl cyfnodau clo cenedlaethol a lleol.