Materion a heriau i gynghorau

Addysg

Mae gan bob cyngor yng Nghymru gyfrifoldeb strategol am addysg plant a phobl ifanc yn eu hardal. Mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei botensial/photensial addysgol. Penaethiaid a llywodraethwyr ysgol sy’n gyfrifol am reoli a darparu’r addysg hon.

Mae pedwar consortiwm addysg rhanbarthol, yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru, Canol De Cymru a De Ddwyrain Cymru yn gweithio gydag ysgolion i wella safonau addysg, yn enwedig rhifedd a llythrennedd, gan ddarparu ystod o gymorth sy’n cynnwys rhaglenni datblygiad proffesiynol ac ymyrraeth. Mae consortia hefyd yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu a chyflwyno’r cwricwlwm newydd (gweler isod), a fydd yn statudol o fis Medi 2022 ymlaen.

Estyn

Estyn yw’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Maent yn arolygu’r holl ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru o leiaf unwaith yn ystod y cylch o saith mlynedd a ddechreuodd ar 1 Medi 2016. Mae Estyn yn rhoi tair wythnos o rybudd o arolwg, ac eithrio i wasanaethau addysg llywodraeth leol (10 wythnos o rybudd) ac addysg gychwynnol i athrawon (8 wythnos o rybudd) ac mae gwaith ymgynghori ar fynd ar drefniadau’r cylch nesaf.

Cwricwlwm Newydd

Mae cwricwlwm newydd wedi’i gyflwyno yng Nghymru. Bydd yn cael ei addysgu ym mhob ysgol a lleoliad a ariennir ond nas cynhelir (h.y. grwpiau chwarae cofrestredig neu feithrinfeydd dydd preifat y mae cynghorau’n eu hariannu i ddarparu addysg ran amser i rai tair ac weithiau pedair oed) hyd at Flwyddyn 7 o fis Medi 2022 ymlaen. Bydd wedyn yn cael ei gyflwyno fesul blwyddyn nes mae’n cynnwys Blwyddyn 11 erbyn 2026. Bydd nifer o gynghorwyr a’u trigolion yn cofio cyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 1988. Ers hynny, mae cymdeithas wedi’i thrawsnewid gan dechnoleg newydd. Mae pobl ifanc bellach angen set wahanol o sgiliau. Bwriad y cwricwlwm newydd i Gymru yw darparu sgiliau digidol, addasu a chreadigrwydd i blant a phobl ifanc i ffynnu a bod yn barod am eu dyfodol mewn cymdeithas sy’n newid o hyd.

Nod y cwricwlwm newydd (ei ‘bedwar diben’) yw creu:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, medrus, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus i Gymru a’r byd
  • Unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae’r cwricwlwm newydd yn llai penodol ac adrannol na’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae’n gofyn bod ysgolion yn dylunio eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu eu hunain. Mae rhagor o wybodaeth am y cwricwlwm newydd ar gael yma.

Adeiladau Ysgolion

Yn ogystal â moderneiddio’r cwricwlwm, mae adeiladau ysgolion yn cael eu gwella drwy Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif. Mae hyn yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau yng Nghymru. Mae’n rhaglen buddsoddi cyfalaf hirdymor a strategol a’i nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru. Rydym ni bellach ar ail ran y rhaglen (band B) sydd ar fynd o 2019 tan 2026. Nod hon yw:

  • Lleihau nifer yr ysgolion sydd mewn cyflwr gwael,
  • Sicrhau bod gennym ni ysgolion o’r maint cywir yn y lleoliad cywir sy’n darparu digon o leoedd i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg, a
  • Sicrhau bod yr ystâd addysgol yn cael ei defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon gan ysgolion a’r gymuned ehangach.

Mae gan gynghorau hefyd ddyletswydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd ddim yn mynychu ysgolion prif ffrwd, e.e. y rhai sydd mewn darpariaeth arbenigol, Unedau Cyfeirio Disgyblion neu’n derbyn addysg yn y cartref, hefyd yn derbyn addysg eang a chytbwys sy’n berthnasol i’w hoedran a’u gallu.

Gallwch ddarganfod mwy am berfformiad ysgolion yn eich ardal chi yma.

Gwaith ieuenctid

Mae ysgolion yn darparu addysg ffurfiol, ond mae gwaith ieuenctid (sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo addysg bersonol a chymdeithasol i bobl ifanc 11-25 oed) hefyd yn addysg sy’n cael ei darparu a/neu ei chaffael gan gynghorau. Mae gwaith ieuenctid yn cael ei ddarparu mewn ffordd llai ffurfiol ac mewn lleoliadau llai ffurfiol ar sail perthynas wirfoddol yn seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae dros 900 o weithwyr ieuenctid a gweithwyr cefnogi pobl ifanc cofrestredig yn cael eu cyflogi gan gynghorau, sy’n cynnig amrywiaeth eang.

Mae gwaith ieuenctid yn bwysig i ymgysylltu â phobl ifanc, hyrwyddo eu lles a darparu cyfleoedd dysgu (drwy brofiad, yn aml) mewn clybiau ieuenctid, trwy weithgareddau ar-lein, ac mewn canolfannau awyr agored a phreswyl. Mae hyn yn aml yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag ysgolion a sefydliadau eraill.