Materion a heriau i gynghorau
Cludiant
Mae gan gludiant ran bwysig i’w chwarae i fynd i’r afael â newid hinsawdd a helpu’r agenda datgarboneiddio, gan ei fod yn cyfrif am 17% o gyfanswm allyriadau carbon Cymru.

Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Drafnidiaeth uchelgeisiol – Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 | LLYW.CYMRU, a oedd yn addo ‘system gludiant sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’. Mae’r strategaeth newydd, sy’n ganlyniad i ymgynghoriad mawr yn 2020, yn ceisio annog pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir, gyda tharged newydd i 45% o siwrneiau fod drwy ddulliau cynaliadwy ledled Cymru erbyn 2045, sy’n gynnydd ar 32% ar hyn o bryd. Mae ‘Llwybr Newydd’ yn ymrwymo i leihau allyriadau cludiant yn rhan o ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae rhagor o wybodaeth am gyflawni’r strategaeth rhwng 2022 a 2027 i’w gweld yma.

Seilwaith Ffyrdd
Yn 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth i newid y terfyn cyflymder ar bob ffordd gyfyngedig i 20mya ym mis Ebrill 2023. Roedd hwn yn benderfyniad dadleuol, felly rhwng Ebrill ac Awst 2024, cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates AoS, ymgynghoriad helaeth i ddod i ddeall barn y cyhoedd am ddiogelwch y ffordd mewn mannau preswyl. O ganlyniad, ym mis Gorffennaf 2024, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig i’r awdurdodau priffyrdd i egluro’n well lle gellir rhoi terfyn cyflymder o 30mya ar ffyrdd. Yn 2024, cafodd y cyhoedd gyfle i awgrymu ymhle y dylid gwneud newidiadau.
Mae’r awdurdodau priffyrdd bellach yn defnyddio’r canllawiau diwygiedig i asesu’r awgrymiadau hyn.